Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

  Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru 

Rhif 7

Nadolig 1999

 

Adfer Ffynnon Fihangel, Cilcain

Eirlys Gruffydd

 

Yn rhifyn yr haf o Llygad y Ffynnon adroddwyd hanes ymdrech Cyfeillion Ffynnon Fihangel, Cilcain, sir y Fflint i adfer y ffynnon sydd bron â diflannu. Dyma mwy o fanylion am yr ymgyrch:

Bu rhai o’r cyfeillion yn gweithio ar safle’r ffynnon ar Fehefin y 6ed. Casglwyd y cerrig o’r muriau a amgylchynai’r ffynnon a oedd wedi llithro i’r cae islaw a’u pentyrru’n barod i gael eu hailddefnyddio i adfer y safle. Gwelwyd fod rhai o’r cerrig a oedd ar y grisiau yn arwain at y ffynnon yno o hyd ond eu bod wedi eu claddu o dan y pridd. Roedd eraill, fodd bynnag, wedi diflannu. Gwelwyd hefyd fod y goeden wedi dinistrio mwy na hanner y ffynnon ei hun.

Mewn cyfarfod ar Fehefin y 23ain penderfynwyd gwahodd cadeirydd Pwyllgor Mileniwm y pentref i’r cyfarfod nesaf ar Orffennaf y 21ain, a dyna a fu. Roedd ganddo gryn ddiddordeb yng ngwaith adfer y ffynnon. Yn ystod y drafodaeth dywedwyd fod gwraig leol, a fu farw ddwy flynedd yn ôl, wedi datgan diddordeb mewn adfer y ffynnon, a bod arian wedi ei gasglu er cof amdani ar gyfer y gwaith. Soniwyd am y posibilrwydd o gysylltu â’r teulu. Penderfynwyd hefyd fod rhaid cloddio’r ffynnon i weld beth sydd ar ôl yno cyn torri’r goeden, rhag ofn i’r gwaith hwnnw ddinistrio’r ffynnon yn llwyr.

 

 

 

Ar y dydd Sadwrn canlynol aeth Delyth Williams a minnau ati i gloddio’r ffynnon. Yn fuan daeth yr hyn a oedd yn weddill o’r grisiau i lawr at y dŵr i’r golwg. Wrth glirio’r ffynnon ei hun gwelwyd fod rhywfaint o’r mur yn dal i sefyll. Yn sydyn, wrth glirio’r gris isaf, llifodd dŵr o’r ffynnon dros y garreg. Roedd hyn yn brawf fod y dŵr yno o hyd er bod y ffynnon ei hun yn ymddangos yn gwbl sych. Wedi clirio’r gofer o’r cae yr ochr arall i’r ffynnon llifodd y dŵr yn gryf.

Y diwrnod canlynol dymchwelwyd y goeden a syrthiodd cerrig mawr o’r mur sydd rhwng y cae a’r ffordd i mewn i’r ffynnon, gan chwalu’r gwaith cerrig oedd wedi goroesi. Yr wythnos ganlynol aeth criw ohonom yno i geisio dinoethi gwreiddiau’r goeden a llifio drwyddynt er mwyn codi’r boncyff o’r ddaear. Buan y sylweddolwyd nad gwaith i athrawon a gweithwyr swyddfa oedd hyn! Byddai’n rhaid cael dynion cydnerth i’n helpu!

Gan fod pawb wedi gwasgaru yn ystod mis Awst ni chafwyd cyfarfod tan Fedi’r 22ain. Roedd Delyth wedi bod yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a chanfod cyfeiriad at y ffynnon yn dyddio’n ôl i ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Roedd Tom, perchennog y tir, wedi ceisio symud boncyff y goeden, ond yn anffodus ofer fu pob ymdrech hyd yn oed gyda pheiriant pwerus iawn. Ceisiwyd torri’r gwreiddiau â llif drydan gref ond gan fod y pren yn tyfu rhwng cerrig roedd y llif yn cael ei niwedio o hyd wrth daro yn eu herbyn. Yr unig ffordd o fynd at y gwreiddiau, sydd wedi lledu fel cwrlid dros y llethr, oedd gyda bar haearn a bwyell – proses araf a thrwm. Trafodwyd nifer o bosibiliadau sut i symud y boncyff. Gellid ei losgi’n araf; symud y pridd a’r cerrig o dan y gwreiddiau gan ddefnyddio dŵr yn cael ei chwistrellu o dan bwysedd arnynt; defnyddio Jac Codi Baw i ostwng lefel y tir o’i gwmpas; cael llif cryfach – un sy’n torri trwy goncrid. Teimlai pawb fod yn rhaid cael gwared â’r boncyff gan y byddai’r goeden yn dechrau tyfu eto pe bai’n cael llonydd.

Yn y cyfarfod ar Hydref yr 20fed clywyd fod modd cael cemegyn lladd coed ond nad yw’n beryglus i unrhyw beth arall. Penderfynwyd prynu’r cemegyn, ei gymysgu â phast papuro i’w wneud yn haws ei drin, torri’r hyn sy’n weddill o foncyff y goeden mor isel â phosib ac yna taenu’r gymysgedd dros wyneb y pren. Dylai’r gymysgedd gael ei amsugno gan y goeden, ac wedi iddo gyrraedd blaen y gwreiddiau byw, dylai eu lladd. Dros y gaeaf bydd y pren yn pydru a bydd yn llawer haws cael gwared ag ef wedyn.

Sylweddolwyd hefyd ei bod bellach yn amser i ni godi arian a phenderfynwyd gosod stondin yn lleol i werthu nwyddau ar ddechrau mis Rhagfyr. Mae’r gwaith o geisio adfer y ffynnon wedi bod yn un hir, ac ni fydd modd gwneud dim ar y safle tan y gwanwyn. Peth felly yw adfer ffynnon, gwaith hir a llafurus ac anodd ar brydiau, ond un sy’n siŵr o roi boddhad mawr yn y diwedd.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

 

Rol Williams, Waunfawr, Gwynedd.

Cangen Llangefni o Sefydliad y Merched, Môn.

Anwen Parry, Gwalchmai, Môn.

Gwilym M. Jones, Llangefni.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Y CYFARFOD CYFFREDINOL

Cynhaliwyd y cyfarfod ar faes Eisteddfod Genedlaethol Môn ar Awst y 4 ydd. Yn absenoldeb anorfod y Cadeirydd, Dewi E. Lewis, llywyddwyd yn urddasol gan yr Is-gadeirydd, Iorwerth Hughes. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion Cyfarfod Cyffredinol 1998, ailetholwyd y Cadeirydd ond dymunodd yr Is-gadeirydd beidio â pharhau yn ei swydd am flwyddyn arall. Etholwyd Howard Huws i swydd yr Is – lywydd. Daeth Eluned Mai Porter yn aelod o’r Cyngor.

Yn ôl adroddiad y Trysorydd Mygedol, Ken Lloyd Gruffydd, roedd gan y Gymdeithas £681.61 yn y banc. Roedd cyfanswm y tâl aelodaeth yn £199. Mae 68 o aelodau ar y llyfrau ar hyn o bryd. Costiodd £96 i gyhoeddi dau rifyn o Llygad y Ffynnon. Roedd cost amlenni a stampiau yn £22 a llogi ystafell ar gyfer cyfarfod y Cyngor yn £10. Talwyd £11 i Wellsprings yn dâl aelodaeth gennym ni i’r gymdeithas honno. Cadarnhaodd yr Archwiliwr Mygedol, Dennis Roberts, fod cyfrifon y Trysorydd yn drefnus a chywir. Diolchodd Robin Gwyndaf i swyddogion y Gymdeithas am eu gwaith.

I ddilyn cafwyd darlith ddiddorol iawn gan Gwilym T. Jones ar ‘Ffynhonnau Môn’

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

Ffynnon y Gloch, Llannarth, Ceredigion.

 Mae ffermdy Ffynnon Gloch ychydig uwchlaw eglwys Llannarth. Wedi holi yno cafwyd ar ddeall fod dŵr yn arfer cael ei bwmpio i fyny o’r lôn islaw i fuarth y fferm yn y gorffennol. Credai un gŵr y bu i ni siarad ag ef fod ffynnon wrth ochr y ffordd yn ymyl hen sgubor. Wedi mynd i lawr at y ffordd gul a cherdded ar ei hyd am ychydig, gwelsom hen adeilad wedi ei orchuddio bron yn llwyr â iorwg. Nid oedd golwg o ffynnon yn y clawdd, ond o daro’r drain a’r mieri gwelwyd fod cilfach yn union lle’r oedd yr hen adeilad yn gorffen, a bod cerrig anferth yn creu palmant gwastad yn y gilfach. Wedi mynd iddi gwelwyd fod dŵr y ffynnon yn tarddu oddi mewn i faddon petryal, a gwaith cerrig wedi ei godi uwch ei ben. Roedd y dŵr yn goferu allan o dan y ffordd. Mewn gardd tŷ yn union gyferbyn â’r ffynnon, ond ar lefel ychydig is na’r ffordd, roedd llyn o faint sylweddol. Mae’n amlwg mai i’r fan honno y mae dŵr y ffynnon yn llifo. Credwn fod nifer o risiau wedi arwain i lawr at y ffynnon o’r ffordd. Hwyrach eu bod yno o hyd, wedi eu cuddio o dan y tyfiant.

 

 

Tra oeddem ger y ffynnon daeth pedair gwraig leol heibio a holi am beth yr oeddem yn chwilio. Cafodd pawb syndod o weld y ffynnon. Gwyddent am y traddodiad sydd wedi goroesi am y ffynnon. Dywedid bod y Diafol wedi dwyn cloch o dŵr eglwys Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, ac wedi ei chario cyn belled ag eglwys Llannarth a’i gollwng ger y ffynnon. Byth ers hynny mae melltith ar y fan, a dywedir na ellir clywed cloch yr eglwys yn canu wrth sefyll gerllaw’r ffynnon. Beth bynnag am werth y traddodiad yma, roedd pobl yn pentref yn arfer dod at y ffynnon i gael eu dŵr, a hynny o fewn cof.

Tra oeddem ar ymweliad â Llannarth cawsom gyfle i siarad â nifer o drigolion y pentref. Fe’n cynghorwyd i gysylltu â’r Rheithor ond yn anffodus nid oedd gartref y bore hwnnw. Pan ddaeth cyfle, ysgrifennais ato gan ofyn iddo a oedd modd i’r gymuned wneud rhywbeth i lanhau safle’r ffynnon, gan ei bod yn rhan o lên gwerin yr ardal ac yn amlwg o ddiddordeb hanesyddol. Hyd yn hyn ni chafwyd ateb ganddo. Anfonwyd at y Cyngor Cymuned hefyd ond ni chafwyd ymateb (Gol.)

Ffynnon Garon, Tregaron, Ceredigion

Gyda chryn drafferth y cafwyd hyd i’r ffynnon hon a hynny ar ôl cael ein cyfeirio ati gan un a fu’n ei glanhau’n gyson am rhai blynyddoedd. Mae yng nghanol tyfiant ar ochr dde y ffordd sy’n arwain i mewn i Dregaron o gyfeiriad Llambed. Mae i lawr ar waelod llethr serth bron gyferbyn â’r goleuadau sy’n fflachio ar adegau prysur i ddangos bod Ysgol Uwchradd Tregaron gerllaw. Arbedwyd ac adnewyddwyd y ffynnon gan Gyngor Sir Dyfed yn 1991, pan wnaed gwelliannau i’r ffordd. Cyngor Cymuned Tregaron sy’n berchen ar y ffynnon ac ar un adeg gwnaed llwybr ati, ond erbyn hyn mae’r llwybr wedi diflannu’n llwyr o dan y tyfiant. Wedi cyrraedd at y ffynnon gwelwyd bod ei hadeiladwaith yn ddiddorol a’i bod mewn cyflwr da. Mae’r dŵr yn llifo ohoni drwy sianel o waith cerrig cywrain ond eto mae tyfiant o wair trwchus wedi cau’r sianel ac mae’r ffynnon wedi gorlifo. Mae angen gofal cyson arni i gadw’r gofer yn glir ac ysgrifennwyd at y Cyngor i ofyn i hyn gael ei wneud. Diddorol oedd sylwi bod ceiniog wedi ei thaflu i’r ffynnon yn ddiweddar. Yn y gorffennol roedd plant yn arfer dod at y ffynnon i yfed y dŵr wedi ei felysu â siwgwr ar Fawrth y pumed, dydd gŵyl Sant Caron. Hefyd byddai cariadon yn dod ati ar Sul y Pasg i rhoi anrheg o fara gwyn i’w gilydd ac i yfed y dŵr. Byddai’r ffynnon yn gyrchfan i nifer fawr o bobl ar yr adegau hyn.  

Yng nghyfrol ddiddorol Bethan Philip, Rhwng Dau Fyd, sy’n sôn am hanes Joseph Jenkins, Trecefel, Tregaron, a fu’n swagman yn Awstralia am bum mlynedd ar hugain, cafwyd cyfeiriad at Ffynnon Garon a nifer o ffynhonnau eraill. Roedd Joseph Jenkins yn cadw dyddiaduron ac ynddynt ceir gwybodaeth am ffynhonnau’r ardal. Meddai am Ffynnon Garon:

Swains and maids used to resort on Easter Day… To drink the mother of all liquors produced by this spring.

Mae’n cyfeirio hefyd at Ffynnon Elwad ger Allt Ddu. Darganfuwyd y ffynnon hon gan fynachod Ystrad-fflur ac roedd yn arbennig o dda at wella bronnau poenus. Gerllaw Pont Einon mae Ffynnon Einon yn tarddu. Ailddarganfuwyd y ffynnon hon yn 1855 a’i hailagor mewn seremoni fach. Nododd Joseph Jenkins yn ei ddyddiadur:

The company assembled at the well, and having drunk several pints of the clear water,

sang the verses.

Roedd yntau wedi cyfansoddi englynion i nodi’r digwyddiad.

FFYNNON EINON

Mae Ffynnon Einon yn anwyl – i glaf

    Dan glwyfau mhob perwyl.

Ond mae’n hynod, mewn anhwyl

Gyr bob haint, egyr bob hwyl.

 

Gwrol y tardd o gariad – o law Ner

    I le noeth daw’r llygad

O! ffoi i’r wledd, wnaffo’r wlad,

Ac oddef ei dadguddiad.

O gyrrau, tua Tregaron – O dewch

    Rai sydd dan archollion.

Golwg hoff – rhed y cloffion –

Heibio i ffwrdd heb eu ffon.

Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Tregaron i ofyn iddynt lanhau’r gofer yn Ffynnon Garon a hwyluso’r ffordd ati. Holwyd hefyd am gyflwr Ffynnon Einon a Ffynnon Elwad. (Gol.)

Ffynnon Redifael, Penmynydd, Môn.

Ar ymweliad â Phenmynydd yn ystod yr haf cafwyd ar ddeall bod safle’r ffynnon mewn cae bron gyferbyn â’r eglwys. Mae giât mochyn yn arwain o’r ffordd gul i’r cae a elwir Cae Gredifael. Roedd dŵr ffynnon yn sant y cysegrwyd eglwys Penmynydd iddo yn dda iawn at wella defaid ar ddwylo. Rhaid oedd pigo’r ddafad â phin nes iddi waedu ac yna ei golchi yn y ffynnon. Roedd y ffynnon mewn pant ar ganol y cae ac yn ei gwneud hi’n anodd i’r ffermwr aredig. Yn anffodus dinistriwyd y ffynnon tuag ugain mlynedd yn ôl pan aeth y ffermwr â’i aradr drwy’r ffynnon a pheipio’r dŵr allan o’r cae ac i’r ffordd. Roedd safle’r ffynnon wedi ei nodi ar fapiau tan yn gymharol ddiweddar a’r ysgrifen yn dangos yn glir fod hon yn grair hanesyddol. Nid oes sôn amdani yng nghyfrol Comisiwn Henebion y plwyf ac felly nid oes gennym gofnod o’i maint a’i siâp. Cysylltwyd â’r Cyngor Cymuned i weld a oes modd ailgreu’r ffynnon ar gwr y cae lle na fyddai’n gwneud aredig yn anodd ond lle byddai’n hawdd mynd ati heb amharu ar y cnwd yn y cae. Cyngor Sir Ynys Môn sy’n berchen y tir. Ysgrifennwyd atynt hwythau hefyd i geisio sicrhau na fydd yr un ffynnon arall yn cael ei dinistrio ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor Sir.

Ffynnon Rhedyw, Llanllyfni, Gwynedd

Bu’r rheithor, y Parch. Eric Roberts, mor garedig â mynd i chwilio am y ffynnon gyda dau aelod o’n cymdeithas. Dyma’r unig ffynnon ac eglwys a gysegrwyd i’r sant yma yng Nghymru. Mae’r ffynnon ar lan yr afon y tu ôl i’r eglwys, ond er chwilio’n ddyfal ni lwyddwyd i ddod o hyd iddi. Nid oes unrhyw berygl i’r ffynnon gael ei dinistrio gan y ffordd osgoi arfaethedig, fodd bynnag, a gobeithio y daw cyfle arall i ni fynd i’w gweld yn y dyfodol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

ADFER FFYNHONNAU

Yn ystod yr haf eleni adferwyd Ffynnon Ffraid, Swyddffynnon, Ceredigion. Mawr obeithiwn gynnwys yr hanes yn y rhifyn nesaf.

Ffurfiwyd cymdeithas Cyfeillion Ffynnon Fihangel i geisio adfer Ffynnon Fihangel ym Mlaenau Ffestiniog. Edrychwn ymlaen at gael clywed sut mae pethau’n datblygu yno.

Yn ystod mis Tachwedd bu Peter Crew, yr archeolegydd, yn arwain tîm o weithwyr i geisio ailagor Ffynnon Beuno yn y Bala. Siawns na chawn yr hanes i gyd yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcf

FFYNNON GEMIG, LLAN SAN SIÔR, SIR DDINBYCH: AIL ASESIAD.

Ken Lloyd Gruffydd

Pan ymwelsom â’r safle gyntaf yn Awst 1996, roedd bron yn amhosib gweld y ffynnon. Tyfai coed, drain a mieri ym mhobman a gorchuddwyd y dŵ du â phob math o wyrddni. Serch hynny, gellid gweld fod dwy ran iddi a bod y gwaith cerrig yn weddol fodern a’r dŵr yn ddwfn. Mesurwyd yr hyn a welid a dyna’r llun a welir yn y gyfrol Ffynhonnau Cymru 2 (Awst 1999) – ond erbyn hyn gwyddus ei fod yn wallus.

Wedi i gyflwr Ffynnon Gemig ein siomi daethom i gysylltiad â Stad Cilmael drwy gwmni syrfewyr siartredig o Gaer. Brodor o Fôn ddaeth i’n cwrdd ar y safle a chytunodd ar unwaith fod stad druenus i’r ffynnon. Addawodd y byddai rhywbeth yn cael ei wneud i wella’r sefyllfa. Bu cystal â’i air ac ym Medi 1999 dechreuodd y tenant, Mr Featherstonhugh, a’i ddynion ymgymryd â’r gwaith glanhau. Cliriwyd y gwyrddni’n ddidrafferth ond buont yn chwysu’n llafurus am beth amser cyn i wialen haearn a oedd gan un ohonynt suddo’n llawer dyfnach na’r ymdrechion blaenorol. Mewn eiliad clywsant sŵn garglio a sugno dwfn. Ymhen dim roedd lefel y dŵr wedi gostwng digon iddynt weld y ffynnon yn ei llawn ogoniant, rhywbeth na welodd y ffermwr erioed o’r blaen. Gwahoddodd Eirlys drosodd er mwyn iddi gael rhannu cyffro ei ddarganfyddiad ac, fel y gwelwch oddi wrth y ffotograffau a’r lluniau, roedd ffynnon hynod wedi bod yn celu o dan y dŵr yn Llan San Siôr!

Dyma a welwyd yn Awst 1996. Roedd dyfnder y dŵr yn 0.8m

            Yn ddi-os, bu ceffylau yn gysylltiedig â’r fan yma ers miloedd o flynyddoedd ac hynny, o bosib, yn ddi-dor. Nid nepell o’r ffynnon darganfuwyd nawdeg un o ddarnau efydd yn ymwneud â marchogaeth, a rheini wedi eu claddu ynghyd â chymysgfa o esgyrn dynol a cheffylau. Amcangyfrir iddynt berthyn i’r Oes Efydd Ddiweddar (c. 1200-700 CC).[1] oherwydd nid oedd ceffylau yn rhedeg yn wyllt ym Mhrydain yr adeg honno[2] ac mae’n bur debyg mai gweddillion anifeiliaid wedi eu dofi gogyfer â ffermio neu ryfela oeddent. Ceir tystiolaeth led led Ewrop fod y ceffyl yn ganolog i fywyd y Celtiaid a’i bod yn arferiad ganddynt i offrymu ceffylau i’w duwiau, yn arbennig i Epona, a roes i ni y gair ebol yn y Gymraeg.

            Tybed nad rhyw frith atgof am yr arferiad yma a geir yn yr wybodaeth a gafodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd gan ficer Llan San Siôr oddeutu 1699:

            Ffynnon Lan San Shor Lhe y bydded ystalm yn offrymu Kyffyle

ag hevyd un i’r person. Ita Trad[itium]’ [3] 

Cawn wybodaeth hefyd fod pobl o gyn belled â Sir Gaernarfon yn arfer cyrchu at y ffynnon gyda’u ceffylau gwan a chlwyfus yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Byddai’r seremoni yn cynnwys tywallt dŵr cysegredig drostynt ac adrodd y geiriau ‘Rhad Duw a St Siôr arnat.’ Wedyn, disgwylid i’r perchnogion roddi grôt (4 ceiniog) yng nghyff y sant yn yr eglwys leol.[4] Yn anffodus ni ellir cysylltu’r ffynnon yn uniongyrchol â’r ‘Oblationes Sancto Georgio, 26s 8d.’ a welir mewn archwiliad o’r eglwysi a wnaethpwyd gan Harri’r Wythfed yn 1535 [5] ond dichon mai cyfeiriad at y ddefod o wella a phuro ceffylau â dŵr sydd yma.

            Does neb yn gwybod pa bryd yn hollol y cysegrwyd yr eglwys a’r ffynnon i Sant Siôr. Ar ôl goresgyniad Edward y Cyntaf fyddai’r gred fwyaf synhwyrol oherwydd dyna pryd y daeth yr ardal dan ddylanwad y Saeson. Cyn hynny, cydnabyddid Siôr fel nawddsant y milwyr [6] ond, erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg cysylltid ef hefyd â cheffylau. Mae llawer o gwestiynau yn parhau heb eu hateb, ac yn eu mysg, a fu’r ffynnon rhyw dro yn gysylltiedig ag un o’r seintiau Celtaidd? A fu to drosti? A fu cysylltiad rhyngddi a’r gaer gerllaw, Dinorben, sydd bellach wedi diflannu? Gofynnaf oherwydd fel ‘Dynorben’ y cyfeirir at yr eglwys yn 1277 [7] ac i gymhlethu pethau, yr enw arni yn 1391 oedd ‘Cegidog’.[8]

Hwyrach fod peth tystiolaeth ynglŷn â chysylltiad parhaol y fan â cheffylau i’w gael hefyd mewn rhai o enwau lleoedd y gymdogaeth. Er enghraifft, saif Fynnon Gemig yng nghornel cae anferth sy’n dwyn yr enw addas Maes-y-meirch.; enw a ddylid ei ystyried yn un go hen gan fod meirch yma yn golygu'’ ystyr gwreiddiol, sef  ‘ceffylau’, yn hytrach na’r ystyr modern, ‘staliwni’.[9]

Parc-y-meirch yw’r disgrifiad a roddwyd ar y llethr tu ôl i’r safle, ac mae hyn yn dangos fod gan geffylau gysylltiad â’r ardal yn ystod, neu ar ôl, yr Oesoedd Canol gan mai benthyciad o’r Saesneg Canol park ‘tir amgaëedig’ yw parc.

Nodiadau

1.               T.Sheppard, ‘The Parc-y-meirch hoard, St. George, Denbighshire’, Archaeologia Cambrensis, 96(1941).

2.               I.Hughson, ‘Horses in the Early Historic Period : Evidence from Pictish Sculptural Stones’ yn S.Davies & N.A.Jones(gol.) The Horse in Celtic Culture : Medieval Welsh Perspective (Cardiff 1997), 29.

3.               E.Lhuyd, Parochialia (Cyhoeddiad Cymdeithas Cambrian,1910), I, 46.

4.               J.H.Becket,The Well of St.George (preifat, 1974), 3.

5.               D.R.Thomas, History of the Diocese of St.Asaph (1908-13), II,371.

6.               D.H.Farmer,The Oxford Dictioary of Saintes (Oxford 1978), 166. Ni ddyrchafwyd Gŵyl Sant Siôr yn un o brif wyliau calendr yr eglwys tan ar ôl buddugoliaeth brwydr Agincourt yn 1415.

7.               Calender Chancery Rolls (Various),1277-1326, 160.

8.               Calender Patent Rolls, 1391-6, 30.

9.               Cymherir Ceinmeirch ‘cefnen y ceffylau’ a geir fel enw lle yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Enw personol Meirchion sydd yn Nhremeirchion, ac o bosib, afon Meirchion ym mhlwyf Henllan. M.Richards,Tir a Gwlad (Caernarfon 1998), 26,78. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dogfen Lleweni 327., dyddiedig 1539.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ANNWYL OLYGYDD…. ANNWYL OLYGYDD…..ANNWYL OLYGYDD

ANNWYL OLYGYDD  

Ysgrifennaf atoch ynglun â chyflwr truenus Ffynnon Fair, Allt Ffynnon Fair, sy’n arwain at Groeslon y Llanfair, hanner ffordd rhwng pentref y Felinheli, plwyf Llanfair-is-gaer, a chaernarfon.

Rwyf yn enedigol o bentref Bethel, rhyw bedair milltir o Gaaernarfon at y ffordd i Bentir. Ers talwm roedd tynfa arbennig i’r trigolion oll i dreulio peth o’u hamser hamdden gyda’u plant ar lan y môr, o fewn cyrraedd i eglwys hynafol Llanfair. Roedd traddodiad oesol eu bod yn cludo digonedd o ddŵr grisialaidd o Ffynnon Fair, cynnay tân wedi cyrraedd glan y môr, cael prydo fwyd ysgafn a phaned o de. Fe atgyfnerthodd Cwmni’r Rheilffordd fur syml y ffynnon er mwyn trefnu cyflenwad o ddŵr i orsaf-feistr Griffiths Crossing a’i deulu. Pedair wal oedd iddi, tair wal isel a’r bedwaredd yn is fyth. Roedd to syml drosti, a rhoddwyd drws dur ar geg y ffynnon. Cododd hyn wrychyn trigolion y broydd. Roedd dichon cael cyflenwad o ddŵr ond doedd pethau ddim mor hwylus. Erbyn hyn mae’r ffynnon wedi diflannu ers i’r Cyngor Sir ledu’r ffordd. Mae hi bellach o dan y briffordd a’i dŵr yn treiglo i’r ffos.

Mae’n fwy na thebyg fod Ffynnon Fair ar Allt Ffynnon Fair ar daith y pererinion i Enlli. Yn ôl traddodiad, i fyny o Fangor i Bentir oedd y daith i Gaernarfon ac wedyn am Benrhyn Llŷn. Byddai’r daith o Fangor i Gaernarfon trwy Llanfair yn boblogaidd, a’r seintiau’n torri eu syched yn y ffynnon ar yr allt. Roedd hefyd yn arferiad i’r sawl oedd â gofal am y canu yn eglwys Llanfair-is-gaer flynyddoedd lawer yn ôl, alw heibio’r ffynnon ar ei ffordd adref i Gefn Cynrig a golchi’r bîb a roddai’r nodyn iddo yn nwr y ffynnon, yn barod at y gwasanaeth nesaf.

Hoffwn yn arw pe buasech yn gallu fy nghynghori pa gamrau sy’n agored i mi eu cymryd. Hoffwn ddod i gysylltiad ag awdurdod sy’n meddu ar ddigon o allu i orfodi cywiro’r difwyno sydd wedi digwydd, ac adfer y ffynnon sanctaidd i’w gogoniant cynnar. Mae’n fwy na thebyg fod rhywun mewn awdurdod, na wyddai ddim am ein traddodiadau, wedi rhoi gorchymyn i wneud i ffwrdd â’r ffynnon.

Cledwyn Williams, Llanrug.

Gallwn uniaethu â rhwystredigaeth Cledwyn Williams o weld ffynnon sanctaidd yn cael ei hamharchu. Tybed a oes modd, rhywsut, i ailadeiladu’r ffynnon wrth ochr y ffordd fel bo dŵr o’i gofer yn gallu cronni eto a ffurfio ffynnon? Cysylltodd Mr Williams â’r Cyngor a diddorol fydd cael gwybod beth fydd hanes Ffynnon Fair.

ANNWYL OLYGYDD

Mae Cyngor Cymuned Waunfawr yn bwriadu gofyn i Gyngor Gwynedd gau ffynnon nid nepell o’m cartref. Y rheswm am hyn, meddir, yw fod ei lleoliad yn beryglus. Mae ar fin ffordd weddol gul, a gallai rhywun wrth gamu’n ôl o ffordd car, syrthio i’r ffynnon rhyw ddwy droedfedd islaw. Hefyd mae arnynt ofn i blentyn syrthio iddi. (Mae’r dŵr ynddi tua naw modfedd o ddyfnder.)

Nid oes neb yn defnyddio’r ffynnon yn awr ac nid yw’r dŵr yn addas i’w yfed. Serch hynny, rwyf wedi cymryd arnaf fy hun i’w glanhau ddwywaith o leiaf bob blwyddyn am fy mod yn edrych arni fel un o hen greiriau’r plwyf. O hon yr arferai pobl gael dŵr yfed ers talwm. Bydd plant yr ysgol leol yn mynd ar daith gerdded o amgylch y fro o dro i dro ac yn aros ger y ffynnon a chael hanes ei bodolaeth a’i defnydd gan yr athro.

Anfonaf atoch am fy mod yn gwybod am eich diddordeb a’ch gwybodaeth fel Cymdeithas Ffynhonnau. Wedi dweud hynny, nid oes gan y ffynnon hon, Ffynnon Pant Gwyn, hanes arbennig yn perthyn iddi. A oes hawl gan y Cyngor ei chau?

Rol Williams, Waunfawr, Gwynedd.

Awgrymwyd i’r Cyngor osod gratin metel dros y ffynnon.(Gol.)

ANNWYL OLYGYDD

Mae Ffynnon Allgo yng nghanol Maes Carafannau Glanrafon y drws nesaf i Faes Carafannau Home Farm, tua chwarter milltir y tu draw i Eglwys Sant Gallgo, Llanallgo, ar A5025. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon rhwng dwy garafan statig.

Mae’n anodd iawn tynnu llun da ohoni. Mae’r glaswellt o gwmpas y ffynnon yn dwt ond mae’r pwll ble mae’r ffynnon yn gorwedd yn llawn tyfiant sy’n cuddio llygad y ffynnon. Mae’r gwaith cerrig yn parhau ond mae’r nant sy’n rhedeg i afon Llanallgo yn llifo’n araf iawn.

Y Parch. Dr. Graham D. Loveluck, Marian-glas, Môn.

Mae hon yn ffynnon arbennig iawn a rhaid gwneud ymgais i’w hadfer. Da o beth fyddai cael nifer o bobl leol at ei gilydd i ymddiddori yn y ffynnon. (Gol.)

 

ANNWYL OLYGYDD

Rwyf wedi penderfynu ysgrifennu atoch i ofyn am ychydig o gymorth ac i roi’r newyddion diweddaraf am un sefyllfa sy’n bodoli ym mhlwyf Llangrannog.

Ers sawl blwyddyn bellach mae Cyngor Cymuned Llangrannog, Ceredigion, wedi ceisio cael mynediad i’r ffynnon hynafol, Ffynnon Fair, ger yr eglwys ym mhentref Llangrannog. Yn anffodus mae hon ar dir preifat ac yn eiddo i berchennog tŷ haf yn y pentref. Ar ôl imi siarad ag ef rhyw flwyddyn yn ôl, ac egluro arwyddocâd y ffynnon iddo, (fel y byddai pererinion yn ymweld â hi, ac ati) ac yn wir, dangos i’r perchennog ei hunion safle, fe addawodd i mi y byddai’n gwneud pob ymdrech i’w hagor, ac yn wir, i ofalu amdani.

Yn y cyfamser bu’r perchennog mewn cysylltiad â Chyngor Sir Ceredigion. Cafodd ei ddychryn pan ddwedwyd wrtho y byddai’n rhaid iddo dalu ffi rheolaidd er mwyn profi ansawdd y dŵr, a’i rybuddio am ei gyfrifoldeb o ran diogelwch rhag damweiniau pe byddai’n caniatáu i’r cyhoedd i ddefnyddio’r ffynnon unwaith eto.

Ar fy ail ymweliad â’r perchennog fe wnaeth ddatgan nad oedd ganddo unrhyw ddidordeb pellach mewn ailagor y ffynnon, a dyna ddiwedd ar y mater. FE wrthododd fy awgrym y byddai’r Cyngor Cymuned yn fodlon trafod prynu’r ffynnon. Trwy gyd-ddigwyddiad, yn ystod y trafodaethau hyn, daeth dau adroddiad gerbron y Cyngor i ddweud fod rhai yn parhai i fynd ar bererindodau blynyddol at y ffynnon. Roedd un wedi ysgrifennu llythyr at y Cyngor yn cwyno am ei chyflwr truenus, a’r anhawster i gael mynediad.

Ar ôl creu diddordeb yn Ffynnon Fair, Llangrannog, soniwyd am ffynnon arall ym mhentref cyfagos Pontgarreg – ffynnon Dewi. Mae’r ffynnon hon hefyd ar dir preifat, ond mae’r perchennog yn fwy na bodlon i’r cyhoedd ei defnyddio. Bydd ef yn ei glanhau’n achlysurol ac yn twtio’r tir o’i hamgylch. Y gofid yw fod eiddo’r perchennog nawr ar werth, gan gynnwys y ffynnon wrth gwrs, ac efallai na fydd y tirfeddiannwr newydd mor ffafriol ei agwedd.

Y cwestiwn pwysig a godwyd wedyn yn y Cyngor Cymuned – a dyma ofyn yn awr am eich cyngor chwi – a oes hawliau ynglun a chael mynediad at hen ffynhonnau fel y rhain? Oes gan fynychwyr ffynnon yr un hawliau a cherddwyr, er enghraifft? Mae cenedlaethau lawer wedi cario dŵr o’r ffynhonnau am gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd, ac yn y ddau achos yma ym mhlwyf Llangrannog, hyd yn ddiweddar iawn.

Hoffwn gael arweiniad ynglun â’r broblem hon. Os nad oes ateb syml ar gael, fe fydd yn rhaid chwilio barn gyfreithiol. Rhaid sicrhau nad yw ein hawliau na;n hetifeddiaeth yn cael eu colli.

Ian ap Dewi, Llangrannog.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

CYCHWYN AR FFYNHONNAU’R DE

Eisoes ymddangosodd dwy gyfrol am fynhonnau Cymru yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad. Nawr mae’r gwaith yn dechrau ar y drydedd cyfrol am ffynhonnau siroedd Caerfyrddin, Morgannwg, Mynwy a Phenfro. Yn naturiol, mae’n anos i’r awduron ymweld â’r ffynhonnau yn y siroedd hyn ac felly byddai unrhyw gymorth gan aelodau’r gymdeithas, lluniau neu wybodaeth, o gymorth mawr. Eisoes cysylltwyd â Chyngor Cymuned Llangyfelach i ofyn am gyflwr ffynhonnau’r ardal ond ni chafwyd unrhyw ymateb. Ysgrifennwyd at nifer o gynghorau yn Sir gaerfyrddin. Cewch wybod beth fydd ey hymateb yn rhifyn haf 2000 o Llygad y Ffynnon.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR *** PYTIAU DIFYR *** PYTIAU DIFYR

Diolci i Twm Elias am dynnu ein sylw at y darn yma ar dudalen 117 o lyfr Francis H. Glazebrook, Anglesey and the North Wales Coast a gyhoeddwyd yn 1964:

Smugglers. a certain amount of smuggling was done at Porth Dinllaen in the 18th century, and parties of smugglers would set out from quite distant villages to meet cargoes of spirits and other contraband landed in the bay. One such party was returning home with a number of casks containing spirits when they were stopped by the excise officer. On being questioned they replied that the casks contained water from Saint Cybi’s Well and that they were on their way to the consignee. So common was the practice in those times for people to carry the health-giving waters of the well to their homes that no suspicion appears to have been roused and the party was allowed to proceed on its way.

Mae’r darn difyr yma yn rhoi darlun clir i ni o bwysigrwydd ffynnon fel Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd, i bobl yr ardal yn y gorffennol. Diolch i ddyfeisgarwch y smyglwyr cadwyd y cofnod diddorol hwn, i ni gael ei werthfawrogi heddiw.

Sylwodd Ken Lloyd Gruffydd ar ddarn difyr yng nghyfrol Syr Ifor williams, Meddai Syr Ifor a gyhoeddwyd yn 1968. Mae un bennod wedi ei seilio ar lyfr Robert Richards a gyhoeddwyd yn 1830 o dan y teitl Seryddiaeth neu Lyfr gwybodaeth yn dangos Rheoliad y Planedau ar Bersonau Dynion.

Ar dudalen 93-94 mae’n nodi’r canlynol:

Os bydd dyn wedi ei offrymu, neu ei ‘witsio’, trwy roi ei enw mewn ffynnon fel un Llaneilian, dangosir iddo sut i droi’r felltith ar ei felltithwir, a dod yn rhydd ei hun. Dywed yr awdur fod y gelfyddyd ddrygionus hon – fel y geilw’r peth – wedi bod yn lled gyffredin yn ein broydd. “Nid wyf yn bwriadu,” meddai, “ddysgu neg y gorchwyl yma (o offrymu), o ran y mae gormod yn medru hynny, sef drygu ei’ gilydd drwy’r defodau yma.” “Y mae llawer o ddewiniaid yn cymryd arnynt ryddhau llawer oddi wrtho, er mwyn elw, ie maent yn dweud wrth lawer o bobl wirion eu bod wedi eu hoffrymu a hwythau heb fod felly, o ran budd iddynt eu hunain: ond yr wyf i yn bwriadu eich addysgu i ryddhau eich hunaun wrtho.”

Dyma ei recipe. I ddechrau gweddi daer: “Yna tor dusw o’th wallt, a blaen pob ewin ar dy ddwylo a’th draed, a dod hwy ar bapur, a dyro yn gymysg a hwy bupur a halen.”: gweddi arall wedyn. “Yna cymer y gwallt, yr ewinedd, yr halen a’r pupur, a dyro hwy yn y tan gan ddywedyd y geiriau hyn – ‘Trwy yr elfan ddwfr y rhoddwyd yr aflwydd, a thrwy elfen dan y cymerir ef ymaith.’ “Wedi i’r cwbl losgi, gweddi arall. Ymddengys fod yn rhaid mynd drwy’r holl seremoni droeon nes cael ymwared.

Diddorol yw ei sylwadau ar ffynnon (sic) Eilian: sicrha ei ddarllenwyr nad oes rinwedd ynddi uwchlaw ffynnon arall. Ac meddai, yn synhwyrol iawn am y tro, “Yr wyf yn meddwl fod llawer o ddynion yn dra anwybodus mewn mater offrwm a rhegfeydd, ar sut y maent yn tynnu barnau ar bersonau dynion, a’u da-ordd.” Os yw dynion yn agos i’w lle,”ofer fydd gwaith yr offrymwr, o ran melltith ddiachos ni ddaw.” Os byddwn yn anonest, yn dwyllwyr, yn fradwyr, ac yn y blaen, “yna mae’r melltithion yn rhedeg atom o bob man, yn cronni uwch ein pennau i’n difetha ni a’n meddiannau.”

… Rhof un enghraifft o swyn i beri cariad,

“Cais lyffant melyn a dos at ffynnon yr hon fydd a’i gofer yn rhedeg tu a’r dehau: dos ar dy liniau a gweddio, wedyn cymer y llyffant dyro ynddo ddeuddeg o binau melynion newydd, fel mewn pincws, a saf a’th gefn at y ffynnon, a thafl ef dros dy ben i’r ffynnon a henwa’r hwn neu hon yr ydwyt yn ei hoffi, wrth ei daflu; yna dos ymaith.” (Tudalen 229 –30)

Do, bu cryn ddefnydd ar y ffynhonnau i weithio dewiniaeth yng Nghymru yn yr hen ddyddiau. Heddiw mae angen dewiniaeth o fath gwahanol i’w diogelu a’u cadw rhag cael eu colli am byth.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NADOLIG LLAWEN 

A BLWYDDYN DDA 

I HOLL AELODAU’R GYMDEITHAS

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch eich gohebiaeth at y Golygydd: 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Y Siswrn, 2 Stryd Watling, Llanrwst, Dyffryn Conwy.LL26 0LS

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU 

Argraffwyd gan H.L. Boswell a’i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up