Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

  Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 12 Haf 2002

 

TAIR O FFYNHONNAU SIR BENFRO

Eirlys Gruffydd

Mae bro’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn un gyfoethog ei ffynhonnau. Yn anffodus nid wyf wedi cael cyfle i ymweld a mwy na dwy ohonynt a hynny yn haf 1986, pan aethom fel teulu i Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun. Y gyntaf ohonynt oedd Ffynnon Non yn Nhyddewi. Mae’n siŵr y bydd cryn ymweld â hi yr haf yma. Gellir gweld y ffynnon ger adfeilion Capel Non uwchben y môr. Byddai’r ffynnon yn gwella pob math o anhwylderau a dywedir ei bod yn llenwi ac yn gwagio gyda llanw a thrai’r môr. Pan lanhawyd y ffynnon yn 1825 daethpwyd o hyd i nifer o ddarnau arian ynddi. Cai hefyd ei defnyddio nid yn unig fel ffynnon rinweddol ond fel ffynnon swyn felly. Ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn arferiad i drochi plant yn y ffynnon er mwyn eu cadw’n iach. Yn 1951 adnewyddwyd y ffynnon gan Babyddion ac aed ar bererindodau ati. Pan oeddem yn ymweld â’r ffynnon roedd pererinion yno a gwasanaeth yn cael ei gynnal i geisio gwella golwg dyn oedrannus a oedd wedi cael ei arwain at y dŵr gan aelodau o’i deulu. Teimlem ein bod yn tresmasu ar ddefod sanctaidd a phreifat ac aethom draw at y capel. Ar y ffordd yn ôl cawsom ninnau ymweld â’r ffynnon arbennig hon.

Y ffynnon arall yr ymwelwyd â hi oedd Ffynnon Sanctaidd Llanllawer ger Abergwaun. Gellir ei gweld mewn cae y tu allan i fur gogledd-ddwyreiniol yr eglwys. Mae to o gerrig ar ffurf bwa wedi ei godi dros y ffynnon a elwid hefyd yn Ffynnon Gapan. Gallai’r enw gyfeirio at siâp y bwa sydd drosti. Cysegrwyd eglwys Llanllawer i Ddewi. Yn ôl ffurf a maint y ffynnon mae’n edrych fel pe bai wedi cael ei defnyddio i drochi ynddi. Roedd ganddi’r enw o fedru gwella amrywiol anhwylderau ond roedd yn arbennig o dda am wella llygaid poenus. Yma eto taflwyd arian a phinnau i’r dŵr fel offrwm. Pe dymunech ddrwg i rywun yna fe offrymid pin wedi ei blygu. Cofiaf ei bod yn hwyrddydd braf ond oer pan aethom i ymweld â’r ffynnon hon.

Hwyrach mai’r ffynnon â’r ddefod fwyaf diddorol o holl ffynhonnau’r sir yw Ffynnon Deilo yn Llandeilo Llwydiarth wrth droed y Preseli nid nepell o Faenclochog. Mae’r ffynnon, sydd ar ffurf baddon, rhwy ddwy droedfedd a hanner sgwâr, i’w gweld tua chan llath i’r gogledd-ddwyrain o adfeilion yr eglwys. Gan fod cerrig ogam ar y safle ar un adeg mae’n bur debyg mai ffynnon baganaidd, cyn-Gristnogol yw hon ond bod y safle wedi ei dewis gan Teilo Sant oherwydd ei bod eisioes yn gysegredig i’r hen dduwiau ac felly yn bwysig i’r brodorion. Roedd gan y ffynnon yr enw o fod yn dda iawn am wella anhwylderau’r frest megis y dicau a’r pas. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg deuai cleifion ati i geisio gwellhad a chredai llawer mai eu ffydd yn rhin y dwr a’u hiachaodd. Ond nid y dŵr yn unig oherwydd defnyddid rhan o benglog Teilo Sant i godi’r dŵr o’r ffynnon ac fe yfid y dŵr o’r benglog. Yn ystod y Rhyfel Mawr bu llawer o bobl yn ymweld â’r ffynnon yn y gobaith o sicrhau heddwch. Y teulu Melchior fu’n gofalu am y benglog am ganrifoedd. Rhaid oedd llenwi’r benglog i’r ymylon â dŵr a’i gynnig i’r claf gan aelod hynaf y teulu. Cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf i Teilo Sant ac yn 1994 cyflwynwyd y benglog i’r Eglwys Gadeiriol gan aelod olaf y teulu Melchior ac mae’n gorwedd mewn creirfa arbennig. A beth am y ffynnon ei hun? Dywed rhai fu’n ymweld â hi fod yn awyrgylch o heddwch anghyffredin i’w deimlo yno. Os cewch gyfle i ymweld â’r fan arbennig yma, neu ag unrhyw un o ffynhonnau sir Benfro, rhowch wybod i ni am eich profiadau ac fe gawn ninnau’r fraint o’u cynnwys yn rhifyn Nadolig Llygad y Ffynnon.

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON DDEINIOL, GLANADDA, BANGOR

Howard Huws

Nid oes dirgelwch ynghylch lleoliad cyffredinol y ffynnon sanctaidd hon, gan fod yr enw Cae Ffynnon Ddeiniol yn ymddangos ar hen fapiau Arolwg Ordnans ardal Glanadda, Bangor. Mae’r tir yn disgyn on o serth o’r de tua’r gogledd i gyfeiriad yr afon Adda. Holltir y llethr gan geunant dwfn sy’n cyfeirio o’r dr i’r gogledd. Digwydd yr enw cyntaf- hyd y gwn i- mewn rhestr rhent dyddiedig 1647 

Eiddo Esgob Bangor oedd y tir hyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pryd y dechreuwyd gwerthu clytiau i’r hwn a’r llall. Defnyddiwyd y ceunant ar gyfer cronfa ddŵr gyntaf Bangor yn 1843, eithr darfu am y fenter honno toc wedi 1845. Adeiladwyd bragdy ym mhen isaf (gogleddol) y cae yn 1867, ac erbyn y 1880’au roedd hwnnw wedi troi’n ffatri diodydd ‘ysgafn’. Yn amlwg, nid oedd yno brinder cylenwad dŵr dibynadwy.

Mae hysbyseb o’r 1880’au yn dweud yn blwmp ac yn blaen fod y dŵr ar gyfer y ffatri yn tarddu ‘from that celebrated well called Ffynnon Deiniol (sic), which has been so highly celebrated for its health restoring qualities for many centuries past.’ Dyna’r unig gyfeiriad a welais hyd yn hyn am rinweddau dŵr y ffynnon: fe all fod yn enghraifft o or-ddweud masnachol, neu gred sy’n seiliedig ar draddodiad lleol a aeth yn angof bellach. Ni pharodd y ffatri’n hir ond fe lynodd yr enw ‘Cae Ginger Beer’ ar y lle hyd heddiw.

Tua chanol y  bedwaredd ganrif ar bymtheg gwnaed map bras o’r safle. Dangosir arno ddwy ffynnon. Un (gadewch i ni ei galw’n Ffynnon A) ar y tir uwch, yn agos i ffermdy Hendrewen, mewn cae ar wahân a enwir Cae Ffynnon mewn dogfennau diweddarach. Dangosir y ffynnon arall (Ffynnon B) yng nghanol Cae ffynnon Ddeiniol, nid nepell o dyddyn bach a chwarel fechan. Erys copïau o’r map hwn yn nogfennau’r Eglwys yng Nghymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yng nghasgliad papurau’r Penrhyn yn y Brifysgol ym Mangor. Prynwyd Cae Ffynnon Ddeiniol gan Ystad y Penrhyn yn 1871 ac 1872. Ar fap y Penrhyn rhoddir ffurf betryal i Ffynnon B.

Ar fap o’r flwyddyn 1917 dangosir y chwarel â’r tyddyn yn ymyl safle Ffynnon B, a’r enw Cae Ffynon Deiniol Cottage wrth y tyddyn ond ni ddangosir unrhyw ffynhonnau ar y map hwn nac ar unrhyw fapiau diweddarach. Erbyn canol yr ugeinfed ganrif roedd safle’r hen gronfa wedi troi’n domen sbwriel gyhoeddus a lenwyd ac a gaewyd erbyn tua 1965. Deil nant o liw coch afiach i lifo o’r hen geunant llawn sbwriel, gan ffrydio i’r amlwg am ychydig lathenni ar draws rhan isaf Cae Ffynnon Ddeiniol cyn diflannu i lawr draen gyfagos. 

Yn 1995 bwriais olwg ar y caeau hyn. Cadarnhaodd perchennog Hendrewen, y bu ffynnon gerllaw’r ffermdy hyd yn gymharol ddiweddar, gyda grisiau carreg yn arwain i lawr ati. Dywedodd hefyd fod gweithredoedd y fferm yn datgan bod hawl gan drigolion tai cyfagos i gyrchu dŵr ohoni. Dangosodd y safle imi, gerllaw hen goeden, a gyfatebai’n union i safle Ffynnon A ar fapiau’r Eglwys a’r Penrhyn. Roedd ef ei hun wedi ei llenwi rhyw flwyddyn neu ddwy ynghynt, rhag i’w wartheg syrthio iddi, meddai.

Yng Nghae Ffynnon Ddeiniol islaw Hendrewen roedd gweddillion math o ffos ddŵr fechan wedi ei gwneud o lechi i bob golwg. O graffu ychydig gwelais ei bod yn llawn mwd, ond fe gynhwysai ddarnau o boteli gwydr ac o lestri, braidd yn debyg (yn fy marn i) i enghreifftiau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu ddechrau’r ugeinfed ganrif.

O grwydro’r cae hwn hyd at safle tybiedig Ffynnon B, gwelais fod tir lleidiog iawn a ffrwd fechan yn dod i’r amlwg ac yn ymuno a’r llifeiriant o’r hen domen ond roedd y drysni yno’n gyfryw ag i rwystro unrhyw ymchwil pellach y diwrnod hwnnw; a ph’run bynnag, roedd ar dir nad oedd gennyf hawl i’w grwydro.

Y cam nesaf oedd canfod pwy oedd biau’r tir hwnnw. Ymhen hir a hwyr canfûm ei fod yn eiddo i berchnogion tŷ newydd cyfagos o’r enw Bryn Llywelyn, ond sydd yn amlwg ar safle’r hen Ffynnon Ddeiniol Cottage. Diolch i’r drefn, roedd gan y perchennog, Mr Peris Hughes, ddiddordeb mawr yn hanes y ffynnon ac fe roddodd ganiatâd i mi chwilio’r fan.

Dringais i lawr llethr ber, serth ac ansefydlog o gerrig, sbwriel, llaid a thyfiant at safle tybiedig Ffynnon B. Nid oedd dwywaith nad oedd dŵr yn tarddu yno ond gwaith mawr fyddai i neb geisio clirio’r safle er mwyn cael gwell golwg. Tybiais mai dyna ddiwedd y peth; enghraifft arall, efallai, o ffynnon wedi’i cholli drwy esgeulustod a difaterwch.

Ar ddechrau 2000 cysylltodd gŵr Bryn Llywelyn â mi i ddweud ei fod am weddnewid y safle drwy logi jac codi baw a thwtio’r lle. A fyddai gennyf ddiddordeb mewn ysgwyddo rhan o’r draul pe gellid defnyddio’r peiriant i glirio safle tybiedig Ffynnon B a chaniatau imi gael golwg iawn ar y lle? ‘Doedd angen iddo ofyn ddwywaith.

I dorri stori hir yn fyr, ym mis Mai 2000 roedd Mr Hughes a minnau yn y glaw ar y llethr yn gwylio gyrrwr y jac yn crafu ymaith lwyni, pridd a thunelli o rwbel adeiladu - cerrig, llechi a malurion cyffelyb. Yn amlwg, roedd y chwarel fechan gerllaw Ffynnon Deiniol Cottage hithau wedi ei defnyddio fel tomen sbwriel ar un adeg, a honno wedi ymledu - rhywbryd rhwng 1880 ac 1917 mae'n debyg - nes llwyr orchuddio Ffynnon B.

Wedi peth amser, roeddwn wedi creu pant sylweddol yn ochr y rwbel, un ochr iddo yn gydwastad â'r cae, a'r ochr arall yn glogwyn deuddeg troedfedd o bridd, cerrig, llechi a brics. Yng ngwaelod y pant roedd pwll o ddŵr lleidiog a hwnnw'n llifo tua'r cae. Ychydig dyrchu eto gyda dwylo a blaenau esgidiau, a dyma rhyddhau cynnwys y pwll, a datgelu ffynhonnell y dŵr: peipen blwm rhyw fodfedd a hanner o led a'i phen wedi ei wasgu a'i dorri'n fler. Roedd y dŵr a ddeuai ohoni yn ymddangos yn berffaith groyw ond er siom imi, doedd dim golwg o unrhyw waith cerrig, petryal neu fel arall, o gwmpas y tarddle.

Gyda thameidiau o rwbel a phridd eisoes yn dechrau llithro tuag atom i lawr wyneb y pant, rhaid oedd gweithredu'n gyflym nid oeddem un am aros yn hir dan gysgod y clogwyn ansefydlog hwnnw. Ar frys, cawsom hyd i weiren hyblyg rhyw ddeuddeg i bymtheg troedfedd o hyd ac fe wthiwyd honno heb unrhyw drafferth i mewn i'r bibell blwm.

Cafwyd hyd i hen beipen blastig lydan, fawr ac fe osodwyd honno i orwedd gydag un pen iddi'n cynnwys y beipen blwm a'r llall yn cyfeirio tua'r cae. Cawsom hyd i botel lefrith hanner galwyn ac wedi ei golchi'n drwyadl â dŵr o'r beipen blwm, dyma'i llenwi â'r dŵr hwnnw rhag ofn y gellid ei brofi mewn labordy.

Wedi inni ddringo i le diogel, caeodd gyrrwr y jac codi baw y pant a rwbel. Roeddwn yn eithaf argyhoeddedig ein bod wedi ailagor Ffynnon B a'i galluogi i lifo unwaith eto. Canfûm y byddai'r awdurdod iechyd yr amgylchedd lleol yn medru profi'r dŵr - am dâl o £60 - ac y byddai angen ei brofi sawl gwaith dros gyfnod o amser cyn y gellid dyfarnu a oedd y dŵr yn ddiogel i'w yfed ai peidio. O amcangyfrif y traul, pylodd fy awydd braidd ac fe benderfynais mai'r cam nesaf fyddai imi chwilio ymhellach am dystiolaeth bendant ynghylch union leoliad Ffynnon Ddeiniol cyn imi wario allan o hydion.

Da o beth oedd hynny, oherwydd ychydig wythnosau wedyn cyfarfûm a hanesydd lleol gwybodus, David Price. Soniais wrtho am yr hyn a ddigwyddodd yn y cae y prynhawn hwnnw a chyn imi fanylu dim dyma fo'n dweud,

   "Peipen blwm? Tua dwy fodfedd o led?"

   "Ia! Sut y gwyddoch…?"

   "Honna oedd peipen cyflenwad dŵr cyhoeddus cyntaf Bangor, o'r gronfa i'r dref."

Roedd y tri ohonom a fu wrthi am oriau yn y glaw a'r rwbel wedi datguddio tamaid diddorol o hanes y ddinas, ond nid peipen ddŵr o unrhyw ffynnon sanctaidd - dyma fi wedi cael ail. Euthum yn ôl at y map hynaf a gweld fod y lluniwr wedi cynnwys graddfa fesur ar y gwaelod. Dychwelais at y safle gan wneud yr hyn y dylswn fod wedi ei wneud cyn dechrau'r miri; derbyn bod y raddfa yn un gywir er mor aflunaidd y map, a defnyddio tâp mesur er mwyn nodi union safle Ffynnon B mewn perthynas â hen wal gerrig. Ac yn wir, roedd y fan lle buom ni'n gweithio fymryn yn rhy bell i'r de, o rhyw ddwylath neu dair. Roedd y  man cywir ychydig y tu ôl i'r lle safai'r jac codi baw.

Dydw i ddim am ddigalonni. Mi a'i ati i chwilota cofnodion am unrhyw wybodaeth bellach ac os gwelaf dystiolaeth mai Ffynnon B yw Ffynnon Ddeiniol, fe fyddaf yn fodlon. Mi wn i rwan lle y mae hi, a serch ei bod wedi ei chladdu o dan ysbwriel y blynyddoedd, rwy'n gwybod hefyd bod modd symud hwnnw ymaith, ond i rywun fod yn ddigon penderfynol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Hen ddihareb o Cymru Fu (1862): Ni wyddis werth y ffynon hyd onid elo'n hesb.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON EILIAN, LLANEILIAN YN RHOS

Gellir mynd at y ffynnon enwog hon drwy ddringo i fyny’r allt yn union gyferbyn â giatiau Parc Eirias ym Mae Colwyn. Mae ar dir fferm o’r enw Cefn Ffynnon. Am fod y ffynnon wedi cael ei defnyddio am flynyddoedd fel ffynnon rheibio a melltithio cafodd ei dinistrio. Bellach mae perchennog Cefn Ffynnon wedi ei hadfer. Gwelwyd hi ar un o raglenni Trevor Fishlock yn ddiweddar.

FFYNNON CYNFRAN, LLYSFAEN

Beth amser yn ôl buom fel Cymdeithas yn ysgrifennu fwy nag unwaith at y Cyngor Bro lleol i weld a allent ddweud wrthym lle’r oedd y ffynnon gan iddi gael ei cholli. Aethom i chwilio amdani a chredu’n siŵr ein bod wedi dod o hyd i safle debygol ym mynwent yr eglwys. Ar yr un rhaglen deledu ag y cyfeiriwyd ati uchod gwelwyd dynion yn glanhau’r ffynnon a honno yn yr union fan yr oeddem ni wedi ei nodi. Wn i ddim a allwn ni fel Cymdeithas gymryd unrhyw glod am yr adfer. Beth sy’n bwysig yw fod safle’r ffynnon yn wybyddus unwaith eto. Roedd yn enwog ers talwm fel ffynnon lle gellid bendithio gwartheg.

FFYNNON GARON, TREGARON

Mae nifer o ieuenctid Tregaron wedi mynd ati i ailgodi’r hen arferiad o fynd at Ffynnon Garon i yfed dŵr a siwgwr. Yn y gorffennol byddai pobl ifanc yn ymgynnull wrth y ffynnon ar yr wyl fabsant a hefyd adeg y Pasg. Roedd yn arferiad hefyd i gariadon dod ag anrhegion o fara i’w gilydd, ei fwyta ac yna ei olchi i lawr gyda dŵr y ffynnon. Mae arwydd i’w osod ar y briffordd uwchwchben y ffynnon yn dangos y fynedfa i’r llwybr sy’n arwain ati. Mae’r gwaith sydd wedi ei wneud eisoes yn wych a phont o bren wedi ei chodi dros y nant sy’n goferu ohoni. Er bob gofal mae tyfiant yn tueddu i dagu’r llwybr a bydd angen gwaith cyson i’w gadw ar agor, ond diolch am bob ymgais i ddiogelu’r ffynnon a’r tir o’i chwmpas. (Gweler mwy am Ffynnon Garon ar yr erthygl Ffynhonnau Ceredigion yn y rhifyn hwn.)

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Annwyl Olygydd…Annwyl Olygydd…..Annwyl Olygydd…

Annwyl Olygydd,

Pleser gennyf yw adrodd ar yr hyn sydd eisoes wedi ei wneud i drefnu teithiau cerdded o gwmpas y ffynhonnau yn ardal Meifod.

 Mae Jill Turner, Nigel Wallace, Paul Wigmore a minnau wedi penderfynu ar y daith yn ardal y Foel a Llangadfan, ac unwaith y bydd Nigel wedi cael gair gyda’r tirfeddianwyr byddwn yn mynd ati i ysgrifennu manylion y daith ar gyfer pamffledyn Menter Maldwyn fydd yn ymddangos yn Eisteddfod Genedlaethol 2003. Yn fras bydd fel a ganlyn: Parcio ym maes parcio’r Foel, cerdded ychydig lathenni ar hyd y ffordd fawr cyn troi i’r dde ac heibio i’r Hen Ficerdy a dringo rhiw eithaf serth tuag at eglwys Garthbeibio ar y bryn. Wrth fynedfa lôn gul i'r dde cyn cyrraedd yr eglwys mae FFYNNON DDU yn y gwrych ar y chwith. Mae’r dŵr yn llifo i ddraen ar ochr y ffordd. (Bu hen gawg cerrig yno ar un adeg i ddal y dŵr o’r pistyll ond fe’i symudwyd gan Gyngor Sir Powys am fod y dŵr yn tasgu i’r ffordd). Rhaid dal i ddringo i fyny gweddill yr allt at yr eglwys ac ar draws cae ar hyd llwybr cyhoeddus at FFYNNON TYDECHO. Roedd y tir yn lleidiog iawn pan fuom ni yno a hyn yn ei gwneud yn anodd closio at y ffynnon. Cawsom fod FFYNNON RHIGOS wedi diflannu. (Os am awgrymu lle i oedi am baned byddai'n bosib trefnu 'mlaen llaw gyd chaffi Dyffryn. Yna cerdded ymlaen o'r ffynnon trwy lidiart a heibio i'r tŷ ar y dde i lawr at y briffordd, yna ychydig lathenni ar hyd y ffordd fawr at y caffi.)

  Dychwelyd i'r maes parcio yn y Foel lle gallwch ddewis un ai gorffen y daith neu gerdded heibio i'r maes parcio a dringo ffordd ychydig yn serth i ymweld a FFYNNON GADFAN sydd wedi ei lleoli i'r chwith o ganol y pentref ac ar y chwith tua chanllath i ffwrdd. Mae mewn cyflwr eithaf da a grisiau yn mynd i lawr ati. Mae Nigel yn bwriadu cael gair gyda dyn lleol ynglyn â'r hysbysfwrdd wrth fynedfa'r ffynnon gan y bydd angen trwsio'r gwydr a gosod gwybodaeth am y ffynnon ynddo erbyn Awst 2003.

  Byddwn yn mynd ar daith ffynhonnau Llanfair Caereinion ar Ebrill 23ain a fydd yn cynnwys FFYNNON FAIR sydd yn y pentref y tu ôl i'r eglwys a FFYNHONNAU MADOG (pedair ohonynt). Mae Jill a minnau wedi sgwrsio a pherchennog y tŷ Madog's Wells, Mrs Ann Reed, sy'n cadw gwely a brecwast, ac mae'n hapus i gydweithio â ni. Ar hyn o bryd mae cyrraedd dwy allan o'r pedair ffynnon braidd yn anodd, ond mae'r perchnogion yn barod iawn i wneud rhywfaint o waith clirio er mwyn hwyluso ymweliad cerddwyr. Cewch fwy o wybodaeth cyn bo hir.

  Nia Rhosier, Pontrobert, Meifod.

  Diolch o galon i Nia am ei gwaith. Mae'n enghraifft wych o beth ellir ei wneud pan fo gan bobl ddiddordeb yn ffynhonnau eu hardal a'r ewyllys i'w diogelu. (Gol.)

Annwyl Olygydd,

Rwyf wedi bod yn gwneud tipyn o holi ynglyn â Ffynnon Gadfan, Llangadfan. Roeddwn wedi sylwi ers tro bod y ffynnon yn mynd a'i phen iddi ac yn enwedig ers i ŵr o'r enw John Foxley farw rai blynyddoedd yn ôl. John wnaeth atgyweirio'r hen ffynnon gan ysgrifennu amdani yn y ddwy iaith ar lechen enfawr a thrwm. Diflannodd y cyfan sbel yn ôl. Gofynnais amdani i Harri Foxley, ewythr John, a chefais fwy o synnwyr fo na ches i gan neb arall yn y fro. Fel rwy'n deall mae pobl yr eglwys wedi ymddiddori'n fawr yn y ffynnon ond nid nhw piau hi. Harri Foxley sydd biau'r tir neu ddarn ohono a'r cyngor lleol sydd biau'r gweddill. (Mae'r ffynnon ar ochr y ffordd.)

Ers tro mae'r llechen enfawr yng ngweithdy Alan Stopes, Caethle, yn Llangadfan. Pan godais y ffôn i siarad ag ef roedd yn amheus ohonof yn y lle cyntaf gan fy nhrin fel ysbiwraig! Beth bynnag cawson sgwrs hir ond heb ddod i unrhyw ddealltwriaeth. Dywedodd ei fod yn y broses o ail ysgrifennu’r Saesneg oed ar y lechen ond nid oedd yn gwybod beth i wneud am y Gymraeg - rhyfeddol ac yntau'n byw ynghanol Cymry ers 12 mlynedd. Yn ddistaw bach ni fyddwn yn synnu pe bai'r llechen wedi mynd 'nôl wrth y ffynnon yn uniaeth Saesneg. Yn y diwedd dywedodd mai prinder arian fyddai'n rhwystro iddo ei hatgyweirio go iawn.

Cwestiwn - tybed a ddylwn i ddynesu at y cyngor am gefnogaeth neu rhyw gorff arall? Roedd Alan Stopes yn teimlo'n euog gan awgrymu y dylai, efallai, ddychwelyd y llechen i Harri Foxley. O leiaf mae hi'n ddiogel yn ei weithdy ef yn Caethle. Mae Alan Stopes erbyn hyn yn gwybod am fodolaeth ein Cymdeithas ac yn gwybod hefyd y byddaf yn cadw llygad barcud ar ddwyieithrwydd y llechen. Beth yw'r cam nesaf? Dyna ydi'r cwestiwn.

Eluned Mai Porter, Llangadfan, Powys.

Diolch i Mai am fod mor ofalus o Ffynnon Gadfan. Darllenwyd ei llythyr yng nghyfarfod Cyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Cytunwyd i gysylltu a Mai ynglyn a'r llechen. Teimlwyd os oedd angen help ariannol i adnewyddu'r llechen y byddem fel Cymdeithas yn gallu bod o gymorth. (Gol.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I DRI AELOD NEWYDD

I GYNGOR CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Nia Rhosier, Pontrobert, Meifod, Powys.

Dr. Ann E. Williams, Clynnog Fawr, Gwynedd.

Gwyn Edwards, Llanddeiniolen, Gwynedd.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU PWLLHELI

(Detholiad yw'r hyn sy'n dilyn o wybodaeth a godwyd o gyfrol D. G. Lloyd Hughes, Hanes Tref Pwllheli. Gwneir hyn gyda chaniatad caredig y cyhoeddwyr, Gwasg Gomer, Llandysul.)

Bendithiwyd hen drigolion Pwllheli â chyflenwad da o ddŵr croyw i'w yfed ac agorwyd llawer o ffynhonnau, rhai yn yr awyr agored ac eraill yn y tai. Pan gynyddodd y boblogaeth o gwmpas 1740 derbyniodd y Gorfforaeth gyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r ffynhonnau cyhoeddus fel Ffynnon Tan-y-clawdd (Stryd Moch), Ffynnon-y-bracty (Pentrepoeth, hwyrach), Ffynnon Penlan a Ffynnon-yr-Onnen (Stryd Kingshead a'r Gors). Gellid gweld o leoliad y ffynhonnau hynny eu bod mewn mannau hwylus i drwch y boblogaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Ffynhonnau agored oedd rhai ohonynt ond gwyddys fod pwmp wedi ei osod ar un yn gynnar iawn, oblegid, yn 1761 ceir sôn am drwsio'r pwmp ar Ffynnon Penlan ac yn 1766 gorchmynnwyd fod pwmp i'w osod ar Ffynnon-yr-Onnen. Daw adlais o broblemau glendid cyhoeddus o'r flwyddyn 1779 pan benderfynwyd gosod clo ar bwmp Ffynnon Penlan (un a adwaenid erbyn hynny yn Bwmp y Dref) a gwaharddwyd pobl rhag gadael casgenni a chelyndrau yng nghyffiniau'r ffynnon, a'r rheini'n llawn o ddŵr, ar boen dirwy o hanner coron. Yn 1797, wedyn, cyfeiriwyd at bobl mor ddi-hid o lendid y ffynhonnau fel y buont yn golchi clytiau, mopiau a bareli yn Ffynnon-yr-Onnen lle gellid, mae'n debyg, gyrraedd y dŵr heb ddefnyddio'r pwmp. Ni cheir cyfeiriad at olchi dillad yn y ffynhonnau, ond mae'n bosib fod rhai o'r ffynhonnau eraill wedi'u defnyddio i'r diben hwnnw.

Yn 1803 agorodd y Gorfforaeth ffynnon newydd ger Pwll George yn Stryd Penlan ac yn 1833 gosodwyd pwmp ar Ffynnon Stryd y Farchnad. Yr oedd y boblogaeth yn cynyddu a'r Gorfforaeth yn gorfod wynebu'r ffaith fod galw am fwy o ddŵr yn dwyshau'r sefyllfa, ond eto mae'n bwynt o bwys nad oes sôn am ddŵr yng nghofnodion cyngor y dref o'u dechreuad yn 1836 tan 1866 pan drefnwyd dadansoddiad gwyddonol o ddŵr y ffynhonnau am y tro cyntaf. Yr oedd yn hen bryd i rywbeth ddigwydd oblegid mewn llythyr yn y wasg yn 1861 datgelwyd fod un ddynes wedi troi ati ar ei liwt ei hun i lanhau ffynnon gerllaw Ysgol Penlleiniau ar ôl ei chael yn llawn o gerrig, ysbwriel a baw, heblaw fod rhan o gorff plentyn mewn cyflwr pydredig iawn ynddi hefyd.

Y mae'n glir, o'r cofnodion, fod y cyngor wedi ychwanegu ffynhonnau eraill at y rhai cyhoeddus, fel rhai Lôn Caernarfon (1866), Pentre'rwanc (1873) a'r Traeth (1874) a darparwyd Ffynnon Allt Salem (yngyd â phwmp) yn 1875 ar gyfer y tai newyddion a godwyd yno. Erbyn canol y saith-degau yr oedd y boblogaeth dros dair mil a'r sefyllfa yn galw am bolisi goleuedig. Tra bu'r cyngor yn trafod ymddangosodd adroddiad annibynnol ar gyflwr y dŵr ym Mhwllheli yn 1877. Dadansoddwyd samplau o ddŵr ffynnon a dŵr glaw a gronnwyd mewn celyndrau, heb ddarganfod dim a allai fod yn niweidiol i iechyd, ond yr oedd blas mawnog ar ddŵr y ffynnon ac arogl cas arno, cyflwr a ddengys fod y dŵr wedi ei hidlo drwy haenau llysieuol.

Yn y diwedd bu'r dref yn ffodus o gael cwmni o Fanceinion i weithredu cynllun i gael dŵr trwy bibau o Fur Cwymp, y tu draw i'r Ffôr, a chodi cronfa ailraddol ger Nantystigallt, ar yr Allt Fawr. Ond y dechreuad yn unig oedd hwnnw oblegid cymerodd flynyddoedd cyn i'r mwyafrif o'r tai gael eu cysylltu, a dibynnid ar y ffynhonnau i raddau helaeth am bron ugain mlynedd arall. Roedd yn well gan lawer o'r trigolion beryglu eu hiechyd drwy dynnu dŵr o'r ffynhonnau, ffynhonnau a lygrwyd yn achlysurol ar hyd yr amser, yn enwedig y rhai prysuraf fel Ffynnon Tan-y-clawdd a Ffynnon Stryd y Farchnad, na thalu am ddŵr gan y cwmni. Enwyd y pwysicaf o ffynhonnau'r dref eisoes ond wele restr o ffynhonnau eraill a ddefnyddid gan y cyhoedd yn y dref: Ffynnon y Berllan, Lôn yr Ala; Ffynnon y Winllan Yr Ala Uchaf; Ffynnon Sgifftan, Pentrepoeth; Ffynnon y Fedwnant, Lôn Caernarfon; Ffynnon Lôn'Berch, rhwng rhifau 13 ac 14 Lôn Aber-erch, Ffynnon Baxter ar gyffordd y Lôn Dywod a'r Stryd Fawr; Ffynnon Troed yr Allt; Ffynnon Tai Morfa, (o dan dai cyngor), a Ffynnon Talcymerau Bach.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU CEREDIGION

 (Addaswyd y detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe, eto drwy caniatâd caredig y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)

Saif eglwys Henfynyw ar ben rhiw serth sy'n arwain i fyny o dref Aberaeron. Heb fod ymhell o'r eglwys ac yn agos i gapel Ffosyffin mae ffynnon wedi ei henwi ar ôl y nawddsant. Am flynyddoedd ystyrid dŵr y ffynnon hon yn feddyginiaethol, a chynhorid pawb oedd yn welw a llwyd ei wedd i ddrachtio ohoni, a golchi eu hwynebau yng ngwlith y ceirch gwyn a dyfai o gwmpas. Ceir amryw o ffynhonnau eraill yng Ngheredigion wedi eu henwi ar ôl Dewi; un gerllaw Gallt yr Odyn ym mhlwyf Llandysul, un tua milltir neu ddwy wedi gadael Synod ar y ffordd i Aberteifi ac un arall tua milltir o Landdewibrefi. Dywed traddodiad i'r olaf darddu yn wyrthiol pan adferodd Dewi fab y weddw adeg y Gymanfa Fawr yn Llanddewibrefi pryd y cododd y ddaear o dan ei draed. Ffynnon ryfeddol arall yn Llanddewi oedd Ffynnon y Ddôl Gam. Dŵr o hon fu'n llifo i dap y pentref am ugeiniau o flynyddoedd. Sefydlodd Bec, Esgob Tyddewi, goleg yma yn 1187 a chredir mai ffynnon y myneich oedd hon.

Ym mhentref Llan-non, a saif ar y briffordd o Aberystwyth i Aberaeron, ceir Ffynnon Non. Dywedir bod eisteddleoedd o amgylch y ffynnon hon gynt, a bod lliaws o bobl yn ymweld â hi ar ddydd gŵyl y Santes, sef Mawrth y trydydd. Teflid arian iddi fel offrwm, a chredai'r bobl y gwireddid eu dymuniad os oedd eu ffydd yn ddigon cryf ac yn enwedig os offrymid arian ac os y cedwid y dymuniad yn ddirgel. Ceir ffynnon arall yn Llan-non i goffáu'r Santes Ffraid, ac erys hen bennill ar lafar gwlad o hyd,

Yn Llansantffraid mae ffynnon

Sy'n gwella pob clefydon,

Ac mae hi'n tarddu fel y gwin

O hyd trwy rin y person.

Ffynnon nodedig arall oedd Ffynnon y Pererinion yn agos i bentref Llangwyryfon. Bu adeg pan gyrchai pobl o bob cwr o Gymru i Langeitho i addoli ac i wrando ar y diwygiwr, Daniel Rowlands, yn pregethu. Cyrchai pobl sir Gaernarfon a gogledd Cymru yno bob yn eilfis oherwydd y pellter. Os byddai'r hin yn ffafriol hurient gwch o Aberdyfi i Aberystwyth a chychwynnent ar ddydd Gwener er mwyn cyrraedd pen eu taith erbyn y Sul. Os mai cerdded pob cam a wnaent cychwynnent ar ddydd Iau, ac yr oedd cytundeb rhyngddynt ag eraill i gyfarfod am naw fore Sadwrn wrth ffynnon gerllaw Llangwyryfon. Dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon y Pererinion. Wedi bwyta tocyn o fara a chaws ac yfed o ddŵr y ffynnon â'i dau neu dri i weddi cyn ailgychwyn i Langeitho. Canent emynau ar eu pererindod ac roedd gwledd arall yn eu haros wedi cyrraedd pen y daith.

Hen fod ymhell o Langeitho mae tref fechan Tregaron. Yn naturiol roedd amryw o ffynhonnau yn y cylch a gelwid un ohonynt yn Ffynnon y Gors. Credid bod meddyginiaeth yn ei dyfroedd i'r gwan a'r afiach. Dyma sut y canodd un bardd iddi:

Ar lan y Teifi lonydd y tardda ffynnon fwyn,

O gellau'r Fannog Beunydd heb gysgod craig na llwyn.

Hen ffynnon goch Cors Caron yw enw'r darddle lon,

Ac ni rydd haf na gaeaf fyth glo ar enau hon.

Gelwid y llall yn Ffynnon Caron ac mae Gŵyl Sant Caron ar y pumed o fis Mawrth. Arferai plant yr eglwys fynd i'r ffynnon yma ger Glanbrenig ar Ŵyl Sant Caron i yfed dŵr a siwgwr brown. Roedd pob un yn dod â photel fach a thipyn o siwgwr brown yn ei gwaelod. Wedi cyrraedd y ffynnon byddent yn ffurfio yn hanner cylch oddi amgylch a phob un yn ei dro yn llanw ei botel a dŵr. Byddai pob un wedyn yn siglo'r botel nes toddi'r siwgwr ac yna yfed pob diferyn gyda'i gilydd a dyna'r seremoni drosodd am flwyddyn arall.

Saif pentref Llangybi ar y ffordd sydd yn arwain o Dregaron i Lanbedr Pont Steffan. Enw'r ffynnon gerllaw'r pentref oedd Ffynnon Wen neu Ffynnon Gybi a dywedid bod iddi hithau allu meddyginiaethol. Arferai carreg enfawr fod o fewn chwarter milltir i'r fan a gelwid hon yn Llech Cybi. Credai rhai a ddeuai i yfed o'r dŵr fod yn rhaid cyffwrdd â'r llechen hefyd cyn cael llwyr iachâd.

Ym mhlwyf Llanwenog yn Nyffryn Teifi roedd ffynnon doreithiog nad oedd pall ar ei bwrlwm sef Ffynnon y Brodyr. Gan nad oedd ymhell o adfeilion yr hen briordy, iddi hi y deuai'r myneich i gyrchu dŵr ac i ddrachtio ohoni. Ceid ffynnon arall islaw mynwent eglwys y plwyf a elwid yn Ffynnon Wenog. Cyn toriad gwawr arferai mamau ddod â'u babanod eiddil a'u hymolchi yn y dyfroedd clir, grisialaidd, a thystid iddynt gryfhau wrth wneud hynny.

Heb fod ymhell o darddle Nant Cwm Steddfa ym mhlwyf Llangrannog yr oedd Ffynnon Groes. Yma, medd traddodiad, yr arferai'r pererinion yfed o'i dyfroedd, fwyta eu tocyn, a gwneud arwydd y groes cyn ailgychwyn ar eu taith i Langrannog. Ym mhentref Llangrannog roedd ffynnon wedi ei chysegru i'r Forwyn Fair a gelwid hi yn Ffynnon Fair. Yn agos i'r ffynnon hon gwnaeth Caranog Sant ei gell tua diwedd y chweched ganrif.

Ceir ambell ffynnon hefyd ag iddi gysylltiad hanesyddol, megis Ffynnon Fadog yn ardal Penmorfa. Dywed rhai mai Ffynnon Waedog y gelwid hi gynt a bod yr enw'n llefaru am y cadau creulon a'r tywallt gwaed a fu.

Erbyn heddiw glasodd y llwybrau at y ffynhonnau, anghofiwyd amdanynt ac am y clod a berthynai iddynt gynt.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR

Dyma enw dwy ffynnon o sir Frycheiniog y gwelodd Erwyd Howells gyfeiriad atynt yn y gyfrol Cerddi'r Mynydd Du gan William Griffith a gyhoeddwyd yn 1913:

FFYNNON Y BRANDI - ar ochr Bryn Llywel, Crai.

FFYNNON Y CWAR - sy'n llifo i lyn Cwar ac yn i afon Giedd uwchlaw Cwmgiedd.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN…

Daeth yn amser talu tâl aelodaeth unwaith eto….dydi blwyddyn yn para dim!

Byddai'r Trysorydd, (K.Ll.Gruffydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH, yn falch o dderbyn cyfraniadau'r aelodau sy'n anfon eu tâl drwy'r post, gyda'r daflen bwrpasol, mor fuan ag sy'n bosibl, os gwelwch yn dda. Diolch.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU - SIR BENFRO, TYDDEWI

CYFARFOD CYFFREDINOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU

DYDD MERCHER, AWST 7ed, 2002 o 12.00 - 1.00.

ac i ddilyn darlith gan Eirlys Gruffydd

FFYNHONNAU A'U DEFODAU

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch eich gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH.

Is-olygydd: - Esyllt Nest Roberts, Carreg Bach, Ffordd Ffrydlas, Carneddi, Bethesda, Gwynedd.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argreffir gan H.L. Boswell a'i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up