Home Up

 

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 5

Nadolig 1998

 

FFYNNON GORLAS, YNYS GYBI.

Ken Lloyd Gruffydd

 

Mae tref Caergybi yn prysur ymestyn i’r gorllewin ac erbyn hyn mae wedi cyrraedd pentref Llain-goch. Yng nghanol y glymdref yma saif fferm Y Gorlas. Tua chanllath o’r ffermdy mae Ffynnon Gorlas. Dim ond pwt sydd gan Gwilym T. Jones a Tomos Roberts i’w ddweud am y fan yn eu Enwau Lleoedd Mon (1996):

            Saif capel anwes gerllaw’r ffynnon ar un adeg. Gall y dynodiad fod yn un sydd

            wedi tarddu o enw personol.

Ni chynigir ystyr i’e enw ond hwyrach y gallwn ddyfalu y gallai ‘gorlas’ fod yn rhywbeth tebyg i ŵr a wyneb glas ganddo pe bai wedi ei liwio gyda glaslys (woad) yn null defodol y Brythoniaid. Posibilrwydd arall yw mai cyfeiriad sydd yma at wyrddlesni’r fangre sydd yn bant glaswelltog rhwng dau fryncyn caregog. Yn ôl Francis Jones, The Holy Wells of Wales (1954), cyfeiriad at ‘Ffynnon y Gorlles’ a geid yn 1790 gyda’r fannod yn awgrymu lleoliad yn hytrach na pherson. Ychwanega ei bod wedi ei lleoli yng nghornel ddwyreiniol y capel. Mae’n anodd credu hyn wrth edrych ar y tirwedd.

Yn ôl y perchennog, Mrs Williams (92 oed), a symudodd i’r ffermdy yn syth wedi iddi briodi, defnyddiwyd Ffynnon Gorlas ganddynt yn ddyddiol tan ddaeth dŵr tap i’r ardal yn nechrau’r 1930au. Ar ôl hynny dim ond ambell un o’r trigolion a ymwelai â’r ffynnon i dorri syched ar ddiwrnod poeth o haf neu i gario tipyn o’r dŵr gartref mewn potel i wella rhyw afiechyd neu’i gilydd. Y rhai olaf i wneud hyn yn rheolaidd oedd lleianod o’r cwfent lleol, a hynny yn y 1950au.

Mae pedair ochr i’r ffynnon a wal uchel o’i hamgylch. Fe’u codwyd, yn ôl pob tebyg, i rwystro pobl rhag gweld yr ymdrochwyr neu i gadw anifeiliaid allan. Roedd drws yn y wal a rhes o risiau’n disgyn i’r dŵr. Mesur y baddon yw oddeutu deg troedfedd sgwâr ond nid yw’n hollol gymesur. Fe’i adeiladwyd o gerrig sychion gyda meini gwastad ar y copa, er nad oes llawer ohonynt wedi goroesi. Gwelir fod cerrig gwynion yma ac acw ymhlith y cerrig a syrthiodd o’r muriau. Rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl bwriwyd rhan o’r fynedfa a’r grisiau i lawr pan fethodd jac-codi-baw â chadw at y llwybr cul sy’n mynd heibio i’r ffynnon. Ers hynny mae llawer o’r cerrig wedi syrthio i mewn iddi ac mae’n sobor o fwdlyd oherwydd bod gwartheg yn gallu sefyll ynddi yn awr.

Peth anodd yw dyddio gwaith cerrig o’r math yma a chyfyngaf fy sylwadau i’r ffaith fod y wal bresennol yn sefyll ar sylfaen sy’n hŷn na’r gweddill, o’r Oesoedd Canol o bosib, gyda’r gwaith diweddaraf yn perthyn i’r ail ganrif ar bymtheg neu’r ddeunawfed ganrif.

Heddiw ymwthia drain a mieri ym mhobman o gwmpas y ffynnon ac mae hyn yn ei gwneud yn amhosib i archwilio’r fan yn drwyadl. Mae’n edrych fel petai adeilad arall gerllaw’r ffynnon, ystafell newid o bosib. Mae olion waliau yma, ond nid oes modd darganfod i ba uchder y safasant yn wreiddiol. Mae’n syndod nad oes neb wedi cofnodi ffeithiau am Ffynnon Gorlas. Hwyrach y byddai ymchwil archaeolegol yn datgelu mwy am ei hanes.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

CROESO I AELODAU NEWYDD

Christopher Naish, Wantage, Swydd Rhydychen.

Bleddyn a Maureen Hughes, Llanrwst.

Gareth Miles, Pontypridd.

Ray Evans, Rhiwbeina, Caerdydd.

Trefor a Gwenllian Owen, Tregarth, Bangor.

Y Tad Nigel H. Williams, Llanrwst.

Mair E. Jones, Y Drenewydd.

Dr. R. Iestyn Daniel, Aberystwyth.

Geraint Roberts, Ystradgynlais, Cwm Tawe.

Siân Saunders, Tre Taliesin, Machynlleth

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON GEMIG, LLAN SAIN SIÔR, ABERGELE

(Gweler Llygad y Ffynnon Rhif 1)

Anfonwyd llythyr ar ran y Gymdeithas at oruchwylwyr Stad Cinmel, lle mae’r ffynnon, yn gofyn iddynt ei glanhau. Cafwyd ymateb oedd yn nodi fod gofer y ffynnon wedi cael ei lanhau yn y gorffennol a’r tyfiant o gwmpas y ffynnon wedi ei dorri yn ôl, ond nad oedd modd gwneud hynny’n awr oherwydd y gost a phrinder gweithwyr. Nid oeddent yn awyddus i’r cyhoedd ymweld â’r ffynnon. Cynigiwyd i ni fynd i ymweld â’r safle ac iddynt ddod yno i’n cyfarfod i drafod beth ellid ei wneud. Ar Awst 20ed eleni daeth dau gynrychiolydd o’r cwmni i gyfarfod Ken a minnau wrth y ffynnon. Maent am ddefnyddio’r dŵr i greu pwll gerllaw iddi er mwyn denu adar yno. Golyga hyn y bydd raid glanhau’r gofer a gosod pibelli i gario’r dŵr o’r ffynnon am gryn bellter i’r llyn. Pan fydd lefel y dŵr yn y ffynnon wedi gostwng gellir mynd ati i glirio’r tyfiant ac unwaith eto gwelir gwaith cerrig llygad y ffynnon a’r baddon. Gobeithir cynnal treialon cwn defaid ar y tir o gwmpas y ffynnon y flwyddyn nesaf ac mae hyn wedi bod yn sbardun i’r perchnogion i’w chlirio. Gobeithio y bydd hyn yn ddigon i’w diogelu i’r dyfodol.

 

FFYNNON FAIR, PEN-RHYS, MORGANNWG.

(Gweler Llygad y Ffynnon Rhif 2)

Bu Dewi Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas, yn ymweld a Ffynnon Fair, Pen-rhys, yn ystod yr haf. Dyma adroddiad o’r hyn a ddarganfyddodd:

Es draw i weld Ffynnon Fair, Pen-rhys er mwyn cael gweld a oedd dirywiad yn ei chyflwr. Ces fy siomi ar yr ochr orau o weld bod y safle wedi ei dacluso. Nid i’r Cyngor nac i’r Eglwys Babyddol y mae’r diolch ond i aelodau Eglwys Llanfair, Pen-rhys. Cysylltodd y Parch John Morgan a’r Cyngor i geisio eu cael i lanhau’r safle ond ni chafwyd ymateb. Felly dyma gasglu mintai o blant a phobl ifanc at ei gilydd i ymgymryd a’r gwaith. Mae’r ddau faddon wedi eu glanhau a thu mewn i’r ffynnon wedi ei beintio o’r newydd. Gosodwyd tair mainc ar bwys y safle i nodi’r tri sant sy’n gysylltiedig a’r ardal sef Illtud, Gwynno a Tyfodwg. Maent wedi cael dwy bererindod at y ffynnon yn barod (mis Mehefin) ers y glanhau, a’r bwriad yw i bob pererindod blannu coeden yn agos i’r safle. Yn anffodus, oherwydd bod sbwriel wedi casglu yn y baddon am gyfnod, mae’r dwr wedi peidio a llifo i mewn i’r ffynnon, ac mae, yn hytrach, yn llifo allan ychydig yn is na’r ffynnon.

FFYNNON FIHANGEL, FFESTINIOG (Gweler Llygad y Ffynnon Rhif 1.)

Ym Mehefin cafwyd llythyr gan Glerc Cyngor Tref Ffestiniog yn dweud eu bod yn barod i symud ymlaen i adnewyddu’r ffynnon. Anfonwyd ato gopi o’r erthygl am Ffynnon Fihangel a ymddangosodd yn y rhifyn cyntaf o Llygad y Ffynnon. Hefyd dywedwyd wrtho mai’r sawl a wyddai fwyaf am y ffynnon oedd un o aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac awdur yr erthygl, sef Mr Emrys Evans, Garth Gwyn, Manod. Ar ddiwedd mis Gorffennaf bu Emrys ac Eirlys Gruffydd yn ymweld a’r ffynnon yng nghwmni perchennog y tir, sef Mrs Beti Hughes. Roedd hi wedi cael ar ddeall mai eglwys fechan oedd yr adeilad sydd dros y ffynnon a bod y ffynnon oddi mewn iddi. Mae’r ffynnon ar lan afon a sŵn y dŵr yn fyddarol. Bydd y dŵr yn goferu hyd llwyfan o gerrig ac uwchben y gofer ei hun mae dwy garreg wen. Mae’r adeilad o gwmpas y ffynnon o gerrig mawr, nid annhebyg i adeiladwaith Ffynnon Gybi yn Eifionydd fel y gwelir uchod. Yn ystod mis Hydref cafwyd nifer o aelodau newydd ac yn eu plith Mrs Mair E. Jones, Y Drenewydd. Dywedodd hi ei bod yn arfer byw yn ardal Blaenau Ffestiniog pan oedd yn ferch ifanc. Un tro roedd wedi sigo’i ffer ac aeth ei mam i nôl dŵr o Ffynnon Fihangel i drin y goes. Roedd y driniaeth yn llwyddiannus. Da yw cael nodi fod rhinwedd yn nŵr y ffynnon o hyd.

Ffynnon Fihangel FFESTINIOG

 FFYNNON CYNGAR, LLANGEFNI

Derbyniwyd llythyr gan Glerc Cyngor Tref Llangefni ym mis Mehefin. Roedd wedi bod yn llythyru gyda’r Awdurdodau Eglwysig ac Awdurdodau Lleol. Dywedodd yr Awdurdodau Eglwysig nad hwy oedd yn gyfrifol am y ffynnon gan mai eiddo Cyngor Ynys Môn yw’r holl dir o’i hamgylch. Gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni haf nesaf, hwyrach y gallwn ddwyn pwysau ar y Cyngor i’w hadfer erbyn hynny.

 FFYNNO DIGAIN, LLANGERNYW.

Cafwyd llythyr gan y perchennog tir, John Wynne, yn dweud y byddai’n falch iawn pe medrai ein helpu mewn unrhyw ffodd. Cysylltwyd ag ef a threfnu i fynd i ymweld â’r ffynnon. Ar brynhawn Sadwrn braf ym mis Gorffennaf aeth Ken a Eirlys Gruffydd i Langernyw i weld y ffynnon. Roedd ar dir Coed Digain, ar gyrion y pentref ar y ffordd o Lanfair Talhaearn. Heb amheuaeth roedd coedwig sylweddol ar ochr y bryn uwchlaw’r Elwy ar un adeg a hawdd dychmygu Sant Digain yn adeiladu cell yno gerllaw’r ffynnon.

Mae’r ffynnon, fel llawer un arall, wedi ei hadeiladu i mewn yn y llethr. Codwyd dwy garreg fawr o’r naill ochr iddi i ddal y dŵr ac roedd carreg arall fel cefn i’r ffynnon yn pwyso ar y llethr ac yn cadw’r pridd rhag mynd i’r dŵr. Roedd carreg fawr arall drosti. Dros y blynyddoedd symudodd y ddwy garreg y naill ochr i’r ffynnon at ei gilydd a rhoddodd y perchennog garreg rhyngddynt i’w cadw ar wahan. Mae’n bosib fod carreg fawr wedi bod ar flaen y ffynnon yn y gorffennol ond bod honno wedi cael ei disodli. Roedd pedair carreg wen yn y gwaith cerrig wrth ochr y ffynnon a hyn o gryn ddiddordeb i ni, gan fod cerrig cwarts o’r fath yn cael eu defnyddio i gadw drygioni draw. Llifai'’ dŵr o'’ ffynnon ar hyd llwybr caregog ac i lawr y llethr. Yn ôl y perchennog, mae defaid yn dod at y ffynnon yn aml i yfed ohoni. Nid yw’r dŵr ynddi yn ddwfn iawn, dim ond rhyw bedair modfedd, ond tebyg y byddai’n llawer dyfnach pe byddai’r ffynnon yn cael ei glanhau.

Nid yw enw Sant Digain yn un cyfarwydd iawn. Roedd yn byw yn y bumed ganrif ac yn fab i Gystennin Gorneu. Mae eglwys wedi ei chysegru i Gystennin yn Llangystennin rhwng Bae Colwyn a Chyffordd Llandudno. Mae’n ffynnon ddiddorol ei phensaerniaeth a dylai fedru dal ei thir heb ddirywio llawer iawn mwy am flynyddoedd eto. Hyd y gwyddom nid oes unrhyw draddodiadau amdani wedi goroesi.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

LLYTHYRAU

Annwyl Olygydd

Roeddwn yn falch o weld crybwyll peth o hanes Ffynnon Aelhaearn yn Rhif 4 o Llygad y Ffynnon. Gwn o flynyddoedd o brofiad gymaint o frwydr y bu hi ynglŷn â pherchnogaeth y ffynnon hon. Does dim ond gobeithio y bydd y Cyngor Cymdeithas yn medru rhoi ei grafanc arni unwaith ac am byth a’i hachub rhag rhaib pob mewnfudwr haerllug. Mae gan hanes ei rybudd digamsyniol! Gall dŵr y ffynnon hon fod yn ddŵr hynod o beryglus!

Rhed y dŵr o Ffynnon Aelhaearn mewn gwter danddaearol gyda therfyn y daith yn yr afon Tal rhwng Felin Penllechog a Thyddyn y Drain. Tua hanner ffordd ar hyd y daith honno rhed o dan adeiladau Tyddyn y Llan, drws nesaf i neuadd yr eglwys ym mhentref Llanaelhaearn. Ganrif yn ôl roedd y gwter yn agored y tu mewn i un o’r adeiladau hyn ac yno ceid melin fechan ar gyfer malu eithin yn borthiant i geffyl y rheithor. Yn rhan o’i fywoliaeth ffermiai’r rheithor Dyddyn y Llan. Dŵr Ffynnon Aelhaearn oedd yn troi’r felin.

Un diwrnod ym mis Rhagfyr 1893 arth rheithor Llanaelhaearn a Threfor, y Parchedig Hugh Edward Williams, 57 oed, i’r afael â’r felin i geisio ei glanhau gan ddefnyddio picwarch i glirio’r eithin gwlyb oedd yn peri i’r felin nogio. Ysywaeth, troes y gorchwyl cyffredin hwn yn drychineb ofnadwy. Tarodd fforch y bicwarch yn erbyn un o olwynion y felin ddŵr fechan, bwerus, gan hyrddio coes yr offeryn yn ei hol at y rheithor a phlymio’n ddidrugaredd i’w geilliau. Dyna, yn fras, sut y bu i ddŵr Ffynnon Aelhaearn fod yn gyfrifol, mewn ffordd, am farwolaeth annhymig un o warchodwyr ffyddlonaf y ffynnon. Gwelir ei fedd wrth fur deheuol yr eglwys.

Geraint Jones, Hyfrydle, Trefor, Caernarfon.

 

Annwyl Olygydd

Dyma beth o hanes dwy o ffynhonnau ardal Corwen, sef Ffynnon Mael a Sulien a Ffynnon y Gloch Felen. Mae hanes y rhain, mae’n siwr, yn ymestyn i niwl y gorffennol. Ar un adeg, ond ymhell yn ôl, byddent yn cludo dŵr o Ffynnon Fael a Sulien at daenellu yn eglwys y dref. Tua 1850 bu i ddau was i ystad y Rhug garthu y ffynnon o fwd a daethant o hyd i ddarn aur o oes y Frenhines Anne (1702 – 14). Mae’n bur debyg iddo gael ei roi i sgweiar y Rhug. Y ffordd agosaf i ymweld â’r ffynnon yw, os yn dod o gyfeiriad Tyn y Cefn, troi i ffordd gul ar y dde ac ar droed i lawr pwt o allt ac mi welwch hen fferm fach. Mae’r ffynnon yn ei hymyl ar y chwith. Nid wyf yn gwybod sut olwg sydd ar y lle heddiw.

Ychydig a wyddaf am Ffynnon y Gloch Felen. Cofiaf i rywun ddweud wrthyf amser maith yn ôl fod y ffynnon mewn darn o graig o’r tu uchaf i eglwys Corwen. Yn ôl yr hanes bu iddynt ddarganfod cloch aur yno.

Glyn Owen, 122 Maesafallen, Corwen.

Dyma ymateb Cyngor Cymuned Corwen am ein cais ni am wybodaeth am ffynhonnau’r ardal.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON CERRIGCEINWEN A FFYNNON SEIRIOL, MÔN.

Eirlys Gruffydd

Ar ddiwrnod braf ym mis Awst eleni aeth Ken a minnau ar ymweliad a i chwilio am ffynhonnau. Wedi croesi’r bont, mynd drwy Llanfairpwll, heibio i Bentref Berw a throi i’r dde yng Nghefncwmwd. Ymhen dim roeddem yng Ngherrigceinwen. Roedd y Santes Ceinwen yn chwaer i Dwynwen, sy’n llawer mwy adnabyddus na hi. Mae’r eglwys mewn pant cysgodol a’r ffynnon ar y chwith ar waelod y bryn wrth fynd i lawr ati. Ffynnon wedi ei hadeiladu mewn cilfach i mewn i’r llethr yw Ffynnon Ceinwen. Roedd yn anodd iawn gweld y gwaith cerrig am fod tyfiant o ddrain a mieri yn ei gorchuddio. Yn ffodus mae mewn man digon diogel heb fygythiad i’w dyfodol. Credai’r plwyfolion fod rhinwedd arbennig yn y dŵr ac y gallai iachau amryw afiechydon. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon wedi ei hesgeuluso a’r dŵr yn llawn baw a llysnafedd. Roedd rhywun wedi gadael potel blastig i arnofio ar ei hwyneb a gadawyd hi yno rhag ofn fod rhywrai yn ei defnyddio i godi dŵr o’r ffynnon. Ysgrifenwyd llythyr at y Rheithor yn gofyn os oes modd glanhau’r ffynnon a thorri’r tyfiant o’i chwmpas fel ei bod yn bosib gweld y gwaith cerrig unwaith eto. Cafwyd ateb ganddo oedd yn nodi mai nifer fechan oedd yn addoli yn eglwys Cerrigceinwen a’i bod yn anodd iddynt gael arian i dalu am dorri’r gwair yn y fynwent heb sôn am gadw trefn ar y ffynnon. Fodd bynnag roedd yn fodlon codi’r mater yn y cyfarfod nesaf o’r cyngor eglwysig.

Wedi ymweld â Cherrigceinwen yn ôl â ni ar yr A5 ac ymlaen i Gaergybi. Wedi cyrraedd yno aeth y ddau ohonom i’r llyfrgell i holi am leoliad Ffynnon Gorlas. Treuliwyd y prynhawn gerllaw’r ffynnon arbennig honno ac mae Ken wedi croniclo’r hanes. Teimlodd y ddau ohonom mai ni oedd yr olaf, o bosib, i ymweld â’r ffynnon, ac y bydd yn y dyfodol agos, yn diflannu’n llwyr.

Gadael Caergybi a mynd ar draws gwlad i Lannerch-y-medd a Chlorach. Roeddwn wedi breuddwydio am gael mynd i’r fan arbennig hon oherwydd yma, yn ôl traddodiad, byddai’r saint Cybi a Seiriol yn cyfarfod â’u gilydd. Arferai Cybi gerdded o Gaergybi i Glorach gan wynebu’r haul. Cerddai Seiriol o Benmon a’i gefn at yr haul. Cyfarfyddai’r ddau yng Nghlorach, hanner ffordd rhwng Caergybi a Phenmon, lle roedd Ffynnon Gybi un ochr i’r ffordd a Ffynnon Seiriol yn union gyferbyn iddi, yr ochr arall. Wedi treulio oriau yn rhoi’r byd yn ei le, dychwelai’r ddau sant i’w cartrefi, Cybi yn cerdded i haul y machlud a Seiriol unwaith eto’n troi ei gefn at yr haul. Dyna pam y’u galwyd yn ‘Seiriol Wyn a Chybi Felyn’ am fod Cybi’n cael tipyn mwy o liw haul na Seiriol. Dyma sydd gan Syr John Morris Jones i’w ddweud amdanynt yn un o’i gerddi:

Seiriol Wyn a chybi Felyn

Cyfarfyddent, fel mae’r sôn,

Beunydd wrth ffynhonnau Clorach

Yng Nghanolbarth Môn.

Credid fod gwerth iachusol i ddŵr y ddwy ffynnon. Deuai’r cleifion at Ffynnon Seiriol yn y nos a byddai’n arferiad cario’r dŵr oddi yno i’r rhai oedd yn rhyw wael i ddod at y ffynnon eu hunain. Byddai’r fan ger y ffynhonnau yn lle da i gariadol ddod i geisio cymodi ar ôl cweryl. Mae Skinner yn ei lyfr Ten Days Tour Through the Isle of Anglesea (1802) yn dweud mai dwy ffynnon betryal oeddynt a gwaith cerrig o’u cwmpas.

Ffynnon Seiriol, Clorach, Môn.

Beth bynnag am yr hen hanes, mynd yno i weld y ffynnon oeddem ni – ie un, oherwydd dinistriwyd Ffynnon Gybi yn 1840 pan adeiladwyd pont dros ryd Clorach. Wedi dod at y bont a pharcio’r car ger y fynedfa i fferm Clorach Fawr, aethom ati i chwilio am y ffynnon ond heb weld dim ond pentwr o frics a chaead concrit yn y cae islaw’r bont. Aeth Ken i’r ffermdy i holi am y ffynnon a chael ar ddeall ein bod ni wedi dod o hyd iddi. Roedd y trigolion lleol yn ei defnyddio’n ddyddiol i gael dŵr yfed ohoni tan y pumdegau, pan ddaeth dŵr tap i’r ardal. Wedi hynny codwyd wal o frics o’i chwmpas a gosod caead concrit drosti rhag i’r gwartheg fynd iddi. Bellach mae’r anifeiliaid wedi llwyddo i symud y caead a dymchwel y waliau a’r rheini wedi syrthio i’r ffynnon a’i chau’n effeithiol iawn. Mae’r dŵr yn goferu o’i hochr i greu tir gwlyb o’i chwmpas cyn llifo i’r nant islaw.

Tair ffynnon mewn diwrnod – digon; diwrnod o fwynhad, diwrnod i’w gofio, ond diwrnod o weld tair ffynnon mewn cyflwr adfeiliedig. Bellach aeth llythyr i’r Cyngor Cymuned i weld a ellir gwneud rhywbeth i adfer y ffynnon enwog hon yn Clorach. Cewch wybod beth fydd yr ymateb yn Llygad y Ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON DUDWEN, LLANDUDWEN, LLŶN.

Eirlys Gruffydd

Ychydig o bobl y tu allan i blwyf Llaniestyn, Llŷn, sy’n gwybod am Landudwen, gerllaw Dinas. Dim ond eglwys sydd yno – eglwys hynafol a fyddai wedi mynd â’i phen iddi heblaw am un teulu o fewnfudwyr ddaeth i fyw i’r rheithordy lleol. Ond nid mynd i Landudwen i weld yr eglwys oedd ein bwriad un diwrnod braf ym mis Awst eleni, ond mynd i ymweld â Ffynnon Dudwen rhyw ganllath i’r de ddwyrain ohoni. Yr hyn a’n hysgogodd i fynd yno oedd darllen disgrifiad Myrddin Fardd o’r ffynnon yn Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908). Dyma sydd ganddo i’w ddweud:

Y ffynnon hon ydoedd gysegredig i Landudwen – eglwys a sefydlwyd gan y Santes Tudwen, yr hon oedd yn ei blodau, fel y tybir, tua dechrau y seithfed ganrif. Erbyn hyn, tybir nid oes yn aros o’r hen ffynnon, rhagor na’i llefod yng nghwr cae ger yr eglwys – amser wedi ei thorri i lawr a’i chladdu yn ei phwll ei hun; ond y mae iddi ei hanes – cyrchai lluoedd iddi o bob cyfeiriad, taflent arian a phinau iddi mewn trefn i sicrhau bendith iddynt eu hunain oddiwrth y Santes ysbrydol oedd ym llywodraethu ffrydiau a llesiant ei dwfr er cynnydd i gnwd y tir, ac yn neillduol er iechyd i ddyn, am y cyfrifid ei dwfr yn effeithiol i wrth-weithio anhwylderau y llygaid – y dwymyn ddyspeidiol, y cryd cymmalau, gwendid yn y gewynau, arteithiau y rhai a gystuddid gan y Digwydd, sef rhyw fath o wasgfeuon neu lewygon. Ond, erbyn hyn, er cael ohoni ei hadnabod gan bawb wrth yr enw nodweddiadol “Ffynnon Dudwen” yn ogystal ag mai dwfr ohoni ddefnyddiwyd yn y weithred o fedyddio y mebyn hwnw – yr Esgob Fychan wedi hyny, cyn belled ag y mae tebygoliaeth lleol a hen draddodiad yr ardal neu lais gwlad yn myned. Onid yw yn resyn na byddai modd modd cael gafael ar gofnodion o’r holl a fedyddiwyd gyda’i dwfr, ac o’r priodasau digel mynych a gymerent le gerllaw iddi yn ystod y canrifoedd a aethant heibio, ond y mae hyny i raddau yn amhosibl, am nad oes ar gael godnodion difwlch o honynt. Eto, er holl ragoriaethau ei dwfr, yr oedd ei sefyllfa yn anfanteisiol iddi, am nad oedd hwylustod o’i hamgylch – dim cystal rhodfeydd, &c., ag oedd mewn encilfan neillduedig megis oddiwrth y byd, yn tynu yn ol oddiwrth y poblogrwydd, er iddi fod yn mysg y dosbarth mwyaf rinweddol o’r holl ffynhonnau hyny a gyfrifid yn gyssegredig.

Wrth chwilio am Landudwen ar y map gellir deall pam oedd Myrddin Fardd yn cyfeirio at sefyllfa anfanteisiol y ffynnon. Dim ond wedi holi hwn a’r llall y cafwyd hyd i’r eglwys. Rhaid mynd ati ar hyd lôn sy’n arwain at fferm.

Mae arwydd ar bostyn y glwyd sy’n dweud mai dyna’r ffordd at eglwys Llandudwen. Ar waelod yr allt mae’r eglwys. O gerdded o’i chwmpas mae rhywun yn teimlo rhin y gorffennol. Gellir camu’n ddigon hawdd yn ôl i’r ddeunawfed ganrif. Mae’n siwr fod ei sefyllfa ddiarffordd wedi peri i Ffynnon Dudwen gael ei anghofio. Peth arall a enynnodd ein diddordeb yn y ffynnon oedd y disgrifiad a gafwyd ohoni yn Ancient Monuments of Caernarvonshire. Roedd y ffynnon ar ffurf hanner cylch, ei diamedr tua chwe throedfedd ac yn mesur tail troedfedd o’i blaen i’w chefn. Roedd mur yn codi y tu ôl iddi i uchder o dair troedfedd ar ffurf bwa ac yn gostwng yn raddol tuag at flaen y ffynnon. Yno roedd cerrig llyfnion yn creu argae i ddal y dŵr. Mae’r ffynnon wedi ei lleoli ar lethr serth ac mae wedi ei hadeiladu i mewn i’r tir, hyn, mae’n siwr, fu’n gymorth iddi oroesi i ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Credai Myrddin Fardd y byddai wedi diflannu’n llwyr ymhen dim amser, eto roedd ei chyflwr, er yn wael, yn ddigon da i’w harchwilio gan yr arolygwyr henebion flynyddoedd yn ddiweddarach.

Oherwydd bod ei dŵr mor llesol a’i phensaernïaeth yn un diddorol, penderfynwyd mynd i chwilio am y ffynnon. Wedi peth anhawster cafwyd hyd i’r ffordd oedd yn arwain i lawr at yr eglwys a ffermdy Tan-Llan. Wedi holi’r perchennog, Albert Owen, deallwyd nad oedd y ffynnon ar dir ei fferm ond ar dir Cae’r Ffynnon i fyny ar y ffordd fawr. Cyn ffarwelio ag Albert Owen cafwyd ganddo hanes hen chwedl oedd yn dweud bod y Santes Dudwen wedi boddi yn y ffynnon. Yn ôl Lives of the British Saints (1913), credid yn gyffredinol fod Tudwen yn ferch i Brychan Brycheiniog. Nid oes son am y chwedl, ond dywedir bod ei ffynnon, er yn enwog am wella llygaid poenus a’r cricymalau a phobl yn taflu arian a phinnau iddi, bellach, yn anffodus, wedi diflannu. Da gwybod nad yw hyn yn wir.

 

Ffynnon Dudwen fel y mae heddiw. 

Wedi cael gair gyda Gwyndaf Davies, perchennog Cae’r Ffynnon, cafwyd caniatâd i fynd at y ffynnon os medrem ddod o hyd iddi! Doedd hynny ddim yn hawdd. Roedd darn isaf y cae lle roedd y ffynnon o fewn golwg yr eglwys, rhyw ddau lled cae i ffwrdd, ond roedd yn llawn drain a mieri ac eithin deg troedfedd o uchder. Bu cryn ddadlau a chwilio a mwy nag un achlysur pan aeth y ddau ohonom yn sownd mewn mwd. Roedd dŵr gofer y ffynnon wedi ffurfio cors o’i chwmpas a’r drain a’r mieri yn ei gorchuddio’n llwyr, yn wir doedd dim posib gwybod lle yn hollol roedd hi. Ar ôl i ni fod yn chwilio am rhyw awr daeth Gwyndaf Davies atom a dangos i ni union leoliad y ffynnon. Aeth ati  i dorri peth o’r drain a’r mieri drwy sefyll yn y gors a tynnodd lun o’r ffynnon i ni.

Yn naturiol roeddem eisiau gwybod ganddo a oedd unrhyw bosibilrwydd o lanhau’r ffynnon. Dywedodd ei fod eisiau gwneud hynny, gosod peipen wrth ei gofer, a defnyddio’r dŵr i’r gwartheg. Yn anffodus ni châi ganiatâd i wneud hyn gan fod y tir mewn ardal lle mae’r amgylchedd yn cael ei warchod gan gorff swyddogol a chan reolau sy’n ymwneud â phurdeb dŵr. Pan ofynnwyd iddo a fedrai glirio’r ffynnon heb ddefnyddio’r dŵr dywedodd y byddai’r dŵr pur yn denu’r gwartheg ac ofnai iddynt chwalu’r ffynnon yn llwyr. Gofynnwyd iddo a oedd yn bosib gosod ffens o gwmpas y ffynnon i gadw’r gwartheg draw a dywedodd fod rheolau caeth o’r Weinyddiaeth Amaeth am ESA (Environmentally Sensitive Areas) yn ei rwystro rhag codi postyn ar y tir. Dyma enghraifft o dirfeddiannwr sy’n awyddus i warchod a glanhau hen ffynnon sanctaidd ond sy’n cael ei rwystro rhag gwneud hynny gan fiwrocratiaeth. Tybed a oes aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru all roi arweiniad i ni yn y mater yma?

Rhyfedd y’w meddwl fod ymwelwyr o Iwerddon wedi bod yn gweld y ffynnon rhyw flwyddyn yn ôl ac wedi treulio dau ddiwrnod yn ei thacluso a’i hastudio. Ymddangosodd llyfr am ffynhonnau Iwerddon a rhai o ffynhonnau Cymru yn ddiweddar. Tybed a oes sôn ynddo am Ffynnon Dudwen? Mae’r llyfr yn costio £40 – anrheg Nadolig gwerth chweil. Ydi Sion Corn yn darllen Llygad y Ffynnon tybed?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

Y BEDYDDWYR a FFYNNON y DRINDOD, Llanilltud, Gŵyr.

Dewi E. Lewis

Ym mhentref Llanilltud (Ilston), ym Mhenryn Gŵyr, y sefydlwyd eglwys gyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru, ar y cyntaf o Hydref 1649 gan John Myles ac yntau yn 28 mlwydd oed. Cynhaliwyd y gwasanaethau yn eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Illtud Sant, hyd yr ail o Fai, 1660, pan orfodwyd y Bedyddwyr i symud oddi yno dan wrthwynebiad y cyhoedd ac awdurdodau eglwysig. Symudodd y gynulleidfa o Eglwys Illtud Sant a dechreuwyd defnyddio Capel Ffynnon y Drindod a oedd wedi ei gysegru i Cenydd Sant. Bu’r capel yn sefyll ar y safle ers y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Credai rhai mai ffynnon a gysegrwyd i Teilo Sant yw’r safle, ond hawdd yw credu i Cenydd a Teilo fod yn gysylltiedig â’r safle gan i Teilo farw yn 560 O.C a Cenydd yn 587 O.C.

Mae’n anodd credu i’r safle gael ei anwybyddu am y cyfnod rhwng marw’r ddau sant a dyfodiad y Bedyddwyr o dan arweiniad John Myles. Mae’r ffaith fod y safle wedi ei gysegru i ddau sant yn dangos yn glir ei fod yn fangre o bwys yn lleol. Mae’n debygol hefyd mai dim ond un mewn cyfres o adeiladau oedd yr un a ddefnyddiwyd gan y Bedyddwyr yng nghyfnod John Myles. Honnir bod y ffrwd o ddwr wedi ei ddefnyddio gan y Derwyddon ar gyfer defodau a gwyliau cyn iddynt gael eu disodli gan y Rhufeiniaid. Yn sicr mae digon o goed cyll yn yr ardal i gefnogi’r fath honiadau.

Yn fuan wedi iddynt sefydlu ar safle Ffynnon y Drindod bu’n rhaid i’r Bedyddwyr hwythau adael oherwydd erledigaeth leol. Yn fuan wedi hyn ymfudodd John Myles i’r Unol Daleithiau gan barhau â’i waith crefyddol yn Rehoboth, Massachussetts.

Ffynnon y Drindod, Llanilltud, Gŵyr.

Ychydig iawn sy’n arddel credoau a ffydd John Myles ond mae safle’r capel wedi ei lanhau a gosodwyd plac yno. Y rheswm pennaf i’r Bedyddwyr ddewis y safle ar gyfer eu haddoliad yn sicr yw’r ffrwd o ddŵr sy’n tarddu o dan y capel. Mae’n syndod iddynt beidio â defnyddio’r safle yn y lle cyntaf, yn hytrach na chyrchu i eglwys Ilston. Mae’n ffrwd gref iawn ac yn angenrheidiol ar gyfer darparu digon o ddŵr ar gyfer trochofedydd mewn ardal lle bo’r cyflenwad dŵr yn isel gan fod cyfansoddiad y graig danddaearol o galchfaen.

Er mai am gyfnod byr y bu’r Bedyddwyr yn addoli yma mae’n amhosibl dirnad bod safle mor amlwg a ffrwd mor gryf wedi cael ei anwybyddu. Ni ellir diystyru’r ffaith i’r safle, efallai, gael ei ddefnyddio fel man aberthu a defodau crefyddau eraill.

Ni allwn ond dyfalu am y dyddiau a fu ond erbyn heddiw mae’r safle yn un distaw a phrydferth. Mae’n bosibl i rywun heini gyrraedd y safle ond fe all  fod yn anodd i berson anabl mewn cadair olwyn oherwydd cyflwr y llwybr. Mae yno awyrgylch heddychlon a gellir teimlo’r parch a roddwyd i’r safle gan genedlaethau. Digon hawdd credu eich bod mewn lle cysegredig ar ddiwrnod distaw. Credwyd fod dŵr y ffrwd yn ddefnyddiol ar gyfer gwella anhwylder y llygaid ac mae rhai yn parhau i gyrchu yma i’r perwyl hwnnw.

Dadorchuddiwyd plac ar y safle ar y trydydd ar ddeg o Fehefin 1929 gan Lloyd George yn dwyn y geiriau:

To commemorate the foundation in this valley

of the first Baptist church in Wales 1649-60.

Gellir cyrraedd y safle trwy ddilyn y ffordd tua’r gorllewin o Abertawe ar hyd yr A4118 i Benrhyn Gŵyr. Ger pentref Parkmill gellir gweld tafarn y Gower Inn (lle da am fwyd!) ar y dde. Rhwng y dafarn a nant Ilston mae llwybr cyhoeddus sy’n arwain at y safle. Gellir cyrraedd y capel ar ôl pum munud o gerdded. Mae i’r dde o’r llwybr wedi i chi groesi ail bont droed ar y llwybr. Cyfeirnod OS y safle yw 543 894 ar fap 159 yng nghyfres Landranger.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Anfonwch eich gohebiaeth at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts, Y Siswrn, 2 Stryd Watling, Llanrwst, Dyffryn Conwy.

Cyhoeddwyd LLYGAD Y FFYNNON gan Gymdeithas ffynhonnau Cymru.

Argraffwyd gan H.L. Boswell a’i Gwmni, Stad Ddiwydiannol Bwcle, Sir Y Fflint.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up