Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 13 Nadolig 2002

 

AILAGOR 

FFYNNON BEUNO, Y BALA  

SH/922358

Yn ystod mis Awst eleni dechreuwyd ar y gwaith o ailagor Ffynnon Beuno yn y Bala.(SH/922358) Mae hon yn hen ffynnon rinweddol ac fe'i disgrifir fel crair hanesyddol yn An Inventory of the Ancient Monuments of Meirionnydd a gyhoeddwyd yn 1921. Yn ôl y disgrifiad a roddir o'r ffynnon roedd yn ddeuddeg troedfedd wrth naw gyda llechi mawr o'i chwmpas a cherrig yn llawr iddi. Roedd chwe gris yn arwain i lawr at y dŵr. Rhinwedd arbennig y ffynnon hon oedd ei bod yn dda iawn at wella gewynnau neu esgyrn wedi eu hysigo. Byddai tywallt y dŵr dros yr aelod anafus yn siŵr o ddod â rhyddhad yn fuan iawn ac fe allai'r ffynnon fod o gymorth i wella llygaid poenus hefyd. Roedd y dŵr yn dda at ddiffyg ar yr iau, yr ymysgaroedd a'r arennau hefyd. Ffynnon werth ei chael yn wir! Ceisiodd Mr R.J.Lloyd Price, Rhiwlas, botelu'r dŵr a'i farchnata o dan yr enw 'St Beuno's Table Waters' neu ' Rhiwlas Sparkling Waters'.

Mae'r ffynnon ar safle stad o dai ar yr ochr dde i'r ffordd sy'n mynd allan o'r Bala i gyfeiriad Dolgellau. Mae angen troi i'r dde gyda'r arwydd sy'n dangos y ffordd i'r clwb golff cyn cyrraedd at y Ganolfan Hamdden. Wrth droi o'r ffordd fawr gwelir arwydd Mawnog Fach. O droi i'r dde eto a dilyn y ffordd i mewn i'r stad o dai a mynd i'w phen draw gellir gweld y ffynnon yno. Rhoddwyd cryn sylw i hanes y ffynnon arbennig hon yn Llygad y Ffynnon dros y blynyddoedd.(Gweler erthygl Jane Hughes yn Rhif 2, Haf 1997, er enghraifft.) Nodwyd fod tai wedi eu hadeiladu ar safle'r fawnog lle goferai'r ffynnon a bod un teulu wedi gofyn i'r perchennog tir am gael llanw'r ffynnon gan fod ganddo blant a'r ffynnon yn beryglus. Yn hytrach na sicrhau na allai neb syrthio i'r ffynnon aed ati i'w llanw, er ei bod yn grair hanesyddol. Yna ceisiodd perchennog y tŷ cyfagos ymgorffori'r darn tir lle roedd y ffynnon yn ei ardd. Dyma oedd y sefyllfa pan ddaeth Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i fod yn 1996. Roedd CANTREF, Cymdeithas Dreftadaeth Y Bala a Phenllyn, wedi bod yn gweithio ers 1993 i geisio adfer y ffynnon a'i diogelu. Mae hyn yn profi proses mor hir yw adfer ffynnon. Rhaid wrth amynedd a dyfalbarhad i gael y maen i'r wal.

 

Mrs Jane Hughes a Dr Iwan Bryn Williams,CANTREF, 

yn edrych ar y ffynnon.

 

Bellach mae Mr Eilir Rowlands wedi dechrau ar y gwaith mawr o ailagor y ffynnon ac ailgodi'r muriau. Da gennym yw dweud fod y dŵr yn codi ynddi a gellir gweld bwrlwm yn y dŵr pan fydd hyn yn digwydd. Bu darogan na fyddai dŵr yn y ffynnon oherwydd i'r llifeiriant gael ei effeithio pan adeiladwyd y tai ar y safle ond da yw gallu cyhoeddi fod yr hylif gwyrthiol yn tarddu yno o hyd. Y cwestiwn mawr yn awr yw sut i'w diogelu i'r dyfodol. Byddai'n bechod o'r mwyaf ei chau unwaith eto ond gan ei bod yn ffynnon fawr a chryn dipyn o ddŵr ynddi rhaid sicrhau na all neb fynd iddi'n ddamweiniol. Ond hefyd rhaid ei gadael yn ddigon agored i bobl fedru ei gweld a'i gwerthfawrogi. Wrth gwrs, bydd hyn i gyd yn costio a gwaith anodd eto fydd sicrhau arian i gwblhau'r gwaith. Wedi dweud hyn gall Ffynnon Beuno, fel pob ffynnon arall , fod yn fodd i ddod ag ymwelwyr i'r ardal yn ogystal â chyfoethogi treftadaeth ei thrigolion.

Bydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn gwneud ei gorau glas i fod o gymorth i CANTREF yn yr ymgais i ddiogelu Ffynnon Beuno, Y Bala.  

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 


 Yn ystod mis Medi bu Eirlys Gruffydd yn darlithio ar Ffynhonnau Cymru i gangen Gwyddelwern o Ferched y Wawr. Ym mis Hydref bu'n darlithio ar yr un pwnc i Gymdeithas Hanes Lleol Rhuthun. Dyma lun a dynnwyd ar yr achlysur hwnnw o Hafina Clwyd, ysgrifennydd y gymdeithas honno, ac aelod selog o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, a'r darlithydd.  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

FFYNHONNAU LLANWYNNO 

(SO/0395)

Eirlys Gruffydd

Ym mis Mawrth 1888 cyhoeddodd William Thomas, neu Glanffrwd i roi iddo ei enw barddol, gyfrol ddiddorol yn sôn am hanes a llên gwerin ei blwyf enedigol, sef Llanwynno ym Morgannwg. Mae'r enw yn gyfarwydd i ni am mai o'r plwyf hwnnw y daeth y rhedwr enwog Guto Nyth Brân. Mae Glanffrwd, fel Guto, wedi ei gladdu ym mynwent eglwys Llanwynno, plwyf sy'n cynnwys tref Pontypridd. Yn y gyfrol ddiddorol hon, a ailargraffwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1949, mae Glanffrwd yn disgrifio'r ffynhonnau oedd yn y plwyf. Roedd nifer ohonynt yn sychu oherwydd bod y gweithfeydd glo yn amharu ar lefel y dŵr tanddaearol, ac roedd hyn yn boen meddwl iddo. Dyma ddetholiad ac addasiad a fydd yn rhoi peth o flas yr hyn oedd ganddo i'w ddweud amdanynt:

Llawer gwaith y clywais yr hen bobl yn ymffrostio fod plwyf Lanwynno wedi ei fendithio yn helaethach nag odid i blwyf ym Morgannwg, a dwfr pur a rinweddol, a chyfleusterau i ddyn ac anifail i fwynhau

Yr elfen denau ysblennydd Lyfndeg, sy'n rhedeg yn rhydd.

Yr oedd y ffynhonnau mor aml a chryf, a'r ffrydiau mor loyw a nerthol ym mhob rhan o'r plwyf, fel nas gallasai'r hen bobl lai nag ymffrostio ynddynt. Y mae amryw o'r ffynhonnau gloywon, a welwyd yn byrlymu ar bennau y twyni ac yng nghysgod y bryniau ... erbyn hyn wedi sychu a mynd yn hesb. Yn nyddiau Guto Nyth Brân yr oedd y ffynhonnau mor aml â'r sêr, ac mor loyw, nid oedd pall ar lawer ohonynt ddyddiau gwres ac oerni, haf a gaeaf. Cerddais wrthyf fy hun i edrych hynt ffynhonnau y plwyf.

Peth rhyfedd iawn na fuasai sôn yn y plwyf am Ffynnon Sanctaidd oblegid yn wastad lle byddai mynachdy a mynachod byddai hefyd Ffynnon Sanctaidd, Ffynnon Fair neu Ffynnon y Forwyn. Dyna Ffynnon Fair yn aros hyd heddiw ar lechwedd Pen-rhys, yn wynebu Cwm yr Ystrad, er bod y fynachlog wedi ei cholli fel beddau y mynachod. Y mae Ffynnon Gwenfrewi, yn Nhreffynnon, yn ei bri o hyd; ac yn ymyl Llanelwy, y mae hen eglwys a elwid gynt yn Gapel Eglwys Mair, wedi syrthio yn furddun erbyn hyn, ond y mae ei ffynnon gref - Ffynnon Fair - yn adnabyddus iawn o hyd.

Ond y mae yn syndod nad oes yr un ffynnon o'r fath wedi cael sôn amdani yn Llanwynno. Yr oedd y mynachod yn gyffredin iawn yn ddynion call, gwybodus, ac yr oeddynt yn deall natur, a llawer o'i chyfrinion. Darganfyddent ddwfr iachus yma a thraw ar hyd a lled y wlad. Gwyddent yn dda fod mwynoedd yn effeithio ar·y dwfr, ac ar y dynion a'i hyfai, ac yna priodolent effeithiau iachusol y dwfr i fendith neilltuol a nodded y Forwyn Sanctaidd. Yna galwent y ffynnon ar ei henw, a byddai pob Ffynnon Fair yn sanctaidd.

Ond pa le y mae Ffynnon Fair Llanwynno? Onid oedd ganddynt eu Ffynnon Sanctaidd yn y plwyf? Yr wyf yn credu bod, ond yn rhyfedd fod yr enw wedi ei golli, a'r traddodiad yn ei chylch wedi myned ar ddifancoll, fel y digwydd ambell bryd. Dichon fod teimlad cryf a gwrth-Babyddol wedi codi yn y plwyf, a bod ymgais lwyddiannus wedi ei gwneud i ddifodi pob peth a oedd a thuedd i gadw yn fyw y grefydd Babyddol, ac felly i Ffynnon Fair golli ei henw ac ymhen ychydig amser - treiglad cenhedlaeth neu ddwy - yr oedd y ffynnon a'i henw a'i lle wedi eu colli, hyd yn oed ar dafod traddodiad.

Y mae ffynnon gref iawn wrth y Mynachdy hyd y dydd heddiw. Tardd i fyny tua chwr y cae a elwir y Fanheulog, a rhed ar war y Cwm i bistyllied fawr yn ymyl pellaf yr ardd. Y mae yn ffrwd loyw, gref; weithiau yr ydym yn tueddu i feddwl mai hon oedd y Ffynnon Sanctaidd, ac mae yma yr ymolchai y mynachod yn nyddiau eu gwynfyd yn y plwyf Ond wedi edrych, meddwl a dyfalu, yr wyf yn dyfod i'r penderfyniad nad hon oedd y ffynnon, er bod y dwfr hwn yn ddiau yn gysegredig i'r mynachod. Mwy na thebygol mai Ffynnon Gwynno ger eglwys y plwyf oedd y Ffynnon Sanctaidd. Y mae yn tarddu yn ddi-stŵr o dan darren yr eglwys ac yn fy nghof i priodolid rhinwedd mawr iddi.

Pa le y mae ffynnon lygaid y Gellidawel ger Berw Taf? Yr oedd yr hen bobl yn credu yn ei rhinweddau ac aent yno i olchi'r llygaid. Dyna Ffynnon y Cefn yn tarddu'n nerthol. Yr wyf yn cofio am un o forynion y Cefn yn cael dychryn mawr iawn wrth y ffynnon; rhedodd yn ôl i'r tŷ, a galwodd ar ei meistr, "Dewch at y ffynnon, y mae yno neidr fawr a dau gorn ar ei phen, dewch gynta gallwch chi!" Aeth y meistr at y ffynnon ac yno yr oedd neidr fawr, ac ar yr olwg gyntaf ymddangosai fel un a dau gorn ganddi; ond wedi edrych aml cafwyd ei bod wedi llyncu llyffant mawr a hwnnw wedi aros yn ei gwddf a'i ddau troed allan o'i safn ac yn lled debyg i ddau gorn du mawr. Yr oedd y neidr wedi cymryd gormod o damaid. Nis gwn ai oddi wrth beth fel hyn y codwyd y ddihareb a glywais yn fynych yn y plwyf, -

'Gwell ti paid â llyncu llyffant'.

Ffynnon Dyllgoed sydd yn adnabyddus iawn i ŵyr y mynyddoedd. Y mae yn tarddu wrth lidiart Pen-rhiw, y tu isaf i'r ffordd sydd yn arwain o'r Ynys­hir i Fynydd Gwyngul tuag Eglwys Wynno. Cyn i chi ddyfod allan o'r heol i'r mynydd yr ydych yn pasio'r ffynnon gref hon. Nid yn aml y gwelir y fath darddiad cryf o ddwfr croyw yn dyfod allan o dwll crwn yn y ddaear. Nid oes na thŷ na thwlc gerllaw iddi, dim ond Pen-rhiw yn ymlochesu yn y coed dipyn yn is i lawr ar ymyl yr heol sydd yn cael ei henw oddi wrth y ffynnon - Rhiw Ffynnon Dyllgoed. Nid oes i'w weled ond y llwyni ar ei min a'r glaswellt a'r brwyn yn ymgrymu iddi, a'r adar o goed Pen-rhiw yn ymweld â hi, oddieithr fod ambell bererin wrth deithio'r rhiw yn croesi'r berth, ac yn eistedd ar ei min i dorri ei syched ac i fwrw ei flinder.

 

Ffynnon iawn yw Ffynnon Nicholas yng nghoed y Pare; tarddiad cryf iawn, ac yr wyf yn credu mai dwfr y ffynnon hon a welir yn dyfod allan wrth Dy­ar-twyn y basin i ddisychedu engines y Taff Vale. Gŵyr y rhai sydd yn myned allan i hela ac i saethu am y ffynnon hon, ac os bydd cyffylog yn rhywle bydd i'w gael wrth Ffynnon Nicholas - gelwid hi gynt gan rhai o'r hen bobl yn Llygad y Cyffylogiaid.

 

Ffynnon y Lan a Phenrhiwceibr, yr oedd yn arfer tarddu rhwng y ddau amaethdy. Am oesoedd lawer bu yn byrlymu yn bur ac yn beraidd ond erbyn hyn mae wedi syrthio i dlodi...mor dlawd fel nas gall wylo deigryn er cof am yr amser gynt, na'r cyfnewidiad mawr sydd wedi dyfod drosti.

 

Dyna Ffynnon Pen-twyn Isaf, eto. Yr wyf yn cofio ei gweled, haf a gaeaf, yn distyllu yn gryf ac yn loyw, nid oedd na phroffwyd na phrydydd a fuasai yn meddwl darogan ei thrai, ond y mae ei nerth wedi pallu, mae wedi ymsuddo i'w gro ... a'i dyfroedd gwerthfawr ... wedi sychu.

 

Mae ffynnon - efallai y cryfaf yn y plwyf- yn tarddu ar ael tir y Ffynnon­dwym; mae y fferm wedi derbyn ei henw oddi wrth y ffynnon. Tardda yn ymyl y glawty newydd a rhuthra allan yn llif i lawr tua'r glyn yn fendith i ddyn ac anifail. Yr wyf yn awr, yn fy nychymyg, yn plygu ac yn codi a'm llaw ei dyfroedd oerion pur at fy min! Tybed a sychir hon? Ofnaf fod y pwll glo yn ddigon gwancus i'th lyncu dithau ar un traflwnc, y glwth du gormesol.

 

Mae Ffynnon y March yn ymyl y ffordd sydd yn arwain o Ynys-y-bwl i Ffynnon-dwym. Tardd allan mewn llwyn bychan o goed o dan ael yr Hendre Ganol, y mae ei dyfroedd yng ngwres yr haf cyn oered a'r ia, ac yn oerni'r gaeaf mor dymherus fel nad yw fyth yn rhewi. Y mae hen draddodiad yn ei chylch, fod ceffyl perthynol i Ffynnon-dwym, nad yfai ddwfr o un ffynnon arall; pan elid a'r ceffyl hwnnw i ffwrdd tua ffair neu farchnad, nid yfai ddafn o ddwfr hyd nes y dychwelai, ac yna âi ar ei union i'r llwyn coed yn ymyl y tŷ, a thorrai ei syched a dyfroedd y ffynnon a alwyd er ei fwyn ef yn Ffynnon y March.

 

Yn agos i darddellau Ffrwd y mae ffynnon gyffelyb o ran natur a blas ei dyfroedd i Ffynhonnau Llanwrtyd. Bu cryn dipyn o gyrchu iddi er ys blynyddoedd yn ôl, ond nid oedd y ffynnon mewn gwedd drefnus pan welais hi ddiwethaf; yr oedd mewn perygl o gael ei cholli yn y glaswelit a'r brwyn ar y mawndir. Gwelais un hen wreigan o'r plwyf yn yfed pedwar gwydryn ar hugain o'r dwfr; nis gwn ar ba egwyddor yr oedd yn gwneud hynny, os nad egwyddor y kill or cure. Fodd bynnag, yr oedd yn dangos yn eglur nad oedd dim drwg yn y dwfr, beth bynnag oedd y daioni oedd ynddo, oblegid bu yr hen wraig yno droeon wedi hynny yn cael yr un nifer o wydrau o'r dwfr. "Diolch i Dduw am y dŵr," meddai hi. "Ie," meddai un arall, "ac am ddigonedd ohono."

 

Ffynnon enwog iawn yw Ffynnon Illtud. Yng nghysgod Craig Buarthcapel, mewn llwyn o goed gwern, a'r lle yn wlyb a mawnog o amgylch, y rhuthra hi allan, heb fethu haf a gaeaf. Yr wyf yn cofio fy nhad yn fy nwyn ar ei gefn pan oeddwn tua thair blwydd oed, i ddal fy nhroed dan ei phistyll oer oherwydd ysigo fy swrn; a dyna'r cof cyntaf sydd gennyf am boen. Yr oedd ei dwfr mor oer, a minnau yn gorfod dal fy nhroed dano, nes daeth Ffynnon Illtud â phoen i mi yn bethau cyfystyr. Ond llonnwyd fy natur ganddi hi filwaith wedi hynny, pan deimlwn lawer tro yn flinedig, yr oedd dracht o ddwfr Ffynnon Illtud gan fy mam, yn rhoddi bywyd ac adnewyddiad i mi drachefn. Tydi hen Ffynnon Illtud annwyl, paid â sychu byth! Na fydded i waith na gwythienni glo effeithio arnat.

 

Yn uwch i fyny yng Nhwm-ffrwd, y mae Ffynnon y Fanhalog. Mae gryn dipyn o bellter oddi wrth y ffermdy, ond mae ei dŵr fel y gwin gorau, yn treiglo allan o fynwes y Coetgae, ac yn disgyn yn loyw ar wely o wlydd y dwfr yn gymysg â Berw Ffynhonnau. O mor dawel yw y lle! nid oes na thrwst na bloedd. Ychydig o waith dyn a welir yma. Gwaith Duw yw'r cwbl. Trueni fod rhaid i ddyn derfysgu ar heddwch lle fel hwn. Ond yr wyf yn ofni clywed bob dydd fod dwfr Ffynnon y Fanhalog yn prinhau.

 

Yr ydym yn camu dros y cwm i ymyl hen blasty y Glog, ac awn yn syth at Ffynnon y Glog sydd yn rhuthro allan o ochr ddwyreiniol y Twyn. Hon yw ffynnon y ffynhonnau yn Llanwynno. Daw allan o dan asennau y bryn gyda nerth rhaeadrol drwy ei chafn carreg. Pan oeddwn mewn twymyn drom rai blynyddoedd yn ôl, mi a flysiais ei dyfroedd fel y blysiodd Dafydd gynt ddyfroedd Ffynnon Bethlehem; a dygwyd ef i dorri fy syched mawr, ac mae ei bereiddflas yn aros yn fy ngenau hyd y dydd hwn. O byddai yn bechod arswydus atal llif y ffynnon sanctaidd hon, ac eto y mae lle i ofni y bydd i hyn ddigwydd. Yn wir byddai yn well colli llawer o ynysoedd cyfain na cholli'r ffynnon hon. Nid wyf am ddweud gair yn erbyn y glowyr sy'n anturio i lawr i ddyfnderau mawrion ar ôl y glo, ond O! wrth wneud hynny sychant y ffynhonnau bendithfawr tir fy maboed,- ac felly rhai i mi wylo a galaru!

 

Gwin a groywyd gan Grewr - yw'r ffynnon,

A gorffennol wlybwr

Bron haf, ddibrin i yfwr,

Ystên Duw i estyn dŵr.

Wrth ddarllen geiriau Glanffrwd gallwn gydymdeimlo ag ef. Tybed a oes yr un o'r ffynhonnau hyn yn dal heb eu difetha yn Llanwynno heddiw? Rydym wedi gweld colli cymaint o'n ffynhonnau, i adeiladu tai a lledu ffyrdd, i esgeulustod dynol a fandaliaeth swyddogol ambell awdurdod Heol. Diflannodd llawer o'n ffynhonnau a dyna pam ei bod hi'n hanfodol i ni warchod, cynnal a chadw'r hyn sy'n weddill o'n treftadaeth.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Ffynhonnau Llanwynno yn y gyfrol

The Holy Wells of Wales gan Francis Jones

O'r holl ffynhonnau a enwodd Glanffrwd dim ond pedair sy'n cael eu nodi fel ffynhonnau sanctaidd gan Francis Jones. Yn Nosbarth A, sef ffynhonnau sydd wedi eu henwi ar ôl saint mae Ffynnon Wynno a Ffynnon Illtud ac yn rhyfedd ddigon Ffynnon Nicholas sydd wedi ei henwi ganddo yn Ffynnon Sant Nicholas. Y ffynnon arall a nododd oedd Ffynnon y Fan Halog ond ystyr halog yw budr, amhur neu anghysegredig. Tybed a oes rhywun all daflu goleuni ar hyn? Tybed a'i Fan Heulog a olygir?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ANNWYL OLYGYDD ... ANNWYL OLYGYDD

 Annwyl Olygydd,

Dyma fwy o hanes am ffynhonnau Meifod, Maldwyn.(SJ1513) O'r diwedd mae Jill Turner a minnau wedi bod i weld Ffynnon y Clawdd Llesg, Meifod, ac wedi canfod peth anhawster i'w chyrraedd oherwydd tyfiant a mieri. Mae'n debyg mai'r Comisiwn Coedwigaeth biau'r tir, a'r cyfrifoldeb, am wn i, dros gadw'r llwybrau'n agored. Mae angen camfa wrth ochr y llidiart newydd a osodwyd ganddynt ar y ffordd wrth ymyl Trefedrid. Mae'r llidiart yn un llydan iawn ac yn anodd ei hagor a'i chau. Nid oes unrhyw arwyddbost yn unman ar y ffordd hon a dim ond oherwydd i berchennog Trefedrid roi ychydig o ganghennau a rhuban wrth ymyl y mynediad i'r llwybr at y ffynnon y bu'n bosib i ni ddod o hyd iddi.  

Dyma ran olaf y daith sydd tua hanner milltir o hyd. Mae arwyddbost ar ddechrau'r daith ym Meifod ei hun dros bont Broniarth, a cheir disgrifiad o'r daith gerdded hon mewn pamffledyn uniaith Saesneg a baratowyd gan Gyngor Cymuned Meifod rai blynyddoedd yn ôl, ond yn ôl a welaf ni ellir gwneud y daith gylch erbyn hyn fel y mae'r pamffledyn yn ei awgrymu am nad yw'n bosibl gwahaniaethu'r llwybrau cyhoeddus oddi wrth dir fferm Lower Hall. Y mae angen holi Cyngor Sir Powys ynglŷn â hyn.

Cefais ateb gan Mark Chapman o Adran Llwybrau Cyhoeddus Powys ynglŷn â'r gwaith arfaethedig ar lwybrau at ffynhonnau Llanfair Caereinion ac mae'n swnio'n addawol. Fodd bynnag ni wnaeth sylw o'm ymholiadau ynglŷn â Ffynnon Dydecho a Ffynnon Ddu yng Ngarthbeibio. Gobeithio yn wir y bydd Menter Maldwyn yn llwyddo i gael cyllid i ariannu'r prosiect a chreu'r pamffled am y llwybrau a'r ffynhonnau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod fis Awst 2003.

Nia Rhosier, Pontrobert, Meifod.

(Diolch o galon unwaith eto i Nia am ei gwaith diflino yn chwilio a chofnodi lleoliad y ffynhonnau yn ardal Meifod. Diolch hefyd i'r cyfeillion sy'n ei chynorthwyo. Mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn cydweithio a Menter Maldwyn i geisio cael arian i'r prosiect arbennig hwn)

 

Annwyl Olygydd

Diamau eich bod yn gwybod am y ffynnon ger y moat pellaf yng nghastell Rhuddlan (SJ0278) a bod i'r dŵr rinwedd meddyginiaethol, dŵr oedd yn eithriadol o oer. Yr oedd fy hen nain, Ann Jones (1810-1885) yn cynghori ei chleifion ar adegau i fynd yno i olchi eu llygaid. Bu hi yn trin deifion o wahanol afiechydon. Bu i Syr Robert lonnes, Lerpwl, y meddyg enwog, gynnig £5 yr wythnos iddi os rhoddai prescriptions y gwahanol eli a wnâi.. Gwrthododd gan ddweud na chai neb hwy ond y ferch hynaf.

Trefor D. Jones, Penysarn, Amlwch.

(Diolch i Trefor lanes am dynnu ein sylw at y ffynnon arbennig hon. Nid oeddem yn ymwybodol ei bod erioed wedi cael ei defnyddio fel ffynnon feddyginiaethol.)

 

Annwyl Olygydd,

Diolch am rhifyn haf o Llygad y Ffynnon, rhifyn arall o safon uchel gyda chyfoeth o wybodaeth ynddo fel arfer.

FFYNNON Y BRANDI (Crai (SN8924)Sir Frycheiniog), enw hynod ddiddorol ac un a barodd i mi ddechrau crafu fy mhen.

"-

Tybed ai dynodiad sydd wedi tarddu o'r enw EBRANDY (cyfuniad o EBRAN a TŶ) sydd yma? Cedwid porthiant i anifeiliaid mewn Ebrandy yn yr hen ddyddiau ar gyfer y ceffylau a ddefnyddid gan deithwyr ac, hyd yn oed, ar gyfer anghenion y fasnach borthmona.

Dyma ddywed Geiriadur Prifysgol Cymru am yr enw Ebrandy ...

Digwydda, yn y ffurf BRANDY ar lafar, yn enw fel enw ar dafarn e.e. yn y rhigwm ...

Wrecsam Fechan a Wrecsam Fawr, Pentre'r Felin ac Adwy'r Clawdd, Casgen Ditw a Thafarn-y-gath, Llety llygoden a Brandy Bach.

Roedd y Brandy Bach a gyfeirir ato uchod wedi ei leoli yn ardal Llandegla, a chredaf fod yr enw Brandy i'w ganfod hefyd yn ardaloedd Dolbenmaen a Mallwyd.

Gwn am lecyn yng ngorllewin Ynys Môn sy'n dwyn yr enw Pant-y-Brandi. Fodd bynnag, mae tarddiad y dynodiad hwn yn gwbl wahanol. Gan fod y llecyn yn weddol agos i Draethau Crugyll, mae'n bur debyg fod enw'r pant yn tarddu o'r cyfnod pan oedd smyglo yn arferiad poblogaidd yn yr ardal.

Gwilym T. Jones, Llangefni.

(Diolch am eich geiriau caredig a'ch sylwadau diddorol. Croesewir ymateb pellach i'r esboniad hwn a sylwadau tebyg am enwau ffynhonnau.)

 

Annwyl Olygydd,

Er fy mod i'n byw yng nghanol Swydd Rhydychen, cyfieithydd answyddogol Cymrodoriaeth y Ffynnondarddu ydw i. Rydw i'n siarad ar fy rhan i ac ar ran ysgrifenyddes a sylfaenydd y Gymrodoriaeth, Jan Shivel, yn ogystal, pan ddywedaf y byddai'n hyfryd iawn pe gallech gynnwys cyfeirnodau map y ffynhonnau mae sôn amdanynt yn Llygad y Ffynnon.

Rydw i'n gyfarwydd â llawer o leoedd ac ardaloedd yng Nghymru ond dydw i ddim yn adnabod pob modfedd ohonL Felly mae'n achosi cryn drafferth i mi a Jan pan rydych chi'n son am ffynnon ddiddorol heb ddadlennu ei safle yn union.

Er enghraifft, rydw i wedi darllen llawer am Ffynnon Garon yn Nhregaron yn Llygad y Ffynnon, ond dydw i ddim yn gallu lleoli ei safle yn union ar y map. Efallai fod arwydd wedi cael ei osod ar y briffordd ond ble? Y trigolion yn Nhregaron a chi sy'n gwybod ond nid fi! A beth am eich disgrifiad o Ffynnon Cynfran, Llysfaen; dim sir, dim tref, dim cyfeirnod map, dim byd! Mae llawer o bentrefi o'r enw Llysfaen neu Lisvane yng Nghymru. Roedd yn rhaid i mi ymgynghori â Francis Jones a'r map o sir Gaernarfon nes i mi ddarganfod y Lysfaen cywir.

Felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi feddwl am estroniaid anffodus fel fi yn y rhifyn nesaf.

Christpher Naish, Wantage, Swydd Rhydychen.

(Diolch am eich llythyr. Rydych yn hollol iawn, mae angen i ni nodi cyfeirnod map ar ôl enwi ffynnon. Yn anffodus nid ydym bob amser yn hollol siŵr o leoliad ambell ffynnon, fel y rhai a enwyd o blwyf Llanwynno yn y rhifyn hwn, er enghraifft. Mae angen gwneud rhestr a chyfeirnod map pob ffynnon yng Nghymru a dweud y gwir, ond gan fod cannoedd ohonynt bydd hynny yn dipyn o gamp! Fel y gwelwch rydym wedi ceisio dechrau ar y gwaith yn y rhifyn hwn.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

MEWN SACHLIAIN A LLUDW ...

Hoffwn ymddiheuro i Howard Huws am gamgymeriad a wnaed wrth deipio ei erthygl ar Ffynnon Ddeiniol, Bangor, yn y rhifyn diwethaf. Dylai'r pedwerydd baragraff ddechrau fel hyn: 'Tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg' ac nid 'Tua chanol y ddeunawfed ganrif - gwall anfaddeuol. Eirlys Gruffydd (Golygydd)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Arfon a Marlis Jones, Llanbrynmair, Powys. Bryner Jones, Porthaethwy, Ynys Môn.

Patrick Ivor Roberts, Rhuthun, Sir Ddinbych.

D. Gwynne Morris, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych. Gareth Morris, Drefach, Llandysul, Sir Gaerfyrddin.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FIHANGEL, CILCAIN, ger YR WYDDGRUG, Sir y Fflint (SJ176649)

Mae'r ymgais i adfer Ffynnon Fihangel wedi gorfod arafu am nad yw'r goeden sydd wedi tyfu drwy'r ffynnon eto wedi ei lladd yn llwyr. Mae brigau ir yn tyfu o'r boncyff o hyd a rhaid fydd eu trin a'u lladd cyn gall y gwaith adfer ddechrau. Bellach does dim ond drain a mieri yno ac ni fyddai modd dweud bod ffynnon oddi tanynt gan mor gywrain y mae'r safle wedi ei chuddio.

 FFYNHONNAU PENEGOES ger MACHYNLLETH (SH767009)

Wrth deithio drwy bentref Penegoes tuag at Fachynlleth ar yr A489 dowch at yr eglwys ar fin y ffordd ar y dde a chyferbyn iddi mae blwch postlo a giat i fynd i mewn i'r cae. Yn y cae hwnnw, rhyw ganllath i gyfeiriad Machynlleth, gyferbyn ag adeilad a fu unwaith yn ysgol, mae dwy ffynnon. Cafodd y ddwy eu glanhau gan gymdeithas hanes leol yn ystod wythdegau'r ganrif ddiwethaf. Codwyd tua 24 tunnell o faw a phridd ohonynt a dechreuodd y dŵr lifo unwaith eto, Mae waliau isel o gwmpas y ffynhonnau ac mae'n bur debyg fod to o bren wedi eu cysgodi ar un adeg. Mae grisiau yn arwain i lawr at y dŵr. Bu cryn gyrchu atynt ar un adeg. Dywedir bod dŵr un ffynnon yn oerach na dŵr y llall. Tua dwy droedfedd yw dyfnder y dŵr.

Buom yn ymweld â'r ddwy ffynnon yn ystod yr haf a chael fod drain a mieri wedi eu gorchuddio'n llwyr. Maent yn hawdd i'w darganfod gan fod ffens o bren taclus wedi ei chodi o'u cwmpas. Unwaith roedd modd mynd atynt o'r ffordd fawr a'r man yn y clawdd lle bu'r adwy bellach wedi ei gau, ond yn weladwy o hyd. Mae'r ffordd sy'n mynd heibio iddynt yn un brysur a hawdd deall pam y caewyd yr adwy. Gallai'r ffynhonnau hyn fod yn fodd i ddenu twristiaid i'r ardal. Tybed a oes un o ddarllenwyr Llygad y Ffynnon yn gwybod â phwy ddylem gysylltu er mwyn ysgogi'r gymdeithas leol i adfer y ffynhonnau hyn?  

Mae'r eglwys ym Mhenegoes wedi ei chysegru i Cadfarch Sant ac enw'r cae y tu ôl i'r ffynhonnau yw Erw Cadfarch. Yn ôl Lives of the British Saints gan Baring­-Gould a Fisher, a gyhoeddwyd yn 1908, mewn dogfen o'r plwyf wedi ei dyddio 1687 ceir cyfeiriad at Ffynnon Gadfarch a dywedir ei bod yn dda am wella'r crudcymalau. Mae dirgelwch yma. A'i un o'r ddwy ffynnon ger y ffordd fawr yw Ffynnon Cadfarch, ynteu a'i ffynnon arall yw hi?

FFYNNON BEUNO, PISTYLL, Gwynedd. (SH328423)

Dyma un o ffynhonnau'r pererinion ar eu ffordd i Enlli. Mae'r ffynnon ei hun ger yr eglwys hynafol ac mae'r lle arbennig hwn yn werth ymweld ag ef gan fod rhyw awyrgylch braf o'i gwmpas. Rhaid troi i'r chwith oddi ar y ffordd fawr sy'n mynd rhwng Llithfaen a Nefyn lle y gwelir arwydd sy'n nodi mai dyma'r ffordd i Eglwys Beuno Sant. Wedi dilyn y ffordd gul am ychydig dewch at faes parcio bach hwylus a gwell yw gadael y car yno a cherdded yr ychydig bellter i lawr at yr eglwys. l'r pant y rhed y dŵr meddai'r hen air ac wrth gerdded i lawr at yr eglwys gellir clywed sŵn y dŵr yn llifo'n ffrwd gref ar hyd ochr y ffordd. Mae'r llifeiriant wedi ei gronni mewn llyn bychan a waliau cerrig o'i gwmpas ar waelod yr allt. Llifa'r dŵr allan o'r gronfa drwy bistyll i nant sy'n byrlymu i lawr wrth ochr mynwent yr eglwys ar ei ffordd i'r môr. Mae'r eglwys yn un ddiddorol hefyd, adeilad heb drydan ynddo a gwellt wedi ei wasgaru dros y llawr. Roedd ymweld â hi fel camu'n ol i'r gorffennol ac yn brofiad bythgofiadwy.

Ffynnon Beuno, Pistyll.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ADRODDIAD O’R CYFARFOD CYFFREDINOL

Daeth nifer dda i'r Cyfarfod Cyffredinol ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi eleni. Fel arfer ar ddiwrnod y cyfarfod roedd hi'n bwrw glaw! Diolch i'r rhai ohonoch a ddaeth i gefnogi'r cyfarfod. l'r rhai nad oeddent wedi gallu dod dyma gynnwys adroddiad y Trysorydd. Roedd 63 o aelodau gan y Gymdeithas yr adeg honno a'r fantolen ariannol fel a ganlyn:

 

DERBYNIADAU

£ c

TALIADAU

£ c

Cariwyd trosodd 1 01/08/01         808.83 Argraffu      150.61

Tâl Aelodaeth

        186.00 Stampiau        38.38
Rhoddion           12.00 Amlenni          7.50
Llog Banc             0.72

Llogi Ystafell

       10.00
   

Yn y Banc 31/07/02

     801.06
Cyfanswm       1007.55  Cyfanswm     1007.55

 

Diolch i'r archwiliwr, Mr Dennis Roberts, am ei barodrwydd i archwilio'r cyfrifon. 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NADOLIG LLAWEN 

A BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHI I GYD.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch ei gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Carreg Bach, Ffordd Ffrydlas, Carneddi, Bethesda, Gwynedd.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argreffir gan H.L. Boswell a'i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

Home Up