Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 8

Haf 2000

 

DWY FFYNNON AR BENRHYN GŴYR

Dewi E. Lewis

 O fewn chwarter milltir i bentref Llangynydd (Llangennith) ar Benrhyn Gŵyr ceir dwy ffynnon. Saif y gyntaf ohonynt yng nghanol y pentref gyferbyn â'r eglwys. Enw'r ffynnon yma yw Ffynnon Llangynydd. Yma, yn ôl yr hanes, y daeth Cenydd Sant yn y chweched ganrif a sefydlu eglwys. Oherwydd y nam corfforol oedd arno pan oedd yn fabi, rhoddwyd Cenydd mewn cawell a'i daflu i afon Llwchwr. Yng nghanol storm chwythwyd y cawell i gyfeiriad Pen Pyrod (Worm's Head), lle achubwyd Cenydd, gan filoedd o wylanod, yn ôl yr hanes. Daeth carw i rhoi llaeth iddo ac fe'i magwyd felly. Pan oedd yn ddeunaw oed, derbyniodd gyfarwyddyd gan Dduw i adael Pen Pyrod am y tir mawr. Yn ôl yr hanes, yn ystod y daith i Langynydd tarddodd ffynnon o'r ddaear lle bynnag y gorffwysodd. Gan fod Cenydd yn gloff gorffwysai yn aml a dywedir bod pedair ar hugain o ffynhonnau ar y daith o Ben Pyrod i Langynydd. Tybed pa un oedd yma gyntaf yr eglwys neu'r ffynnon?

   

Ffynnon Llangynydd, Gŵyr.

 Ffynnon syml ydyw hon, wedi ei hamgylchynu â gwaith cerrig gyda phibell fetel yn cyfeirio'r dŵr tua'r llawr. Ar un adeg roedd carreg ar ben y ffynnon gyda chroes gerfiedig arni, ond gyda threigl amser ac effaith y tywydd diflannodd y gwaith hwn. Yn ei gyfrol A History of West Gower 1877-94 dywed D.J. Davies fod y ffynnon wedi ei hamgylchynu gan gerrig mawr a bod capfaen drosti. Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg bu'n rhaid gosod y maen dros y ffynnon er mwyn diogelu'r cyflenwad rhag anifeiliaid. Mae merlod gwyllt yn gyffredin ar Benrhyn Gŵyr ac hawdd yw dychmygu'r anifeiliaid yn cyrchu at y cyflenwad hwn. I'r chwith o'r ffynnon ceir ffrwd arall o ddŵr sy'n cael ei chyfeirio gan bibell arall i mewn i faddon carreg. Wrth droed y ffynnon mae berw'r dŵr yn tyfu. O fewn y pum mlynedd diwethaf bu'n rhaid ailadeiladu'r gwaith cerrig o amgylch y ffynnon oherwydd i fodurwr esgeulus ddymchwel yr adeiladwaith wrth barcio'i gar. Yr un yw'r stori heddiw. Pan ymwelais â'r safle yn ddiweddar roedd rhywun wedi parcio fan ddwy droedfedd oddi wrth y ffynnon gan ei gwneud yn amhosibl i mi ei gweld. Ni ddeuthum ar draws unrhyw draddodiadau yn gysylltiedig â'r ffynnon ond heddiw defnyddir y dŵr ar gyfer yr holl fedyddiadau yn yr eglwys. Yn sicr, mae'n ffynnon sy'n werth ei diogelu a'i chadw i'r oesoedd a ddêl.

Ffynnon y Gigfran, Gŵyr.

  Tua chwarter milltir i'r de o Ffynnon Llangynydd ceir ffynnon arall sef Ffynnon y Gigfran (Raven's Well). Nid yw Francis Jones yn cyfeirio ati yn ei lyfr The Holy Wells of Wales, ond yn ei gyfrol Historic Gower cyfeiria Paul Davies ati fel 'Holy Well'. Yn A History of West Gower 1877-94 mae'r awdur yn tybio bod cysylltiad agos rhwng y ffynnon a chyfnod y Llychlynwyr yn yr ardal ac mai dyma yw arwyddocad ei henw. Saif Ffynnon y Gigfran wrth droed Harding down sef safle sydd ag olion tair caer sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn arni. Felly mae posibilrwydd fod y ffynnon wedi bod yn safle bwysig ar un adeg, efallai am bod cyflenwad da o ddŵr ynddi. Yn anffodus, ymddengys mai fel man dinod yr ystyrir y safle heddiw. Pan ymwelais â't ffynnon flwyddyn yn ôl roedd ffrwd nerthol yn llifo ohoni a'r safle wedi ei hamgylchynu a gwaith cerrig a'r dŵr grisialaidd yn cronni mewn pwll. Ond nid dyna'r hanes heddiw. Mae'r safle wedi ei lenwi â phridd a'r gwaith cerrig wedi ei wasgaru. Mae'r ffrwd bellach yn tarddu yn is i lawr ond mewn llecyn sy'n llawer mwy lletwith i’w gyrraedd. Er bod y ffrwd yn un mor bwerus, teimlaf fod rhywfaint o urddas y safle wedi ei golli.

Dyna hanes dwy ffynnon ar Benrhyn Gŵyr, dwy a fu'n gyrchfan i bererinion ar u adeg ond prin yw'r parch a roddir iddynt nawr fel y dengys tystiolaeth ddiweddar. Erbyn heddiw, adeilad o'r enw y King's Head sy'n diwallu anghenion pererinion sychedig Llangynydd!

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

  FFYNNON GARON, TREGARON, CEREDIGION

Derbyniwyd llythyr gan y Cyngor Tref yn nodi fod plant Ysgol Sul Bwlchgwynt wedi gofyn am ganiatâd i ymgymryd â phrosiect i lanhau ardal y ffynnon. Mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at yr adran briodol yn y Cyngor Sir.

 FFYNNON GLOCH, LLANNARTH, CEREDIGION

Trafodwyd llythyr y Gymdeithas yn un o gyfarfodydd y Cyngor Cymuned a chytunwyd i ofyn i'r Gwasanaeth Prawf ddefnyddio amser y rhai sy'n gwneud Gwasanaeth i'r Gymuned fel rhan o ddedfryd llys i lanhau o gwmpas y ffynnon.

 FFYNNON PANT GWYN, WAUNFAWR, GWYNEDD

Yn rhifyn 7 o Llygad y Ffynnon clywsom am fwriad i gau'r ffynnon hon ond awgrymwyd y dylai'r Cyngor osod grid metel drosti fel bod modd gweld y ffynnon a diogelu'r cyhoedd ar yr un pryd. Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Cymuned Waunfawr yn dweud iddynt gysylltu ag Adran Priffyrdd Cyngor Sir Gwynedd a chael ymateb fel a ganlyn:

 'Nid yw'r Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb dros gynnal y ffynnon uchod. Er hynny, drwy ystyried diogelwch defnyddwyr y ffyrdd, a heb ragfarn, rwyf wedi trefnu i wneuthurwr metel gael golwg ar y ffynnon er mwyn sefydlu'r posibilrwydd o gael grid metel arni.'

Ym mis Chwefror cafodd y Cyngor Cymuned wybodaeth gan Adran Priffyrdd a Pheirianneg Cyngor Gwynedd fod prisiau a dyluniadau gan wahanol weithwyr metel wedi eu derbyn a'r un mwyaf addas wedi ei ddewis. Bydd y caead metel wedi ei folltio i'r ddaear ond bydd modd edrych ar y ffynnon drwy'r grid metel.

FFYNNON FIHANGEL , BLAENAU FFESTINIOG

Bellach mae'r cynllun i adnewyddu'r ffynnon hon yn rhan o gynllun ehangach i bwysleisio pwysigrwydd treftadaeth gyfoethog yr ardal. Edrychwn ymlaen i weld beth fydd hanes y ffynnon arbennig hon yn y dyfodol.

FFYNNON BEUNO, Y BALA

Erbyn hyn mae safle'r ffynnon wedi ei hailfeddiannu a wal ar ffurf hanner cylch wedi ei hadeiladu o gwmpas y ffynnon. Gobeithir ddechrau ar y cloddio eleni.

FFYNNON FAIR FAGDALEN, CERRIGYDRUDION

Mae gwaith adfer y ffynnon yn cael ei wneud gan aelodau o Gymdeithas Waliau Sychion Cymru. Maent wedi glanhau'r pridd a'r llaid o'r ffynnon fel bod ei ffurf wreiddiol yn weladwy unwaith eto ac mae ychydig o ddŵr yn dechrau crynhoi ar ei gwaelod. Yn ogystal, mae'r gweithwyr wedi hel cerrig ar y safle i ddechrau ar y gwaith adfer.

FFYNNON FIHANGEL, CILCAIN, GER YR WYDDGRUG.

Rhoddwyd cemegolyn ar foncyff y goeden sycamorwydden a oedd wedi tyfu yn y ffynnon a'i dinistrio. Erbyn hyn mae'r pren wedi marw a gellir parhau a gwaith tynnu'r goeden o'i gwraidd ac adfer y ffynnon.

FFYNNON FAIR, LLANFAIR-IS-GAER

Mae Cledwyn Williams, Llanrug, a chyfaill iddo, Cyril Williams, wedi dangos union safle'r ffynnon i syrfewr Cyngor Gwynedd a mawr obeithiwn y bydd modd ail-greu'r ffynnon a gafodd ei dinistrio pan adeiladwyd ffordd osgoi y Felinheli.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYSYLLTU Â'R CYNGHORAU CYMUNED

  Gan god yr Eisteddfod Genedlaethol yn sir Gaerfyrddin eleni ysgrifennwyd at nifer o Gynghorau Cymuned y sir. Hyd yma, siomedig fu'r ymateb.

FFYNNON ELLI, LLANELLI

Anfonwyd llythyr at Gyngor Tref Llanelli i ofyn iddynt am wybodaeth am Ffynnon Elli. Cafwyd ateb yn ôl i ddweud na wyddent ddim byd o gwbl am fodolaeth y ffynnon, heb sôn am ei lleoliad na'i chyflwr ac yn datgan y byddent yn hoffi cael mwy o wybodaeth am y mater. Wedi peth ymchwil cafwyd hyd i'r canlynol:

Mae Francis Jones yn ei gyfrol The Holy Wells of Wales yn nodi bod cyfeiriad at y ffynnon mewn dogfen yn dyddio o 1578. Mae J. Ceredig Davies yn cyfeirio at ei bodolaeth yn y gorffennol a'i bod yn ffynnon rinweddol a iachusol. Yn Lives of the British Saints , a gyhoeddwyd yn 1908, ceir trafodaeth hir am Elli. Ymddengys ei fod yn ddisgybl i Cadog. Pan ymadawodd hwnnw â Llancarfan penododd Elli yn abad ar y fynachlog yno. Mae eglwysi yn siroedd Brycheiniog a Chaerfyrddin wedi eu cysegru i Elli. Er chwilio mapiau degwm plwyf Llanelli a luniwyd yn 1825, ni lwyddwyd i weld cyfeiriad at y ffynnon. Serch hynny, mewn llyfr a gyhoeddwyd gan eglwys plwyf Llanelli yn 1888, dywedir fod Ffynnon Elli mewn cae o'r enw Cae Ffynnon Elli ac mai o'r enw hwnnw y daeth Waun Elli Place ar waelod isaf New Road. Roedd bri mawr ar y ffynnon yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg oherwydd rhinwedd y dŵr a'i allu i iacháu. Anfonwyd yr wybodaeth yma i'r Cyngor.

FFYNNON CAPEL BEGEWDIN A FFYNNON SANCTAIDD, LLANDDAROG

Mae cyfeiriad at Gapel Begewdin a'r ffynnon sydd oddi mewn iddo yn Adroddiad y Comisiwn Henebion ar gyfer sir Gaerfyrddin. Mae'n adfail o bwys. Roedd y ffynnon a darddai oddi mewn i'r capel yn arbennig o dda am wella aelodau o'r corff a oedd wedi eu hysigo. Mae Ffynnon Sanctaidd rhyw filltir i'r gogledd - ddwyrain o bentref Llanddarog. Ni chafwyd unrhyw ymateb gan y Cyngor Cymuned hyd yma.

FFYNNON HERBACH, PISTYLL DEWI, FFYNNON YORATH, FFYNNON SANT CLARE, LLANARTHNE

Mae Ffynnon Herbach yn tarddu iddo mewn i gapel sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae'n llesol at wella coesau neu freichiau sydd wedi eu hysigo. Nid oes fawr o wybodaeth ar gael am Ffynnon Yorath a Phistyll Dewi, ond dywedir bod pobl yn arfer gadael pinnau yn Ffynnon Sant Clare hyd at 1930. Ni chafwyd ateb i'n cais am wybodaeth gan y Cyngor hyd yma.

 FFYNNON LLUAN A FFYNNON Y CAWR, GORS-LAS

Nid atebwyd ein cais am wybodaeth.

 FFYNHONNAU BRO CYDWELI

Mae Francis Jones yn ei gyfrol The Holy Wells of Wales yn cyfeirio at nifer o ffynhonnau yn yr ardal hon. Holwyd y Cyngor am eu cyflwr ac fe'n cyfeiriwyd at hanesydd lleol, W.K. Buckley. Cafwyd gwybodaeth ganddo fod Ffynnon y Sul a Ffynnon Ellen wedi diflannu. Defnyddiwyd Ffynnon Stockwell mor ddiweddar ag 1963 i gael dŵr yfed ohoni pan oedd pob cyflenwad arall wedi rhewi'n gorn yn nhywydd eithriadol y gaeaf hwnnw. Mae Ffynnon Fihangel yn dal i fodoli ac fe'i gwelir ger y ffordd sy'n arwain o dafarn y Prince of Wales yn Mynydd y Garreg i gyfeiriad Trimsaran. Yn anffodus, ni chawsom wybod beth yw cyflwr y ffynhonnau hyn na phwy sy'n berchen arnynt.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Diolch i'r Dr Aled Lloyd Davies, Yr Wyddgrug, am ganiatáu i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru gynnwys y darn barddoniaeth hwn o'i waith yn Llygad y Ffynnon. Sylweddolwn mai symbol yw'r ffynnon yma am draddodiadau a gwerthodd gorau ein cenedl, ond hwyrach fod gwaith ein Cymdeithas yn adlewyrchiad o'r awydd cyffredinol i 'gadw i'r oesoedd a ddêl y glendid a fu'.

  CADW'R FFYNNON

Pan fo'r pydew yn fudr, heb fwrlwm na nwyd,

A dyfroedd y llynnoedd yn llonydd a llwyd;

Er bod llygredd y nentydd yn tagu hen gân; -

Rhaid cadw y ffynnon yn lân.

Pan fo'r dail oll yn llipa; pan fo'r egin yn wan;

Pan fo gwynt oer y dwyrain yn crino pob man;

Er yr hirlwm a'r barrug gaeafol ei gur; -

Rhaid cadw y ffynnon yn bur.

Pan fo mwswg' bygythiol yn lladd popeth hardd;

Pan fo chwyn yn cordeddu drwy flodau yr ardd;

Er gwaethaf 'r holl gwyno ddaw'n gyson i'n clyw; -

Rhaid cadw y ffynnon yn fyw.

 

Yn wyneb difrawder dihyder ein hoes;

Er cleisio pob gobaith gan wyntoedd sy'n groes.

Rhaid gwarchod y "pethe", rhoi cân ymhob nant; -

Rhaid gwarchod y ffynnon i'n plant.

Mewn gwlad sy' mor fynych yn chwennych pob chwa

A ddaw dros y gorwel, a'i hawel a'i ha'.

Rhaid sefyll yn gadarn, er pob storom a chwyth; -

Rhaid cadw y ffynnon am byth.

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR…PYTIAU DIFYR…PYTIAU DIFYR..

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â sir Gaerfyrddin eleni, a dyma ychydig o wybodaeth am rai o'i ffynhonnau gan un a oedd yn adnabod y sir yn dda iawn.

CRWYDRO SIR GÂR - Aneirin Talfan Davies, (1970)

FFYNNON ANTWN, LLANSTEFFAN. (Tudalen 247 -8)

Nid oes neb, braidd, yn ymweld â Llansteffan heb roddi tro am Ffynnon Antwn Sant. Deuir o hyd i'r ffynnon swyn hon drwy ddilyn llwybr ar hyd y glannau am ryw hanner milltir. Ac yno mewn cilfach y mae'r ffynnon, lle gynt, y dywedir, y gellid gweld delw o'r sant ar silff uwchben y dŵr. Yr oedd y ffynnon yn sych pan ymwelais â hi.

 "Oes yma lawer o gyrchu ati?" gofynnais i hen ŵr a oedd yn eistedd ar un o'r seddau yn y llain goed.

 "O os, 'dyw ofergoelieth ddim wedi marw mas, hyd yn od yn Llansteffan 'ma! Ar waetha' hollti'r atom, ma' na ddigon o grotesi penchwiban i wneud taith Nicodemus i fwrw'u pinne i'r dŵr."

 "Pinne?"

 "Ie, dyna'r arfer, bwrw pinne i'r dŵr a dymuno."

FFYNNON ANTWN, LLANSTEFFAN

 

FFYNNON OLBRI, LLAN-Y-BRI. (Tudalen 249)

Fel Llansteffan mae gan Llan-y-bri, hithau, ei ffynnon, er nad oes sôn bod iddi unrhyw rinweddau meddygol na gwyrthiol - ei hunig rinwedd yw mai hi a gyflenwai anghenion y pentref sychedig gynt. Ffynnon Olbri yw ei henw, ac awgrymodd rhywun wrthyf ei bod yn eithaf tebyg mai Llanolbri oedd enw gwreiddiol y pentref, a hwnnw wedi newid gyda threigl y blynyddoedd i Lan-y-bri.

  FFYNNON FRYNACH, LLANBOIDY. (Tudalen 253)

Y mae eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Brynach, sant o Wyddel, y dywed traddodiad iddo sefydlu eglwys pa le bynnag y gwelwai hwch a thorraid o foch! …Y mae ffynnon yn y pentref a fu'n gyrchfan pererindodau yn y Canol Oesoedd…

  FFYNNON CASTELL CARREG CENNEN. (Tudalen 272)

A oes gastell mwy rhamantus yr olwg nag ef yng Nghymru?… Dringasom y muriau a dilyn y llwybr tywyll y tu mewn i'r castell sydd yn arwain at ffynnon ryw 150 troedfedd yng nghrombil y ddaear odditano.

  FFYNNON DDYFAN, LLANDYFAN. (Tudalen 272-3)

I gyrraedd Llandybïe rhaid inni ailgyfeirio ein camre tua phentref y Trap…a throi i'r dde i Landyfan a'i ffynnon wyrthiol, lle gynt, yn ôl y Parchedig Gomer Roberts, hanesydd y plwyf, "y cyrchai pererinion ati i'w gwellhau." A dyfynnu Mr. Roberts eto: "Yr oedd capel bychan wedi ei godi mewn cysylltiad â'r ffynnon hon er hwylustod i'r cleifion, ond erbyn y 18fed ganrif collodd y capel a'r ffynnon hithau eu bri cyntefig, ac fel canlyniad daeth y lle yn boblogaidd fel man cyfarfod at bwrpas chwarae a champau cyffredin yr oes."

  FFYNNON DYBÏE, LLAN DYBÏE. (Tudalen 274)

Nid yw Llandybïe yn bentref mawr, er bod y plwyf yn un eang. Y mae'r pentref ei hun yn gwasgu'n glòs o gwmpas Eglwys gadarn y plwyf, a'r heol yn gwau ei ffordd yn beryglus rhwng mur yr eglwys a'r tafarnau dros y ffordd. Ond er bod Llandybïe yn enwog gynt am ei gwrw a'i fedd - oni threuliodd Twm o'r Nant ei hun lawer awr ar fainc y "Corner House" yn cyfansoddi ei dribannau a'i gywyddau? - yr oedd llawn mor enwog gynt oherwydd dyfroedd ffynnon Tybïe. Perthyn y Santes Tybïe i'r bumed ganrif, a dywedir iddi gael ei lladd gan y paganiaid ac i ffynnon risialaidd darddu yn y fan. Canodd un o feirdd y pentre, y Parchedig J.T.Job iddi fel yma:

Dwys fu ei harwyl: deisyfau hirion,

Gofid a dagrau - gafodau digron:

A'u chwerwa' alar beichio'r awelon

Wnâi llef rhianedd "Gelli Forynion!"

Eithr lle bu gwaedle'r dirion - Dybïe

(O gyff y wine) - gwêl acw'i "Ffynnon."

HANESYN ALLAN O TALES OF SOUTH WALES gan Ken Radford.

Ffynnon Swyn Castell Carreg Cennen

Roedd unwaith ffarmwr canol oed yn byw yn ardal Llangadog. Wedi diwrnod caled o waith byddai'n mynd adref ac yn eistedd gyda'i wraig wrth y tân. Yng ngolau'r canhwyllau sylwai fod ei chroen wedi crychu a'i gwallt yn gwynnu ac er ei bod yn ei charu o hyd byddai'n dyheu am y ferch ifanc landeg a briododd gynt. Gwyddai mai swyngyfaredd yn unig a allai adfer ei hieuenctid iddi.

Un diwrnod ar ei ffordd adref o farchnad Llandeilo aeth i adfeilion Castell Carreg Cennen. Cerddodd ar hyd y twnel hir at y ffynnon ac edrychodd i ddyfnder y dŵr tywyll a deisyf 'O pe bai fy ngwraig yn ieuanc ac yn deg eto'. Yna, yn ôl yr arfer, taflodd hoelen rydlyd a oedd wedi bod mewn pren derw am dri gaeaf i'r dŵr.

Aeth adref ac er mawr syndod iddo gwelodd fod merch ieuanc hardd yn aros amdano. Gwyddai mai y ferch a briododd ydoedd. Am gyfnod bu'r ddau yn byw yn hapus ond buan y blinodd y ferch ifanc ar yr hen ddyn a eisteddai gyferbyn a hi yng ngolau'r gannwyll fin nos. Cyfarfyddodd â dyn ifanc golygus yn y ffair yng Nghaerfyrddin ac aeth i ffwrdd gydag ef er mawr ofid i'w gŵr.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

  FFYNNON Y CYFF, Licswm, ger Yr Wyddgrug

gan

Gwilym Gwenffrwd 1889 (Rhesycae)

 

Ffynnon-y-Cyff a lona - y lliaws

    Hwy'n llawen ddioda

Bron hoff, trwy y dibrin Ha!

Ddyd iddynt ddiod Adda.

 

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ANNWYL OLYGYDD … ANNWYL OLYGYDD… ANNWYL OLYGYDD…

Diolch o galon i Wil Williams, Ardd Las, Rhoshirwaun, Pwllheli am anfon gwybodaeth a lluniau am ddwy ffynnon i LLYGAD Y FFYNNON.

Nodyn byr am ddwy ffynnon sydd gen i, heb fawr o fanylion. Mae'r gyntaf, sef Ffynnon Saint, neu Ffynnon Bron Llwyd, wedi ei chofrestru yn An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire a disgrifir hi fel ffynnon sy'n sefyll dri chan troedfedd uwchlaw'r môr, ar lethrau Mynydd y Rhiw yn Llŷn, wrth ymyl Bron Llwyd. Mae iddi furiau cerrig yn amgau llyn naw troedfedd sgwâr. Trwch y muriau yw dwy droedfedd. Mae'n amhosib penderfynu a yw'r tri gris ar y pen dwyreiniol o'r ochr ogleddol a'r ochr ddeheuol yn artiffisial ynteu wedi eu creu yn ffodus-ddamweiniol drwy gwymp y cerrig.

Cyflwr y ffynnon: teg.                 Cyfeirnod map: SH 2419 2947

Ffynnon y Saint (Ffynnon Bron Llwyd), Rhiw, Llŷn. (Ebrill 1998)

Mae'r ail ffynnon yn ddirgelwch llwyr. Daethpwyd o hyd iddi'n ddamweiniol ym mis Mehefin 1999 wrth osod llwybr troed ar ochr y ffordd fawr, B4413, sydd yn arwain o Aberdaron i Bwllheli. Penderfynwyd gwneud llwybr gan ei bod yn beryglus cerddedar hyd y ffordd i ac o'r pentref. Mae'r ffynnon wedi ei gweithio gyda cherrig ac roedd wedi ei gorchuddio a phridd ac o'r golwg yn yr allt, a thu ôl i wal. Pan ddaeth yr ymgymerwyr o hyd iddi gwelwyd cyfle i wneud yn fawr ohoni ac mae wedi ei thacluso a'i gwneud yn focal point gyda sedd gerllaw. Mae pobl sydd dros eu pedwar ugain wedi eu holi ond does gan neb gof am fodolaeth y ffynnon hon. Mae'r Cyngor wedi derbyn yr enw Ffynnon Sarn y Felin arni. Mae plwyfolion Aberdaron yn hoff o'r enw Sarn ar eu gelltydd ac mae melin flawd i lawr yn y pentref sydd wedi cau ers 1950.

Cyflwr y ffynnon: da dros ben.            Cyfeirnod map: SH 174 264

 

Darganfod Ffynnon Sarn y Felin wrth ledu'r ffordd. (Mehefin 1999)

 

Ffynnon Sarn y Felin wedi ei hadgywiro. (Ionawr 2000)

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

MAE FFYNNON O DAN Y CAPEL…

Mae hanes achos y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yng Nghaer yn mynd yn ôl i 1789. Ar y dechrau, mewn tai y cyfarfyddai'r aelodau fel mewn llawer man arall, ond erbyn 1805 adeiladwyd capel yn Stryd y Drindod. Cymaint oedd llwyddiant y capel hwnnw nes bu'n rhaid prynu tir yn 1819 a chodi capel newydd. Erbyn 1864 roedd y capel hwnnw hefyd yn rhy fach. Prynwyd tŷ yn Stryd Sant Ioan am £1,700, ei ddymchwel ac adeiladu'r capel presennol ynghyd ag ysgoldy mawr ar y safle. Costiodd hyn £8,000, swm enfawr yr adeg honno. Agorwyd y capel newydd yn 1866. Cododd rhif yr aelodau i 450 cyn lleihau yn ystod yr ugeinfed ganrif ac erbyn 1996 tua 140 oedd eu nifer. Aeth yr adeiladau yn rhy gostus i'w cadw felly gwerthwyd yr ysgoldy am swm sylweddol ac addasu galeri'r capel i wneud ystafell ymgynnull a chegin braf. Aed ati i addasu'r cyntedd hefyd. Tra oedd yr adeiladwyr yn gweithio ar y capel daethant o hyd i rywbeth anghyffredin. Roedd fynnon ugain troedfedd o ddyfnder a dwy droedfedd o led ac ynddi ddwy droedfedd o ddŵr glân o dan yr adeilad. Yn ffodus, llwyddwyd i'w diogelu ond mae bellach o'r golwg. Rhoddwyd slaben o goncrid arni. Does dim i ddangos ei bod yno, ond yno y mae, o dan y sedd olaf ar y dde wrth fynd i mewn i'r capel. Mae adeiladwaith y ffynnon yn dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif. Yn y gorffennol roedd yn diwallu anghenion trigolion Caer. Bellach mae ar safle sy'n diwallu anghenion ysbrydol yn ogystal.

Nid peth anarferol yw cael ffynnon oddi mewn i gapel. Wrth addasu hen gapel yn Llangïan, Llŷn i fod yn gartref, daeth y Prifardd Elwyn Roberts ar draws ffynnon. Adeiladwyd Capel Als, Llanelli ar safle Ffynnon Alis, a dyna sut y cafodd ei enw. Mae Ffynnon Drillo oddi mewn i eglwys fechan Trillo Sant ar lan y môr yn Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn. Ar un adeg roedd adeilad yr eglwys yn ddigon eang i gynnwys Ffynnon Fair, yn Wigfair, ger Llanelwy. Ym mhlwyf Llanddarog, sir Gaerfyrddin roedd ffynnon  oddi mewn i gapel anwes bychan o'r enw Capel Begewdin. Felly hefyd ym mhlwyf Llanarthne yn yr un sir. Yno roedd ffynnon gref yn codi oddi mewn i adeilad a adnabyddid fel Capel Herbach. Mae'n siŵr fod ffynhonnau a fu gynt oddi fewn i adeilad capel anwes neu eglwys bellach y tu allan i'r adeilad o ganlyniad i adnewyddu'r adeilad. Tybed a wyddoch chi am enghreifftiau eraill o ffynhonnau oddi mewn i gapel neu eglwys, neu dŷ annedd hyd yn oed?

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CADW'R LLWYBR CUL

Yn Llygad y Ffynnon Rhif 7 soniwyd am yr anhawster o gael mynediad i Ffynnon Fair yn Llangrannog. Gan fod pererinion Pabyddol wedi bod yn mynd ar bererindod at y ffynnon yn ddiweddar, ysgrifennwyd at y Cylch Catholig i ofyn am eu cymorth. Derbyniwyd yr wybodaeth ganlynol:

Os yw pobl wedi bod yn cerdded at ffynnon ar draws tir preifat yn ddilyffethair ers dros ugain mlynedd, ac yn gwneud hynny drwy hawl yn hytrach na chael caniatâd y perchennog tir, mae'n bosibl gwneud cais i'r Awdurdod Priffyrdd lleol i gael cofrestru'r llwybr fel un cyhoeddus.

Yn ogystal anfonwyd yr un cais at Gymdeithas Edward Llwyd. Maent hwythau'n cyfeirio at yr wybodaeth am y defnydd o lwybr yn ddi-dor am ugain mlynedd. Diolch iddynt am y manylion canlynol:

            DATRYS ANSICRWYDD

Ceir tair ffordd y gellir datrys yr ansicrwydd presennol dros fodolaeth a statws hawliau tramwy. Yn gyntaf, gall unrhyw un wneud cais am orchymyn i addasu'r map diffinio a'r datganiad. Yn ail, gall tirfeddianwyr gyflwyno map datganiad a datganiad statudol i'r awdurdod priffyrdd yn nodi pa hawliau tramwy cyhoeddus, os o gwbl, y maent yn eu cydnabod dros eu tir. Yn drydydd, mae gan awdurdodau priffyrdd ddyletswydd i gadw'r map diffiniol a'r datganiad o dan arolygaeth ac ailddosbarthu unrhyw ffyrdd a nodir ar y map diffiniol fel llwybrau cyhoeddus. Ym mhob achos, yr allwedd yw tystiolaeth ffeithiol.

          GORCHMYNION ADDASU MAP DIFFINIOL

Gall unrhyw dirfeddiannwr, perchennog neu ddefnyddiwr wneud cais am orchymyn addasu map diffiniol. Gall tirfeddianwyr adeilaid gredu, er enghraifft, na ddylai hawl tramwy fod wedi ei ddangos ar y map diffiniol o gwbl… felly hefyd, gall defnyddwyr gredu y dylid ychwanegu hawliau tramwy ar sail tystiolaeth o ddogfennau hanesyddol, neu dystiolaeth o ddefnydd (naill ai dros 20 mlynedd drwy gyflwyniad statudol tybiedig, neu dros gyfnod llai o dan gyfraith gwlad). Gall awdurdodau priffyrdd hefyd wneud gorchmynion pan fyddant yn darganfod tystiolaeth sy'n dangos bod map diffiniol neu ddatganiad yn anghywir.

Pwy bynnag sy'n gofyn am orchymyn addasu map diffiniol, yr un egwyddorion sy'n berthnasol. Y pwysicaf o'r rhain yw'r angen am dystiolaeth ffeithiol. Mae'r ymarfer cyfan yn ymwneud â datrys yr ansicrwydd dros ba hawliau sydd eisoes yn bodoli, nid dros ba hawliau sy'n ddymunol o safbwynt cyhoeddus neu breifat.

Wedi i dystiolaeth ffeithiol ddigonol gael ei gasglu, gellir gofyn i'r awdurdod yn ffurfiol i wneud gorchymyn addasu map ffurfiol o dan Adrannau 53-58 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

            GWRTHBROFI CYFLWYNIAD TYBIEDIG

Mae nifer o'r ceisiadau a wneir i awdurdodau priffyrdd ar gyfer gorchmynion addasu map diffiniol yn ymwneud â cheisiadau yn unig. Gellir cyflwyno'r rhain o dan ddarpariaethau'r Ddeddf Priffyrdd 1980 sy'n ymwneud â chyflwyniad tybiedig (defnydd am o leiaf 20 mlynedd), neu o dan gyfraith gwlad (defnydd am gyfnod llai o bosibl).

Mae Adran 31 (6) o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn galluogi i dirfeddianwyr ddiogelu eu hunain rhag ceisiadau sy'n seiliedig ar ddefnydd yn unig drwy gyflwyno map, datganiad a datganiad statudol i'r awdurdod priffyrdd yn dangos hawliau tramwy y maent yn eu cydnabod dros eu tir.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

 

Cledwyn Williams, Llanrug, Gwynedd.

Meirlys Witton-Davies, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Y Parch Tom R. Wright, Broughton Heath, Caer.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU LLANELLI A'R CYLCH 2000

CYFARFOD CYFFREDINOL

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

DYDD LLUN   7 AWST   11.30 -12.30   PABELL Y CYMDEITHASAU

Darlith am

FEIRDD YR OESOEDD CANOL A'N FFYNHONNAU

gan

Dr IESTYN DANIEL, Aberystwyth

CROESO CYNNES I BAWB

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN…

  Daeth yn amser talu tâl aelodaeth 2000-2001

  Byddai'r Trysorydd, Ken Lloyd Gruffydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint,

yn falch iawn o dderbyn y taliadau mor fuan â phosibl, os gwelwch yn dda.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Yn y rhifyn nesaf cawn hanes adfer Ffynnon Ffraid, Swyddffynnon, Ceredigion.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch eich gohebiaeth at Y Golygydd: 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Y Siswrn, 2 Stryd Watling, Llanrwst, Dyffryn Conwy.

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU.

Argraffwyd gan H.L. Boswell a’i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up