Home Up

LLYGAD Y FFYNNON  

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 16, Haf 2004  

___________________________________________________________________________

  FFYNNON PARC MAWR, MÔN

  Yn y gyfrol ddiddorol Enwau Lleoedd Môn (1996, tudalennau 74-75) mae’r awduron Gwilym T. Jones a Tomos Roberts yn disgrifio Ffynnon Parc Mawr (SH486871) fel hyn:

  Lleoliad: ym Mhenrhosllugwy, ar ochr orllewinol y ffordd sydd yn arwain i Amlwch, sef A5025.

Ystyrid hon yn ffynnon iachusol a disgrifir ei dŵr fel ‘dŵr copor’ gan drigolion yr ardal. Fodd bynnag, cyfeirir ati ar hen fapiau Ordnans fel ‘Chalybeate Spring’ sef tarddell gyda lefel uchel o haearn yn ei dŵr. Ystyrid Ffynnon Parc Mawr hefyd yn un addas ar gyfer melltithio, ac fe honna E. Neil Baynes, mewn erthygl yn Nhrafodion Hynafiaethwyr Môn yn 1928, ei bod yn cael ei defnyddio i’r perwyl hwn hyd yn oed ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Dyma fel yr edrydd Baynes yr hanes:

Not long ago a man found a frog stuck full of pins or needles in this well. The ceremonial was to stick pins in a frog, place it between two stones and deposit it in a well with a piece of slate on which the name of the person to be bewitched was scratched. Sometimes the heart of a black cat was added. If the spell worked  the person whose name was written on the slate would be burnt between two bundles of faggots.

Codwyd gorchudd o ruddfaen dros y ffynnon ar ddechrau’r ganrif gan Arglwydd Boston. Er gwaethaf hyn mae’r ffynnon wedi’i hesgeuluso a does dim ynddi bellach ond merddwr drewllyd.

 

 

Anfonwyd y lluniau o Ffynnon Parc Mawr at Lygad y Ffynnon gan John Price Evans o Benrhosllugwy, sydd newydd ymaelodi â Chymdeithas Ffynhonnau Cymru ac mae ef ac ambell un arall am fynd ati i adfer y ffynnon. Meddai, yn ei lythyr:

Rydym yn gobeithio gwneud gwaith ar Ffynnon Parc Mawr ym mhlwyf Penrhosllugwy. Mae’r ffynnon ar ochr orllewinol ffordd yr A5025 sy’n rhedeg o Bothaethwy i Amlwch, cyn cyrraedd pentref Brynrefail. Mae llwybr troed yn rhedeg ger ochr y ffynnon ac yn mynd ar draws y rhos. Yng nghanol y rhos mae pont a’i henw yw Pont Haearn. Gallwch weld o’r lluniau fod y ffynnon mewn cyflwr gweddol yn gyffredinol oddi allan o leiaf. Mae ambell i garreg wedi dechrau disgyn oddi ar y mannau uchel. 

Rwyf wedi medru cysylltu â phobl sydd yn berchen y tir mae’r ffynnon arno ac meant yn berffaith hapus i waith trin a thacluso gael ei wneud ar y ffynnon. Rwyf hefyd wedi cysylltu â Chyngor Sir Môn ac wedi siarad gyda swyddog o’r enw Christian Branch o’r Adran Gwasanaeth Cynllunio a’r Amgylchedd. 

Mae o wedi gyrru pecyn cronfa datblygu amgylchedd i ardal o harddwch eithriadol (AHNE) Ynys Môn i mi. Y cam nesaf fydd cael cyfarfod gyda Christian Branch wrth leoliad y ffynnon a chael clywed ei farn ar y prosiect. Rwyf wedi trafod y ffynnon gydag amryw o’r plwyf ac maent yn awyddus i roi cymorth i’r fenter. Rwyf eisiau cysylltu â’r Lord Boston presennol i weld a oes diddordeb ganddo mewn rhoi cymorth o unrhyw fath. Os gallwch fod o gymorth trwy roi cyngor i ni ar drin y ffynnon buaswn yn ddiolchgar iawn.  

Y mae gennym le i longyfarch John am yr holl waith y mae eisoes wedi ei wneud. Yn sicr, mae’n frwdfrydig iawn a byddwn fel cymdeithas yn barod i roi unrhyw gymorth posib iddo yn y dyfodol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

John Price Evans, Penrhosllugwy, Ynys Môn

Y Parch. Brian Whatmore, Gnosall, Swydd Stafford

Geraint Thomas, Blaenau Ffestiniog

M. Edwards, Wrecsam

Y Parch. Tom a Mrs Catherine Wright, Wrecsam

Millicent Hopwood, Coed-poeth

Cymdeithas Ddinesig Dolgellau

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON EILIAN, MÔN A’R MÔR-LADRON, 1708

gan Ken Lloyd Gruffydd

Mae pethau’n gweddu’n o ddrwg pan fydd dwy wlad yn penderfynu torri cysylltiad diplomyddol a’i gilydd. Felly’r oedd hi gyda Phrydain a Ffrainc o 1702 hyd 1710, er, ni roddwyd gorau i fasnachu’n swyddogol rhyngddynt tan 1 Gorffennaf 1707 [1].

Dechreuir yr hanesyn byr hwn ym mhorthladd Lerpwl yn Awst 1707 pan ddigwyddodd i William Peters, morwr o Lys Dulas, plwyf Llanwenllwyfo, Môn, gwrdd ag un David Roathe a oedd yn foswn ar long Ffrengig. Yno mwynhaodd y ddau gwmnïaeth ei gilydd gymaint nes iddynt benderfynu, yn ôl Peters, i gwrdd yn y flwyddyn newydd a chytunwyd ar y fan a’r lle. A dichon mai felly y bu.

Yn nechrau Ionawr 1708 gwelwyd llong ladron (privateer) Ffrengig wedi angori ger Penmon, ac yna yn ddiweddarach ymhellach i fyny’r arfordir, rhwng Pwynt Leinas a phorthladd Amlwch. Cyn bo hir glaniodd peth o’r morwyr gan ddifrodi bwthyn rhyw deiliwr bach diniwed ac yna brysio’n ôl i’w llong gyda stôr o ddefaid wedi eu dwyn. Mae’r hyn a drafodir nesaf yn ei gwneud hi’n amlwg nad hwn oedd y tro cyntaf i’r Ffrancwyr ymweld â’r ardal oherwydd glaniodd rhai ohonynt gyda’r diben o gael cyflenwad o ddŵr yfed i’r llong, a hynny ‘out of a well in Llaneilian afores’d called ffynnon Eilian. Gadawyd llythyr yno i Peters, ‘left und[e]r a stone neare the sd well’. Cyfaddefodd yntau iddo dderbyn gwahoddiad gan Roathe i ymgomio ag ef, ac ar yr un pryd, ei atgoffa am y poteli da o seidr yr oeddent wedi eu rhannu a’u mwynhau yn y porthladd ar y Mersi.

Diddorol sylwi i’r gŵr o Lys Dulas gyfaddef ymhellach nad oedd yn wir Gymro a’i fod yn hanu o dras gwŷr yr Iseldiroedd, sef, ‘Dutchman’, ac mai ei enw blaenorol oedd William Peters Bola [2]. Oedd wir, roedd llawer yn gyfarwydd â Ffynnon Eilian ers llawer dydd!

1. Statutes of the Realm 3-4 Anne, c.12.

2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Sesiwn Fawr 4/250/1/ 4, 9-10

 

Daeth perchnogion diweddarach Llys Dulas, sef y Lewisiaid, yn gyfoethog iawn oherwydd i gopor gael ei ddarganfod ar eu tiroedd ar Fynydd Parys.

 

Cyferinod map Ffynnon Eilian, Môn: (SH 466934)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON RINWEDDOL ABERAERON, Ceredigion  

Diolch i Erwyd Howells am ein cyfeirio at yr erthygl hon, ‘Aberaeron’s Closed Well’ a ymddangosodd yn y Welsh Gazette  ar yr 11eg o Dachwedd, 1901. Ffug-enw’r awdur yw Philip Sydney. Dyma fersiwn Gymraeg o’r cynnwys:

Mor bell yn ôl a thridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Aberaeon ffynnon chalyneate neu ffynnon â sylwedd haearn yn ei dŵr ac roedd yn enwog am ei gallu i wella afiechydon yn rhad ac am ddim i’r sawl a ddeuai i yfed ohoni. Mae’r ffynnon i’w gweld mewn adeilad wedi ei adeiladu’n gelfydd o frics ac mae pwmp i codi’r dŵr at fath o gownter a seddau o’i gwmpas lle gall yr yfwyr eistedd i derbyn yr hylif iachusol. Ni all neb weld bai ar y trefniadau yma ond – yn anffodus – mae’r adeilad bach wedi ei gloi rhag y sawl a ddaw yno i gael iachâd ac mae wedi bod felly am o leiaf flwyddyn. Ar y drws mae darn o bapur ac arno mae’r wybodaeth: Oriau agor: 6.00 8.30 y bore, 11.00 12.30, 2.00 3.30, y prynhawn a 6.00 8.00 yr hwyr. Wedi cysylltu â’r heddwas lleol cafwyd wybod gan bwy roedd y goriad a allai agor y drws ac yn y man daeth gwraig at y ffynnon gan gario dau wydryn glân yn ei dwylo. Agorwyd y drws, gweithiwyd y pwmp a llifodd y dyfroedd bywiol i lanw’r gwydrau.

Yn ôl yr hanes, meddyg a ddarganfu’r ffynnon a ffuriwyd cwmni i’w datblygu fel adnodd iachusol i’r sawl a ddeuai i yfed o’i dŵr. Adeiladwyd drosti a deuai ymwelwyr a phobl leol i yfed ohoni ac i dalu dimau y tro er mwyn i’r wraig a ofalai am y ffynnon gael cydnabyddiaeth ariannol am ei thrafferth. Oherwydd anghydweld ymhlith aelodau o’r cwmni rheoli penderfynwyd peidio ag agor y ffynnon a hynny mewn tref sy’n awyddus i ddenu ymwelwyr. Yn sicr ni bydd cau’r ffynnon o unrhyw les i’r ardal. Siawns nad yw’n bosibl i drigolion tref bwysig fel Aberaeron godi fel un gŵr a mynnu fod y ffynnon yn cael ei hailagor cyn y daw tymor gwyliau eto! Mae’n siwr fod yna rwystrau ond maent yno er mwyn iddynt gael eu gorsegyn. Os na fedrir talu’r wraig am ofalu am y ffynnon allan o’r ddimai a geir am lasiad o ddŵr oni byddai modd rhoi slot machine yno – peiriant i dderbyn yr arian. Buan y byddai’n talu am ei le a dod ag elw hefyd. Unwaith yr ymleda’r wybodaeth fod y ffynnon ar agor eto bydd meddygon yn argymell i’r cleifion fynd yno i yfed y dyfroedd a bydd Aberaeron yn ymhyfrydu yn yr hen ffynnon unwaith yn rhagor. Anodd credu fod rheolwyr y ffynnon yn ei chadw ar gau mewn tref sydd, ymhen ond ychydig, yn mynd i fwynhau holl fanteision cael rheilffordd i’w chysylltu â’r byd! Dylai gair i gall fod yn ddigonol. Fel un sydd wedi yfed y dŵr, a dŵr llawer o ffynhonnau enwog eraill, ni fyddai dim yn rhoi mwy o bleser i mi na rhoi cymorth i’w hailagor.

      Mae llyfr yr ymwelwyr yn adeilad y ffynnon yn werthfawr a diddorol. Mae’r tudalennau rhydd yn frith o enwau a chyfeiriadau. Dylent gael eu gosod wrth ei gilydd a’u rhwymo’n destlus a gofalus er mwyn cadw’r gyfrol i’r oesoedd a ddel. Mae hanesion am bobl a gafodd wellhad drwy ddyfroedd y ffynnon yn hynod o ddifyr. Copïais rai ohonynt ond mae’r tudalennau llaith yma yn galw am law garedig i’w hadfer. Am ba hyd y galwant am gymorth?

Tybed pa adwaith fu i’r erthygl? Byddai’n ddiddorol gwybod mwy o hanes Ffynnon Aberaeron. Ar fap o’r dref, a gyhoeddwyd gan Gyngor Ceredigion yn 1995, ceir yr enw Maes-y-Ffynnon / Chalybeate Gardens rhwng afon Aeron a’r ffordd A482 sy’n dod i mewn i’r dref o gyfeiriad Llanbedr-Pont-Steffan. Gellir mynd yno wrth droi i’r chwith o Stryd-y Fro / South Road, cyn dod at y ffordd sy’n arwain at gae chwarae Sgwâr Alban. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y ffynnon hon byddem yn falch iawn o glywed gennych. Cyfeirnod map Ffynnon Aberaeron yw SN459627.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EICH LLYTHYRAU

Annwyl Olygydd,

Nid wyf wedi gweld llawer o englynion ar y testun ‘Ffynnon’. Gofynnais i Mr Rhys Tom Griffiths o Aberaeron, sydd erbyn hyn yn 94 oed ac yn ddat-cu i’m diweddar briod, a fuasai cystal â gwneud un – ac fe gefais bedair, a dyma nhw:

Y Ffynnon

(ar fferm Coed y Gweddill, Llwyngwril; SH57 9084)

                                    Ar randir llawn o gryndod – wele berl

                                                Ei bwrlwm di-ddarfod:

                                           Man tawel geni’r diod

                                           Rataf, a’r buraf sy’n bod.

                                      Rhoed i hon, drwy ordeiniad – oludoedd

                                    O loywder i’w llygad;

                               Mawr ei rin, ac O! mor rhad

                                Ei dŵr crai, rhodd Duw’r cread.

 

                                   Ei harwyddair yw ‘Rhoddi’, – ar ei stor

                                               Ni does doll na dogni;

                                            Olyniaeth o haelioni

                                             Erio’d fu ei hanfod hi.

 

                                    A ni’n cwyno’n ein cyni, –y gawod

                                                A’r gwaeau’n hir oedi,

                                              Da iawn rhag ein di-hoeni

                                              Oerlam iach ei bwrlwm hi.

                                                                                         RTG

Gwelais mewn llyfryn o arwerthiant Stad Llangelynnin o eiddo Rice Annwyl yn 1872, gae (rhif 3) o’r enw Cae Ffynnon Anas. A oes unrhyw wybodaeth am hon? Rwyf wedi gweld ffynnon wedi ei chau i mewn efo brics ar dir Gogerddan. Roedd yn anferth o le i ddal dŵr. Ai hon oedd ffynnon y plas? Ceisiaf wneud rhagor o ymchwil.

Erwyd Howells, Capel Madog, Ponterwyd.

(Diolch i Erwyd am ei ddiddordeb yn y ffynhonnau a phob hwyl gyda’r ymchwil.  – Gol.)  

Annwyl Olygydd,

Rwyf wedi prynu copi o Ffynhonnau Cymru (Cyfrol 1) ac yno darllenais gyda diddordeb am Ffynnon Fair (SN 352 442) ym mhlwyf Llangynllo, Ceredigion. Cefais fy magu yn y plwyf ac rwyf yn gyfarwydd â fferm Ffynnon Fair ers dyddiau fy mhlentyndod. Ni wyddwn am fodolaeth y ffynnon nes imi ddechrau ymchwilio ar gyfer cyfrol am hanes y plwyf. Roedd un rheithor, y Parchedig T. H. Davies, wedi ymweld â’r ffynnon am fis i geisio cael gwellhad. Ar ymweliad ag adfeilion Llanfair Trefhelygen a fferm Ffynnon Fair yn ddiweddar ni lwyddais i ddod o hyd i unrhyw arwydd o’r ffynnon. Tybed a ellwch fy helpu i ddarganfod ei hunion leoliad?

Brian Whatmore, Gnossall, Lloegr.

(Diolch am eich llythyr diddorol. Mae mapiau degwm yn aml yn gallu dangos lleoliad ffynnon drwy nodi enwau’r caeau. Byddai cael cae â’r enw Cae Ffynnon Fair arno yn nodi lleoliad y ffynnon yn weddol sicr. Dyma sydd gan Francis Jones i’w ddweud am leoliad y ffynnon hon: ‘North of Llanfair  Treflygen where St Mary’r church is in ruins, on the north east of which is a tumulus: Tir ffynnon fair, 1684 – NLW Bronwydd Deeds: Tŷ’r ffynnon faer – Lhuyd, Parochalia, iii, 93: Ff. Vayre, 1734 and Ffynnonvair 1784 – NLW Cilgwyn Deeds.’ (Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU GWENT

gan Eirlys Gruffydd

  Flynyddoedd yn ôl, y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd, aethom fel teulu i ymweld â nifer o ffynhonnau’r fro. Eleni gobeithiwn fedru gwneud rhywbeth tebyg gan ei bod yn hen bryd bellach i’r drydedd gyfrol yn y gyfres Ffynhonnau Cymru – Ffynhonnau’r De ymddangos. Dyma hanes rhai o ffynhonnau’r fro a’r traddodiadau sy’n perthyn iddynt.

 

Buom yn ymweld â Threlech a synnu a rhyfeddu at y tair carreg anferth sydd i’w gweld yno ond mae ffynhonnau’r ardal yn hynod ddiddorol hefyd. Yn ôl traddodiad roedd yma unwaith naw o ffynhonnau a phob un yn cael eu bwydo gan darddiadau gwahanol ac yn gwella amrywiaeth o afiechydon. Erbyn hyn dim ond pedair ffynnon sydd yn bodoli. Roedd Edward Lhuyd yn gwybod amdanynt gan fod llawer o bobl yn tyrru atynt i wella scyrfi, colic ac anhwylderau eraill a daeth y ffynhonnau haearn yn enwog yn y ddeunawfed ganrif.

Mae’r pedair ffynnon yn weddol agos i’w gilydd a Ffynnon Ann neu’r Ffynnon Rinweddol (SO504052) yw’r enwocaf ohonynt. Ffynnon â haearn yn ei dŵr yw hi ac yn y mur o’i chwmpas mae seddau i bobl eistedd arnynt a dau gilfan Mae’r tarddiad yn codi oddi mewn i fwa o gerrig dwy droedfedd o led a silff o’i gwmpas a basn crwn dwy droedfedd ar draws i ddal y dŵr. Mae gwaith cerrig cywrain a chadarn o gwmpas y ffynnon. Yma roedd yn arferiad i daflu carreg i’r dŵr a gwneud dymuniad. Pe na ddeuai ond ychydig o swigod i’r wyneb byddai’n rhaid aros cryn dipyn cyn i’r dymuniad gael ei wireddu. Pe bai llawer o swigod yn ymddangos deuai’r dymuniad yn ffaith mewn fawr ddim o amser. Pe na ddeuai swigod o gwbl yna ofer y dymuno a’r dyheu.

Roedd yn gred gyffredinol bod amhuro dŵr ffynnon yn sicr o ddwyn cosb i’w ganlyn. Ceisiodd ffermwr a oedd yn berchennog ar y tir lle tarddai’r ffynhonnau eu cau, ar wahân i un, a’i defnyddio i’w fantais bersonol ef ei hun. Un diwrnod, fodd bynnag, daeth wyneb yn wyneb â dyn bychan o gorffolaeth yn ymyl y ffynnon a dywedodd hwnnw wrtho y câi ei gosbi am wneud hynny ac na fyddai dŵr yn llifo ar ei dir byth wedyn. Ailagorodd y dyn y ffynhonnau a llifodd y dŵr ar ei dir unwaith yn rhagor. Nid yw’n syndod clywed fod cred yn bodoli yn ardal Trelech fod y Tylwyth Teg yn dawnsio o gwmpas y ffynhonnau ar noswyl Gŵyl Ifan ac yn yfed y gwlith o flodau cloch yr eos a oedd yn tyfu o gwmpas y ffynhonnau.

 

Mae yna dri lle o’r enw Llangybi yng Nghymru: yng Ngwynedd (SH4241), yng Ngheredigion (SN6053) ac yng Ngwent (ST3796) ac mae ffynnon wedi ei chysegru i’r sant yn y tri lle. Mae hanesion am Cybi Sant a ffynhonnau sy’n gysygredig iddo ym Môn hefyd. Gellir dod o hyd i Langybi (Gwent) wrth ddilyn y ffordd B4596 am dair milltir i’r de o Frunbuga. Mae’r ffynnon yno gerllaw’r eglwys ac mae pwmp o’i blaen. Gall fod yn anodd i’w darganfod gan fod tyfiant drosti ac mae’n edrych fel rhan o’r clawdd wrthi i chi gerdded i lawr y ffordd gyda mur deheuol y fynwent. O edrych arni’n fanwl gwelir bod gwaith cerrig cywrain iddi a’i bod ar ffurf bwa. Hyd y gwyddom nid oes hanes na thraddodiadau am y ffynnon hon wedi goroesi ond mae’n debygol iawn mai ohoni hi y ceid dŵr i fedyddio yn yr eglwys a’i bod hefyd wedi diwallu angen y pentrefwyr am ddŵr ar un adeg gan fod pwmp wedi ei osod yn ei hymyl.

 

Gellir gweld Ffynnon Dewdrig (ST524912) ger cornel ogledd-ddwyreiniol Mathern House ym mhentref Matharn (Mathern) ar y tir gwastad ger aber afon Hafren rhwng Casnewydd a Chas-gwent. Brenin Morgannwg a sant oedd Tewdrig a’i fab Meurig hefyd yn frenin ac yn sant. Pan oedd Tewdrig yn hen trosglwyddodd frenhiniaeth Morgannwg i Meurig ac aeth i fyw i Dyndyrn (Tintern) fel meudwy. Yno ymddangosodd angel iddo gan ddweud bod gelynion i Gristnogaeth, y Sacsoniaid, wedi dod i’r ardal a bod angen iddo fynd i ganol y brwydro er mwyn eu dychryn. Pe gellid eu goresgyn byddai heddwch am ddeg mlynedd ar  hugain yn ystod teyrnasiad Meurig. Cafodd Tewdrig wybod hefyd y byddai yntau’n cael ei glwyfo’n ddrwg ger Rhyd Tyndyrn. Serch hynny gwisgodd ei arfwisg a marchogaeth ar flaen ei fyddin i wynebu’r gelyn. Roedd gweld Tewdrig yn ddigon i ddychryn y Sacsoniaid ond wrth ddianc o flaen y Cymry taflodd un o’r gelynion waywffon at Tewdrig a’i glwyfo’n arw. Fe’i cludwyd at lannau afon Hafren i Fatharn a lle bynnag yr arhosodd ar ei daith tarddodd ffynnon i olchi ei friwiau. Dyna’n union digwyddodd ym Matharn lle y golchwyd ei glwyfau mewn ffynnon unwaith yn rhagor, ond er gwaethaf hyn bu Tewdrig farw. Galwyd y ffynnon arbennig hon yn Ffynnon Dewdrig. Enw arall ar Fatharn yw Merthyr Tewdrig. Yma hefyd y codwyd eglwys dros y fan lle’i claddwyd ac mae wedi ei chysegru iddo. Mae muriau isel o gerrig nadd o gwmpas y ffynnon a saith o risiau cerrig yn mynd i lawr at y dŵr. Mae’r taddiad yn codi oddi mewn i ogof fechan yn y graig ac adeiladwyd bwa o gerrig o flaen yr ogof. Mae’n ffynnon ddofn a chodwyd ffens o bren o’i chwmpas a mynedfa wedi ei chloi ynddi er mwyn cadw plant ac anifeiliaid rhag mynd i’r ffynnon.

Ym mhlwyf Matharn, dim ond rhyw filltir a hanner i’r de-orllewin o Gas-Gwent, mae lle o’r enw Pwll Meurig (ST5192) ac yma mae Ffynnon Meurig. Yn ôl un traddodiad hynafol roedd boncyff go fawr yn arfer bod yn y ffynnon a’r bobl yn sefyll arno i olchi eu hwynebau. Pan ddeuai llanw uchel y gwanwyn byddai dŵr o afon Hafren yn dod i fyny i’r ffynnon ac yn cludo’r boncyff i’r môr ond ymhen pedwar diwrnod dychwelai’r boncyff yn wyrthiol i’r ffynnon unwaith eto! Er mwyn ceisio gwrthbrofi fod rhywbeth y tu hwnt i’r cyffredin yn digwydd i’r boncyff cymerodd rhyw ddyn lleol y pren o’r ffynnon a’i gladdu, ond o fewn pedwr diwrnod roedd y boncyff wedi dychwelyd i’r ffynnon ac ymhen mis roedd y dyn a fu mor haerllug â chladdu’r boncyff wedi marw.

Ar dir Plas Llanofer roedd Ffynnon Gofer (SO31 08) ac roedd ganddi’r enw o fedru gwella cloffni. Byddai’n arferiad i gleifion adael eu baglau a’u ffyn ger y ffynnon fel arwydd o’u gwellhad. Yn agos i Lanofer roedd Ffynnon Angoeron ac arferid taflu pinnau wedi eu plygu yn ogystal â botymau fel offrwm i’r ffynnon cyn gwneud dymuniad ond nid oedd cadw’r dymuniad yn gyfrinach neu ni châi ei gwireddu. Yn ardal Llandeilo Bertholau (SO3116) roedd nifer o ffynhonnau pwerus a rhinweddol yn ôl Edward Lhuyd. Roedd rhai ar y bryniau ac eraill ar y dolydd a gallent wella amrywiaeth o afiechydon ac anhwylderau megis clwyfau a doluriau crawnllyd a lludiog yn ogystal â symud defaid a brychni haul oddi ar y croen.

Mae llawer o ffynhonnau diddorol yng Ngwent megis Ffynnon Ffraid ger eglwys Ynysgynwraidd (Skenfrith) (SO4520) a gysegrwyd i’r santes, a Ffynnon Bedr rhyw dri chan llath i’r de-ddwyrain o eglwys Bryngwyn, ardal ym mhlwyf Llan-arth Fawr (SO3909). Gobeithiwn gael cyfle i ymweld â rhai ohonynt yn ystod mis Awst a dod i wybod mwy am ffynhonnau Gwent.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU AR WEDI 7

Ar yr ail o Fehefin cafwyd eitem hynod ddiddorol am ffynhonnau ar y rhaglen Wedi 7. Gwelwyd Eirlys Gruffydd, ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon, yn sôn am ffynhonnau’n gyffredinol a’r ffynnon arbennig hon yn enwedig. Roedd y criw teledu wedi ymweld â nifer o ffynhonnau eraill yn y gogledd ac wedi gwneud gwaith ardderchog yn eu ffilmio. Ond yr hyn a ysgogodd yr eitem oedd darganfod ffynnon gron rhyw ddeg troedfedd o ddyfnder mewn gardd tŷ yn Rhodfa’r Santes Helen yn Abertawe. Aeth Dewi Lewis, cyn-gadeirydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, yno ar wahoddiad Wedi 7 a chael ei gyfweld gan Heledd Cynwal ger y ffynnon. Credir bod cwfaint i leianod o Urdd Awstin Sant yn yr ardal hon yn ystod yr Oesoedd Canol ac mai i’r Santes Helen y cysegrwyd y capel yno. Os mai hon yw ffynnon sanctaidd Santes Helen yna mae iddi draddodiad o fod yn ffynnon rinweddol lle deuai pobl i wella pob math o afiechydon. Mor ddiweddar â 1855 deuai rhwng ugain a deg ar hugain o bobl ati yn ddyddiol. Rhaid bod adeilad drosti oherwydd mae cofnod iddo gael ei ddymchwel yn 1880. Sychodd ei dyfroedd wedi gosod carthffosydd yn ffordd Brynmor yn ystod y cyfnod hwn. Dyna’r adeg hefyd pryd y daeth dŵr tap i Abertawe a phan gollodd yr hen ffynhonnau eu pwysigrwydd a’u defnyddioldeb i’r gymuned. Diolch i’r darganfyddiad hwn cafodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru hys-bys am ddim! Mae trefniadau ar y gweill i wneud rhaglen deledu gyfan ar waith y gymdeithas yn y dyfodol agos  -  diolch i  gwmni  Teleg Cyf. 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON GELYNNIN, LLANGELYNNIN  

( O CYMRU 1893, tud. 30)

Yng nghwr de-orllewinol y fynwent ceir ffynnon gysegredig, yn llawn o ddyfroedd rhinweddol. Diogelir hi gan waliau cerrig uchel, a gellid tybio y bu to uwch ei phen mewn rhyw oes. Arferid dod a chleifion a gweinion yr ardal a’r cwmpasoedd i ymolchi yn y dyfroedd hyn; ac ymddengys y byddai llawer yn cael “lles mawr trwy hynny.” Cyfarfyddais  ddyn o Ro Wen wrth ddod i lawr o’r fynwent, a sicrhaodd fu fod rhinwedd mawr yn Ffynnon Llangelynnin. Dywedodd am ryw wraig a adwaenai ef yn dda, a gymerodd blentyn egwan ac afiach, ac a’i trochodd yn y ffynnon, a’r canlyniad fu iddo gryfhau o’r awr honno allan; ac y mae  y plentyn hwnnw yn fyw ac iach heddiw. Dyna y dystiolaeth a gefais i rin Ffynnon Gelynnin, Llangelynnin, Dyffryn Conwy.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CASNEWYDD A’R CYLCH

DYDD MERCHER, AWST 4ydd am 12.00, PABELL Y CYMDEITHASAU

CYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

a sgwrs am

FFYNHONNAU’R DE 

gan

EIRLYS GRUFFYDD

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Diwedd y gân . . . yw’r geiniog!

Daeth yn amser talu’r tâl aelodaeth blynyddol unwaith yn rhagor ac fe fydd y Trysorydd, Ken Lloyd Gruffydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH yn falch iawn o dderbyn eich tâl aelodaeth am 2004-2005 os nad ydych yn talu drwy archeb banc neu’n aelod am oes.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch bob gohebiaeth at y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Tŷ Camwy, Calle Michael D. Jones, Y Gaiman, Chubut, Argentina.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan Boswell Print & Design, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up