Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 9  Nadolig  2000

.

ADFER FFYNNON FFRAID, SWYDDFFYNNON

Yn y rhifyn cyntaf o Llygad y Ffynnon, Nadolig 1996, soniwyd am ymgyrch Annwen Davies i adfer y ffynnon unigryw sydd yng ngardd ei chartref, Cynhawdref, Swyddffynnon, Ceredigion. Mae'r ffynnon wedi ei chysegru i'r Santes Ffraid a dywedir bod mynachod Ystrad-fflur yn arfer galw heibio i'r ffynnon i dorri eu syched wrth deithio. Ar yr arfordir roedd lleiandy ac eglwys wedi ei chysegru i'r santes yn Llansantffraid. Nid oes traddodiadau am y ffynnon wedi goroesi ond mae'n dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae ei phensaernïaeth yn un hynod iawn. Mae ar ffurf cwch gwenyn, ffurf brin iawn yng Nghymru. Roedd Annwen a'i mam, Jasmine, yn sylweddoli bod ganddynt drysor amhrisiadwy yn eu meddiant a dechreuwyd ymgyrch i achub y ffynnon yn 1992 pan ysgrifennwyd at y Comisiwn Henebion yng Nghymru. Cyngor y Comisiwn oedd y dylid cysylltu â CADW a daeth dynion draw i dynnu lluniau a chofnodi lleoliad a nodweddion y ffynnon. Yn eu hadroddiad maent yn nodi ei harbenigrwydd pensaernïol ond yn dweud nad oes sôn amdani yn llyfr Francis Jones, The Holy Wells of Wales. Ar yr olwg gyntaf mae hyn yn wir, ond wedi ailedrych yn fanwl ar y gyfrol gwelir y cyfeiriad hwn ar dudalen 158:

ST.FRIDE'S WELL. SW of Ystradmeurig, near Treffynnon - Rees Map.

 Mae'n siŵr mai at Ffynnon Ffraid, Cynhawdref, y mae'n cyfeirio. Gwelir felly ei bod yn o ffynhonnau sanctaidd Cymru.

 Aeth blwyddyn heibio ac ym mis Medi 1993, ysgrifennwyd eto at CADW i weld a allent wneud rhywbeth i ymgeleddu'r ffynnon a oedd yn raddol ddirywio a'r gwaith cerrig yn ansefydlog mewn mannau. Gan nad oedd y ffynnon wedi ei rhestru fel heneb ni allent wneud dim i helpu ac fy gynghorwyd Annwen i gysylltu â Chyngor Dosbarth Ceredigion. Er ei digalondid daliodd Annwen i ofyn am eu cymorth ac ym mis Mai 1994 gofynnwyd iddynt edrych eto ar y ffynnon gyda'r gobaith o’i chofrestru. Yn ystod yr haf daeth dynion i archwilio'r ffynnon ac erbyn mis Hydref roedd wedi ei chofrestru. Cynigiodd CADW dalu 50% o'r gost o tua £1000 i adfer y ffynnon ond ar y pryd nid oedd cyllid y teulu yn caniatáu gwario £500 ar y gwaith adnewyddu. Aeth Annwen ati i geisio cael cymorth ariannol gan Gyngor Dosbarth Ceredigion a'r Cyngor Cymuned. Ym mis Ionawr 1995 daeth ateb o Adran Gyllid y Cyngor i ddweud nad oedd y gwaith adfer yn gymwys i dderbyn cymorth o dan Gynllun Grant Datblygu Cymdeithasol.

 Drwy gydol 1995 bu Anwen yn llythyru â mudiadau fel JIGSO a Bwrdd Datblygu Cymru, yn ogystal â chyda nifer o unigolion, gan gynnwys yr Arglwydd Geraint, a ysgrifennodd at Brif Gyfarwyddwr Ceredigion i geisio cael arian, ond nid oedd dim grantiau ar gael yn unman. Cofnododd Anwen ei siom yn Llygad y Ffynnon gan ddweud, 'Gobeithio y cewch chi fel Cymdeithas fwy o lwc.' Cofnodwyd ein hymdrechion i gael cyllid yn y rhifynnau dilynol. Anfonwyd at Gyngor Dosbarth Ceredigion ddiwedd 1996 a chafwyd ar ddeall ddechrau 1997 nad oedd arian ar gael. Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Ystradmeurig fis Mawrth a mis Rhagfyr 1997 ond heb unrhyw ymateb ganddynt. Ym mis Ebrill y flwyddyn honno ceisiwyd ennyn diddordeb Dŵr Cymru yn y ffynnon a gofyn iddynt noddi'r fenter ond negyddol oedd eu hateb. Yn Ebrill 1998 ysgrifennwyd eto at y Cyngor Cymuned ond i ddim diben gan na chydnabwyd y llythyr.

 Nawr dyma weddill yr hanes gan Annwen ei hun:

 Ym mis Tachwedd 1998 eisteddom i lawr a phenderfynu ariannu ailadeiladu y ffynnon ein hunain. Ysgrifennais at Horne Stonework Dry Walling yn Aberhonddu gan mai nhw roddodd y pris gwreiddiol. Yn naturiol, roedd wedi codi ers 1994. Anfonwyd y ffurflenni a'r gwaith papur angenrheidiol i CADW gan eu bod yn dal i gynnig grant i dalu am hanner y gost. Daeth swyddog i weld cyflwr y ffynnon ac yna ym mis Mai 1999, gyda’r tywydd yn caniatáu, dechreuwyd ar y gwaith.

Daeth Paul a Brandon i ddadfeilio'r ffynnon garreg wrth garreg a Helen, swyddog CADW yn gwylio'r holl waith. Synnwyd pa mor dda a chadarn oedd cyflwr y cerrig y tu mewn i'r ffynnon a'r dŵr mor lân. Darganfuwyd man bethau rhwng y cerrig - potel blastig, darn o wydr, plât, clawr tebot a darnau eraill o grochenwaith o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.

Anwen a rhai o'r pethau a ddarganfuwyd wrth atgyweirio'r ffynnon

   

Ddechrau ar y gwaith o dynnu'r cerrig

 

Y gwaith yn mynd rhagddo.

   

Adeiladwaith hynafol y ffynnon i'w weld yn glir.

Y ffynnon wedi ei hadfer a'i diogelu.

Uwchben y ffynnon

  

Ymhen tridiau roedd y ffynnon wedi ei hailadeiladu ac yn edrych, gobeithio, fel yr oedd yn nyddiau Glyndŵr. Am ychydig fisoedd roedd y cerrig ar wyneb y ffynnon yn annaturiol o lân ond yn raddol, gydag amser, mae'r mwsog a'r rhedyn wedi dychwelyd.

Mae'r ymwelwyr hefyd wedi cynyddu, rhai yn dod mor bell ag Awstralia ac America a hyd yn oed fyfyrwyr, yn cerdded o un ffynnon i'r llall.

Gyda'r biliau wedi eu talu a'r grant gan CADW wedi ei dderbyn, daeth rhodd annisgwyl o £100 gan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn. Yn y dyfodol byddaf yn gosod plac i ddiolch i chi ac i CADW am eich cymorth i adfer y ffynnon. Rwyf hefyd yn gobeithio argraffu taflenni yn sôn am Ffynnon Ffraid a'u gadael yng nghanolfannau'r Bwrdd Croeso a mannau tebyg. Efallai hefyd y byddwn yn gallu creu cardiau post i'w gwerthu i dalu am y gwaith. Wrth edrych yn ôl, rwy'n siŵr inni wneud y penderfyniad iawn i sicrhau fod adeiladwaith y ffynnon yn ddiogel a'i bod ar gael i ymwelwyr ei mwynhau. Gan fod Eirian a minnau wedi ein bendithio â mab, Ieuan, yn ystod y cyfnod hwn, teimlwn fod dyfodol y ffynnon yn ddiogel ar droad yr unfed ganrif ar hugain.

          Ffynnon Ffraid CYNHAWDRE-UCHAF SWYDDFFYNNON, CEREDIGION

            cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Annwyl Olygydd…            Annwyl Olygydd…            Annwyl Olygydd…

Annwyl Olygydd,  

Mae gen i gof plentyn fod yna ffynnon o ddŵr oer iawn ar ochr mynydd Eglwysilan, a ninnau'n blant, wrth gerdded o Gilfynydd dros y mynydd i gyfeiriad Senghennydd, yn cyrchu ati i yfed y dŵr. Doedd dim o'i chwmpas na neb yn gofalu amdani. Ein henw ni arni oedd Paddy's Well. Chlywais i erioed enw Cymraeg arni, a chan' mod i o'r ardal ers amser, a'r Rhyfel a brwydr El Alamein wedi fy ngadael yn analluog i droedio'r lleiaf o'r bryniau, wn i ddim byd o'i hanes bellach.

Rwy'n cofio pan oedd fy mam ar ei gwely angau, ddechrau 1939, iddi ddweud yng nghlyw hen gyfaill i ni y carai flasu llymaid o ddŵr o Paddy's Well, ac aeth hwnnw i fyny, ac yntau mewn oedran teg ei hun, bob cam i mofyn llond potel iddi.

D. Gwyn Jones.                                                                         

Yr Eglwys Newydd, Caerdydd.

(Ceir hanes tebyg am hen wraig ar ei gwely angau yn gofyn am ddŵr o Ffynnon Wyddelan, Dolwyddelan. Gol.)

Annwyl Olygydd,

Rai misoedd yn ôl, yn Yr Arwydd, papur bro cylch Mynydd Bodafon yng ngogledd-ddwyrain Môn, apeliwyd am enwau ffynhonnau yn y cylch. Fel canlyniad i'r apêl ymddangosodd yr enwau canlynol:

 Ffynnon Rhosfawr; Ffynnon Bioden, ar dir Y Parciau; Ffynnon Jib yn Nhreboeth; Ffynnon Dinas; Ffynnon Minffordd. Ar dir Ty'n Llan, Llanfair Mathafarn Eithaf mae tair ffynnon ond ni roddir eu henwau. Ffynnon Pant y Garn; Ffynnon Bwlch a Ffynnon Oer ar draeth y Benllech. Pwll Bragu - oddi yno y ceid dŵr i fragu cwrw yn y bragdy yn Llanfair Mathafarn Eithaf. Ffynnon Berthlwyd; Ffynnon Bryn Goronwy - y ffynnon y cred rhai y bu Goronwy Owen yn tynnu dŵr ohoni. Ffynnon Badell; Ffynhonnau Cerrigman - Ffynnon Cerwas; dwy ffynnon Mynydd Gwyn; Ffynnon Ty'n Ffynnon; Ffynnon y Drum, Carreglefn; Ffynnon Betws, Penrhyd.

 Trefor D. Jones                                                                           Cerrigman, Penysarn, Amlwch

 (Dyma syniad gwych a ffordd ardderchog o gofnodi enwau ffynhonnau bro. Gol.)

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR… PYTIAU DIFYR… PYTIAU DIFYR…

 Diolch i Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog, am y darn hwn o Baner ac Amserau Cymru, 14 Ionawr, 1874, tud 7. (Cadwyd at y sillafu gwreiddiol).

 FFYNNON SANT GAWEN

Ar draeth de-orllewinol Sir Benfro, y mae capel a elwir yn ôl Sant Gawen, yr hwn, fe ddywedir, a'i hadeiladodd, ac a breswyliai mewn cell fechan a dorasid yn y graig yn y pen dwyreiniol o hono.

Rhwng y capel a'r môr, ac yn agos i derfyn llawn llanw, y mae ffynnon o ddwfr croew, yr hon hefyd a ddwg enw Sant Gawen. At hon aml gyrchai morwyr, ac yn ddieithriad derbynient groesaaw a chymorth gan y gŵr da.

Ond perthynai i'r capel y pryd hynny y neilltiolrwydd o gloch arian; ac ar ryw brynhawngwaith tawel yn yr haf, daeth cychiad o ddynion a'u bryd ar ei thrawsfeddiannu. Yn ddiystyr o barchedigaeth y lle, ac o letygarwch y preswylydd, rhyddasant y gloch o'r tŵr, a chludasant hi i'r cwch. Ond nid cynt y gadawsant y lan nag y cyfododd tymestl gerth, yr hon a suddodd yr ysbeilwyr yn y fan; ac ar yr un ennyd, drwy foddion anweledig, y gloch a gymerwyd ymaith ac a gladdwyd oddi fewn i garreg fawr a orweddai ar fin y ffynnon. Hyd heddiw, pan darewir y garreg, clywir acenion ariannaidd a thyner gwynfan y gloch. 

Sylwodd Ken Lloyd Gruffydd ar y llwybr canlynol wrth ddarllen Y Brython, Cyfrol I, 2 (1897), tud. 59: (Cadwyd at y sillafu gwreiddiol.)  

FFYNONAU CYMRU

MR. GOLYGYDD: - Ni bu dim ers talwm a dynodd fwy o sylw a diddordeb yn yr ardal hon nag ymddangosiad Y BRYTHON; yr oeddym yn dechrau teimlo yr hen waed Cymreig yn poethi yn ein gwythienau; ac yn dywedyd, dyma bapyr newydd Cymreig i Gymru - ym mhlith pethau erill yng Nghymru y mae y ffynonau hen a diweddar yn werth eu trafod a'u holrain; mae'n debyg fod ym mhlith ysgrifenwyr galluog eich cyhoeddiad, wŷr a all roddi i ni hanes y prif ffynonau a'u rinweddau; megis ffynonau Cybi, Beuno, Aelhaiarn, Cadfan, Gwenfrewi &c., &c. Y mae yn ddiweddar sylw mawr wedi cael ei dynu at rinwedd dyfroedd. Y mae Ffynon Cegin Arthur (fel ei gelwir) ger Llanddeiniolen, tua phedair milltir o Gaernarfon, yn tynu y lliaws iddi, a llawer yn tybied eu bod yn cael eu gwellhau; a diameu fod ynddi rinwedd mewnol cryf, ac yr effeithia ei dwfr nodedig yng nghyd a newidiada awyr les i laweroedd. Gadewch i ni glywed hanes hen ffynonydd i ddechreu, gan eich gohebwyr, y Parch J, Jones, Llanllyfni; Ellis Owen, Ysw, Cefnmeusydd, &c. A pha rai ddyddordeb i ni yn yr ardal hon.

Deiniol.

Gerllaw'r Ffynon.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU…

 FFYNNON FIHANGEL, CILCAIN

Os y cofiwch, roedd tyfiant coeden fawr wedi dinistrio adeiladwaith y ffynnon. Rhoddwyd cemegolyn pwrpasol ar y boncyff i'w ladd a bu'r driniaeth yn llwyddiannus ac eithrio mewn un man lle mae brigyn ir wedi tyfu o'r gwraidd. Rhaid delio a hwn cyn y gellir mynd ati i godi'r gwreiddiau marw o'r safle.

 FFYNNON GYNGAR, LLANGEFNI

Mae cangen Llangefni o Sefydliad y Merched wedi mabwysiadu adfer y ffynnon fel rhan o'i gweithgarwch i ddathlu'r milflwyddiant. Fel gyda phob ffynnon, mae'r broses o adfer yn un hir ac mae angen llawer o amynedd a dyfalbarhad i gwblhau'r gwaith. Mae'r ffynnon ychydig islaw'r eglwys, mewn man coediog ar lan afon Cefni mewn ardal a elwir y Dingle. Warden y Dingle yw Gareth Evans ac mae Doris Thomas, ysgrifennydd y gangen, wedi bod yn cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd yno. Bellach mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynnwys y ffynnon mewn cynllun i wella'r Dingle a Nant y Pandy, ac mae arian wedi ei glustnodi ar gyfer y gwaith o adfer Ffynnon Gyngar. Mae'r merched yn gobeithio y bydd y gwaith wedi ei gwblhau cyn y Nadolig. Bwriedir gosod plac ar y ffynnon i nodi mai Cangen Llangefni o Sefydliad y Merched a fu'n gyfrifol am ei hadfer ac edrychwn ymlaen at weld yr hanes yn ein rhifyn nesaf.

 FFYNNON GARON, TREGARON

Unwaith eto, drwy haelioni Cyngor Sir Ceredigion, mae swm o arian wedi cael ei glustnodi er mwyn glanhau'r ffynnon, a mynedfa amlwg a diogel iddi yn cael ei chwblhau. O dan arweiniad swyddog ieuenctid lleol, a chymorth plant Ysgol Sul Capel Bwlchgwynt, bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn fuan.

 FFYNNON FARCHELL, DINBYCH

Mae maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau, 2001 ger yr Eglwys Wen a gysegrwyd i Farchell Sant. Nid nepell o'r eglwys roedd unwaith ffynnon a gysegrwyd i Farchell. Roedd yn gwella amrywiaeth o afiechydon. Arferid hefyd daflu arian iddi. Cyfeirir ati fel a ganlyn yn y gyfrol sy'n cofnodi gwaith y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Sir Ddinbych a gyhoeddwyd yn 1914: 

Cyfeiriwyd at y ffynnon gan Edward Lhuyd yn 1698 fel ffynnon y sant. Roedd yn arfer bod ar ochr y ffordd fawr tua 450 llath o'r Eglwys Wen neu Lanfarchell. Nid oes unrhyw arwydd o bresenoldeb y ffynnon erbyn hyn, dim ond y sianel a gariai'r dŵr gofer ohoni. Pan adeiladwyd y rheilffordd rhwng Rhuthun a Dinbych torrwyd drwy'r tarddiad oedd yn bwydo'r ffynnon, ail-gyfeiriwyd y dŵr a sychodd hithau. Adroddai un o hen drigolion yr ardal fel yr arferai fynd i'r ffynnon yn gynnar yn y bore drannoeth ffair fawr Dinbych a byddai'n siŵr o ddod o hyd i ddarnau o arian ynddi a daflwyd gan deithwyr wrth fynd heibio iddi. Roedd wedi dod o hyd i hanner coron unwaith. Roedd Ffynnon Farchell tua 50 llath i'r gorllewin o'r drofa tua'r Eglwys Wen ac ar yr ochr ogleddol i'r ffordd rhwng Dinbych a Rhuthun.

Mae hanesydd lleol yn chwilio am safle'r ffynnon ar hyn o bryd a chewch wybod beth fydd canlyniad ei ymchwil yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon

FFYNNON ENDDWYN, LLANENDDWYN, ARDUDWY

Mae'r Cyngor Cymuned lleol wedi gosod plac ar y wal ger y fynedfa i'r ffynnon ac arno mae hanes Santes Enddwyn. Mae giât mochyn yn arwain o'r ffordd i'r weirglodd lle mae'r ffynnon. Diolch i'r Cyngor am eu gwaith.

FFYNNON CAPEL BEGEWDIN A FFYNNON CAPEL HERBACH, CWM GWENDRAETH

Ysgrifennwyd at Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin i ofyn iddynt a oes modd ymgeleddu'r ddwy ffynnon yma sy'n greiriau hanesyddol.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

HEL FFYNHONNAU

Eirlys Gruffydd

 Yn ystod mis Awst eleni bu Ken a minnau yn ymweld â nifer o ffynhonnau ardal Mynydd y Rhiw, Llŷn, yng nghwmni Wil Williams, Ardd Las, Rhoshirwaun, un o selogion ein cymdeithas. Mae Wil yn adnabod ei filltir sgwâr yn arbennig o dda a braint i ni oedd ei gael i'n cyfarwyddo a'n haddysgu am ardal mor arbennig. Aeth â ni gyntaf i ymweld a FFYNNON SAINT, BRON LLWYD, MYNYDD Y RHIW. (Os cofiwch bu Wil yn sôn am y ffynnon hon yn y rhifyn blaenorol.) O fuarth Bron Llwyd mae'r llwybr yn codi'n serth i fyny ochr y mynydd. Yna, wedi cerdded drwy'r goedwig, daethom i ddarn agored lle oedd y tir wedi ei glirio a cherrig anferth ar y llethr uwchben yn edrych yn fygythiol o ansicr. Wrth ddilyn wal gerrig fendigedig, na welodd olau'r haul ers rhai degawdau, daethom yn nes at y ffynnon. Roedd Jac Codi Baw wrthi yn clirio'r coed o gwmpas y safle ac ofnais am funud ei bod yn rhy hwyr a bod rhan arall o'n hetifeddiaeth wedi syrthio'n ysglyfaeth i Famon ein dydd. Yn ffodus, roedd y gyrrwr yn gwybod am fodolaeth y ffynnon ac mae'n ddigon diogel. Yn wir, mae llwybr cyhoeddus yn arwain drwy'r goedwig i fyny o'r ffordd fawr ger traeth Porth Neigwl, heibio i Dy'n y Parc ac i fyny'r llethr at y ffynnon. Yna mae'r llwybr yn mynd ar hyd ochr y llethr cyn troi i lawr i fferm Bron Llwyd.

Roedd tipyn o dyfiant yn y ffynnon ei hun ac o'i chwmpas, ond wedi awr neu ddwy o waith caled - Wil oedd yn gweithio galetaf - gallem weld ei phensaernïaeth yn glir. Mae'r dŵr yn cronni ynddi wrth ddod i lawr y llethr, yna mae'n goferu o'i gwaelod ac yn llifo i nant sy'n llithro'n dawel drwy dywyllwch y coed pîn gydag ochr y llethr. Gellir mynd at y dŵr yn y ffynnon i lawr grisiau cerrig o ddau gyfeiriad. Roedd y dŵr yn y ffynnon yn fas am fod y gofer yn gwbl agored. Pe byddem wedi symud un garreg wrth geg y gofer byddai'r ffynnon wedi llenwi a dwr yn fuan. Roedd yn amlwg bod lefel y dŵr yn gyffredinol yn llawer uwch nag ydoedd y diwrnod hwnnw am fod llinell glir ar y gwaith cerrig o amgylch y ffynnon yn dangos i lle y byddai'n arfer cyrraedd. Mae'r muriau o gwmpas y ffynnon yn rhyfeddol ynddynt eu hunain am eu bod yn ddwy droedfedd o drwch a phedair troedfedd o uchder, a'r ffynnon ei hun yn mesur naw troedfedd sgwâr. Yn ôl Myrddin Fardd byddai merched yr ardal yn dod at y ffynnon bob dydd Iau Dyrchafael i olchi eu llygaid ac i daflu pin i'r ffynnon fel arwydd o ddiolchgarwch. Rhaid cyfaddef na fu neb yn chwilio yn y baw ar ei gwaelod am binnau. Wrth adael y ffynnon teimlodd y tri ohonom mai da oedd i ni fod yno a'n bod wedi gadael ein hôl ar y lle. Yn sicr, mae'n ffynnon gwerth ymweld â hi. Diolch i Wil am ein harwain yno; ni fuasem byth wedi mentro hebddo.

Wedi inni fwynhau'n cinio wrth edrych ar yr olygfa fendigedig a dyfroedd Porth Neigwl o ben Mynydd y Rhiw, aeth Wil â ni i weld nifer o ffynhonnau oedd wedi diwallu anghenion yr ardal dros y cenedlaethau. Mae FFYNNON ROFYR ar y llechwedd islaw'r mast ar ben y mynydd a'i dŵr yn llifo i lawr i Tyddyn. Oddi yno gellir edrych draw i gyfeiriad Rhoshirwaun a Rhydlios. Ffynnon gwbl naturiol yw hon ond roedd arwyddion fed rhywun wedi ceisio glanhau o'i chwmpas yn gymharol ddiweddar gan fod tyweirch wedi eu codi a'u gosod ger y ffynnon. Roedd y cerrig ar un ochr iddi wedi dymchwel hefyd. Dyfnder y dŵr ynddi oedd wyth modfedd ac roedd yn mesur tua thair troedfedd ar draws i bob cyfeiriad.

Ar ôl gadael y mynydd gyda'i gwrlid grug ac eithin bendigedig, aeth Wil â ni i weld FFYNNON CONION. Ffynnon a fu unwaith yn diwallu angen nifer o aneddau cyfagos oedd hon. Roedd llechi gleision wedi codi o'i chwmpas a'i maint yn rhyw ddwy droedfedd sgwâr. Yn y gorffennol roedd caead o lechen wedi bod dros y ffynnon ac roedd modd ei godi er mwyn cael dŵr ohoni. Bellach mae'r ffynnon wedi ei llanw a cherrig ond mae'r dŵr yn dal i lifo'n araf ohoni gan wneud y tir o'i hamgylch yn wlyb a chorsiog.

Rhaid oedd gadael y tir uchel a mynd i lawr i Lanfaelrhys i weld FFYNNON NANT GADWAN. Roedd y ffynnon i'w gweld o dan yr inclên a godwyd drosti gan y gwaith manganîs o ddeutu 1902-1903. Yna drwy Aberdaron heibio i FFYNNON SARN Y FELIN a adnewyddwyd yn ddiweddar ac y cyfeiriwyd ati yn rhifyn yr haf, ac i weld FFYNNON SAINT. Mae'r ffynnon ar groesffordd ar y lôn allan o Aberdaron sy'n mynd i gyfeiriad Mynydd Anelog. Byddai wedi bod yn amhosib darganfod union leoliad y ffynnon heblaw fod arwydd yn dynodi'r fan ar fin y ffordd. Mae'r ffynnon ei hun i'w gweld wrth ddilyn llwybr drwy ganol tyfiant uchel. Gosodwyd caead trwm dros y ffynnon er diogelwch ond mae'n bosib ei godi a gweld ei phensaernïaeth. Mae ar ffurf llythyren D ac yn dair troedfedd o led. Dros y blynyddoedd mae Wil wedi annog y Cyngor i warchod y ffynnon a bellach mae wedi ei diogelu. Yn ôl traddodiad, yma y gorffwysai'r mynaich i dorri eu syched am y tro olaf cyn croesi i Enlli ac mae'n ffynnon gwerth ymweld â hi.

Yn llawer rhy fuan daeth ein diwrnod ym Mhen Llŷn i ben. Diolch i Wil Williams am ein tywys, a diolch iddo am ei holl waith yn nodi a diogelu ffynhonnau ei fro. Byddai cael aelodau eraill tebyg iddo yn gaffaeliad mawr i'n cymdeithas.

OS OES FFYNNON DDIDDOROL YN EICH HARDAL, BETH AM YMWELD Â HI A RHOI TIPYN O'I HANES YN LLYGAD Y FFYNNON. BYDD Y GOLYGYDD YN FALCH IAWN O DDERBYN UNRHYW GYFRANIAD.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch eich gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

 Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, 4-5 Ffordd Ffrydlas, Carneddi, Bethesda, Gwynedd. LL57 3BH

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argraffwyd gan H.L.Boswell a’i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up