LLYGAD Y FFYNNON
Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Rhif
14. Haf 2003
gan
Christopher Naish
Roedd
penwythnos olaf mis Mawrth (29/30) yn anhymorol o gynnes a heulog a da o beth
oedd hynny gan fod rhai aelodau o
gymdeithas Wellsprings, o dan arolygaeth effeithiol Jan Shivel a
Pepper, y ci, wedi dod at ei gilydd
i glirio a glanhau safle Ffynnon Bedr (cyfeirnod map 763692). Mae’r ffynnon ar
gyrion pentre Llanbedrycennin, Dyffryn Conwy, ychydig i’r gorllewin o’r
B5106 yn Nhal-y-bont. O dafarn y Bedol (sy’n cynnig bwyd blasus a pheint
arddechog o gwrw chwerw Burntwood, gyda llaw,) cymerwch y ffordd tua Llanbedr.
Ar ol rhyw chwarter milltir, ac wedi mynd heibio i’r maes chwarae, trowch
i’r chwith ar hyd wtra sy’n arwain at fferm o’r enw Ffynnon
Bedr. Mae’r
ffynnon ei hun yn gorwedd yng nghornel cae ar y dde i’r wtra wrth droed coeden ywen anferth.Mae’r ywen yn tyfu yn ymyl
nant fechan sy’n llifo ar hyd ochr y cae tua’r afon Conwy. Yn ffodus mae
nifer o lwybrau cyhoeddus yn arwain at y safle.
Roedd Allen Meredith o sir Gaerfyrddin,sy’n arbenigwr ar
goed yw, wedi dod yno fel aelod o’r criw i’n cynghori ac i sicrhau nad oedd
yr ywen yn cael ei niwedidio. Hefyd wedi dod i’n cefnogi roedd Eirlys a Ken
Gruffydd o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru. Pan fesurodd Ken y goeden a darganfod
mai 28 troedfedd oedd ei chylchedd sicrhaodd Allen ni ei bod dros dwy fil o
flynyddoedd oed a’r goeden ywen hynaf ym Mhrydain sy’n tyfu dros ffynnon
sanctaidd. Roedd tarddiad y ffynnon yn ymyl yr ywen a’r dwr ohoni yn goferu ar
hyd sianel fer i ymuno a’r nant.
Yn
ol Harold Hughes a Herbert L.
North, awduron The Old Churches of Snowdonia, a gyhoeddwyd yn
1924, roedd adeilad dros y ffynnon a’i fesuriadau mewnol oedd deg troedfedd
wrth naw troedfedd a hanner. Roedd y ffynnon ei hun yn chwech troedfedd wrth
bedair, ac roedd yn dair troedfedd o ddyfnder.
Dechreuodd yr adeilad oedd o gwmpas y ffynnon ddadfeilio
tua diwedd y ddeunawfed ganrif ac erbyn
dechrau’r ugeinfed ganrif,doedd y muriau fawr uwch na lefel y tir o’u cwmpas. Roedd drws yn
wynebu’r dwyrain ond nid oedd unrhyw arwydd o ffenestri yn yr adeilad. Tan
ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd rhieni yn dod a phlant
gwael eu iechyd at y ffynnon
i’w trochi ynddi ac yna byddent yn cael eu cario i gapel bach cyfagos i ddod
atynt eu hunain.
Llanwyd
y ffynnon a cherrig mawr ychydig wedi’r Rhyfel Mawr a hynny, mae’n debyg,
gan dirfeddiannwr oedd yn ceisio rhwystro llif y dwr neu gadw ei anifieliaid
rhag mynd iddo. Oherwydd hyn, meddai Allen, roedd yr ywen wedi ei chael hi’n
anodd goroesi ac nid oedd golwg
iach iawn arni o’i chymharu a
choed yw eraill yn yr ardal. Rhaid
oedd dilyn ei gyngor wrth ddechrau symud y cerrig mawr o’u lle ger y goeden
gan ddefnyddio rhawiau , picasau a pholion haearn. Ceisiais dynnu allan un neu
dwy o’r meini mawr gan ddefnyddio fy modur a rhaff gan obeithio eu llusgo o safle’r ffynnon ond ni lwyddais i wneud hynny am nad oedd
yr olwynion yn gallu cael digon o afael ar y glaswellt. Yr adeg honno roedd
rhaid cael cymorth pawb i dynnu ar y rhaff a chodi ambell garreg fawr o’i
lle. Serch hynny ni lwyddwyd i symud pob carreg
oedd ger yr ywen na chlirio’r sianel lle goferai’r dwr. Ond
wrth symud y cerrig o siambr y ffynnon
roedd yn dda darganfod bod y ddaear
yn wlyb ar waetha’r diffyg glaw. Rydym yn gobeithio y gallwn glirio’r
safle yn fwy trwyadl yn y
dyfodol. Yn y cyfamser rydym yn gobeithio y bydd symud y cerrig oedd wedi eu
dodi o gwmpas y goeden yn ddigon i annog dwr o’r ffynnon i lifo unwaith eto.
Bydd rhaid i ni aros a gweld.
Er nad oedd safle
Ffynnon Bedr yn un ddiddorol iawn
ar yr olwg gyntaf – dim dwr, dim siambr ffynnon, dim byd- mi wnaethon ni
fwynhau’r gwaith caled oedd yn rhaid ei wneud i achub yr hen ywen hynafol
sy’n sefyll fel ceidwad drosti hi. Pwy a wyr na fedrwn ni ail adeiladu’r
ffynnon ei hun yn y dyfodol.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
[Diolch
i’r Parch Emlyn Richards, Cemaes,Ynys Mon, am ganiatau i ni ddyfynu’r
wybodaeth ganlynol am ffynhonnau ar
stad y Brynddu, o’i gyfrol ddifyr Bywyd Gwr Bonheddig (Gwasg Gwynedd)]
Mae’r ffynnon cyn hyned a gwawr
gwareiddiad gan mor werthfawr yw i ffyniant dyn ac anifail. Fu erioed gymaint o
werth ar ffynnon nag yng ngwledydd y dwyrain ac, yn naturiol, bu sawl anghydfod
blin ynglyn a pherchnogaeth sawl un. Cyfrifid cau ffynnon yn weithred o ryfel
yno ac mae’n debyg fod y gan honno yn Llyfr Numeri 21: 12-18 yn un o’r
testunau hynaf yn yr Hen Destament:
‘
Tardda ffynnon, canwch iddi - y ffynnon a gloddiodd y
tywysogion ac a agorodd penaethiaid y bobl a’u gwiail ar fryn.’
Gwyddom
ninnau yng Nghymru yn dda am ddylanwad llen gwerin a thraddodiad ardal ar ein
gwybodaeth am hanes ac enwau ffynhonnau (sydd ymysg yr enwau hynaf mewn unrhyw
iaith, yngyd ag enwau afonydd a llynoedd). Nid yr Iddew yn unig a ganai i’r
ffynnon a’i bendithion a’i rhamant hen, ac yn wir roedd i’r ffynnon
swyddogaeth drifflyg: economaidd, cymdeithasol a chrefyddol. Gan bwysiced oedd y
ffynnon roedd yn ffactor bwysig
ynglyn a lleoliad ferm neu dyddyn ac, yn wir, yn rheswm dros adeiladu sawl
treflan. Gwelwn yn nyddiadur gwr y Brynddu bwysiced oedd y ffynhonnau.
Ond
i werin Cymru yn y ddeunawfed ganrif yr oedd ystyriaethau pwysicach o lawer nag
unrhyw ystyr crefyddol, neu’n wir, feddyginiaethol. Yr oedd y ffynnon fel
anadl einioes iddynt a dwr gloyw glan yn eu disychedu hwy a’u hanifeiliaid. Yr
oedd mor gyffredin iddynt ag y mae’r tap dwr i ni heddiw. Go brin y byddai
William Bwcle wedi son amdanynt o gwbl oni bai ei bod yn rhan gyson o
ddyletswyddau’r dynion i ‘lanhau’r ffynnon’.Yr oedd yn ffactor bwysig
bryd hynny hefyd i ‘gadw’r dwr rhag y baw’. Wrth fynd heibio ar ddamwain y
cyfeiriodd at enw’r ffynnon honno yng Nghae Lloriau, Coeden, sef ‘Ffynnon
Trinculo’. A dyna agor y drws i ddyfalu o ble y daeth yr enw hwn. Hen elyn
gwyllt, i gwr eithaf Mon ar ganol y ddeunawfed ganrif? Dyma’r cofnod ar 30
Mehefin 1736:’I have people at work in clearing water – course of Ffynnon
Trinculo in Coyden from the said well to the Bridge.’ Fe red afonig o’r llyn
malu yng Nghoeden heibio i’r ffynnon hon gan gymryd ei gofer oer. Yn ddiddorol
iawn mae’r ffynnon yno o hyd a’r gwaith cerrig celfydd yn cylchynnu ei
dyfroedd clir. Mae hen wartheg powld wedi rhoi hergwd i’w chapan o faen a’i
ogwyddo ar ochr ei phen fel dyn meddw. Un o dafelli’r graig o Gae’r Lloriau
yw’r cap, brethyn cartre os bu un erioed! Fe fynn rhai yn ardal Llanfechell o
hyd na sychodd ac na fu pall erioed ar
ddyfroedd y Trinculo; aiff ambell un mor hyf a dweud na sychith hon fyth!
.
Ni ddywed William Bwcle iddi sychu chwaith yn ei gofnod am18 Awst 1741:
Yn
ol cof ardal yr oedd haf 1911 yn eithriadol o sych ac fe sychodd y ffynhonnau,
ond yn ol y son, yr oedd Ffynnon Trinculo yn goferu trosodd. Eto, ym 1959,
bu’n haf anhygoel o sych. Ni chafwyd yr un diferyn o law o fis Mai hyd
ddechrau Hydref, ac yn wir, yn ol y son eto, ni hysbyddodd y Trinculo:
This
summer and Autumn exceeds in heat and dryness all the summers
in
memory of man, for not only all the fresh water mills dryed thro’
the
country but also in a manner all the rivers and most of the springs. My
well by
the Kiln that never was known to fail, now stands still and does not
run out
and many other wells so that there is a great scarcity of water
especially
for cattle throughout the country.
A
dyna ddigon i gefnogwyr Trinculo ddweud nad yw’n enwi eu ffynnon fel un a
sychodd. Yn ol disgrifiad y dyddiadurwr daeth y sychdwr mawr hwnnw i ben ar ol
iddi‘Rained prodigious’ ar 7-8 Medi 1941. Dechreuodd fwrw tua deg o’r
gloch ar 7 Medi a’i harllwys hi hyd bump ar yr wythfed gan adael afonydd yn
rhedeg hyd y caeau. Wedi haf crasboeth 1976 daeth glaw direol ar ddyddiau cyntaf
mis Medi’r flwyddyn honno hefyd.
Ond
beth am yr enw – Trinculo? O ble y daeth hwn a phwy a’i bedyddiodd a dod a
hi i amlygrwydd? Yn ol awduron Enwau Lleoedd Mon mae’r enw yn un cwbl
unigryw ac yn cyfateb yn union i enw cymeriad yn y ddrama enwog The Tempest
gan William Shakespeare. Yn ol F.G. Stokes mae enw’r cymeriad wedi ei
fabwysiadu o’r gair Eidaleg ‘trincare’, sef ‘llymeitian’. Ar
sail hyn mae’n naturiol tybied fod yma ryw flas neu werth arbennig i ddwr y
ffynnon hon. Mae pob lle i gredu y byddai
William Bwcle yn hyddysg yn nramau Shakespeare. Gwyddom y byddai’r dyddiadurwr
yn ymwelydd cyson a’r theatr yn Nulyn ac fe allasai fod wedi mwynhau
perfformiad o’r Tempest yno. Tybed ai ef a roddodd yr enw ar y ffynnon?
Tybed ai ysfa gellweirus William Bwcle sydd ar waith yma? Gwyddom am ei hoffter
o lasenwau a’i gellwair parhaus. Neu tybed a oes i’r enw ryw ystyr gyfrin
nas gwyddom ac na chawn fyth wybod? Pam na fyddai’r dyddiadurwr hwn fel sawl
un arall wedi ychwanegu gair neu ddau o eglurhad?
Ond
beth bynnag am ystyr yr enw, byddai cryn amrywiaeth yn ansawdd dyfroedd y
gwahanol ffynhonnau. Yr oedd dwr ambell un yn llawer pereiddiach na’r llall.
Byddai cryfach tarddell i ambell ffynnon a ddaliai’r sychder yn well. Byddai
trai a llanw’r mor yn effeithio ar ddwy ffynnon ym mhlwyf Llanfechell a hefyd
ar ffynhonnau Bodelwyn a Tros y Mynydd ar stad y Brynddu. Yr oedd gan bob tyddyn
a fferm eu ffynhonnau o fewn cyrraedd i’r ty a chai’r ffynhonnau hyn gryn
sylw gan y perchnogion. Fe gawn gofnod diddorol iawn gan y ddyddiadurwr ynglyn
a’i ffynnon ei hun yn y Brynddu, sy’n dangos y meddwl mawr a’r gofal a
oedd gan bob teulu o’i ffynnon. Ar 28 Mai 1748, nododd: ‘the men are
carrying stones to new making the old well by the kiln both larger and
handsomer’. Y mae’r gair ‘harddu’ yn ddiddorol yn y cyswllt yma ac yn
awgrymu, mae’n debyg, y byddai peth balchder ynglyn a ffynnon y teulu a
thebygol y ceid addurniadau yng ngwaith y seiri maen a adeiladai’r math hwn o
ffynhonnau.
Ond
er pwysiced y ffynhonnau hyn, heb os yr oedd ffynnon y pentref yn bwysicach. Yr
oedd gan bob pentref ei ffynnon neu ddwy ar safleoedd cyhoeddus, yn weddol agos
os oedd modd, i groes y pentref. Daeth y rhain yn fannau cyfarfod poblogaidd
iawn lle rhoid y byd yn ei le – rhyw Ffynnon Jacob Gymreig. Bu achlysur pwysig
ynglyn a Ffynnon Mechell, yn ol y dyddiadurwr, ar 15 Mehefin 1736:
Today the Parson and others of the Inhabitants of the town of
Llanfechell removed the Well – that lay betwixt Ann Warmingham’s house and
the bridge (and just by the river) higher up and further from the river by 6 or
7 yards.
Mae’n
anodd iawn gwybod paham y bu’n rhaid symud y ffynnon o gwbl. Yn ddiddorol
iawn, mae hi yno o hyd, rai llathenni i fyny oddi wrth y ffordd fawr sy’n
arwain i’r Mynydd. Wrth y ffordd y mae’r pwmp o hyd ac mae amryw o’r
trigolion yn cofio’n dda am ddyddiau cyrchu dwr ohono. Mae’n rhaid ei fod yn
ddigwyddiad o gryn bwys gan fod Richard Bwcle, y person, wedi ymuno a’r
plwyfolion, a phur anaml y cawn ni gyfeiriad ato ef y tu allan i gyffiniau’r
eglwys,. Gan nad oes son fod William Bwcle ei hun wedi ymuno a hwy, tybed ai
cysegru’r lleoliad newydd oedd swydd y person ac, os felly, ni fyddai gan y
dyddiadurwr fawr o ddiddordeb mewn
rhyw ddefod felly.
Chwaraeai’r
ffynhonnau ran bwysig iawn yn hanes y pentrefi. Yr oedd cryn wahaniaeth ynddynt
ac amrywient yn eu nodweddion. Enillodd ambell ffynnon gryn enw ar sail dwr
nodedig ei flas a cheid ambell un ac arni waith hardd a chelfydd o gerrig
addurnol. Yr oedd gwaith celfydd iawn ar Ffynnon Ty
Hen, ym Mynydd Mechell. Yn
wir, byddai’r plant, Richard a Huw, yn arfer reidio beic tair olwyn o gwmpas y
ffynnon honno gan fod y wal mor llydan a chryf. Ond pennaf prawf unrhyw ffynnon
fyddai cryfder ei ffrwd – y ffrydiau hynny a’i bwydai o eigion y ddaear. Yn
wir, dyma fyddai sgwrs y trigolion ar blyciau o sychder – ‘Ydi’r ffynoon
yn dal?’ Pryderai William Bwcle yn go arw yn haf 1741 gan fod y ffynhonnau yn
sychu, a thestun siarad fu haf 1959 yn enwedig gan i Robert Owen, Ty Hen a
Richard, y mab, fynd yn bur llechwraidd un bore o haf crasboeth i lawr i’r
Llan i mofyn dwr o bwmp Mechell, ger Tal-y bont, gan i ffynnon Ty Hen fynd yn
hesb.
Cyn
troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhoed pwmp o haearn bwrw i godi’r dwr.
Daeth y rhain yn addurn gorchestol ym mhentrefi cefn gwlad er y bu cryn
wrthwynebu’r fath syniad, yn arbennig cuddio’r ffynnon hefo rhyw sowldiwr
du! Mae’r ddau bwmp ar bob cwr o bentref Llanfechell o hyd yn nodi’r fan lle
gynt, yn oes William Bwcle, y ceid y ddwy ffynnon – Ffynnon Mechell a
Ffynnon Tal-y-bont. Canodd Ianto Soch – hen fardd gwlad gwreiddiol o Wlad Llyn – yn
hiraethus i’r ffynnon pan bibellwyd y dwr i gartrefi Llyn:
’Rwy’n ofni mai dy bensiwn
Fydd
llond dy fol o ro.
’Rol gwasanaethu’n ddistaw
Drigolion tlawd dy fro.
Dyma
fanylion am y ffynhonnau a enwyd yn yr erthygl uchod fel eu ceir yn
Enwau Lleoedd Mon gan
Gwilym
T. Jones a Tomos Roberts. Rhifau cyfeirnod drwy garedigrwydd Ken Lloyd Gruffydd
ac mor gywir ac sy’n bosib heb adnabod yr ardal:
Ffynnon
Padric
(Badrig) – yn Llanbadrig /Cemais. Ymddengys
fod yna ddwy ffynnon yn coffau Padrig, y naill gerllaw Eglwys Llanbadrig
(SH3794) a’r llall yn nes i Borthwen
(SH4094) ar ochr ddwyreiniol y plwyf.
Ffynnon
Eilian –
i’r gogledd orllewin o Eglwys Llaneilian ac o fewn chwarter milltir i Borth
Newydd.(SH 466934)
Ffynnon
Trinculo –
Ar dir fferm yn dwyn yr enw Coeden ym mhlwyf Llanfechell.
Ffynnon
Fechell –
Llanfechell ar lecyn yn dwyn yr enw Waen fawr.( SH 369913)
Ffynnon
Tal–y-Bont,
Llanfechell (SH3694)
Ffynnon
Ty Hen,
Mynydd Mechell (SH3689)
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
CROESO
I AELODAU NEWYDD
Meirick Lloyd Davies, Cefn Meiriadog,
Abergele.
Doris Thomas, Llangefni,
Ynys Mon.
Dr. Mike B Rees-Jones, Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn.
Cymdeithas Hanes Amaethyddiaeth.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Daeth yn amser i dalu tal aelodaeth am y flwyddyn
Awst 2003 i Awst 2004. Diolch i’r rhai ohonoch a drefnodd dalu drwy archeb
banc, neu sy’n aelodau am oes. cewch chi diystyry’r cais uchod. Os ydych yn
talu’ch tal yn flynyddol byddai’r Trysorydd, Ken Gruffydd, yn falch o derbyn
eich tal aelodaeth mor fuan a phosibl.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Maes
Eisteddfod maldwyn a’r gororau -
Pabell y cymdeithasau
Dydd
mercher, 6 awst AM 12.00 O’R GLOCH
Cyfarfod cyffredinol cymdeithas ffynhonnau cymru
A
SGWRS
AR FFYNHONNAU MALDWYN
GAN
Nia rhosier ac Arfon Hughes
Croeso cynnes i bawb
Ond
does golwg braf arnyn nhw! – Ken Lloyd Gruffydd,
Gwyn Edwards, Dewi Lewis, Emrys Evans, Howard Huws, Ann Williams, Jane
Hughes .(Eirlys Gruffydd y tu ol i’r camera.) Bu’r cyfarfod yn festri Capel
y porth, Porthmadog brynhawn dydd Gwyl Ddewi – ac mi ddaeth i fwrw glaw’n
drwm yn union yr un fath a diwrnod ein cyfarfod blynyddol yn yr Eisteddfod yn
Nhyddewi llynedd! Wel, pethau gwlyb yw ffynhonnau onid e. Yn ystod y cyfarfod dymunodd y Cadeirydd, Dewi Lewis gael ei
rhyddhau o’i swydd ac etholwyd
Howard Huws, fel yr Is-gadeirydd i
lenwi’r swydd. Diolch i Dewi am ei waith da a’i ymrwymiad i’r Gymdeithas
ers 1996 a diolch i Howard am gymryd at y gwaith.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
‘Ar brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’ ddiwedd Mai aeth Ken a minnau i ymweld a Chemaes ym Maldwyn gyda’r bwriad o weld y ffynnon uchod. Rhai wythnosau yng nghynt roedd dau o aelodau’r Gymdeithas, Pat a Meurig Jones, Swyddffynnon, Ceredigion wedi bod yn ymweld a’r eglwys yng Nghemaes ac wedi digwydd cyfarfod a Dorothy Ryder Jones sydd a diddordeb mawr yn yr eglwys a’r ffynnon sydd islaw i fur gogleddol y fynwent. Soniodd Pat a Meurig wrthi am Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a rhoi ei henw a’i chyfeiriad i ni. Trefnwyd i ni gwrdd a Dorothy ac ymweld a’r ffynnon.
Daeth
Ceurwyn Hughes, Mallwyd a Wyn Evans hefyd i’n cyfarfod a mentrodd y pump
ohonom i lawr yr allt serth goediog at y ffynnon. Roedd yn werth yr ymdrech. Gan
ei bod mewn man digon anodd mynd ati mae’r ffynnon wedi cadw mewn cyflwr
ardderchog. Mae tua chwech troedfedd o hyd a phedair o led ac unwaith bu o leiaf
pedwar o risiau yn mynd i lawr at y dwr. Dyfnder y dwr ynddi yw dwy droedfedd.
Mae’n goferu’n gryf i’r afon Ddyfi sy’n llifo rhyw ddeg llath ar hugain
islaw .Mae muriau o’i chwmpas ar dair ochr o hyd ac mae olion o fur ar y
bedwaredd ochr hefyd. Gan ei bod mewn lle gweddol dywyll o dan y coed nid oes
tyfiant gwyllt yn ei llanw ond mae ei chyflwr da hefyd i’w briodoli i’r
ffaith fod Wyn wedi bod yno yn ei glanhau’n achlysurol. Heb amheuaeth mae hon
yn ffynnon hynafol o faint sylweddol a’i lleoliad mor agos a hyn i’r eglwys
yn ei gwneud yn ffynnon sanctaidd. Er nad oes gennym brawf dogfennol ar hyn o
bryd mae hon yw Ffynnon Dydecho rydym yn ffyddiog mai dyna ydyw. Os oes gan
rhywun wybodaeth am y ffynnon arbennig hon byddem yn falch iawn o gael clywed
gennych. Pob hwyl i gyfeillion Cemaes yn eu hymdrech i ddiogelu Ffynnon Dydecho
a’i dwyn i amlygrwydd. Mae’n siwr y cawn fwy o’i hanes yn y dyfodol.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Diolch
i Erwyd Howells am anfon y wybodaeth yma atom
o’r gyfrol Dinas Mawddwy a’i Hamgylchedd gan Tecwyn Davies. Cadwyd y
sillafu gwreiddiol.
Ffynon
y Cae Gwyn.
Saif hon rhwng ystablau y Plas a Dolhir, a
thua 30ain o latheni islaw i’r brif-ffordd. Nid ydyw mewn cyflwr
dadfeiliol, er ei bod heb neb yn gofalu dim am dani er’s llawer o flynyddau.
Buom yn ddiweddar yn ei golwg, ac yn golchi ein llygaid fel y buom lawer tro yn
flaenorol. Mesura tua llathen a
chwarter ysgwar. Mae hon yn ffynon anwyl yn nghof llawer. Yn un o’r darnau
barddonol goreu yn dal cysylltiad a Mawddwy a gyfansoddwyd yn Llundain yn 1844,
lle y dengys y bardd ei hiraeth mawr am ei fro enedigol, dywedir –
Mor hoff ar dro cael rhodio rhawg,
Ryw grugawg fryniawg fryn:
Cael gloywon ffrydiau’n ddinacau,
I’m genau o’r Cae Gwyn.
Cyfrifid y ffynon hon ar dro yn odiaeth o rinweddol
at y llygaid, ac yr oedd llawer gynt yn cyrchu iddi o bell ac agos. Yr ydym yn
cofio gweled dyn o Forgannwg wedi cael gwellhad o anhwylder ar ei lygaid. Gresyn
na byddai hi yn rhydd ac agored i’r
neb a ewyllysia fyned iddi eto.
Ffynon
Tydecho. Y
mae dwy o’r enw yma yn Llanymawddwy – un oddiar Aber Cywarch, a’r llall ar
ben Rhiw’r March, yn ymyl gwely Tydecho. Math o gafn yn y graig ydyw, a
dywedai yr hen bobl fod ei dwfr yn dra rhinweddol at amryw bethau, ac yn yr hen
amser gynt bu llawer tyrfa o bererinion yn penlinio o’i blaen.
Ffynon
Bryn Uchaf.
Dywedir fod dwfr hon yn hynod o ran cryfder mwnol.
Y
Ffynon Oer,
yn Nghwm Dynweid. Dywedir fod dwfr hon yn rhinweddol at y cryd-cymalau.
Y
Ffynon Fawr, neu
y Murddwr, yn ymyl Ty’nddol, y Pennant. Bwrlyma hon ffrydlif fawr a chref, a
dywedir ei bod yn rhinweddol.
Ffynon
y Gwylliaid.
Mae lle hon ar ben Bwlch-y-Groes, ac y mae ei dwfr yn llawn o ansawdd mwnol.
Dywedir ei bod yn llesol i ryddhau y coluddion. Yn hon, medd traddodiad, y
byddai y llu ysbeilgar a drygionus, y Gwylliaid Cochion, yn arfer golchi eu
dwylaw gwaedlyd ar ol galanastra a chelanedd, a dyma’r achos fod y dwfr yn
goch.
Ffynon
Rhiw’r Cawr.
Mae ei dwfr yn hynod loew, ac yn rhinweddol ay y llygaid er gwneyd y golygon yn
fwy clir. Byddai yr hen bobl yn arfer a rhoi dwfr hom yn eu llygaid bob tro yr
elent heibio iddi.
Pistyll Tynycoed. Mae hwn yn ymyl y ffordd o dan
dderwen gysgodol. Nid oes ail iddo meddir at wella y cryd-cymalau. Y mae llawer
ffynon a nant fu’n gysegredig i ryw hen sant gynt, ond nid oes neb yn myned i
lawer ffynon, a wyddom am danynt i geisio lleshad mewn un dydd a blwyddyn; ond
eto, gyda’r nos, adroddir yn ddifyr ryw ystor neu ystraeon rhyfedd am rin eu
dyfroedd, neu am rywbeth ddygwyddodd yn agos iddynt, ac y mae parch ofergoelus
hyd heddyw mewn llawer aelwyd i’r hen ffynhonau er gwaethaf nerth dylanwad y
Beibl a’r Diwygiad.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Prin
iawn yw’r arolygon trylwyr o holl ffynhonnau sanctaidd unrhyw ardal neilltuol.
Ymhlith
yr ychydig mae gwaith Caoimhin O Danachair, The Holy Wells of County Limerick
a gyhoeddwyd ym 1955. (1) Nid af i draethu ei rinweddau yma, yntu hwnt i ddatgan
fod O Danachair wedi rhestru union leoliad, defnydd, cysegriad, cyflwr, arferion
a thraddodiadau dros gant a thrigain o ffynhonnau y swyddf uchod. Yn eu plith,
yn annisgwyl braidd, mae ffynnon wedi ei chysegru yn enw Dewi Sant. Daw’r
cyfeiriad cyntaf wrth i’r awdur restru’r cysegriadau:
St
David: A
well at Newcastle West, which agrees with the parish dedication. This, almost
certainly, came from the Fitzgeralds’association with Wales.’
Yna, wrth restru yn fanwl ffynhonnau Barwniaeth
Glenquin meddai:
113.Par.
Newcastle, tld. Castle Demesne, sheet 36, “St David’s Well”. A holy well
in the earl of Devon’s pleasure garden celebrated for curing those possessed
by the fairies” – OSNB (2). The well still exists, in the garden of one of
the houses in the town, but there are no traditions.’
Y mae buchedd ein nawddsant fel y’i ceir gan
Rigyfarch (ac eraill) yn amlygu cysylltiadau cryfion ag Iwerddon. Yr oedd Dewi
ei hun yn adnabyddus yno: cofnodwyd ei farwolaeth yn y croniclau Gwyddelig ac fe
gysegrwyd eglwys Naas yn ei enw. (3) Gwyddom fel y mabwysiadwyd Dewi Sant gan
Normaniaid fel disgynyddion Gerald de Windsor, a oresgynasant rannau o Ddyfed
cyn iddynt oresgyn rhannau helaeth o Iwerddon hefyd. (4)
‘Dewi Sant!’, yn ol un awdurdod, oedd bloedd ryfel Maurice de
Prendergast (5), ac fe wyddom fod enw Dewi yn aml ar wefusau’r Normaniaid,
Fflemiaid a ‘r Cymry hynny fu’n ymladd yn Iwerddon (6). Y mae’n debyg,
felly, fod O Danachair yn gywir ei ddyfaliad ynghylch cysegriad y ffynnon.
Os yw un o’n haelodau neu’n darllenwyr am fentro
i Iwerddon yn y dyfodol byddai’n ddiddorol gwybod beth yn union yw cyflwr y
ffynnon heddiw. Saif Newcastle West tua hanner ffordd rhwng Limerick a Tralee ar
y briffordd T28, felly ni fyddai angen i’r sawl sy’n anelu am Swydd Kerry
fynd ddim o’i ffordd.
TROED NODIADAU:
(1). O Danachair, Caoimhin. The Holy Wells of
Limerick. The Journal of Royal Society of Antiquaries of Ireland, Vol LXXXV
Part II, (1950).
(2) Ordnance Survey Name Books, Co. Limerick.
(3). Baring-Gould, S a Fisher, J. Lives of rhe
British Saints. (2il arg. Llanerch Publishers, Felinfach 2000.), Cyf. 4, t.
305.
(4). Gw. Irish Family Names Map, Johnston
& Bacon, am ddosbarthiad y teulu Fitzgerald yn ardal Limerick \ Kerry.
(5).
Baring-Gould, S., a Fisher, J., op cit. t.311.
(6).Lloyd,
J.E., A History of Wales from Earliest Times to the Edwardian Conquest.
(3ydd arg. Longmans, Green & Co, London 1939), Cyfrol II,tt 537-541.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Mae
Eluned Mai Porter o Langadfan, Powys wedi bod yn brysur iawn yn sicrhau fod
llechen ac ysgrifen arni yn y Gymraeg a’r Saesneg ger y ffynnon hon.Bydd yn
nodi fod Cadfan Sant wedi dod i
Gymru yn y bumed ganrif a bod pererinion wedi bod yn ymweld a’r ffynnon
drwy’r canrifoedd i gael gwellhad drwy rin ei dyfroedd. Achubwyd y ffynnon
rhag cael ei dinistrio pan ledwyd y ffordd yn ybedwaredd ganrif ar bymtheg gan y
Parch Griffith Howel a fu’n ficer y plwyf rhang 1839 ac1863. Diolch o galon i
Eluned Mai am wneud hyn a hithau yng nghanol bwrlwm y paratoadau ar gyfer yr
Eisteddfod.
Mae
Nia Rhosier yn ceisio cael cyhoeddi taflen
fydd yn dangos y llwybr ay y ffynnon hon ar gyfer yr Eisteddfod ac mae
Cymdeithas Edward Llwyd yn bwriadu cerdded y daith heibio iddi yn ystod wythnos
yr Eisteddfod.
Yn
araf bach y mae’r gwaith o adfer y ffynnon yn mynd yn ei flaen ar y foment ond
mae’r safle wedi ei diogelu.
Nid
oes fawr ddim wedi ei wneud i gario ymlaen a’r gwaith o adfer y ffynnon hon.
Mae wedi ei hagor gan ddyn lleol ers rhai blynyddoedd ond nid yw’r gwaith
o’i hadfer wedi ei gwblhau.
Mae
safle’r ffynnon wedi ei chuddio o dan ddrain a mieri a’r brwdfrydedd a fu
ynglyn a’i hadfer wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y flwyddyn diwethaf.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Doedd
neb yn amau purdeb
A thrist yw canfod heddiw,
Dy
ddyfroedd, ddydd a fu,
Lle
gynt roedd dyfroedd clir,
Ac
nid oedd rhaid dy warchod
Nad oes a faidd eu profi -
Rhag
llaw y fandal hy’.
Mae’r gwenwyn yn ein tir.
Mor
barod oet bob amser
A’m
penbleth, sut y gwyddai
I
ddi -sychedu’r plwy’
Y gwynt estronol, main
Yn
rhoi, heb ofyn ceiniog
A ddaeth a llwch Chernobyl
Na
holi chwaith, i bwy? Am
ffynnon Tyddyn Drain.
Allan
o CERDDI TRYWERYN gan John
Lewis Jones, Gwernymynydd, Yr Wyddgrug.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Anfonwch bob gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr
Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH
Is-olygydd:
Esyllt Nest Roberts, Carreg Bach, Ffordd Ffrydlas, Carneddi, Bethesda.
Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.
Argreffir
gan H.L. Bowell a’i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.