Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 15, Nadolig 2003

 

FFYNNON GWYDDFAN, 

LLANDDYFÂN, SIR GAERFYRDDIN 

(SN 643172)

 

(Yn Rhif 10 o Llygad y Ffynnon cafwyd erthygl ddiddorol gan Dewi Lewis am y ffynnon hon. Gan ddilyn cyfarwyddiadau Dewi, bûm yn ymweld â hi. Dyma lun ohoni a mwy o'i hanes. Diolch i Twm Elias am ein cyfeirio at y ffynhonnell hon o wybodaeth amdani.)

Ffynnon Gwyddfan

Nodwyd safle'r baddon yn Llanddyfân ar fap Thomas Kitchin o sir Gaerfyrddin a gyhoeddwyd yn 1754 ac yna hefyd ar fap 1805 Cary o dde Cymru. Cyfeiriodd Edward Lhuyd at y ffynnon feddyginiaethol oedd ym mhlwyf Llandybïe mor bell yn ôl ag 1695 a nododd fod afon Gwyddfe yn tarddu ohoni ac mai dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon Gwyddfan. A bod yn fanwl gywir, ym mhlwyf Llandeilo Fawr y mae Llandyfân ond ger y ffin â phlwyf Llandybïe. Nododd Carlisle yn ei gyfrol Topographical Dicrionary of Wales yn 1811 fod y ffynnon yn enwog am ei gallu i wella nifer o anhwylderau. Ymwelodd Richard Fenton â'r lle a dywedodd yn ei gyfrol Tours of Wales, 1804-1813 fod y ffynnon yn 'enclosed in a square building with steps going down to it, uncovered'. Yn 1843 adroddodd Samuel Lewis yn ei gyfrol A Topographical Dictionary of Wales iddo ymweld â'r ffynnon ac fe'i disgrifiodd fel 'a square stone tank, anciently a baptisery for the use of the early Christian Church at the little chapel of Llanduvaen'.

Mae'n anodd gwybod faint yw oed y ffynnon na pha mor bell yn ôl mewn hanes y'i defnyddiwyd i wella afiechydon, ond awgrymir nad oedd mewn bri ar ôl dechrau'r Diwygiad Methodistiaid. Pregethodd Howel Harris i dyrfaoedd ger y ffynnon yn 1740, 1750 ac 1751. Ar ôl i Peter Williams bregethu yno daeth Llandyfân yn ganolfan i'r Bedyddwyr a defnyddiwyd y baddon i fedyddio, er nad oedd hyn wrth fodd y Methodistiaid. Roedd pregethwyr annibynnol megis Thomas Coslett, rheolwr ffowndri leol, yn tynnu'r tyrfaoedd i Landyfân. Pan ymrannodd y Methodistiaid yn Galfiniaid ac yn Arminiaid  ac ar ddechrau Undodiaeth, daeth nifer o enwadau crefyddol i rannu'r capel a oedd ger Ffynnon Gwyddfan. Pan aeth yr Annibynwyr i Ffair-fach a'r Bedyddwyr i Trap, gadawyd Llandyfân i'r Undodwyr. Yna adeiladodd yr enwad hwnnw gapel newydd yn Onnen-fawr ger Trap ac yn 1839 daeth yr adeilad yn eiddo i'r Eglwys Wladol unwaith eto. Yn 1897 rhoddwyd caniatâd i Gyngor Tref Llandeilo bibellu'r dŵr o'r ffynnon i gartrefi Llandeilo a thalwyd £10 y flwyddyn i'r eglwys amdano. Y ffynnon hon oedd ffynhonnell ddŵr Llandeilo tan yn gymharol ddiweddar.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR

(Cadwyd sillafu ac arddull y ffynhonnell wreiddiol yn y dyfyniadau canlynol.)

Ffynhonnau Llanfair Caer Einion (SJ1006) gan CARWR LLES Y CYFFREDIN

O'r Eurgrawn Wesleyaidd, Hydref 1825, tudalennau 358 ac 359. Argraffwyd yn Argraff-dy y Methodistiaid Wesleyaidd Llanfair Caereinion, gan R. Jones dros W. Evans.

Mae effeithiau tra chanmoladwy yn perthynu i'r ffynhonnau hyn; ac wrth ystyried fod y fath luoedd yn cyrchu atynt bob borau, meddyliais mai nid anfuddiol fyddai rhoddi darluniad byr ohonynt. Eu harchwaeth sydd heliaidd a brwmstanaidd, eu harogliad sydd debyg i arogliad fflamlwch, a'u lliw (ar eu tarddiad cyntaf o'r graig) sydd debyg i eiddo llaeth. Y tymhor gorau i'w hyfed, ydyw, o ganol Ebrill hyd ddiwedd Hydref; ond gellir eu hyfed drwy'r gauaf. Ni ddylid yfed ohonynt (oddithyr ar rai achlysuron) fwy na galwyn. Dywedir, mai ychydig o feddyginiaethau sydd yn rhagori ar ddyfroedd o'r natur yma, i'r dyben i iawn-drefnu anhwylderau yn y cylla a'r ymasgaroedd. Y meant hefyd yn dra llesiol i wendid yn y geneuau, i refrwst (colic), i bruddglwyf, i anmhlantadrwydd, i wendid menywaidd, ac i hen ddoluriau: y mae hefyd yn fanteisiol i'r gewynst, y gymalwst a'r graianwst. Llawer, trwy yfed o'r dyfroedd rhinweddol hyn, a ryddhawyd oddiwrth amrywiol lynger, ac a iachawyd yn hollol. Gallwn ychwanegu, trwy henwi llawer ag sydd heddyw yn dystion byw eu bod wedi cael eu hiachau o amrywiol glefydau, trwy yfed o'r dyfroedd rhinweddol hyn; ond tawaf y tro hwn, rhag eich blino a meithder. Gobeithiaf y bydd i bawb a ddeuant i ymofyn meddyginiaeth i'w cyrph oddiwrth y dyfroedd hyn, gofio am ddyfroedd yr iachawdwriaeth, y rhai sydd yn meddyginiaethu yr enaid, a'u bod yn rhad i bawb, a chroesaw i bawb, yn ddiwahaniaeth, gyfranogi o honynt.

Ffynnon-yr-Offeiriad, Dolwyddelan (SH735525) 

O ysgrif ar 'Hanes Plwyf Dolyddelen' yn Gweithiau Gethin, &c (Llanrwst 1884), Golygydd E. Humphreys. tudalen 295.

…ger Llwyn Graienig, a gadawn ar y dde hen ffynnon rinweddol sydd wrth ochr y ffordd, a golwg lled ddiystyr arni yn awr, ond y mae ynddi gyflawnder o ddwfr bob amser, a hwnnw o'r fath bereiddiaf. Y mae ei gofer i'r de, ac felly ystyrid hi yn yr hen amser yn rhinweddol ac effeithiol i feddyginiaethau defaid a ddigwyddai godi ar ddwylaw dynion. Yn gyffredin gelwid hi "Ffynnon'r Offeiriad," ac islaw iddi y mae "Sarn yr Offeiriad." Mae amryw draddodiadau ar lafar gwlad am y ffynnon a'r sarn hon; dywed un dosbarth fod Offeiriad a fu yn gweinidogaethu yn Nolyddelan a Chapel Curig, wedi boddi wrth geisio croesi yr afon ar lif mawr. Dywedir hefyd fod hen sefydliad mawr yn Llwyn Graienig, ac fod yno Offeiriad Derwyddol yn byw, a'i fod yn arfer cyfarfod teithwyr ar y Sarn a'u taenellu gyda dwfr o'r ffynnon sydd gerllaw. Byddai yn gwneyd hynny yn neillduol gyda'r milwyr; oblegyd dyma y brif ffordd a mwyaf o deithio arni, o'r un roedd yn ein gwlad yn y canol oesoedd, canys yr oedd yn cysylltu Meirion, a Chantref y gwaelod, ac Eifionydd gyda rhannau gogleddol swydd Arfon

Ffynnon Eidda (SH7643)

Ar dudalen 273 yr un gyfrol, mewn ysgrif ar 'Ysbytty Ifan a'i hynafiaethau', ceir yr wybodaeth ganlynol:

… saif Ffynnon Eidda, yr hon a ystyrid gynt yn rhinweddol, ac yn effeithiol i symud a gwella anhwylderau. Mae ei gofer yn gryf orlifo bob amser o ddwfr gloyw a blasus, ac y mae maen-saerniaeth da wedi ei wneyd o'i chwmpas, pan oedd yr Ystad yn meddiant Lord Mostyn.

Ffynnon Engan, Llanengan, Llŷn (SH295270)

(Codwyd o erthygl H.R. Roberts, 'Llanengan' yn Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn, a olygwyd gan D.T. Davies (Pwllheli 1910).

Yn ei 'Cywydd Einion Frenin' cyfeiria'r awdur Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys (fl.1460) at y brenin yn cryfhau'r ffynnon i Engan, nawddsant eglwys Llanengan.

'Gorphenaist Gaer y Ffynon'

Yn nodyn Ll, 21 ar dudalen 156 dywedir:-

Ceir olion i brofi ei bod unwaith yn amgylchedig a mur pedronglog o'r un gwaith yn ymddangos a mur yr eglwys, yn nghyd ag eisteddleoedd a grisiau cyfleus. Yn y ffynon hon, gynt arferid trochi plant ac eraill, meddir, a diamau y byddai yr hen bobl yn credu fod amrywiol rinweddau yn perthyn i'r Ffynhonnau Eglwysig.

Ffynnon Eilian, Llaneilian-yn-Rhos, sir Ddinbych (SH 862772) 

Yn y gyfrol Methodistiaeth yn Nosbarth Colwyn Bay gan y Parchedigion T. Parry a J.M. Jones a gyhoeddwyd yn 1909, ceir yr wybodaeth ganlynol am Lanelian a Ffynnon Elian:

Pwy sydd heb glywed am y lle hwn! Y mae yn hynod ar lawer cyfrif, nid yn unig ar gyfrif y Ffynon adnabyddus. Ceir fod lluaws o Ffynhonau hynod yn Nghymru yn yr hen oesoedd, ond dywedir fod Ffynnon Elian yn un o'r prif rai ohonynt, gan dywedir fod ynddi allu i niweidio, yn gystal a llesoli - cysylltid melldith a bendith gyda hi, a bu adeg y byddai yr enw yn dychryn. Credai rhai ei bod yn cael ei galw ar enw Eilian ab Gallgu Redegog, o hil Cadros Calchfynydd, a thybir ei fod ef yn byw oddeutu 600 O.C., tra mai traddodiad arall am ei dechreuad ydyw fod meudwy yn digwydd myned heibio iddi unwaith, ac yr oedd ef yn gyfryw sant a gawsai unrhyw beth a ofynai am dano. Aeth yn wael ar y daith. Eisteddodd ar ochr y ffordd mewn trallod, a gweddiodd am ddwfr i'w yfed, a gwrandawyd ef. Tarddodd ffynnon loew yn ei ymyl: yfodd ohoni, a llwyr wellhaodd. Ar ol gwella, gweddiodd drachefn ar i'r ffynnon honno fod yn foddion i wneyd i bawb a ofynai iddi mewn ffydd beth bynnag a ddymunent. Trwy hyn, a moddion eraill cyffelyb, daeth y wlad i gredu yn rhyfedd ynddi, ac anhawdd dywedyd y twyll a'r ofergoeledd a fy yn nglyn a hi am ganrifoedd.

Fel un enghraifft i ddangos y sefyllfa, dodwn yma hanes a geir yn 'Ngoleuad Gwynedd,' am Mai 1819, am y Frawdlys Chwarterol a gynnelid yn y Wyddgrug, Ebrill 1819, a cheir mai un o'r achosion gerbron oedd yn nglyn a Ffynnon Eilian. Ymddengys fod un Edward Pierce, Llandyrnog, yn dwyn cyhuddiad yn erbyn un John Edwards, Berthddu, Llaneurgain, am ei dwyllo, ac yr oedd yr achos yn tynu sylw mawr ar y pryd. Tystiolaethwyd fod

John Edwards, diweddar o blwyf Llanelwy, wedi twyllo Edward Pierce am ei arian y 31 dydd o Mai, yn anghyfreithlawn, gwybyddus, a bwriadol; cymerodd arno wrth Edward Pierce ei fod ef wedi cael ei roddi yn Ffynnon Elian, ac y deuai rhyw ddrygau ac aflwyddiant dirfawr arno; ond y gallai efe attal y drygau hyn, trwy dynu ei enw allan o'r ffynnon, os talai efe bymtheg swllt iddo. A thrwy y chwedl ffuantus hon, derbyniodd John Edwards gan Edward Pierce swm o arian, sef pedwar-swllt-ar-ddeg a chwe'cheiniog, a hynny trwy dwyll a rhith.

Ceir adroddiad manwl am y prawf a'r tystiolaethau, &c., a dyma y diwedd:-

Y Prif-ynad dysgedig, wrth symio y cwbl i fyny, a sylwodd lawer ar ysgelerder y bai, ac a ail-adroddodd y tystiolaethau, gyda medr a hyawdledd. Y Rheithwyr wedi ymgynghori am ychydig fynydau, a farnasant John Edwards yn euog. Yna fe'i dan fonwyd yn ol, gan ei orchymyn i gael ei ddwyn i dderbyn ei ddedfryd y dydd canlynol. Barnodd y Llys fod ei drosedd yn haeddu alltudiaeth (transportation), ond wrth ystyried mai y troseddiad cyntaf iddo ydoedd, a'i fod wedi ei garcgaru er y Brawdlys diwethaf, hwy a'i barnasant ef i gael ei garcharu ym mhellach am ddeuddeg mis.

Wedi i'r Methodistiaid gychwyn achos yn y gymdogaeth hon, ac wedi casglu ychydig nerth, un o'r pethau cyntaf a wnaethant ydoedd crynhoi eu galluoedd yn nghyd i drefnu ymosodiad cryf ar dwyll a honiadaeth Ffynnon Elian. Gwnaeth y ddeadell fechan ei rhan yn wrol i ddinoethi y twyll, a dengys hanes yr ymgyrch fod y Methodistiaid boreuol yn fyw ac yn effro i beryglon eu hoes, ac yn gwneyd ei goreu i amddiffyn a dyrchafu eu gwlad…Rhaid cofio fod y Ffynon hon o fewn oddeutu 30 llath i gapel y Nant, Llanelian, ac ar dir Cefnffynnon (lle y prewylia yn bresennol Mr. David Evans, un o swyddogion yr eglwys).

(Ysgrifennwyd nifer o lythyrau i'r Goleuad yn sôn am yr hyn oedd yn digwydd wrth Ffynnon Elian. Hwyrach y daw cyfle eto inni gyfeirio atynt yn Llygad y Ffynnon.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

 

Gwen Evans, Rhuthun                                   Maldwyn a Margaret Roberts, Coedllai.

Gwen Burton, Blaenau Ffestiniog                    Mavis Williams, Treuddyn

Elfed a Margaret Jean Jones, Henryd

Howard a Meima Morse, Llangeitho

Geraint Wyn Roberts, Ystradgynlais

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

ADOLYGIAD gan Howard Huws

Rattue, James. The Living Stream: Holy Wells in Historical Context

                        (Woodbridge: Boydell Press, 1995) (i-vi) 183tt. £16.99 (clawr papur)

Dyma gyfrol y dylai ei neges fod ar gof unrhyw un sy'n ymddiddori mewn traddodiad: byddwn ar ein gwyliadwraeth rhag ymchwil anghyflawn, grym ein dychymyg, a'r duedd i ddethol a dehongli tystiolaeth yn un â'n rhagfarnau ein hunain.

Dadl Rattue yw bod y dystiolaeth ynghylch ffynhonnau sanctaidd wedi ei chasglu mewn modd mympwyol, annisgybledig ac anghyflawn; bod amrywiaethau enfawr yn ansawdd y dystiolaeth, pa bryd ac ymhle y'i cofnodwyd, i ba raddau, gan bwy, ac i ba ddiben. Mae anghofio hynny wedi arwain at ddamcaniaethu simsan iawn ynghylch hynafiaeth, diben a thraddodiad y ffynhonnau.

Yn rhy aml mae gan gasglwyr traddodiad ragdybiaethau personol sy'n eu harwain i ddewis ac i ddehongli tystiolaeth yn unol â darlun o orffennol delfrydol. Mae hynny, yn ei dro, yn cyfiawnhau eu hagweddau at y presennol hwn. Lle nad oes tystiolaeth gyfleus ar gael gall tybiaeth lenwi'r bylchau, neu os yw'r dystiolaeth yn anghyfleus, gellir ei hanwybyddu. Llawer gwaith y gollyngir dros gof fodolaeth ac arwyddocâd ffynhonnau nad ydynt yn sanctaidd, ac y diystyrir holl gyd-destun y traddodiadau lleol hynny nad oes a wnelo hwy, ar yr olwg gyntaf, ddim â'r ffynnon ei hun.

Oherwydd i'r dysgedigion esgeuluso'r maes, fe'i gadawyd i'r rhai sy'n defnyddio ffynhonnau sanctaidd er mwyn hyrwyddo daliadau megis Celtomania, afresymoliaeth, ffeministiaeth a rhamantiaeth. O weld hynny, mae'r rhai sy'n well ganddynt ymchwilio ar sail rheswm yn cadw draw; nid ydynt am fod yn gysylltiedig â'r tueddiadau uchod. Sefydlwyd cylch dieflig. Mae awdur y gyfrol yn dadlau o blaid dwyn astudiaeth o ffynhonnau sanctaidd eto i'r gorlan academaidd, nid er mwyn gwagio'r ffynnon o'i dŵr bywiol a'i llenwi â llwch ysgolheictod, ond er mwyn sicrhau bod astudio a chofnodi yn digwydd mewn modd trylwyr a disgybledig; fod canfod a chadw'r cyfan o'r dystiolaeth; a bod tynnu ffiniau rhwng ffaith, tybiaeth a ffantasi.

Nid yw'r gwirionedd yn bygwth Sancteiddrwydd. I'r gwrthwyneb, y mae'n briodoledd Sancteiddrwydd, a thrwy ganlyn y gwirionedd daw'r sanctaidd i'r amlwg. Gwyddom fel y gall anwybodaeth a ffug-ysbrydolrwydd orchuddio a thagu llif y dŵr. Credaf, felly, y dylid rhoi sylw i ddadleuon ac amcanion awdur y gyfrol ac rwyf yn eich annog i ddarllen ei waith.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DŴR - FFYNNON BYWYD gan Margaret Jean Jones 

Cofir gaeaf 2000-2001 am ei lifogydd, a o ganlyniad i hynny am y pwysau a roddwyd ar yr awdurdodau i ddiogelu ardaloedd rhag llifeiriant dŵr yn y dyfodol. Cydnabyddir Cymru fel gwlad hyfryd ei golygfeydd ac mae ei chyflenwad o ddŵr - y traethau, y llynnoedd, yr aberoedd, yr afonydd, y nentydd a'r ffynhonnau - oll yn cyfrannu at harddwch y wlad a'i ffrwythlonder. Erbyn heddiw mae cyflenwad o ddŵr glân yn dod i bob cartref a'r Awdurdod Dŵr yn gofalu am lanweithdra'r cyflenwad hwnnw. Ond nid felly yr oedd, ac oherwydd hynny roedd cael cyflenwad o ddŵr glân ger eich cartref yn holl bwysig. I'r amaethwr, boed yn ffermwr neu'n dyddynnwr, roedd yn rhaid cael dŵr i'r teulu, yr anifeiliaid a'r dofednod gerllaw'r cartref.

Roedd pwmp dŵr ym mhob pentref. Cofiaf mai yng nghanol pentref Llanddona, Ynys Môn (SH5779) yr oedd y pwmp i'r pentref, ger y fan lle byddai'r bws cyhoeddus yn arfer troi i fynd yn ôl am Beaumaris a Bangor. Nid yw'r pwmp yno mwyach ond mae'n siŵr fod tarddiad y dŵr yn dal yno o dan y ddaear. Y mae chwedl ynghlwm wrth hanes gwrachod Llanddona sy'n egluro tarddiad un o'r ffynhonnau ar y traeth. Yr oedd y ffynnon ym Mhen-trans ar y traeth, a ffynnon - sydd yn dal yno - ar ochr y llwybr at Dŷ Mawr Llan - fferm fechan islaw eglwys Llanddona. Roedd pwmp dŵr yn cyflenwi dŵr i'm cartref ym Mryniau Mawr pan oeddwn yn blentyn - nid oedd y pwmp yn gweithio ond taflai mam bwced wrth raff i lawr y pydew i godi'r dŵr ohono. Roedd ffordd o daflu'r bwced i lawr i wneud yn siŵr ei fod yn llenwi â dŵr. Pan oedd y cyflenwad yn y pwmp yn isel âi fy mrawd hŷn i lawr y pydew a llenwi'r bwced â dŵr. Byddai arnaf ofn iddo fethu dod i fyny yn ei ôl, ond sylwn ar ei ofal wrth afael yng nghoes y pwmp a gosod ei draed yn gelfydd rhwng y cerrig oedd yn ffurfio'r pydew i godi ei hun yn ei ôl ar ôl iddo lenwi'r bwced i Mam.

Ar hafau sych iawn sychai'r pwmp a rhaid oedd croesi caeau i fynd at ddwy ffynnon. Croesi tri chae i fynd at ffynnon ar dir fferm Tŷ Du a cherdded i lawr y ffordd a chroesi un cae i fynd at ffynnon ar dir Tan Dinas. Roeddem yn cael ein dysgu i beidio â gwastraffu'r dŵr ac roedd y dŵr golchi a'r dŵr ymolchi yn aml iawn yn cael eu hail-ddefnyddio, fel yr awgrymir yng ngeiriau'r gân:

            Roedd Millicent May, y ferch hynaf,

            Yn hwyr yn yr ysgol bob dydd

            A hynny wrth ddisgwyl y basin -

Mae'n debyg bod gan ardaloedd ledled Cymru ffynhonnau fel hyn. Gwyddom am ein ffynhonnau pwysig megis Ffynnon Non, Ffynnon Gwenfrewi, Ffynnon Sara (Derwen), a Ffynnon Fair, Uwchmynydd, Aberdaron. Mae Ffynnon Seiriol, Penmon yn gyrchfan i lawer o ymwelwyr, felly hefyd ffynhonnau llesol Trefriw. Ym mynwent hen eglwys Llangelynnin uwchben ardal Henryd, ceir ffynnon y dywedir ei bod yn boblogaidd iawn ers talwm i ddod â phlant a oedd ag afiechyd ar y croen yno i ymolchi yn y dŵr.

Mae dŵr yn hanfod bywyd. Roedd pris ar ddewin dŵr yn y blynyddoedd a fu a diddorol oedd sylwi arnynt wrth eu gwaith. Hyderaf fod hyn o ysgrif yn eich ysgogi, y rhai fel fi sy'n mynd yn hŷn, i geisio cofio am yr hen ffynhonnau o amgylch eich cartrefi a sut y cronnwyd y nant a'r pistyll i gyflenwi angen y fferm a'r tyddyn. Hoff yw cofio'r ymgom ddiddan a'r chwarae iach wrth gludo dŵr.

Dyma leoliad y ffynhonnau y cyfeirir atynt yn yr erthygl uchod:

Ffynnon Non, Ty-ddewi, Penfro (SM7525)

Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon, Sir y Fflint (SJ1875)

Ffynnon Sara, Derwen, Sir Ddinbych (SJ066517)

Ffynnon Fair, Uwchmynydd, Aberdaron (SH138252)

Ffynnon Seiriol, Penmon, Môn (SH613808)

Ffynhonnau Trefriw (SH7863)

Ffynnon Gelynnin, Llangelynnin (SH751737)

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU PERYGLUS SIR GAERNARFON

YN Y DDEUNAWFED GANRIF!

  gan Ken Lloyd Gruffydd

  Yn ei astudiaeth fanwl o dref Pwllheli (SH3735), dengys Lloyd Hughes [1] fod corfforaeth y fwrdeistref wedi sylweddoli, cyn belled yn ôl ag 1742, fod diogelu purdeb dŵr ei ffynhonnau yn hanfodol bwysig ac ymhen tair blynedd roedd ganddynt bedair i'w goruchwylio. Yng nghwrt y Llys Chwarter am dymor y gaeaf 1756 dyfarnwyd bod y tarddiad dŵr ger y 'Gors' a elwid Ffynnon-yr-onnen yn berygl i'r cyhoedd ac mai cyfrifoldeb trigolion y dref oedd ei hatgyweirio [2], ond ni osodwyd pwmp arni am ddegawd arall [3]. Mae'n amlwg fod cafn o waith cerrig sylweddol ynghlwm â hi hefyd oherwydd yn 1797 soniwyd am wragedd lleol a oedd yn 'golchi clytiau, mopiau a bareli' ynddi [4].

  Ym mhapurau Cwrt y Sesiwn Fawr am dymor yr haf 1782 down ar draws y crwner a'i reithgor yn arwyddo tystysgrif i'r perwyl fod Robert William, bachgen bach tair oed, wedi boddi mewn pistyll o'r enw Ffynnon Llywarch a safai yng nghanol pentref Trefriw (SH7863). Yn iaith swyddogol yr ymchwiliad dywedid 'nid oedd marc wedi ei achosi gan drais ar ei berson.' Datgelwyd hefyd fod y bychan yn chwarae gyda phlentyn arall o'r un oed pan ddigwyddodd y drychineb [5].

  Cynhelid cwest ynglŷn â phob marwolaeth amheus neu ddi-dyst. Fel arfer gelwid ar ddwsin o'r plwyfolion  i wasanaethu fel aelodau o'r rheithgor. Wedi clywed y dystiolaeth (weithiau dim ond sylwadau'r meddyg yn unig oedd ar gael), byddent yn mynegi eu barn ar sut y daeth yr unigolyn anffodus i golli ei fywyd. Ar adegau cynhelid yr ymchwiliad hwn allan yn yr awyr agored yn y fan ble darganfuwyd y corff, er mwyn cael pwyso a mesur pa mor ymarferol fyddai eu damcaniaethau. Ar yr achlysur uchod, ac ar ddau achlysur arall yn y 1790au, dedfrydwyd mai damweiniol oedd y marwolaethau.

  Yn ddi-eithriad, babanod oedd y rhai a foddwyd yn y modd yma. Dwy flynedd a naw mis oedd Jane Jones, merch John Abraham [6] pan gollodd ei bywyd mewn ffynnon gerllaw Goelasbach, plwyf Eglwys-bach (SH8070), Dyffryn Conwy yn 1790. Dywedir iddi ddisgyn ar ei phen i'r dŵr a boddi.[7]

Yn y flwyddyn ganlynol disgyn wysg ei chefn i ffynnon wnaeth Lowri Evans, geneth ddwy a hanner oed, ger y Berth-lwyd ym mhlwyf Botwnnog (SH2631) [9]. Mae dwy ffynnon o fewn tafliad carreg i'r ffermdy hwn, un i'r dwyrain ohoni a'r llall i'r gorllewin.

  Tybed faint o drigolion sir Gaernarfon - a Chymru benbaladr o ran hynny - a wenwynwyd wrth iddynt dorri eu syched gyda dŵr o ffynnon lygredig? Nid oedd meicrobau na cholera yng ngeirfa'r werin bryd hynny!

  Ffynonellau:

1.     D.G. Lloyd Hughes, Hanes Tref Pwllheli (Llandysul 1986), 46.

2.     Gwasanaeth Archifau Gwynedd, XQS/1756/5.

3.     Lloyd Hughes, op. cit.,48.

4.     Ibidem, 48.

5.     Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymru 4/276/2/34.

G. A.G., Cofrestr Plwyf Trefriw.

6.     Archifdy Sir Ddinbych Cofrestr Plwyf Eglwys-bach.

Roedd Trefaenan yn sir Gaernarfon ond ym mhlwyf Eglwys-bach, Esgobaeth Llanelwy.

7.     Ll.G.C., Cymru 4/277/2/31.

8.     G. A.G., Cofrestr Plwyf Botwnnog.

9.     Ll.G.C., Cymru 4/277/3/5.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Gwyrth Ffynnon Sara, Derwen 

(SJ066 517)

Clywyd y canlynol wrth ymweld â chymdeithas chwiorydd yn Rhuthun un ddiweddar:

  Roedd merch ifanc o'r ardal ar fin priodi ond roedd yn dioddef o ecsima ar ei dwylo ac ofnai na fyddai modd iddi fedru gwisgo ei modrwy ar y diwrnod mawr. Fe'i cynghorwyd i fynd at Ffynnon Sara ger Derwen i olchi ei dwylo yn y dŵr. Cliriodd yr ecsima a chafodd ddiwrnod bendigedig. Pwy ddywedodd fod yr hen ffynhonnau wedi colli eu gallu i wella? Os oes gennych chi hanes tebyg, rhowch wybod i'r golygydd er mwyn inni gael ei gofnodi yn Llygad y Ffynnon.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON FYW, MYNYTHO, LLŶN 

(SH309308)

Mae'r ffynnon arbennig hon wedi cael cryn sylw gennym yn Llygad y Ffynnon dros y blynyddoedd a hynny am ei bod yn ffynnon ddiddorol ei hanes a'i phensaernïaeth. Wrth ymweld â hi y llynedd, tristwch i ni oedd sylwi fod y muriau cerrig hynafol wedi eu dymchwel gan unigolion nad oeddynt yn sylweddoli eu gwerth hanesyddol na phensaernïol. Hawdd oedd darogan y byddai'r ffynnon hardd hon yn diflannu o dan y rhedyn ymhen dim amser. Eleni buom ar ymweliad â'r safle a chael nad oedd dim ond yr arwydd yn dynodi'r fan. Nid oedd modd gweld y ffynnon ei hun heb sôn am fynd ati.

Mewn ymgais i geisio achub y ffynnon ysgrifennwyd at Brif Weithredwr Cyngor Dwyfor ddiwedd mis Awst i leisio ein pryder y byddai'r ffynnon yn cael ei difrodi ymhellach os na wneir rhywbeth sylweddol i'w diogelu, a hynny ar fyrder. (Mae tŷ yn cael ei adeiladu bron gyferbyn â'r ffynnon ac ofnwn y bydd y safle'n cael ei orchuddio â rwbel neu wastraff tebyg.) Gofynnwyd a oedd yn bosibl ailadeiladu'r muriau neu rhoi ffens neu relings i ddiogelu'r ffynnon. Byddai clirio'r tir o'i chwmpas er mwyn gweld ei phensaernïaeth yn gam mawr ymlaen.

  Derbyniwyd ateb gan Gyngor Gwynedd ar Hydref 13eg yn dweud fod y mater wedi ei anfon ymlaen at Gyngor Gwynedd. Yn y man daeth ateb yn ôl gan Gyfarwyddwr Strategol y Cyngor, Iwan T. Jones, yn dweud fod nifer o bobl wedi tynnu eu sylw at gyflwr ffynhonnau Llŷn, a chan fod yr ardal yn un o harddwch naturiol eithriadol roedd yn bosibl datblygu prosiect i edrych ar y posibilrwydd o adfer nifer o ffynhonnau.

  Dywedodd fod Ffynnon Fyw ar dir preifat ac y byddai agwedd y perchennog yn allweddol i lwyddiant unrhyw gynllun. Fe'n cyfeiriodd at Swyddog AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol), sef Bleddyn P. Jones. Gofynnodd inni a fedrem gynnig cefnogaeth a chyngor ymarferol a holodd a oedd gennym aelodau a fyddai â diddordeb mewn gweithio ar brosiect yn Llŷn.

  Yn y cyfamser roeddem wedi derbyn ateb gan Bleddyn P. Jones o Adran Cynllunio a Datblygiad Economaidd yngor Dwyfor ar Fedi'r 9ed. Roedd am ofyn ein barn ar y prosiect. Nododd yn ei lythyr:

  Mae rhan o Benrhyn Llŷn wedi ei dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yn ddiweddar mae cyfrifoldeb ychwanegol ar Awdurdodau lleol i gynnal a gwarchod yr ardaloedd hyn. Yn sgil hyn mae Cronfa Datblygu Cynaladwy wedi ei sefydlu i gefnogi prosiectau amgylcheddol yn yr ardal ac mae arian hefyd ar gyfer prosiectau penodol yn yr AHNE. Mae nifer wedi tynnu fy sylw at y cyfoeth o ffynhonnau sydd yn Llŷn a chyflwr truenus rhai ohonynt.

  Fy nheimladau yw y gellir cael prosiect ymchwil fyddai'n cynnwys cofnodi enw, hanes, lleoliad, perchnogaeth a chyflwr ffynhonnau. Gallai hyn gynnwys barn arbenigol pensaer cadwraethol. Gellir dilyn hyn gyda rhaglen o adfer/gwella rhai ffynhonnau sydd ar dir cyhoeddus neu lle byddai'r tirfeddiannwr yn fodlon. Byddwn yn ddiolchgar o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu gymorth y gallech ei roi.

  Yn ein hateb i Bleddyn Jones ddiwedd mis Medi dywedwyd fod ei gynllun cofnodi gwybodaeth am ffynhonnau wedi bod yn nod  gan y Gymdeithas o'r dechrau. Fe'i cyfeiriwyd at ffynonellau printiedig megis Llên Gwerin Sir Gaernarfon gan Myrddin Fardd, The Holy Wells of Wales gan Francis Jones a'r gyfrol Ffynhonnau'r Gogledd yn y gyfres Llyfrau Llafar Gwlad. Nodwyd fod potensial mawr i ddenu twristiaid i Ddwyfor drwy adfer y ffynhonnau gan eu bod o ddiddordeb i drawsdoriad eang o'r boblogaeth, yn gerddwyr, haneswyr a naturiaethwyr. Nodwyd hefyd y gallai llwybrau a ffynhonnau'r pererinion fod o ddiddordeb arbennig iawn.

  Mawr obeithiwn y bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen. Os gwyddoch am unrhyw un a fyddai â diddordeb mewn gweithio ar brosiect o'r fath, neu os ydych chi eich hun yn awyddus i wybod mwy am y prosiect, cysylltwch â Bleddyn P. Jones ar 01758 704155. Ei gyfeiriad yw swyddfa ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA. Cofiwch ddweud eich bod yn aelod i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NADOLIG LLAWEN 

A BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHI!

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch bob gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH.

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Carreg Bach, Ffordd Ffrydlas, Carneddi, Bethesda, LL57 3BH.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argreffir gan Boswell Design and Print, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

  Home Up