Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru 

Rhif 20    Haf 2006

 

 

Y FFYNNON FYW YN BYRLYMU

 

Ym mis Ionawr bu aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru draw ym Mynytho yn ffilmio ar gyfer rhaglen deledu Saesneg am feddyginiaethau. Roedd y gweithwyr a fu’n adfer Ffynnon Fyw (SH2330913087) yno i’n cyfarfod a hefyd Bleddyn Jones, y swyddog o Gyngor Dwyfor a fu’n gyfrifol am lywio’r cynllun adfer. Roedd cymaint o ddŵr yn y ffynnon nes gorfod cael dau bwmp i’w gwagio er mwyn trin y cerrig ar ei gwaelod. Lledwyd y gofer a’r sianel sy’n cludo’r dŵr ymaith er mwyn i’r llifeiriant gael llifo’n rhwydd. Codwyd ffens gref â giât o’i chwmpas a bellach mae’n ddiogel am flynyddoedd i ddod. Erbyn hyn mae Ffynnon Aelrhiw yn Rhiw (SH23392848) hefyd wedi ei glanhau. Diolch i Gyfeillion Llŷn am eu gwaith ac edrychwn ymlaen at weld mwy o ffynhonnau’r fro yn cael eu hadfer.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU YN DDEG OED

Wrth edrych yn ôl ar y degawd sydd wedi mynd heibio gallwn longyfarch ein hunain ein bod wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth pobl Cymru o bwysigrwydd ein ffynhonnau, y rhai sanctaidd a rinweddol a’r rhai cyffredin hefyd. Pa well anrheg pen-blwydd na chael gweld adfer y Ffynnon Fyw ym Mynytho. Ond peidiwn â llaesu dwylo; mae nifer o ffynhonnau o dan fygythiad o hyd. Cred ambell berchennog tŷ sydd â ffynnon sanctaidd yn yr ardd fod ganddynt hawl i wneud fel y mynnant â’r crair hanesyddol yma. Maent yn tynnu’r muriau neu’n ychwanegu at y ffynnon drwy adeiladu rhyw feature arbennig! Mae rhai ffynhonnau’n cael eu cau gan dirfeddianwyr sy’n gwrthwynebu rhoi caniatâd i’r cyhoedd gerdded ar eu tir i ymweld â ffynnon. Gall rhai ddiflannu oherwydd lledu ffyrdd ac adeiladu tai a datblygiadau diwydiannol. Mae’n hanfodol ein bod yn ceisio cofrestru’r ffynhonnau er nad yw hynny, hyd yn oed, yn eu diogelu bob amser. Yr hyn sy’n galondid yw fod pobl yn deffro i arbenigrwydd y rhan hon o’n treftadaeth. Diolch i chi am eich ffyddlondeb i’r gymdeithas a’ch diddordeb yn y gwaith pwysig hwn. Ymlaen â ni i’r degawd nesaf.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Annwyl Olygydd........Annwyl Olygydd.......Annwyl Olygydd

Annwyl Olygydd

Y mae dŵr glân ym mhob tŷ heddiw, ond nid fel’na oedd hi yn Nhŷ’r Ysgol, Llanddarog (Sir Gaerfyrddin) pan oeddwn i’n blentyn. Er mwyn diogelu cyflenwad o ddŵr glân i’r prifathro oedd yn byw yn Nhŷ’r Ysgol roedd ffynnon fferm y Lodge yn bwysig iawn. I fynd at y ffynnon rhaid dilyn ffordd galed, heibio mynedfa fferm Penllwynio ac i lawr at fferm y Lodge. Tu mewn i giât y fferm ar y chwith mae’r ffynnon wedi ei hamgylchu â brics a tho arni. Nid oes sôn iddi erioed fynd yn sych. Y drefn oedd i ddau fachgen hynaf yr ysgol fynd i lawr amser cinio i nôl dŵr. Byddai’r ystên yn hongian ar ddarn gweddol hir o bren gyda’r bechgyn yn cydio ym mhob pen. Ar ddydd Gwener rhaid oedd nôl dwy ystên o ddŵr i sicrhau digon o ddŵr dros y penwythnos. Os cofiaf yn iawn y taliad oedd dimau yr un y dydd.

 Meurig Voyle, Dinbych.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR......PYTIAU DIFYR....... PYTIAU DIFYR

Yn ei gyfrol Hynt Gwerinwr, a gyhoeddwyd gan Hugh Evans a’i Feibion (Gwasg y Brython), Lerpwl yn 1943, mae John Williams (J.W. Llundain) yn sôn am Ffynnon y Foty yn ardal Rhostryfan (S4957). Ganed yr awdur yn 1872. Dyma sydd ganddo i’w ddweud ar dudalen 17:

Ceffid dwfr i’w yfed o amryw fân ffynhonnau yma ac acw hyd y fro, ond yr oedd digon o ddwfr at olchi yn yr afon a redai trwy ganol yr ardal, a mân ffrydiau eraill. Arferai fy mam fynd i gyrchu dwfr o ffynnon y Foty, tua hanner milltir a chario llond dau biser bob bore, yn yr egwyl a fyddai rhwng hwylio fy nhad i’w waith yn y chwarel a’n codi ninnau’r plant a’n hwylio i’r ysgol. Pan oeddwn tua deuddeg oed torrodd fy nhad siafft wrth ochr y tŷ. Cafwyd dwfr o’r pwmp o hynny ymlaen, a bu’n rhyddhad mawr i’m brawd a minnau oddi wrth y dasg o gyrchu dwfr o’r ffynnon bob dydd ar ôl bod yn yr ysgol y prynhawn. Ni feiddiai neb gyrchu dwfr ar ddydd Sul, cofiaf yn dda i un ohonom y plant droi a cholli’r piseraid dwfr rhwng y moddion dydd Sul a bu helynt mawr o’r herwydd, a benthyca dwfr glân gan gymydog am weddill y dydd.

 ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Gwelodd Erwyd Howells, Ponterwyd, y cyfeiriad isod at Ffynnon Gwenhidiw yn Cymru (1896). Gofynnodd tybed a oes mwy o wybodaeth amdani gan aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru?

Gwyddis lle mae ffynnon Gwenhidiw. Y mae, neu yr oedd yng nghlawdd gardd amaethdy Ty Isa’r Blaenau, fry ar ochr y mynydd ar y dde wrth i chi fynd o Ddolgellau i ben y Garnedd Wen. Yn ei hymyl y mae Ucha’r Blaenau, hen gartref Rhys Jones. Yr wyf yn deall fod y ffynnon wedi ei chau yn awr; feallai fod ei rhin yn denu rhai i ddifrodi’r caeau. Byddai clod mawr iddi am atal loesau y crydcymalau, ac yn esmwytho gofid esgyrn toredig y mae rhai’n fyw heddyw sydd yn tystio eu bod wedi cael gwellhad rhyfeddol trwy ei rhin. Byddai muriau o’i chwmpas unwaith, ond mae y rheini wedi eu tynnu.

(Tybed a oes rhywun a all rhoi cyfeirnod map i’r ffynnon hon? Byddwn yn ddiolchgar o gael clywed gennych. – GOL.)

 ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Tynnodd Erwyd ein sylw hefyd at ddarn difyr a welwyd yn Papur Pawb, papur bro ardal Tal-y-bont yn ddiweddar:

Darganfod Hen Drysor

 

Fel y bydd y rhan fwyaf o’r pentrefwyr wedi sylwi mae gwaith mawr clirio a thorri coed wedi digwydd ar ddarn o dir rhwng Lleifod a Brynhelyg ym Mhencae Taliesin (SN6591). Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen roedd yn bleser gweld hen ffynnon y pentref yn dod i’r golwg o ganol y llwyni. Roedd gan y ffynnon ran bwysig ym mywyd y pentref ers talwm. Credir i’r ffynnon gael ei hagor yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu farw sawl un yr adeg honno o achos y Peri Marwol (Cholera) a rhoddwys y nai ar ddwy ffynnon oedd yn cael eu defnyddio ar y pryd ar rhiw y Temperance. Roedd y ffynnon yn fan cyfarfod yn y rhan uchaf y pentref am dros ganrif a sawl un o’r hen drigolion yn dal i gofio cario dŵr.Daeth hanes mwy dramatig i’r ffynnon pan aeth tŷ Mari Riley ar dân yng nghanol yr ugeinfed ganrif ac o’r ffynnon daeth y dŵr a ddefnyddiwyd yn yr ymgais ofer i rwystro’r dinistr. Cewch ymweld â’r ffynnon sydd o dan y ffordd fawr drwy fynd i lawr ochr Lleifod. Mae’n werth ei gweld ac yn werth ei chofio. A oes unrhyw un yn gwybod hanes y pwmp sydd wedi diflannu oddi yno?

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Yn ddiweddar bu Erwyd yn brysur iawn yn glanhau ffynnon ar dir fferm Mr a Mrs Meirion Davies sef Gorswgan yn ardal Llanilar ger Aberystwyth. Roedd tipyn o waith glanhau arni gan ei bod wedi llenwi efo llaid. Torrwyd coes y rhaw yn y fargen! Tynnwyd sylw Erwyd at y ffynnon gan Mr Gareth Evans o Aberystwyth. Cofia ef ryw hen fodryb iddo (Bodo), yn gofyn am ddŵr o’r ffynnon hon i olchi ei llygaid. Tynnwyd llun y ffynnon gan Seiriol Dafydd. Ei chyfeirnod map yw SN594737.

 

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Gwelodd Howard Huws gyfeiriad at Ffynhonnau Dyffryn Aman, ardal ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Forgannwg yn y gyfrol Rhamant a Rhyddid gan J. Dyfnallt Owen (Clwb Llyfrau Cymareg, 1953). Cafodd y dyfyniad o Erwau’r Glo gan Huw Walters (Abertawe, 1976).

Hen arfer yn disgyn o’r Oesoedd Canol oedd ymweld â’r ffynhonnau ar y Sul cyntaf yn Awst. Roedd yn hen arfer Babyddol. Cofiaf yn awr weld minteioedd yn cyrchu tua Ffynnon Fforch Aman ar bynhawn Sul cyntaf yn Awst o Gwnllynfell, a phobl Penrhiw-fawr yn troi eu hwynebau tua Ffynnon Gellionnen. Ystyrid y pererinion hyn yn bechaduriaid mawr, a tharanai’r tadau yn eu herbyn, a’r diwedd fu lladd yr arfer. Gwir mai’r ifainc oedd y pechaduriaid hyn.

Ffynnon Fforch Aman – SN7415       Ffynnon Gellionnen – SN7004

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

 Gwelwyd cyfeiriad at Ffynnon y Rhyfeloedd yng nghyfrol Elias Owen, Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd (tud. 207) a gyhoeddwyd gyntaf yn 1886. Daeth yr wybodaeth am y ffynnon gan ddyn a oedd rhwng 80 a 90 oed yr adeg honno. Mae’r ffynnon rhyw dair neu bedair milltir o Dal-y-cafn ar ffridd gerllaw’r hen ffordd Rufeinig i Conovium. Ar gerrig y ffynnon roedd olion fel pe bai saethau wedi cael eu hogi arnynt.

Tybed a oes rhywun yn gwybod union leoliad y ffynnon hon?

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Dyma wybodaeth am ffynhonnau plwyf Llanegryn, Sir Feirionnydd (SH6005) o’r gyfrol Hanes Plwyf Llanegryn a gyhoeddwyd yn 1948 gan William Davies. Diolch i Wil Williams, Rhoshirwaun, am gopïo’r canlynol ar gyfer Llygad y Ffynnon:

Prif ffynnon y fro yw Ffynnon-y-fron: saif hon yng Nghoed-y-fron, uwchben Lleiniau Tyn-llwyn, yn y pen agosaf i Barc-y-felin. Bu’n meddu enwogrwydd mawr , am y credid bod ei dyfroedd oerion yn meddu ar rinwedd i iachau. Crwydrodd llawer musgrell tuag ati o bell ac agos i ymolchi yn ei dyfroedd er mwyn cael gwared o’r crydcymalau. Y mae’n ffynnon helaeth, tua thair troedfedd ar ddeg wrth naw troefedd. Adeiladwyd hi yn drefnus â cherrig, ac y mae grisiau cerrig yn disgyn i mewn iddi, a bu bwthyn at ddadwisgo ac ymwisgo gerllaw iddi unwaith.

Nid oes dim math o draddodiad ynglŷn â hi, ac nid oes atgof fod a fynno hi ddim â’r Forwyn Fair, ac y mae hynny’n od ac ystyried y sylw a’r bri a roddid iddi ar hyd y canrifoedd. Bu’n boblogaidd ymhlith uchelwyr yr ardal yn yr ail ganrif ar bymtheg. Defnyddid y man fel ymdrochle, a lle i ymbleseru gan brif deuluoedd pendefigol y fro. Gwnaed amryw o ffynhonnau ymdrochi yma, a rheiny wedi eu gorchuddio a chyfleusterau i ymddiosg ac ymwisgo wedi’u cysylltu â hwynt. Edrychai’r fel bro’r Tylwyth Teg – merched gwisgi a bechgyn chwimwth yn prancio yn y dyfroedd ac yn dawnsio a llamu yn yr awyr rydd.

Atgyweiriwyd hi’n drylwyr gan Mr John Lloyd yn y flwyddyn 1825. Credai ef yn fawr yn nyfroedd iachusol Cwm-ŷch. Breuddwydiodd am dref brydferth a phoblog wedi ei chodi o gwmpas y ffynnon, a byddai cyrchu mawr iddi o bob cwr o Gymru i yfed y dyfroeddiachusol. Y mae’r hen ffynnon enwog wedi a peidio â bod yn eiddo rhydd i’r cyhoedd ers llawer o flynyddoedd.

Ffynnon-y-Berwe: Ni wyddom ym mha le yr oedd y ffynnon hon. Yr oedd ymhen uchaf y plwyf.

Ffynnon Cadlad:(SH6006) Saif hon ar y mynydd yn nharddle’r dŵr rhwng hysfa’r Hafoty a hysfa’r Hen-shop. Y mae digonedd o ddŵr glân yn y fangre hon. Rhed nant offi yma i gyfeiriad Ceunant-y-mefus, ac i lawr am Dyddynpadrig. Gwarchodai’r Tylwyth Teg y ffynnon hon; yr oeddynt yn eiddigeddus o bawb a ddeuai’n agos ati.

Ffynnon Llannerch-y-Nant:(SH6107) Ceir hon yn ffridd uchaf Cwm-ych. Rhed ffrwd dryloyw allan o grombil y mynydd, ac y mae’n oer fel yr iâ yng nghanol haf. Cyfrifid ei dyfroedd yn iachusol i wan a chlaf. Dŵr duraidd.

Ffynnon Bryn-Gwyn:  (SH612062)Dŵr duraidd. 

Ffynnon-y-Foel: Difethwyd hon i raddau drwy dorri lefel yn rhy agos ati.

Ffynnon Tŷ celyn: Saif hon ar ffridd Blaen-cwm. Dŵr da at lygaid clwyfus.

Ffynnon-llygad-ych:(SH612062) Saif hon yn y coed ar fin y ffordd rhwng yr efail a Bryn-gwyn. Dŵr duraidd

Ffynnon-y-fuwch: Gwelir hon ar fin wtre, ac ar derfyn cae Sarnhelygen, ochr Tŷ-bach-y ffordd.

Ffynnon-y-fynwent: (SH597057) Safai gynt yng nghanol yr hen fywent, ond gwnaed cwter i’w gollwng allan i’r ceunant yn agos i’r hen borth. Rhed i’r ceunant yn agos i’r gamfa. Cyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth at wella llygaid clwyfus. Peth cyffredin oedd gweld rhywun nei’i gilydd yn mynd â photelaid o’r dŵr adef pan oeddem yn blant.

Nentydd- Arferid dywedyd y byddai ymdrochi ben bore yn un o nentydd mynyddoedd Llanegryn yn foddion at wella crydcymalau. Nodid Nantysberi’n arbennig.

Pistyll Byrbwyll. (SH6307) Safai yn agos at Beniarth Uchaf. Dywedid y gwerthai un hen feddyg lawer o’i dyfroedd yn ffisig i wahanol gleifion.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON DDUNAWD, PENTREFELIN (SH51354009)

Diolch i Wil Williams am gyfieithu’r wybodaeth ganlynol i ni o’r gyfrol am henebion Sir Gaernarfon gan y Comisiwn Brenhinol.

Gorwedd Ffynnon Ddunawd i’r gogledd o’r ffordd dri chan llath i’r de-ddwyrain o Braich y Saint, ar bedwar cant pum deg o droedfeddi uwchl lefel y môr. Mae’n cynnwys siambr betryal wedi ei thorri i mewn i fryncyn serth gyda mur tair troedfedd a chwe modfedd i bedair troedfedd o uchder o adeilad

hirsgwar wedi ei adeiladu yn erbyn y bryncyn. Saif y ffynnon yng nghornel ogledd-orllewinol yr adeilad. Syrth lefel y tir oddi mewn i’r adeilad, ac nid yw uchder y mur deheuol ond chwe modfedd ar yr ochr ddwyreinio a thair troedfedd a naw modfedd ar yr ochr orllewinol. Mae’r mur ar yr ochr ddwyreiniol wedi diflannu’n llwyr a dangosir ei safle gan ddwy garreg lefn yn wynebu ei gilydd yn y gornel dde-ddwyreiniol. Nid oes mynedfa yn syth o’r adeilad i’r ffynnon ond mae’n ymddangos fod mynedfa tua phedair troedfedd o led wedi ei chau yn y mur gorllewinol. Mae gordyfiant o blanhigion ar y muriau i gyd ac maent wedi cael eu defnyddio fel trefynnau waliau modern. Mae siambr y ffynnon wedi ei gorchuddio â cherrig llyfn i uchder o bum troedfedd yn y cefn ond mae’r adeiladwaith yn dirywio tuag at flaen y ffynnon. O dan y garreg astell mae dyfnder y dŵr yn ddwy droedfedd. Mae cyflwr y ffynnon yn weddol dda ond bod yr adeiladwaith wedi dirywio a’i orchuddio gan dyfiant o blanhigion.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NEWYDDION AM FFYNHONNAU

Daeth y Dr Rhian Parry o hyd i Ffynnon y Bywyd yn Cwm Moch, Ardudwy, ger hen lwybr o’r Oes Efydd.

Cred Dafydd Whiteside Jones iddo ddarganfod lleoliad Ffynnon Beuno yn Gwredog yn Arfon.

Mae cynlluniau ar droed i adfer Ffynnon Fair (SH727175) yn Nolgellau. Gobeithiwn gael rhagor o wybodaeth am y ffynnon hon yn y dyfodol. Diolch i Griff Jones, Blaenau Ffestiniog am y llun hwn ohoni.

 Mae  Bill Jones, Blaenau Ffestiniog yn gobeithio cloddio ac adfer Ffynnon Elan (SH736725)yn Nolwyddelan.

Ar ymweliad â Ffynnon Sara,( SJ066517) Clawddnewydd yn ddiweddar gwelwyd fod rhywun wedi bod yno a gadael darn o ddefnydd gwyn wedi ei glymu i goeden ger y ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Menna Parry, Coedpoeth, Wrecsam

Olwen Roberts, Coedpoeth, Wrecsam

David Arbowne Owens, Moelfre, Ynys Môn

Ifor D. Williams, Llanfaglan, Caernarfon

Berwyn Evans, Llansannan, Sir Ddinbych

Bethan Hughes Roberts, Bae Colwyn

Eifion M. Jones, Llansannan, Sir Ddinbych

Eirlys Wynne-Woodhouse, Llansannan, Sir Ddinbych

Bill Jones, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 FFYNNON CHAD, HANMER, MAELOR SAESNEG (SJ4539)

Ceir cofnod ychwanegol ynglŷn â’r ffynnon hon yn llyfr John, Arglwydd Hanmer, A Memorial of the Parish and Family of Hanmer in Flintshire (argraffiad preifat yn Llundain yn 1877) tudalen 141:

The dedication of the church was to St. Chad... who is a frequent patron of holy wells, and has kept one for himself in a meadow close by, though it has rather suffered, but without intention, at my hands, from drainage near the mill-pool, and a large volume of water could easily be collected there again.

Nid yw’n rhyfedd, felly, fod arferiad addurno’r ffynnon wedi peidio erbyn 1879. (Gweler Ffynhonnau Cymru 2, Eirlys a Ken Gruffydd, Llanrwst 1999, tud. 75.) Cyn yr ad-drefnu yn sgîl y Diwygiad Protestannaidd yr oedd Hamner yn rhan o esgobaeth Caerlwytgoed, a Chad yw nawddsant y gadeirlan honno.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 FFYNHONNAU LLANFECHAIN, MALDWYN

Yn ychwanegol at yr wybodaeth yn The Holy Wells of Wales gan Francis Jones a chyfrol gyntaf Ffynhonnau Cymru gan Eirlys a Ken Gruffydd (Llanrwst 1997, tud. 37) ceir y canlynol yn A Slight Historical and Topographical Sketch of the Parish of Llanfechain in the County of Montgomery a gyhoeddwyd gan T. Richards yn Llundain, 1872:

Ffynnon Armon (SJ1820) – Tua 300 llath i’r de o’r eglwys, ar dir Tŷ Coch. Tardd ymysg ychydig gerrig mawrion, yng nghysgod hen ywen fawr:

The spring is not copious, and it is not now known whether it ever stood in high repute for any medicinal properties. But even in these degenerate days it is held in veneration., The water was not infrequently conveyed to the font for baptisms; and, for its coldness, is in summer time sought by every careful dairy-woman.

Dywed Richards yr arferid dathlu Gŵyl Armon ar unai Gorffennaf yr 31ain neu Awst y 1af, ond yn Llanfechain ar y Sul cyntaf wedi Hydref y 12fed. Ni allai esbonio hynny, meddai, gan fod hwnnw’n un o ddyddiau gŵyl y Forwyn Fair Fendigaid. Ond o fwrw golwg ar y calendr eglwysig, gwelwn mai Hydref 1af yw gŵyl trosglwyddiad creiriau Garmon Sant. Os oedd gwerin Llanfechain wedi dal wrth yr hen Galendr Iwlaidd, yn ymwybodol neu fel arall, buasai’r gwahaniaeth rhwng hwnnw a’r Calendr Gregoraidd presennol tua un diwrnod ar ddeg neu ddeuddeg diwrnod erbyn 1872. Dethlid â meddwad a hela ysgyfarnogod.

Ffynnon Glanbrogan- Dywed Richards fod y ffynnon ar dir Ystâd Glanbrogan, y defnyddid ei dyfroedd ar gyfer cryfhau’r golwg ac iacháu’r llygaid. Y mae’r Inventory of Ancient Monuments ar gyfer Sir Drefaldwyn (1911, cofnod 450), yn crybwyll ‘Ffynnon Modrib in Glanbrogan Hill... a well formerly in repute for its medicinal properties’.

Ffynnon y Cae Mawr, Ffinant( Bu galw mawr am ddŵr y ffynnon hon ar gyfer gwella’r manwyn (scrofula), y cryd, crydcymalau, gwendid yr aelodau a’r nerfau, ac amryw glefydau eraill. Bu ar agor hyd 1802, pan y’i llenwyd gan y Sais cas (chwedl Richards) a drigai yn Ffinant ar y pryd, oherwydd fod cymaint o gyrchu ati. Yn fuan wedyn syrthiodd pren cynnal tas wair ar ei ben, a’i ladd.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Ffynhonnell Wybodaeth Enfawr

Os nad ydych yn gyfarwydd ag Archif Enwau Lleoedd Melville Richards, dylech fwrw golwg arni rhag blaen ar www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd. Casglodd Melville Richards filoedd lawer o enwau lleoedd Cymraeg ynghyd, yn gronfa wybodaeth gan gynnwys enw’r plwyf a’r sir, dyddiad cofnod, a’r cyfeirnod Ordnans: a dichon y ceir yno’r unig gyfeiriad at ffynhonnau a anghofiwyd ers canrifoedd. Darllenwch y cyfarwyddiadau, yna chwiliwch o dan *ffynnon* neu *ffynhonnau* (gan gynnwys y sêr*).

Rhaid ychwanegu nad yw’r holl gofnodion fel yr ymddangosant ar y wefan yn gywir, ond y mae’n fan cychwyn ardderchog ar gyfer unrhyw ymchwil. Rhaid cofio hefyd bod rhai o fyrfoddau Melville Richards yn dywyll erbyn hyn. Wrth gofnodi Ffynnon Ddeiniol ym Mhentir, er enghraifft, rhoddir y dyddiad 1770 a’r cyfeiriad CRN RO LTA – Caernarfon Record Office, diau ond LTA?- Land Tax Assessment efallai? Rhaid torchi llawes, ond diolch byth fod y casgliad ar gael inni. Cofier hefyd nad yw’r archif yn honni bod yn hollgynhwysfawr: dyma’r hyn y gallodd un ysgolhaig ei gasglu yn ystod ei oes, a dichon fod llawer eto’n weddill pe chwilid pob dogfen a chofnod yn drwyadl.

Rhag i feddwl am ddarllen cymaint o gasgliad ein digaloni, cofiwn fod llawer o’r cofnodion yn ymwneud ag enwau digon cyffredin fel ‘Bryn Ffynnon’ ac yn y blaen. Gellir cyfyngu’r chwilio drwy gynnwys enw plwyf neu sir neilltuol: felly ped âi dwsin neu bymtheg ohonom ati i ddewis un hen sir yr un, gallem chwilio’r archif yn drwyadl ymhen ychydig amser. Beth amdani?

(Diolch i Howard am ei gyfraniad a’i ddiddordeb yng ngwaith y Gymdeithas.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

LLONGYFARCHIADAU!

I Esyllt Nest Roberts, Is-olygydd Llygad y Ffynnon, ar ei phriodas â Cristian Lewis yng Nghapel Bryn Crwn, Gaiman, Patagonia ym mis Ebrill.

 Mae teulu Cristian ar ochr ei dad yn gallu olrhain eu hachau yn ôl i ardal Rhyd-y-mwyn ger yr Wyddgrug ac ardal y Bala, a theulu ei fam i Aberdâr a Blaenau Ffestiniog.

Dymunwn bob hapusrwydd i chi eich dau yn eich bywyd priodasol. Hir oes a phob dedwyddwch.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN........ YW’R GEINIOG!

Daeth yn amser talu tâl aelodaeth 2006-2007 a bydd y Trysorydd, Ken Lloyd Gruffydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH yn falch o dderbyn eich taliadau os nad ydych yn aelod am oes na’n talu drwy archeb banc.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU ABERTAWE A’R CYLCH

 PABELL Y CYMDEITHASAU

 DYDD MERCHER, AWST 9ed

 am 3.00 o’r gloch

 CYFARFOD CYFFREDINOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

ac i ddilyn

SGWRS AM FFYNHONNAU BRO’R EISTEDDFOD

 gan DEWI ENSYL LEWIS

 Croeso cynnes i bawb

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH

Is-Olygydd: Esyllt Nest Roberts de Lewis (esylltnest@yahoo.co.uk)

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWSCOLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 Home Up