Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 10  Haf  2001

 

FFYNNON GWYDDFAEN

Llandyfân 

Dewi Lewis

 Saif Ffynnon Gwyddfaen ym mhentref Llandyfân, Sir Gaerfyrddin. Mae'n syndod bod y safle yn ddieithr, fwy neu lai, i'r rhai sy'n byw yn gymharol agos ati hyd yn oed. Cysegrwyd y ffynnon i Sant Dyfan a fu'n cenhadu yng Nghymru yn ystod yr ail ganrif, yr un adeg â Sant Ffagan. Bu'n lle pwysig i Gristnogaeth o'r amser hwn ymlaen a chafwyd sawl digwyddiad lliwgar yn gysylltiedig â'r safle. Mae Francis Jones yn ei lyfr The Holy Wells of Wales (tud. 60-61) yn cyfeirio at un digwyddiad o'r fath yn ardal Llandeilo Fawr tua 1594:

'In their Bill of Complaint in the Star Chamber against Morgan Jones of Tregib (a squire descended from Urien Rheged, Griffith Gillam and Rice Morgan, averred that two years previously a commission had been issued to John Gwyn Wiliams by the Council of the Marches, for the suppression of pilgrimages and 'idolatrous places' and especially a well, known in the Llandeilo-Fawr district as Fynnon Gwiddvaen. At this well, Williams apprehended a large number of persons whom he brought before Mr Jones, who, not only refused to imprison, but even to examine them. In his Answer, Morgan Jones admitted that 'some poor sickly persons' who had gone to the well to wash 'hoping by the help of God thereby to have their health', had been brought before him by Williams, but he thought harmless and discharged them. He also admitted that Wiliams had told him that there were some two hundred or more people still left unapprehended at the well'.

Mae'r adroddiad uchod nid yn unig yn adlewyrchu pwysigrwydd y safle ond hefyd yn awgrymu bod y bobl yn arfer trefnu pererindodau at ffynhonnau. Yn ddiweddarach, yn 1811, yn ei lyfr Topographical Dictionary of Wales , dywedodd N. Carlisle fod pobl yn cyrchu yno gan fod y dŵr yn cael ei yfed er mwyn iachâd o 'paralytic affections, numbness and scorbutic humours'. Yn ei lyfr Beauties of South Wales dywed T. Rees ei bod yn arferiad yfed dŵr y ffynnon allan o benglog dynol, ond erbyn 1815 mae'n debyg bod 'the reputation of this skull was in a great degree lost'.

Mae'n debyg bod capel wedi ei adeiladu ar y safle yn ystod yr Oesoedd Canol a'i fod wedi goroesi hyd at y ddeunawfed ganrif. Bu'n lle poblogaidd ar gyfer chwaraeon o bob math a chyrchai pobl yma yn enwedig ar y Sul. Canlyniad yr holl gyrchu i'r safle oedd i Arglwydd Mansel o Fargam roi diwedd ar yr holl sbri, hynny yw, nes i Peter Williams ddod yma yn 1748 i bregethu. O ganlyniad i ymweliad Peter Williams daeth y lle yn ganolfan bwysig i weithgaredd y Bedyddwyr a dechreuwyd bedyddio aelodau newydd yn y ffynnon rhwng 1771 - 1787. Adeiladwyd capel newydd yno yn 1808. Nid oes unrhyw feddau yma gan nad oes digon o ddyfnder i'r ddaear a'r graig yn rhy agos i'r wyneb.

Erbyn heddiw gellir gweld y ffynnon yn hollol glir ar ffurf siambr pum metr sgwâr a thua dwy fetr o ddyfnder. Er mwyn mynd i mewn i'r ffynnon rhaid disgyn un ar ddeg o risiau cerrig. Llenwir y ffynnon yn gan ffrwd bwerus sy'n tarddu o un cornel. Er mwyn rheoli dyfnder y dŵr gellir defnyddio dorau i'w godi neu ei ostwng.

Gellir cyrraedd y safle hanesyddol a diddorol hon trwy ddilyn yr A483 o Rydaman i gyfeiriad Llandeilo. Tua hanner y ffordd rhwng y ddau bentref trowch i'r dwyrain gyferbyn â'r College Arms yn Derwydd. Dilynwch y ffordd yma am tua milltir nes dod at gyffordd. Peidiwch â chael eich temtio i fynd i gyfeiriad Castell Carreg Cennen (er bod ffynnon yno hefyd) yn hytrach gyrrwch i'r dde. Ar ôl tua hanner milltir fe welwch y capel ar y chwith. Drws nesaf iddo mae hen dy fferm a fu ar un adeg yn dafarn. Mae'r adeilad yma ynddo'i hun yn ddiddorol.

Os am ennyd dawel yn y wlad, beth am fentro i gael cip ar Ffynnon Gwyddfaen.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COLLI AELOD GWERTHFAWR

Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth sydyn ein cyn Is-gadeirydd, Mr Iorwerth Hughes, Trefnant, ger Llanelwy, ar 20fed Ragfyr, 2000. Roedd yn aelod ffyddlon a brwdfrydig iawn o'n cymdeithas ac wedi cyfrannu fwy nag unwaith i Llygad y Ffynnon. Camodd i'r adwy drwy gadeirio un o'n Cyfarfodydd Cyffredinol yn absenoldeb anorfod ein Cadeirydd. Gŵr Bonheddig oedd Iorwerth, un yr oeddem yn ei edmygu am ei bwyll a'i ddoethineb wrth lywio cyfarfod. Byddai ei sylwadau yng nghyfarfodydd y Cyngor bob amser yn adeiladol ac ymarferol. Wrth anfon ei dâl aelodaeth byddai bob amser yn rhoi mwy o lawer nag oedd ei eisiau er hybu gwaith y gymdeithas. Diolch am gael y fraint o'i adnabod. Anfonwyd gair o gydymdeimlad at ei deulu a chyfraniad ar ran y Gymdeithas er cof amdano.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EICH LLYTHYRAU

Annwyl Olygydd

Pan symudais i fferm Ffynnon Dudur, Llanelidan, sir Ddinbych, ddiwedd 1941 fe'm sbardunwyd i ymchwilio i hanes y lle. Gwelais fod y ffynnon wedi ei henwi ar ôl sant a'i bod wedi'i chofrestru gan Francis Jones yn ei gyfrol The Holy Wells of Wales fel un o ffynhonnau sanctaidd Cymru. Mae ffynnon arall o'r un enw ym mhlwyf Llangeler, sir Gaerfyrddin. Roedd teulu o seintiau wedi dianc o FangorIs-coed, ar lannau afon Dyfrdwy pan ddifrodwyd y fynachlog yno, ac wedi aros am ysbaid yn Nyffryn Clwyd ar eu ffordd i Enlli. Aelodau eraill o'r teulu hwn oedd Marchell a'i brodyr Teyrnog, Deifer, a Thyfrydog. Sefydlodd Marchell yr Eglwys Wen ger Dinbych, Teyrnog yn Llandyrnog, Deifer ym Modfari a Thyfrydog ar Ynys Môn. Tybed a arhosodd Tudur fel meudwy yn Llanelidan? Mar Rhydymeudwy gerllaw a chaeau o'r enw Tudur Mawr a Bryn Tudur yn yr ardal.

Yn sicr, os bu i Tudur fendithio'r ffynnon ganrifoedd yn ôl, mae'r fendith yn parhau hyd heddiw. Bu'n drysor mawr i ni sawl tro. Roedd gennym dap dŵr oer yn y tŷ ac un arall ger y stabl, ond yn ystod gaeaf 1947 roedd y pibelli wedi rhewi yn y ddaear am wythnosau a doedd dim amdani ond torri llwybr drwy'r eira at y ffynnon, rhyw hanner canllath o'r tŷ. Yna, yng ngwres mawr 1976, sychodd cyflenwad dŵr y ffermydd cyfagos a bu'n rhaid cludo dŵr iddynt mewn tanceri. Ond yn aml byddai'r dŵr wedi gorffen cyn i fwy gyrraedd a byddent yn dod atom ni a llanw caniau llaeth deg galwyn o ddŵr y ffynnon. Cymaint oedd y galw nes i ni logi JCB i wneud llyn yng Nghae Ffynnon er mwyn i'r dŵr gofer redeg iddo ac i hwyluso codi'r dŵr i'n cymdogion. Roedd ein stoc ninnau yn yfed ohono deirgwaith y dydd. Wedyn roedd gennym beiriant olew i bwmpio'r dŵr ar draws y ffordd. Anghofia i byth y pictiwr - gwartheg, defaid, moch, gwyddau ac ieir yn yfed o'r un tanc a'r dŵr ohono'n diflannu cyn gynted ag y llifai i mewn iddo, a'r adar bach yn yfed y diferion o'r llawr.

Rwy'n enedigol o Farian Cwm, ger Dyserth, a chofiaf Mrs Denson, Pwllhalog, yn dweud wrthyf ei bod, pan oedd yn byw yn y Bwlch, yn mynd i lawr yr allt ar dywydd poeth i nôl dŵr oer iawn o Ffynnon Leucu i olchi'r menyn ar ddiwrnod corddi. Cofiaf y lle yn dda ac roedd drysau pren ar y ffynnon. Mae un o'r teulu yn dal i fyw yn Pencefn Isa, Trelawnyd. Mae'r tŷ ar godiad, ac o fewn llathen i'r drws ffrynt mae ffynnon ddofn, gron, lle byddent, yn fy mhlentyndod, yn gollwng bwcedi ar raff tua thair llath o hyd er mwyn cael cyflenwad dyddiol i'r tŷ.

Mae ffrind gennyf yn byw ym Maerdy Ucha, Gwyddelwern, lle mae ffynnon yn y dairy yn y tŷ. Onid oedd pobl ers talwm yn gall? Roedd pob ty yn cael ei adeiladu o fewn tafliad carreg i ffynnon. Mae'n rhaid bod cannoedd o ffynhonnau a'u henwau wedi mynd yn angof, ac fel enwau tyddynnod a chaeau, ond mae'n dda cael rhannu fy atgofion fel hyn.

Eirlys Jones, Gellifor, Rhuthun.

Annwyl Olygydd,

Dyma dipyn o hanes Ffynnon Cae Person. Fel yr awgryma'r enw, ffynnon yw hon ar waelod cae yn perthyn i Eglwys Twrog Sant, Llanddarog, pentref rhyw chwe milltir o dref hynafol Caerfyrddin, ar y ffordd i Abertawe.

I fynd i Gae Person, rhaid mynd trwy'r gât rhwng yr eglwys a thafarn y Butchers i lawr am fferm Cwmisgwyn. Ar yr ochr dde ar waelod y cae rhaid disgyn i lawr at y ffynnon. Mae'r muriau ar dair ochr y ffynnon yn dal yn gadarn ond agored yw blaen y ffynnon. Cyn i'r awdurdod lleol ddod â dŵr i'r pentref, dyma oedd cyrchfan y pentrefwyr pan oeddynt yn dod i nôl dŵr. yn y dyddiau a fu roedd yn arferiad i lanhau'r ffynnon cyn ffair Llanddarog a gynhelir ym mis Mai. Rheol arall gan y pentrefwyr oedd nad oedd neb i fynd i nôl dŵr ar y Sul. Mae'r ffynnon yn dal yn llawn o ddŵr ac nid oes sôn iddi sychu erioed.

Ymwelais â'r ffynnon ychydig fisoedd yn ôl a chyda siom fe sylweddolais nad oes llwybr i lawr ati erbyn heddiw. Bu unwaith lwybr yn goch gyda cherddediad. Yn wir, mae'r drain a'r mieri wedi tyfu cymaint nes ei gwneud yn anodd iawn i fynd at y ffynnon, ond fe lwyddais i gyrraedd ati a gweld yr hen ffynnon mor fyw ag erioed. Deallaf fod cangen leol o Ferched y Wawr wedi bod yn trafod y posibilrwydd o wneud gwaith o amgylch y ffynnon ond fod problemau wedi rhwystro hyn.

Hwyrach y byddai o ddiddordeb i nodi bod tyddyn o'r enw gwernogydd y tu draw i Gwmisgwyn, ac mai i fab y lle hwn, John Williams, y mae'r diolch fod gennym lun o'r Per Ganiedydd, William Williams, Pantycelyn - ond stori arall yw honno.

Meurig Voyle, Dinbych.

(Tybed ai yr un yw hon â'r Ffynnon Sanctaidd y cyfeiriad Francis Jones ati? Mae'n ei disgrifio fel 'over a mile NE of Llanddarog parish church within a small enclosure three feet square by two feet deep; the overflow passes into a stone trough two feet by one and a half feet'.)

Mae cyfeiriad ati yn y gyfrol ar Henebion Sir Gaerfyrddin. (Gol.)

Annwyl Olygydd,

Diolch am rifyn Nadolig 2000 o Lygad y Ffynnon. Mae ei gynnwys yn ddiddorol iawn. Tynnwyd fy sylw yn arbennig gan nodyn Mr D. Gwyn Jones. Dygodd i'm cof y dŵr oeraf a brofais - dwr Ffynnon Penyffrith, Nannerch, ger yr Wyddgrug. 

Roeddem yno ar ein gwyliau fel teulu a dywedodd fy nhad, o bopeth yr oedd yn dymuno ei ddangos i ni o'i ddyddiau yno, oedd cael profi dŵr Ffynnon Penyffrith. Hogyn oeddwn i ar y pryd. Cododd fy nhad wydryn o'r dŵr. Yr oedd ager mor drwchus ar y tu allan i'r gwydryn fel na ellid gweld faint o ddŵr oedd ynddo. Pan euthum i'w yfed ni allwn gymryd ond llymaid bach iawn ohono gan mor oer ydoedd. A oes dŵr ffynnon oerach nag ef yng Nghymru?

Trefor D. Jones, Cerrigmân, Pen-y-sarn, Amlwch.

Annwyl Olygydd,

Mae yna gruglwyth o ddeunydd parthed hanes Ffynnon Fair, Pen-rhys, Rhondda. Ymysg rhai o'r coelion gwlad diweddar am y ffynnon hon y mae'r gred, a fu'n gryf yn meddwl y brodorion, mai gwyrthiol bron oedd y dŵr i wella anhwylderau'r stumog, hyd yn oed rhai difrifol megis canser. Diddorol hefyd yw'r ffaith y Thomas & Evans agor ffatri bop a fu'n defnyddio dŵr o'r un ffynhonnau â Ffynnon Fair, er nad oes dim tystiolaeth i ddangos bod y pop hwn yn amgenach na'r pop a wnaed â dŵr cyffredin.

John Evans, Tonpentre, Rhondda.

Annwyl Olygydd,

Ar dir fy ffrind ym mhentref Nantgaredig, sir Gaerfyrddin, mae hen ffynnon a elwir yn Ffynnon Deilo. Dyma oedd enw tŷ fy nghyfaill tan y 1920au pan newidiwyd ef i Erw Lon. Gyferbyn mae bwthyn sy'n dal i gael ei alw yn Ffynnon Deilo. Ceir Ffynnon Deilo yn Llandeilo hefyd - efallai bod cysylltiad rhwng y ddwy. Ar hyn o bryd gwartheg sy'n defnyddio'r ffynnon. Mae'n tarddu o gerrig wrth ochr yr A40, ganllath a sgwâr Nantgaredig i gyfeiriad Llandeilo. Roedd Sôn amdani yn yr Archaeologia Cambrensis a gyhoeddwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. (Cyfeirnod Map - ardal Abertawe a Gŵyr 159: 496 / 217)

Rhobert ap Steffan, Llangadog.

Annwyl Olygydd

Enw fy nghartref yw Ffynnon Hiraeth ac rwy'n byw yn Henllan Amgoed ger Hendy-gwyn, yn sir Gaerfyrddin. Mae'n siwr fod mwy o ffynhonnau yn yr ardal hon nag unrhyw ardal arall, bron. Mae natur y graig yma - raben - a tharddiant da yn golygu bod mwy o fythynnod a thyddynnod i'r filltir sgwâr yn y gymdogaeth hon na llawer ardal. Mae enwau lleoedd yma yn nodi pwysigrwydd y dŵr. O dir y fferm gallaf weld nifer o fannau eraill sy'n dwyn yr enw 'ffynnon', er enghraifft Ffynhonnau, Blaen Ffynnon, a Ffynnon Iago.

Mae Ffynnon Hiraeth yn ganrifoedd oed. Mae hen bobl y gymdogaeth wedi eu magu i gredu ei bod yn ffynnon sydd wedi ei bendithio, a chred rhai mai dyna pam nad yw erioed wedi sychu. Dywedir fod Hywel Dda a'i gŵn hela wedi yfed ohoni wrth hela'r carw rhyw dro. Mae'r ffynnon mewn hollt yn y graig a charreg fawr wedi ei gosod drosti i greu ogof fechan sy'n llanw â dŵr. Bu'r ffynnon hon yn cyflenwi dŵr i ddau dŷ a thyddyn ac mae'n ddirgelwch nad yw erioed wedi sychu am nad yw'n ddwfn iawn a chan ei bod ar y man uchaf ar Fancyn Hiraeth. Dadansoddwyd y dŵr rai blynyddoedd yn ôl a chael fod iddo pH 5.5 ac fe restrwyd yr elfennau oedd ynddo. Nodwyd nad oedd unrhyw dystiolaeth fod ynddo lygredd wyneb y tir.

Dywedodd ffermwyr lleol wrthyf fel y bu iddo ef a chyfaill iddo, pan oeddynt yn fechgyn ifanc yn ystod y rhyfel diwethaf, fod yn dychwelyd ar hyd y llwybr ac i awyrennau'r Almaenwyr ddod uwchben ar ôl cyrch ym Mhenfro. Neidiodd y ddau ohonynt i'r ffynnon er mwyn bod yn diogel! Rwyf wedi gosod caead arni er mwyn diogelu y plant ond hon yw ein cyflenwad dŵr yfed o hyd.

Eirlys Beasley, Henllan Amgoed, Hendy-gwyn.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON LLYWELYN, CILMERI.

Mae'r ffynnon i'w gweld wrth fynd i lawr ochr dde'r bryn lle saif y gofgolofn. Buom yn ymweld â'r ffynnon rai blynyddoedd yn ôl gan sylwi ar ei chyflwr gwael. Yn ddiweddar fe'i hadnewyddwyd mewn modd addas a diogel ac mae'n werth ymweld â hi. Bellach mae arwydd yn arwain ymwelwyr at y ffynnon, a gratin haearn wedi ei osod drosti. Rhoddwyd arysgrifen bwrpasol wedi ei rhoi arni hefyd. Mae'n nodi mai yn y ffynnon hon y golchwyd pen Llywelyn ap Gruffydd wedi iddo gael ei ladd. Wrth ymweld â'r ffynnon, ym mis Awst 2000, gwelwyd fod darnau o arian ar ei gwaelod a hynny'n arwydd fod ymwelwyr wedi bod yno'n ddiweddar. I ni, fel cenedl, mae hon yn ffynnon gysegredig. Dyma fan ein geni. Hefyd mae'n cadw'n fyw yr hen gyswllt Celtaidd a fu gynt rhwng cwlt y pen a'r ffynnon.

  FFYNNON FYW, MYNYTHO, LLŶN.

Mae arwydd pwrpasol wedi ei osod i ddynodi safle'r ffynnon gan Gyngor Dwyfor. Diolch iddynt am fod mor ofalus o'r ffynhonnau hynafol yn yr ardal. Yn ddiweddar tynnwyd y mur oedd ar ochr orllewinol y ffynnon i lawr gan ei fod yn beryglus. Ond yn anffodus, bydd bellach yn haws i'r tyfiant o gwmpas y ffynnon ei chuddio ac i'r gwaith cerrig o'i chwmpas, ac yn wir y ffynnon ei hun, gael ei sathru dan draed ymwelwyr. Ar un adeg roedd y mur o gwmpas y ffynnon yn mesur tua phedair i bum troedfedd o uchder, a drws pwrpasol yn y mur i fynd iddi.

FFYNNON BEUNO, Y BALA.

Mae safle'r ffynnon bellach wedi ei diogelu a mur pwrpasol wedi ei godi o'i chwmpas. Nid oes unrhyw arwydd pryd y dechreuir ar y gwaith cloddio gan dim o archaeolegwyr o dan arweiniad Peter Crew. Rhaid bod yn amyneddgar wrth geisio adfer ffynhonnau!

FFYNNON CYNGAR, LLANGEFNI.

Mae'r gwaith o adfer Ffynnon Cyngar wedi ei gwbwlhau a threfnwyd gwasanaeth ger y ffynnon i'w hailgysegru. Derbyniodd y gymdeithas wahoddiad i fod yn bresennol yn y cyfarfod ym mis Mawrth ond fe'i ohirwyd oherwydd clwy'r traed a'r genau. Mae Warden Ynys Môn, Gareth Evans, wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i adfer y ffynnon  yn ôl Doris Thomas, ysgrifennydd cangen Llangefni o Sefydliad Merched a fu'n gyfrifol am y syniad o adfer y ffynnon fel prosiect dathlu'r milflwyddiant.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CRWYDRO FFYNHONNAU SIR DDINBYCH

Yn ei gyfrolau Crwydro Gorllewin Dinbych (1969) a Crwydro Dwyrain Dinbych ( 1961 ) mae'r diweddar Frank Price Jones yn cyfeirio at nifer o ffynhonnau'r sir. Dyma ddyfyniadau o'r ddwy gyfrol sy'n sôn amdanynt:

Crwydro Gorllewin Dinbych

Ffynnon Sara neu Ffynnon Pyllau Perl, Derwen (tud 52)

Gellir croesi o Dderwen, heibio i'r Capel Methodist yno, i'r ffordd wlad sy'n arwain o Glawddnewydd i Felin y Wig. Yno, gerllaw fferm Pyllau Perl, a ger y drofa i fferm y Braich, mewn anialwch o ddail carn yr ebol a mieri, mae Ffynnon Sara. Gosododd awdurdod gwaith dŵr Birkenhead gamfa goncrid y gellir mynd drosti at y ffynnon. Ffynnon Pyllau Perl yw enw Edward Lhuyd arni, ac awgryma'r Inventory iddi gael ei galw'n Ffynnon Sara ar ôl rhyw wraig a drigai yn y bwthyn gerllaw, sydd bellach wedi diflannu’n llwyr. Yr oedd bri ar ddyfroedd y ffynnon hon ers talwm, am ei rhin i wella'r cancr a'r cryd-cymalau - ffynnon rinweddol yn wir. Yr oedd gan fy nau fab ieuengaf ddefaid ar eu dwylo, a phan euthum â hwy at y ffynnon un tro, mynnodd y ddau geisio cael gwared â hwy trwy ymolchi yn y dŵr. Parhaodd y defaid ar law Rhys am gyfnod, er yn llai, ond diflannodd rhai Alun yn llwyr; efallai bod ychydig fisoedd yn rhagor o brofiad y byd wedi arfogi Rhys yn erbyn yr hen goelion! Ond pan glywodd eu brawd hynaf am yr arbrawf a wnaethant, rhaid oedd iddo yntau gael gweld y ffynnon rinweddol hon hefyd, ac un tro, wrth deithio gydag ef o Gerrig y Drudion i Ruthun, troesom o'r neilltu trwy fferm Foel Fawr, gyda chaniatad caredig Mrs Williams, a thrwy fuarth y Braich hefyd… Pan soniais wrth wraig y ty am Ffynnon Sara, mynnai hi mai dwr Ffynnon Sara a wellodd ei chrudcymalau hi wedi i lawer o bethau eraill fethu.

 

 

Ffynnon y Fuwch Frech, Llansannan (tud 184)

Rhywle yn y cyffiniau hyn, 'yng nghwr de-ddwyreiniol Mynydd Tryfan' fel y dywedodd 'Lloffwr Llên' awdur Plwyf Llansannan, y mae Ffynnon y Fuwch Frech, ffynnon arall a gysylltir â chwedl y fuwch frech a roddai laeth yn ffri i bawb nes i rywbeth ddigwydd i'w digio. Hen wrach a'i godrodd i ogor nes ei hesbio yn y fersiwn o'r stori ger Craig Bron Bannog: yma dau frawd a ffraeodd a'i gilydd nes i un ladd y llall oherwydd y fuwch. Ond methais i a darganfod na buwch na ffynnon mae arnaf ofn.

Ffynnon Fair, Wigfair, Llanelwy (tud 196-7)

Adeilad diweddar yw'r plas presennol yn Wigfair, wedi ei godi o frics coch ryw ganrif yn ôl… Y Cyrnol Howard oedd y sgweiar olaf i fyw yn y plas, a phan fu farw trefnodd i'w lwch gael ei chwalu o gwmpas yr hen gapel yng ngwaelod yr allt o dan y plas. Codwyd yr eglwys fach hon, eglwys Fair, dros ffynnon y priodolid galluoedd nerthol iddi, a bu'r eglwys, er yn adfail, yn un boblogaidd i briodi ynddi am ganrifoedd…Saif adfeilion yr hen eglwys mewn dôl fras ar lan afon Elwy, ac ar draws y ddôl gwelir olion y ffrwd a wnaed i droi rhod y felin. Os bu erioed ddarluniad o'r 'mieri lle bu mawredd' dyma'r fan: y mae'r rheiliau o gwmpas yr eglwys wedi eu bylchu a chrwydrai nifer o wartheg du a gwyn yn yr anialwch o fieri a brwyn a guddiai'r adfeilion. Ond gellir gweld yr hen faddon o dan bistyll y ffynnon a dilyn y gwter a drefnwyd i'r dŵr redeg ohoni trwy'r ran o'r eglwys ac allan i'r cae. Prun y credai neb heddiw y gallaî'r ffynnon hon iacháu neb na dim.

Ffynnon Ddyfnog, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd: (tud 220)

Y mae tuedd i bobl heddiw ruthro trwy Llanrhaeadr, ac wrth wneud hynny maent yn colli cyfle i sylwi ar amryw fanion diddorol… Cefais arweiniad Mr T.W Evans, cyn blisman y llan i'm tywys o gwmpas y lle… i ddringo y tu ôl i'r eglwys, heibio i'r elusendai taclus sydd yno ers dwy ganrif a hanner, trwy'r coed at Ffynnon Ddyfnog. Y mae llwybr gweddol hwylus ati erbyn hyn, ond mae'r ffynnon a'r baddon o dani mewn angen eu glanhau. Y mae hen stori yn adrodd fel y byddai clerigwyr y llan yn rhoi manus neu rhyw liw yn yr afon ger y Graig Lwyd yn uwch i fyny'r nant, er mwyn creu 'gwyrth' yn Llanrhaeadr, oherwydd mae'n debyg mai afon dan-ddaearol sy'n ymarllwys o'r ffynnon. Carreg galch sydd ymhobman y ffordd hon a gallai'r hen stori fod yn ddigon gwir.

Ffynnon Hen Ddinbych (tud 79)

Dilyn Llwybr Elen a wnaethom o fuarth Hafoty Sion Llwyd draw tua Llech Daniel…ac yna draw ar draws y Llech gwelem Maen Cledde. Rhaid oedd cerdded draw at hwn, wrth gwrs, a galw heibio i Ffynnon Hen Ddinbych wrth fynd. Prif rinwedd y ffynnon fach hon, yn ôl Dafydd Pierce, ydyw bod ei thymheredd yn gyson iawn, a hyd yn oed yng nghanol gaeaf, 'pan fyddai winthrew yn y'ch dwylo' gallech eu trochi yn nŵr y ffynnon, a byddech yn iawn drachefn.

 

Crwydro Dwyrain Dinbych

Ffynnon Degla, Llandegla (tud 143)

Mewn cae o'r enw Cae'r Felin neu Gwern Degla y mae'r hen ffynnon a gysegrwyd i'r ferch ifanc honno a gafodd ei chamdrin mor arw am ei bod yn yn gyfeilles, medd y traddodiad, i'r Apostol Paul. Y mae rhinwedd y ffynnon hon, a'r seremonïau a'r taliadau yr oedd yn rhaid eu cyflawni gerllaw iddi, er mwyn cael gwellhad o'r epilepsi, wedi eu cofnodi llawer gwaith, ac nid oes angen eu hail-adrodd yma: yr oeddynt yn ddigon pwysig i Fraser eu cynnwys yn ei Golden Bough, ac y mae'n debyg mai gan Pennant a Lhuyd y cafodd ef ei ffeithiau. Y cyfan a ddywedaf i ydyw ei bod yn hen bryd i'r Cyngor Plwyf geisio tacluso ychydig ar y ffynnon, os ydynt am i ymwelwyr fynd yno i'w gweld. Yno mae ger glan yr afon yng nghanol cae a gwernen yn plygu drosti. Yn ôl adroddiad Pennant, y mae rhyw lythrennau wedi eu cerfio ar y meini o'i chwmpas, ond bu'n rhaid i mi dorri canghennau pigog draenen a dyfai yn ei cherrig cyn cael golwg hyd yn oed ar y dŵr sydd ynddi o hyd.

(Mae nifer o'r ffynhonnau hyn wedi eu glanhau a'u hadfer ers y chwedegau a diolch am hynny. Bellach mae unigolion, cymunedau a chynghorau yn fwy ymwybodol o werth a phwysigrwydd ffynhonnau fel rhan o'n treftadaeth. Mae erthygl ar ffynhonnau a seintiau'r Sir Ddinbych newydd yn rhifyn yr Eisteddfod o Llafar Gwlad (Rhif 73) - Gol.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Eirlys Roberts, Gellifor, Rhuthun.

Beryl Davies, Penbedw, Glannau Mersi.

M.G. Roberts, Glyndyfrdwy, Corwen.

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Pytiau Difyr…              Pytiau Difyr…              Pytiau Difyr

Daw'r dyfyniad hwn Hanes Plwyf Llanwenog gan D.R a Z.C Davies a gyhoeddwyd yn 1939. Ar dudalen 11 sonnir am ffynhonnau lleol:

 FFYNNON WENOG: Tardd  ffynhonell gref o ddwfr clir a grisialaidd ar y waun ychydig islaw mynwent Eglwys y plwyf. Dyma Ffynnon Wenog. Credid gynt fod rhyw rinwedd goruwchnaturiol yn perthyn i Ffynnon Wenog ac fe ddôi rhieni yma ar bererindodau o bell ac agos; dygent blant gweinion i'w hymolch yn ei dyfroedd ac fe dystid yn wir fod llawer o'r cyfryw wedi cryfhau ac wedi ymunioni yn eu cefnau, ac wedi dyfod i gerdded yn hoywiach, trwy gyfrwng yr ymolchiadau. Ni pheidiodd y ddefod o ddwyn babanod eiddilaidd i'r ffynnon i'w hiachâu hyd o fewn cof hynafgwyr sydd yn fyw heddi. Ymarllwysa'r ffrydlif neu'r nant fechan, a dardd o'r ffynnon i afon Cledlyn yn Aber-nant-llan.

FFYNNON FRODYR: Ffynnon doreithiog iawn ydyw hon hefyd, ac ni wêl pobl pentref Rhuddlan fyth ball ar ei dwfr. Gan nad ydyw nepell o'r hen briordy y cafwyd ei adfeilion gerllaw, iddi hi y deuai'r brodyr neu'r myneich gynt i nôl dwfr.

FFYNNON LLEUCU: Ar odre un o fronnydd Cwm Nant, rhyw ddau led cae o Danycoed, y tarddodd hon, ac am y Lleucu (Lucy) a roed ei henw i'r ffynnon hon y sonnir, hwyrach, yn y cwpled traddodiadol -

                                    Ger y ffynnon gorffennwyd,

                                    A gwae o'r dull! Lleucu Llwyd.

(Mae Llanwenog yng Ngheredigion. O gymryd yr A475 o Lanbedr Pont Steffan i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn, a theithio chwe milltir, drwy Lanwnnen a Drefach gwelir arwydd ar y chwith yn dynodi'r ffordd i Lanwenog. Cyfeirnod map 22/4945.

 

 

Dyma ddyfyniad o Chwedlau Dau Fynydd (1948) gan y diweddar Barch Gomer M. Roberts. Y ddau fynydd y cyfeirir atynt yw'r Mynydd Mawr a'r Mynydd Du yn sir Gaerfyrddin. Mae pentref Llandybïe yn y bwlch rhwng y ddau fynydd. Dyma sydd ganddo i'w ddweud am Ffynnon Gwenlais ar dudalen 12:

Afonig fechan ydyw Gwenlais yn tarddu gerllaw Craig y Derwyddon ar lechwedd y Mynydd Mawr. Daw allan o'r mynydd yn ffrwd fechan risialaidd, a'i dyfroedd yn rhyfeddol o feddal a phur. Bu capel bychan gerllaw ei tharddiad un waith, a cheir hen ywen ddu, ganghennog yno o hyd a dengys inni mai gerllaw, rhywle, y safai'r hen gapel. Ffynnon rinweddol neu ffynnon sanctaidd oedd Ffynnon Gwenlais gynt, a dywedir y llofruddiwyd santes o forwyn brydferth yno yn yr hen amser. Syrthiodd y gwaed ar y glaswellt, ac o'r fan honno y tarddodd ffynnon risialaidd allan.

Y mae dau lygad i'r ffynnon - canys y mae i ffynnon ei llygad, yr un fath â dynion. Deuai dau fath o ddŵr allan o'r ddau lygad, ond yr oedd y ddau fel ei gilydd yn feddal iawn, a cyn oered â'r eira.

Gerllaw'r ffynnon, ar y ddaear sych, y mae pantle bychan tua'r un faint â bedd cyffredin. Y mae hynodrwydd yn perthyn i'r pantle hwn. Llenwch ef i fyny cyn amled ag y mynnoch, a gwnewch ef yn gydwastad â'r llawr; eto, ymhen dydd neu ddau fe fydd y pantle yno o hyd. Ni all neb ei lanw i fyny. Ceisiodd y ffermwr sydd yn byw gerllaw wneuthur hynny un waith, ond er treio a threio fe suddodd y ddaear yn ôl i'w lle arferol. Ewch i fyny yno rywbryd, a rhowch gynnig ar y gwaith o'i lanw. Yr ydych yn siŵr o fethu, canys yno, ond odid, y claddwyd corff y forwyn o santes a laddwyd yno gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

 

 

O'r papur newydd Barry and District News ac o'r golofn 'Newyddion Barri a'r Cylch', 20 Mai, 1927, y daw'r wybodaeth ganlynol am Ffynnon Ffagan Sant.

Yn y flwyddyn 1645 yr oedd plasty teg o fewn muriau han hastell Ffagan Sant, ac yn y berllan a berthynai i'r plasty yr oedd ffynnon mewn craig a elwid yn Ffynnon Ffagan Sant. Cyrchid i yfed dyfroedd y ffynnon enwog hon o bob parth, a chyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth diffael ar yr Haint Dygwydd (epilepsi).

 

Yn Goleuad Cymru, Rhagfyr 1828 ymddengys yr englyn hwn gan Twm o'r Nant i Ffynnon Eilian, Llaneilian-yn-Rhos uwchben Bae Colwyn - ffynnon felltithio enwocaf Cymru:

                                    Ffynnon ebolion Belial - a'i phennod

                                        Yn ffynnon ymddial;

                                    Nyth melldithwyr, swynwyr sâl,

                                    Min dibyn mynydd Ebal.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN YW'R GEINIOG………

Daeth yn amser adnewyddu eich aelodaeth unwaith eto. Byddai'r Trysorydd yn falch iawn o dderbyn eich tâl aelodaeth ar gyfer y flwyddyn o 2001 - 2002. Anfonwch at eich tâl at Ken Lloyd Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH, cyn gynted ag y bo modd. Diolch o galon.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU - DINBYCH A'R CYFFINIAU 2001

CYFARFOD CYFFREDINOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU

DYDD SADWRN, 11 AWST, 2.30 -3.30 

ac i ddilyn darlith 

FFYNHONNAU A'U PENSAERNÏAETH

gan

EIRLYS GRUFFYDD

CROESO CYNNES IAWN I BAWB

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 Home Up