Home Up

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM A'R CYFFUNIAU – 2011.

DARLITH GAN JANE BECKENHAM

FFYNNON ELIAN – FFYNNON ‘FELLTITHIO’: FFAITH NEU FFUGLEN?

 Mae Ffynnon Elian yn Llanelian yn Rhos, Sir Conwy,  yn un o’r cannoedd o ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru. Bu pobl yn credu ers canrifoedd fod rhinweddau arbennig i’r ffynhonnau hyn, ac y gallent gynorthwyo ac iachau pobl. Ond mae Ffynnon Elian yn wahanol.  O holl ffynhonnau Prydai, hi yw’r unig un sy’n medru galw’i hun yn “Ffynnon Felltithio.” Ers dros ddwy ganrif, bu ysgrifau, cerddi, papurau newydd a nofelau/ yn adrodd hanesion am y ffynnon yn achosi salwch a marwolaeth. Roedd modd rhoi melltith ar unrhyw un drwy gymorth Ffynnon Elian.  Ac roedd modd dileu’r felltith hefyd - am arian.  Roedd pobl yn ofni’r ffynnon yn fawr, ac yn bygwth plant drwg y caent eu ‘rhoi yn y ffynnon’ os nad oedden nhw’n bihafio. 

 Gyda’r twf mawr yn y diwydiant twristiaid ers diwedd y ddeunawfed ganrif, dechreuodd pobl ymddiddori yn y ffynnon. Mae sawl llyfr a thaflen i ymwelwyr yn adrodd ei hanes. Hyd yn oed heddiw, mae mynd mawr ar yr hanes. Mae modd i chi ddarllen am y ffynnon, ar wefannau hanes, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar raglen teledu ‘Hidden Histories’. Mae plant yr ysgol leol hefyd yn hoff o wneud prosiectau am y ffynnon. Mae’n stori dda, stori ddiddorol, stori ddychrynllyd.  -  cafodd hen wreigen £300 un flwyddyn drwy werthu melltithion ger y ffynnon..... bu farw llawer ar ôl iddyn nhw gael eu melltithio......   

 Mae gen i ddiddordeb mawr yn y ffynnon ers sawl blwyddyn gan y bu fy nhaid, William Dryhurst Roberts, yn berchen ar y fferm, Cefn y Ffynnon, lle mae’r Ffynnon Elian. Hyd y gwn i, does neb wedi cwestiynu’r chwedl nac wedi gofyn pam fod pobl yn galw Ffynnon Elian yn ‘ffynnon felltithio,’/ nac yn wir, SUT y bu iddi ennill yr enw hwnnw. Mae hyn, yn syndod mawr i mi. Heddiw dw i am rannu fy syniadau a’m hymchwil gyda chi, i geisio taflu ychydig o oleuni ar y ffynnon arbennig yma. Yn cyntaf, ai ffynnon felltith oedd Ffynnon Elian erioed? 

 Dydi canfod tystiolaeth am ddefnydd unrhyw ffynnon ddim yn hawdd, ond dyma beth rydym ni’n ei wybod am hanes y ffynnon Elian cyn 1700:

 *Sant cynnar o ogledd Cymru oedd Elian. Mae’r hyn rydym ni’n ei wybod amdano yn dod o gywydd gan Gwylim Gwyn, (o’r gwmpas 1600)  ac o’r Charter Eliani sy’n sôn amdano yn Ynys Môn yn y 6ed ganrif. Does dim sôn am ‘felltithio’ yma.

 *Yn y drydedd ganrif ar ddeg, newidiodd enw pentref Bodlennin, oedd nid nepell o’r ffynnon, i Lanelian, ac adeiladwyd eglwys fawr o gerrig. Mae hyn yn awgrymu fod y ffynnon a’r nodweddion eraill oedd yn gysylltiedig â Sant Elian, gan gynnwys yr eglwys, yn fannau pererindod poblogaidd. Os felly, byddai’n gwneud synnwyr i gyfeirio’r pererinion at ffynnon Elian.    

 * Ym 1535, nodwyd yn y Valor  fod Eglwys Llanelian yn llawn o gelfi gwerthfawr.  Mewn pentref bach fel Llanelian, tybed ai’r pererinion i’r Ffynnon Elian oedd yn cyfrannu at gyfoeth yr eglwys? 

 * Rhwng 1535 a 1540 lluniwyd y ffin wreiddiol rhwng Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon. Yn draddodiadol, byddai pobl yn llunio ffiniau yn defnyddio tirnodau amlwg neu adnabyddus. Mae Ffynnon Elian ar y ffin.

 *O’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, roedd y fferm ble safai’r ffynnon, fferm Cefn y Ffynnon,  yn nwylo Puwiaid Hen Neuadd Penrhyn. Roedden nhw’n Babyddion pybyr ac yna’n reciwsantiaid. Roedden nhw’n ffrindiau da i’r merthyr William Davies a gafodd ei eni yng Nghroes yn Eirias, rhyw ganllath neu ddwy o’r ffynnon. Byddai’r teulu wedi annog pererinion i ymweld â Ffynnon Elian, cyn y Diwygiad Protestannaidd ac ar ei ôl.

 *Ym 1594, rhoddwyd Gwen Ferch Elis ar brawf yn Llansanffraid ac fe’i crogwyd am fod yn wrach. Bu Gwen yn byw yn Llanelian am gyfnod, ond does dim sôn am Ffynnon Elian nac am ‘felltithio’ pan fu hi’n byw yno. Yn wir, does yna ddim sôn am y ffynnon o gwbl yng nghofnodion gwrachod gogledd Cymru.

 *Ym 1695 mae Edward Lhuyd yn nodi yn ‘Parochalia’ fod  ‘paphistiaid’ yn ymweld â Ffynnon Elian. Does dim sôn am hyn yn gyda ffynhonnau eraill a dydi Edward Lhuyd ddim yn crybwyll unrhyw beth am ‘felltithio’. Roedd teulu’r Puwiad yn dal yn berchen ar y ffynnon, a fferm Cefn y Ffynnon, yn y cyfnod hwn.

***

Ond, Ar ôl 1700, mae gennym ni dystiolaeth ysgrifenedig ddefnyddiol iawn. Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn archif Thomas Pennant mae llawysgrif Saesneg o 1775. Mae’n debyg mai John Lloyd, Rheithor Caerwys a’i ysgrifennodd ar gyfer Thomas Pennant i’w gynorthwyo gyda’i lyfr ‘Tours of Wales’ (teithiau a gyhoeddwyd gyntaf ym 1778). Roedd Thomas Pennant yn ddiolchgar iawn i’r rheithor am ei gymorth gyda iaith a llenyddiaeth Cymru gan nad oedd yn medru’r Gymraeg. Mae’r llawysgrif yn cynnwys disgrifiad o Ffynnon Elian:

 DARLLEN (yn saesneg yn wreiddiol)   dyma handouts ar y bwrdd...

 Mae hyn yn rhoi cipolwg o’r ffynnon i ni, fel yr oedd hi ym 1775. Rydym ni hefyd yn gwybod, o ddarllen Llyfr Festri Eglwys Llanelian, fod yr eglwys wedi gwario arian i wneud pwll ymdrochi ym 1765. Gwelwn hefyd i’r eglwys hysbysebu yn Adams Weekly Courant (papur newydd ardal Caer) ym 1766 fod y pwll a’r ffynnon ill dau yn iacháu. Does dim dwywaith amdani felly,  fod pobl yn credu bod modd cael cymorth ac iachâd,  drwy gyfrwng Eglwys Llanelian a Ffynnon Elian. Gallwn gasglu felly fod y ffynnon yn un o nodweddion pwysig a gwerthfawr yr ardal. Roedd hi’n denu ymwelwyr yn eu heidiau a’r rhain yn gwario arian yno. Gallwn dybio hefyd y bu’r ffynnon yn cynyddu mewn pwysigrwydd trwy gydol y ddeunawfed ganrif, ac y bu i’r eglwys adeiladu’r pwll trochi ym 1765, oherwydd bod cymaint o bobl yn ymweld â hi.

 Fodd bynnag, mae’r llawysgrif yng nghasgliad Thomas Pennant yn nodi’n glir beth oedd defnydd y ffynnon, ac mae’r gair ‘melltith’ yno. Mae’r llawysgrif yn nodi, yn y drefn hon, pwy oedd yn defnyddio’r ffynnon:  

* pobl â gwendid corfforol neu feddyliol.

* pobl oedd eisiau ‘melltithio’ eu cymdogion.

* pobl sydd eisiau gwybod pwy sydd wedi dwyn eu heiddo a sut i gael yr eiddo’n ôl.

 Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, dw i’n credu, fod y ffynnon wedi troi o fod yn fan sanctaidd i Gatholigion ac yna’r Catholigion Reciwsanaidd i fod yn fan hudol, grymus, lle’r oedd modd i unrhyw un, crefyddol neu beidio, ofyn am unrhyw beth o gwbl. Dw i hefyd yn credu fod y newid yma yn rhan o’r newid mawr o Gatholigiaeth i Brotestaniaeth ac oedd yr Llyfr Gweddi Cyfreddin rhan pwysig iawn o’r newid.

 Erbyn 1567,  ar ôl y Diwygiad, roedd Elisabeth wedi rhoi’r gorchymyn i gyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Cyffredin i’r Gymraeg (prif gyfieithydd y Llyfr Gweddi oedd William Salesbury, a gafodd ei eni yn Llansannan ac oedd yn byw ym Mhlas Isa, Llanrwst am y rhan fwyaf o’i oes). Mi hoffwn i awgrymu fod tarddiad posib i’r gair ‘melltith’ yng nghyd-destun Ffynnon Elian,  i’w ganfod yn y Llyfr Gweddi Cyffredin, ac nad ydi’r gair yn gysylltiedig â gwrachod a drygioni. Yn y Llyfr Gweddi cawn ein rhybuddio, ‘am fawr digllonder Duw yn erbyn pechaduriaid’. Mae’r bennod yn rhestru ymddygiad sy’n dwyn ‘melltith.’ Mae’r neges yn glir - bydd Duw yn melltithio pechaduriaid.  

 Mae’r ffaith fod Eglwys Llanelian yn rhoi llawer o arian a chefnogaeth i’r ffynnon yn ystod y ddeunawfed ganrif, yn dangos nad oedd Eglwys Anglicanaidd yn wrthwynebus i’r hyn, oedd yn digwydd wrth y ffynnon. Mae’n bosib, dwi’n credu, fod y ‘melltithio’ yn debyg i’r melltithio yn y Llyfr Gweddi, a bod pobl yn gofyn am ‘felltith’ Duw ar y bobl oedd wedi eu pechu.

 Mae’r sôn cyntaf am Ffynnon Elian fel ‘ffynnon felltithio’ i’w ganfod yn llyfr Tours of Wales, Thomas Pennant a gyhoeddwyd ym 1778.

 Aiff Pennant yn ei flaen i ddweud, (yn Saesneg):

 ‘Bu defnydd mawr ar fynnon Sant Eilan . . . gyda’r sawl oedd yn dod ati yn gofyn ar i’r sant ladd neu ddwyn anffawd ar y sawl oedd wedi eu pechu. Mae pobl yn dal i roi coel fawr ar hyn. Aeth prin tair blynedd heibio ers i ddyn (a gredai fy mod wedi ei frifo) fygwth dwyn digofaint Sant Eilian arnaf, ac y byddai’n teithio i’w ffynnon i fy melltithio.’

 Wedyn, ysgrifenna Thomas Pennant yn History of the Parishes of Whitford and Holywell fod yn rhaid i ffermwr roi’r gorau i amaethu oherwydd bod y bobl dlawd yn gwneud cymaint o ddifrod i’w gnwd. Dywedai hefyd fod y bobl dlawd yn dwyn maip ac yn chwerthin yn ei wyneb gan ofyn beth ydi ychydig o faip iddo ef. Roedd Pennant, a oedd yn ustus, wedi synnu pam nad oedd y ffermwr yma wedi cwyno am y lladron. Mae o’r farn fod a wnelo Ffynnon Elian â hynny.    ymlaen i ddweud fod nifer o ffermwyr yn ofni melltith Ffynnon Elian ac felly’n dioddef oherwydd eu  hofergoeliaeth.

 Gwelwn o waith Thomas Pennant fod pobl yn defnyddio’r ffynnon i gael yr hyn y medrwn ei alw’n gyfiawnder adferol, naturiol, cymdeithasol. Roedd Thomas Pennant ei hun yn ffermwr ac yn ustus, ac mae’n debyg fod pobl yn dwyn llysiau a chnwd oddi arno ac yn ei fygwth â melltith Sant Elian os oedd yn cwyno. Mae’n debyg y byddai’n gwledda gyda ffermwyr a thirfeddiannwr eraill, gan drafod diffyg cyfraith a threfn yng ngogledd Cymru. Ond, heb amheuaeth, roedd bywyd yn galed tu hwnt i bobl dlawd yn y 1770au. Ysgrifenna Brian Howells yn The Rural Poor in 18th C Wales  am ddegawdau, bu’r rhenti yn uchel, yr ŷd yn ddrud/ a chafodd y tywydd ofnadwy/ a Rhyfel Napoleon effaith ddybryd ar y wlad. Roedd mwy a mwy o bobl yn dlawd/ ac wedi pasio’r Deddfau Cau Tiroedd roedd llai a llai o dir comin i’r werin fyw arno.

 Mae’n anodd i ni gydymdeimlo â Thomas Pennant yn cwyno am golli ambell i feipen. O ddwyn hyn i ystyriaeth, mae’n bosib fod y bobl dlawd yn teimlo iddyn nhw gael cam a bod modd i Ffynnon Elian, wneud iawn am hynny gan fod ei gallu yn gryfach a grymusach na chyfraith gwlad. Mae’n debyg mai pobl mewn cynni ofnadwy oedd yn defnyddio Ffynnon Elian erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd bygwth ffermwyr cyfoethog  â ‘melltith’ Sant Elian yn fodd o osgoi cosb a chadw’r blaidd ychydig pellach o’r drws. Felly, efallai, y cafodd gallu ‘melltithiol’ y ffynnon ei ddefnyddio mewn cyfnod o dlodi enbyd, i gynorthwyo’r rheini nad oedd cymorth ar gael iddyn nhw fel arall.

 Er mai dim ond cyfeirio’n gryno at y ffynnon a wnaeth Thomas Pennant, bu i ffrwd gyson o awduron fachu ar y syniad o ‘ffynnon felltithio’/heb roi unrhyw ystyriaeth i’r cyd-destun. Bu William Bingley , Charles O’Conor, Y Parch. J Evans, Edmund Hyde Hall ac Edward Pugh i gyd yn ysgrifennu am y ffynnon yn fuan iawn wedi i Thomas Pennant gyhoeddi ei waith. Roedden nhw i gyd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i geisio cynhyrchu’r gwaith ysgrifennu fwyaf campus a chreadigol... Disgrifiai Evan ddefnyddwyr y ffynnon fel ‘aelodau mwyaf dwl a llygredig cymdeithas’; Ysgrifennodd Bingley am ‘felltithion mwyaf ofnadwy ac arswydus’ y ffynnon;  a disgrifiodd O’Conor y lle/ fel ‘twll bach budr yn y ddaear.’ Yn wahanol i’r gweddill, ysgrifennodd Hyde Hall a Pugh am y sefyllfa o safbwynt ychydig mwy goleuedig gan obeithio y buasai’r gyfraith a’r system addysg yn dod â diwedd i’r ‘dihirwch a’r ynfydrwydd’ a oedd yn dod law yn llaw â’r ffynnon.  

 Yn 1814, cyhoeddwyd cerdd 5-caniad yn y cylchgrawn London yn dwyn y teitl ‘St Aelian’s well.’ Mae’r gerdd hynod hon yn ddiddorol dros ben, nid yn unig oherwydd y cyfoeth o wybodaeth am y defodau yn ymwneud â’r ffynnon ond hefyd oherwydd tras y bardd, Charlotte Wardle. Roedd Charlotte yn ferch i Gwilym Wardle, perchennog Stad Wern ym Mhenmorfa. Y Parchedig Jeffrey Holland oedd rheithor Dolbenmaen Penmorfa yn y cyfnod hwnnw. Roedd yn gyn ŵr i Margaret Holland, merch John Royle, perchennog Ffynnon Elian. Bu Margaret Holland yn byw yng Nghefn y Ffynnon hyd ddydd ei marwolaeth yn 1809, a hi oedd y cyntaf i ddal y teitl ‘offeiriades y ffynnon.’ Roedd Percy Bysshe Shelley yn byw yn Tan-yr- Allt o 1811 tan 1813. Doedd y tŷ ond dafliad carreg o’r Wern.  Roedd y gerdd yn gyfuniad o Ddelfrydiaeth Rhamantaidd,  chwedlau am gyn-wraig y Rheithor, a datguddiadau syfrdanol am y Cymry:

 DARLLEN enghraifft fach – yn saesneg – handout ar y bwrdd...

 Wedyn, yn 1815 ysgrifennodd y Parchedig Peter Roberts lyfr o’r enw ‘An Account of some Traditions, Customs and Superstitions of Wales’. Ynddo fe neilltuodd bennod gyfan i sôn am ffynhonnau. Ef oedd yr awdur cyntaf a’r unig un mewn gwirionedd i gwestiynu dilysrwydd Ffynnon Elian fel ffynnon felltithio: ‘Nid yw hi’n bosib i ffynnon a gysegrwyd i sant Pabyddol fod yn ffynnon felltith... hyd yn oed o ystyried natur anhrugarog pabyddion.’ Ond ni ymddangosodd ymholiad o’r fath mewn unrhyw waith arall.  

 Ym 1818 bu’r achos llys cyntaf yn ymwneud â Ffynnon Elian. Mae’r achos llys yn dystiolaeth sylweddol o’r modd y cai’r ffynnon ei defnyddio. Yn y llys y diwrnod hwnnw, roedd Edward Pierce o Laneurgain. Roedd ganddo achos o dwyll yn erbyn John Edwards o Sir y Fflint. Roedd John Edwards wedi honni y gallai ddefnyddio’r grymoedd arbennig i wella Pierce, a’i fe’i gwahoddodd i Ffynnon Elian i dderbyn y driniaeth. Doedd y driniaeth ddim yn llwyddiannus, ac fe aeth Pierce ag Edwards i’r llys er mwyn adennill ei bedwar swllt ar ddeg a chwe cheiniog yn ôl. Dyfarnwyd Edwards yn euog, ond fe lwyddodd i ddianc o drwch blewyn rhag cael ei alltudio. Dengys tystiolaeth yr achos, fod yn rhaid cael cyfryngwr os oeddech am i rymoedd Ffynnon Elian weithio - fel arall buasai Pierce wedi mynd i’r Ffynnon ar ei ben ei hun.  Dengys hyn bod y bobl leol yn rhoi coel fawr ar allu’r ffynnon i wella ac iachau pobl a bod holl drigolion Gogledd Cymru yn ymwybodol o fri Ffynnon Elian.

 Roedd ymateb y wasg Saesneg yn dystiolaeth bellach o ddelwedd  y Saeson o’r Cymry. Roedd erthygl am yr achos yn y ‘Cambro-Britain’  yn 1822, ac yn 1823 soniwyd eto am yr hanes mewn erthygl ddienw yn ‘Great Britain, the Album.’  Defnyddiodd yr awdur enwau ffug, cyfeiriodd at beth a elwir yn ‘Wrach Felltithiol’, a hefyd lleisiodd ei farn am y Cymry:

 DARLLEN – 2 .. yn saesneg yn wreiddiol...

 Ym 1823 disgrifioddThe Edinburgh Magaziney Cymry fel ‘pobl hynod ofergoelus sy’n byw mewn gwlad anghysbell ac anfoesgar gyda’u holl fywyd yn seiliedig ar ffantasi.’ Yn ôl y cylchgrawn, o’ch rhoi yn y ffynnon, bydd eich tynged yn debyg iawn i’r ‘Obi Indiaidd...byddai’r creadur tlawd ac anhapus yn nychu i farwolaeth,  oni ddigwyddai gwyrth mewn pryd.’  Ailwampiwyd yr erthygl ar gyfer y ‘Retrospective Review’  ym 1825 ac fe gafodd ei ail-argraffu yn y ‘Saturday Review’  ym 1837. Portreadwyd y Cymry fel pobl ‘wahanol’ gan y Saeson; nid oedden nhw’n defnyddio arferion dewiniaeth Prydeinig hyd yn oed.

****

Ym 1831 bu achos arall a ail-gydiodd ddiddordeb pobl yn Ffynnon Elian. Roedd yr achos y tro hwn, yn erbyn John Evans neu Jac Ffynnon Elian i bobl a oedd yn ei adnabod. Ef oedd ceidwad y ffynnon ers mwy na deng mlynedd. Honnai dynes o’r enw Elizabeth Davies ei bod hi wedi rhoi 7 swllt i Jac, ond na fu i’w gŵr wella fel yr addawodd Jac y buasai’n ei wneud. Dywedodd yr Ynad Farwn Bolland o Ruthun, os ydi pobl yn ddigon gwirion i gredu yng ngrymoedd ffynnon sanctaidd, maen nhw’n haeddu cael eu twyllo. Dywedodd Jac na fu iddo erioed honni unrhyw beth am ddŵr Ffynnon Elian, ni ofynnodd am arian gan yr un enaid byw, a ni ddywedodd fod ganddo bwerau hud o unrhyw fath. Cafodd Jac ddedfryd ohiriedig o chwe mis - dedfryd llawer llai na chafodd John Edwards ddeuddeg mlynedd yn gynharach.  Unwaith eto doedd dim si am Ffynnon Elian fel ffynnon ‘felltithiol’ yn ystod yr achos. Cai’r ffynnon ei phortreadu fel man i wella ac iachau.

 Ac yn 1832 cyhoeddwyd un o’r ymosodiadau ffyrnicaf ar Ffynnon Elian mewn un o’r darnau o waith mwyaf annhebygol. Roedd Samuel Wilderspin yn addysgwr a oedd yn ymchwilio dulliau dysgu ar gyfer ysgolion plant bach. Ysgrifennodd am Ffynnon Elian yn ei lyfr ‘Early Discipline Illustrated: or the Infant System progressing and Successful’ er mwyn dangos ‘styfnigrwydd y Cymry yn wyneb ei syniadau i ddiwygio’r ysgolion:

 ‘Mae’r ofergoeledd hon yn gwbl anghredadwy...bydd y canlynol yn dystiolaeth o’r werin bobl.’  

 Mae Wilderspin yn neilltuo pedair tudalen i sôn am Ffynnon Elian, gan ddisgrifio swyddogaeth Jac Ffynnon Elian fel a ganlyn:

 ‘Cyn gynted a glywai fod anffawd neu salwch ar unrhyw un o’r werin bobl, roedd yn dweud wrthyn nhw bod eu henwau yn y ffynnon a ni fyddan nhw’n gwella oni bai bod yr enwau’n cael eu tynnu allan ... roedd cannoedd ar gannoedd o bobl anwybodus yn cerdded deng milltir ar hugain neu ddeugain milltir i geisio iachâd, a hynny pan oeddyn nhw ar eu gwaethaf.’

***

Mae pethau wedi newid yn aruthrol ers stori Pennant a’i faip - ac nid oes ‘chwaneg o distiolaeth bod pobl yn defnyddio’r ffynnon i ‘felltithio’. Dygwyd y ddau achos llys gan bobl oedd eisiau iachâd ond wedi methu. Mae sawl awdur wedi disgrifio Ffynnon Elian fel lle anwaraidd, ofergoelus ac anonest, a thrwy hynny’n rhoi portread o Gymru a’i phobl.  Mae bri Ffynnon Elian fel ffynnon ‘felltithiol’ yn parhau hyd heddiw ond nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn i gadarnhau’r gred hon.

 Ond nid erthyglau Saesneg yn unig a oedd yn honni bod y Cymry yn ofergoelus a gwirion, ac yn fflangellu Ffynnon Elian a’r bobl a oedd yn mynd yno i geisio iachâd, cymorth a chyfiawnder. Roedd gan Ffynnon Elian elynion eraill - yn wir, bu i griw ohonynt ymsefydlu yn union gyferbyn i’r ffynnon. Bu i’r Anglicaniaid a’u goddefgarwch bylu, wrth i gredoau newydd donni drwy’r wlad. Daeth Methodistiaeth i ogledd Cymru yn y saith degau’r denawfed. O gwmpas yr adeg honno, ffurfiwyd grŵp yng Nghilgwyn Mawr, fferm a oedd dafliad carreg o Ffynnon Elian. Eu prif fwriad oedd cau Ffynnon Elian a chael gwared ar y credoau ‘annuwiol’ oedd yn gysylltiedig â hi.  Ym 1833, fe brynon nhw’r tir gyferbyn a’r ffynnon ac agor eu capel, Capel Nant Meifod. Cyn i’r capel agor, hyd yn oed, fe roeson nhw eu bryd ar gau’r ffynnon. Fe ysgrifennon nhw nifer o lythyrau at Y Goleuad ac ym 1829 fe benderfynon nhw weithredu. Fe aethan nhw’n un haid i ochr arall y ffordd a dymchwel y cerrig o amgylch y ffynnon.

 OND...ni fu i weithredoedd y Methodistiaid, yr achosion llys na’r ysgrifenwyr Saesneg atal pobl rhag dod i weld Jac Ffynnon Elian. Roedd Jac Ffynnon Elian, y ceidwad, yn graff ac yn meddu ar feddwl go ‘modern’. Roedd yn defnyddio’r hen arfer o drawsnewid drwy ddŵr, ac roedd ganddo lechi ac arnynt gymysgedd o bob math o lythrennau. Roedd pobl yn ei dalu am ei gyfuniad o ddoethineb a’i wybodaeth am yr hen ddefodau. Trwy gyfrwng ei gymorth ef, roedd y ffynnon yn wir yn ffynhonnell o gyngor ac awgrymiadau. Heb os, fe gafodd rhai eu hiachau o salwch a gofid. Yn ei hunangofiant Llyfr Ffynnon Elian, bu Jac yn trafod sawl enghraifft pam roedd pobl yn parhau i ofyn am ei gymorth, ac mae ynddo lythyrau Cymraeg a Saesneg gan ddeisyfwyr diolchgar. Rydym yn gyfarwydd â’r problemau - salwch, brad a lladrata. Roedd Jac yn seicolegydd naturiol a oedd yn defnyddio’i gred am yr enaid dynol, i geisio cynnig syniadau ar sut i fynd i’r afael â nifer o drafferthion. Gwelwn y math o waith roedd Jac yn arfer ei wneud - gwaith therapi a chynghori, yn dod yn fwyfwy cyffredin heddiw. Yn ystod cyfnod Jac, sef o 1820 hyd 1850 roedd yr hen syniad o gyfiawnder cymdeithasol adferol yn fyw iawn yn y tir.

 Fe gaeodd y ffynnon am byth wedi marwolaeth Jac ym 1857. Roedd amseroedd gwell i ddod. Daeth y rheilffordd i ogledd Cymru,  diwydiant newydd a thwristiaeth. Yn sgîl y galw enfawr am fwyd roedd mwy o swyddi i’r bobl, ac roedd poblogaeth fwy yn golygu mwy o arian. Doedd dim rhyfel bellach, roedd y frenhines Victoria yn teyrnasu ac roedd bywyd yn llawer haws. Nid oedd pobl yn gweld gogledd Cymru fel gwlad ‘ramantaidd’, ‘gyntefig’ ond yn ei chlodfori am ddarparu glo, llechi, copr a gwlân i weddill y byd.  Roedd pwrpas a swyddogaeth cymhleth a maith Ffynnon Elian fel symbol o gymorth a chysur yn ystod cyfnodau anodd hanes Cymru/ wedi dod i ben.

****

Diolch i chi i gyd am ‘wrando.... a gobeithio bod chi’n wedi mwynhau....

 Dwi’n hapus i ceisio ateb cwestionau!

 Home Up