Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Rhif 4.

Haf 1998.

 

ADDURNO FFYNHONNAU

Eirlys Gruffydd

 

 Dwy o ffynhonnau Tissington, Swydd Derby, wedi eu haddurno.

Mae rhannau o Loegr yn enwog am addurno’u ffynhonnau ac mae sawl un wedi gofyn imi a oedd yn arferiad gwneud hyn yng Nghymru hefyd. Mae peth tystiolaeth fod pobl yn taenu blodau a changhennau o goed, llwyni a cherrig o gwmpas ffynhonnau yn siroedd Morgannwg, Penfro a Maesyfed pan ymwelid â hwy ar adegau arbennig fel Dydd Calan, ar ddydd Llun y Pasg neu ar Galan Mai.

Ym mhentref Diserth, i’r de o Landrindod, roedd Ffynnon Cewydd. Ef yw’r sant Cymreig sy’n cyfateb i Sant Swithin y Saeson – Cewydd y Glaw. Roedd yn arferiad i addurno’r ffynnon ond daeth hynny i ben ar ddechrau’r ganrif hon. Yn ôl Edward Lhuyd arferai gwragedd yr ardal ymweld â’r ffynnon ar Ddydd Calan ac ar ôl codi dŵr ohoni arferid ei haddurno ag uchelwydd. Y wraig gyntaf i godi’r dŵr fyddai’n cael crop y ffynnawn ac roedd hyn yn ei gwneud hi’n frenhines ymhlith y gwragedd. Caed arferiad tebyg dros y ffin yn Swydd Henffordd lle galwyd y dŵr cyntaf yn flodyn y ffynnon.

Dechrau’r ganrif hon gwelwyd arferiad diddorol yn Llanishen, Caerdydd. Roedd ffynnon yno ger Y Groes yn cael ei haddurno ar Noswyl Dydd Calan gyda brigau o’r llwyn bocs ac am hanner nos byddai ras at y ffynnon i godi dŵr a’r enillydd yn cael yr hyn a elwid yn crop y ffynnon (the crop of the well). O’r dŵr yma arferid gwneud te.

Roedd plant yn arfer addurno Ffynnon yr Offeiriad neu Priest’s Well ger Red Cottages, Narberth, sir Benfro ar Galan Mai, gyda changhenau o’r gerddinen neu’r griafolen (mountain ash) neu cayer fel y’i gelwid yn lleol. Roeddent hefyd yn addurno’r ffynnon a briallu Mair (cowslip) er mwyn cadw gwrachod rhag witsio’r teuluoedd a ddeuai at y ffynnon i godi dŵr 

Tybed a oes rhywun yn gwybod am enghreifftiau eraill yng Nghymru? Byddai’n ddiddorol clywed amdanynt.

Yn ddiweddar cefais afael ar lyfryn bach o’r enw The Well-Dressing Guide gan Crichton Porteous a gyhoeddwyd yn Derby yn 1962. Roedd yr awdur eisoes wedi cyhoeddi llyfr ar addurno ffynhonnau yn 1949 o dan y teitl The Beauty and Mystery of Well-Dressing ac felly yn gryn awdurdod ar y pwnc. Ei eglurhad ef o’r awydd i addurno ffynhonnau yw fod pobl wedi teimlo’r angen i dalu gwrogaeth i hen dduwiau’r dyfroedd gan fod dŵr yn hanfodol i fywyd. Ofn oedd yn ein hysgogi i aberthu i lynnoedd, afonydd a ffynhonnau. Gall afonydd sy’n gorlifo greu dinistr ofnadwy, fel y gwelsom adeg y Pasg eleni. Gwyddom fod pethau gwerthfawr o aur wedi eu taflu i lynnoedd yma yng Nghymru gan ein cyndadau Celtaidd. Roedd y Rhufeiniaid yn parchu’r ffynhonnau ac wedi iddynt ymadael â’r wlad ac i Gristnogaeth ddod yn rym yn y tir daeth y ffynhonnau yn fannau sanctaidd i’r seintiau. Ffordd o ddiolch iddynt oedd addurno’r ffynnon â choed a blodau a chynnal gwasanaethau ar lan y dyfroedd tawel.

Dechreuwyd yr arferiad o addurno ffynhonnau yn Swydd Derby ym mhentref Tissington lle mae pump o ffynhonnau ond nid oes cytundeb ynglyn â phryd yn union y dechreuwyd gwneud hyn. Cred rhai mai yn 1350, fel diolchgarwch am ddihangfa wyrthiol y pentref yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn sgubo drwy’r wlad. Ni bu neb farw yn y pentref a phriodolid hyn i burdeb y dŵr yn y ffynhonnau. Dywed eraill mai yn 1615 y dechreuodd yr arferiad, eto mewn diolchgarwch. Yn y flwyddyn honno bu sychder mawr a fawr ddim glaw yn syrthio rhwng diwedd Mawrth a dechrau Awst, ond doedd dim prinder dŵr yn Tissington gan fod y ffynhonnau’n dal i lifo. Ar ôl hyn, meddir, dechreuwyd addurno’r ffynhonnau. Barn y mwyafrif yw fod yr arferiad wedi dechrau ar ôl y Pla Du, wedi dod i ben ac yna wedi ei ailgychwyn ar ol 1615. Ni fu’n draddodiad di-dor. Cafwyd adfywiad yn 1950 ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

 

 Gweithio ar addurn i ffynnon yn Tissington

Mae’r niferoedd sydd wedi ymweld ag ardaloedd lle mae’r arfer o addurno ffynhonnau yn dal mewn bri wedi cael eu cyfareddu gan harddwch yr addurniadau. Yn Swydd Derbyn, nid dim ond mater o gario brigau a blodau at y ffynnon yw’r weithred o addurno. Golyga oriau lawer o lafur caled, trefnu manwl a chydweithio clòs rhwng aelodau cymuned. Bydd y ffynnon yn cael ei haddurno â darlun cywrain wedi ei wneud o flodau. Gall rhai o’r darluniau fod cyfuwch â deuddeg troedfedd er mai chwe throedfedd yw’r maint arferol. Cyn dechrau rhaid cael darn gwastad o bren – tray, rhyw fodfedd o ddyfnder, gyda channoedd o hoelion wedi eu curo i maen i’r cefn fel bod pigau yn llanw’r tray ac yn sefyll i fyny rhyw chwarter modfedd. Mae angen yr hoelion i ddal y clai arbennig sy’n cael ei ddefnyddio i greu’r addurn. Rhaid i’r clai fod yn gwbl lân, heb ddim cerrig na brigau ynddo. Bydd yn cael ei weithir gan y dynion nes ei fod o ansawdd tebyg i fenyn yn barod i’w daenu ar fara. Ambell dro rhaid gwlychu’r clai a’i weithio â dwylo ac a thraed noeth i’w wneud yn ddigon meddal. Yr un clai sy’n cael ei ddefnyddio o flwyddyn i flwyddyn, yn wir mewn ambell bentref honnir bod y clai wedi cael ei ddefnyddio ers canrif a mwy gyda pheth clai newydd yn cael ei ychwanegu ato’n achlysurol.

Wedi i’r clau gael ei wasgu i’w le dros yr hoelion, caiff ei lyfnhau, a’i gario i sied a’i osod i orwedd ar ei gefn ar dresl. Eisoes mae patrwm yr addurn wedi ei baratoi a’i ddylunio ar ddarnau o bapur wal. Gosodir y papur i orwedd ar y clai ac yna torrir drwy’r llinellau ar y papur ac i’r clai gan ddefnyddio cyllell. Wedi codi’r papurau bydd y patrwm yn glir ar y clai. Rhaid cadw’r papurau a’u hongian yn ofalus ar fur y sied fel bo modd cyfeirio atynt wrth fynd ymlaen â’r gwaith. Y cam nesaf yw i’r addurnwyr osod hadau o wahanol blanhigion yn y llinellau ar y clai er mwyn iddynt gael eu gweld yn glir. Fel arfer bydd hyn yn digwydd tua wythnos cyn amser penodedig addurno’r ffynnon ond ni fydd hynny prin yn ddigon i lanw’r gofod rhwng y llinellau ar y clai a phetalau blodau.

Y cam nesaf yw llanw darnau i gyfleu creigiau, muriau, llwybrau neu ffyrdd yn y darlun gan ddefnyddio mwsog, rhisgl neu foch coed. Erbyn hyn bydd pobl y pentref wedi bod yn casglu blodau o bob math ac ymhen dim gwelir y sied yn llawn o flodau wedi eu dosbarthu yn ôl eu lliw. Ambell dro defnyddir blodyn cyfan ond fel arfer petalau unigol a ddefnyddir. Gosodir pob petal yn ei le drwy ei wasgu i’r clai efo pen bys. Rhaid dechrau gweithio o waelod y llun i fyny fel bod pob petal yn gorgyffwrdd fel llechi ar do, ac i’r un diben, fel bo’r glaw yn gallu llifo i lawr y darlun heb amharu gormod arno. Anodd gwybod faint o betalau unigol a ddefnyddir ond ni fyddai dweud degau o filoedd yn ormodedd.

Mae’r gwaith o osod y petalau yn eu lle yn gofyn am lygad da ac amynedd di-ben-draw. Ar ôl cyfnod o weithio ar yr addurn bydd rhai pobl yn mynd yn petal blind, hynny yw ni all y gweithiwr farnu lleoliad a lliw y petalau yn gywir, a rhaid rhoi’r gorau iddi am y tro. Gall y gwaith achosi poen cefn difrifol hefyd gan na ellir pwyso na llaw na braich ar y bwrdd rhag i linellau’r llun gael eu dileu. Ni ddefnyddir unrhyw beth artiffisial yn yr addurn ac mae gwneud wyneb dynol, er enghraifft, yn eithriadol o anodd. Meddyliwch am wneud llygad gan ddefnyddio carreg fechan, petalau a mwsog. Gan fod y gwaith addurno yn araf ac yn cymryd cymaint o amser, rhaid cael tîm o bobl i gydweithio arno. Pan ddaw dydd addurno’r ffynnon rhaid cario’r addurn yn ofalus at ymyl y dŵr. Gall unrhyw esgeulustod ddifetha wythnos gyfan o waith. Wedi gosod yr addurn yn ei le gellir gwerthfawrogi cywreinrwydd campwaith artistig unigryw.

Does ryfedd fod y tyrfaoedd yn tyrru i Swydd Derby o gwmpas y Sulgwyn i weld y ffynhonnau adeg eu haddurno. Byddant hefyd yn taflu arian i’r ffynhonnau i ddangos eu gwerthfawrogiad o’r gwaith artistig ac mae’r cyfraniadau yma yn cael eu rhannu rhwng elusennau lleol. Dyma enwau’r pentrefi ble addurnwyd ffynhonnau yn y gorffennol rhag ofn y bydd rhai o ddarllenwyr Llygad y Ffynnon awydd mynd i weld y ffynhonnau drostynt eu hunain: Tissington, Wirksworth, Youlgrave, Tideswell, Buxton, Stoney Middleton, Bonsall, Eyam, Barlow, Derby, Belber, Ashford-in-the-water, Wormhill, Bradwell, Cutthorpe, Marsh Lane, Eckington a Hope. Tybed a oes gobaith i ninnau yng Nghymru wneud rhywbeth i dynnu sylw at gyfoeth pensaernïol a thraddodiadau meddyginiaethol ein ffynhonnau wrth inni gamu i fileniwm arall?

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

LLYTHYRAU

ANNWYL OLYGYDD…

Diolch am Rif 3 o Llygad y Ffynnon. Yn y darn am Ffynnon Cegin Arthur sylwais ar gamgymeriad dybryd. Doedd yna erioed fodd i rywun orwedd yn y ffynnon, fel y gwelir yn glir yn y llun. Ar gyfer ymdrochi roedd yno bedwar baddon ar wahân wedi eu suddo yn y ddaear. Credaf y dylid cywiro’r gwall i’r darllenwyr.

Yn ffyddlon,

John E. Williams, Llanrug.

 

ANNWYL OLYGYDD…

Diolch am y cylchlythyr Llygad y Ffynnon Rhif 3. Mae un eitem ynddo sydd wedi peri i mi fod eisiau dweud gair o ddiolch a chlod wrth Gyngor Cymuned Aberdaron, am wella cyflwr Ffynnon Saint (Cyfeirnod Map SH12 165 267). Mae llwybr wedi ei agor tuag ati, lle roedd tyfiant dryslyd, ac mae caead arni hefyd. Mae’r dŵr ohoni’n cael ei bibellu, ac yn gyflenwad hael i’r ardal.

Mae hon yn hen hen ffynnon, a’r eitem a’m hanogodd i ysgrifennu oedd y posibilrwydd o adfer Teithiau’r Pererinion ar hyd Penrhyn Llŷn, ac mae hon yn sicr o fod ar y llwybr yma. 

Ces fy ysgogi i wneud cais i’r Cyngor wella cyflwr y ffynnon yma ar ôl derbyn llythyr gan gyfeilles sy’n byw yn Ne Affrica, ond sydd wedi treulio cyfnodau yn Aberdaron – ac wedi yfed o ddŵr y ffynnon – ac yn holi am ei chyflwr. O ddeall ei bod mewn cyflwr go druenus, pwysodd arnaf fi i wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth. Es innau ar ofyn y Cyngor Cymuned ac roedd yr ymateb yn dda, fel bob amser. 

Mae enwogrwydd arall i Ffynnon Saint, sef y cyfeiriad ati yn un o lyfrau Doctor Emyr Wyn Jones – Lloffa yn Llŷn. Yno mae’n adrodd hanes meddyges Bryn Canaid yn cyrchu dŵr o Ffynnon Saint i baratoi rhai meddyginiaethau. Mae’n llyfr sy’n werth ei ddarllen.

Gobeithio y bydd hyn o ddiddordeb,

Wil Wiliams, Rhoshirwaun, Pwllheli.

[Dyma sydd gan Myrddin Fardd i’w ddweud am Ffynnon Saint, Aberdaron yn Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908, tud. 187):

Y mae cyflenwad hwn mewn hen geimle ar fin y ffordd sydd yn arwain at Anelog o bentref Aberdaron, ac mewn cyflwr adfeiliedig, gan ddarfod i seiri meini, yn eu dibrisdod o honi, gario ymaith ei cheryg at wneud pont gyfagos. Ni phriodolir dim gwyrthiau iddi, ond yn unig meddyginiaeth naturiol drwy gynneddfau ei dwfr. (Gol.)]

 

ANNWYL OLYGYDD…

Rwyf wedi bod yn gwneud peth ymchwil i ffynnon leol ond heb gael fawr o lwc hyd yma. Fe’i nodir ar y map fel chalybeate and sulphur. Nid oes sôn amdani yn The Holy Wells of Wales gan Francis Jones. Mae fy ngŵr yn cofio’r ffynnon flynyddoedd yn ôl pan arferai fynd a’r ceffylau drosodd i Ysbyty Ifan i’r efail. Mae rhwng Ty Nant a Chefn Gwyn. Ei chyfeirnod map yw SH 848 481.

Tybed a all rhai o’ch darllenwyr fy helpu? Hoffwn wybod faint o ffynhonnau ‘chalybeate and sulphur’ sydd yna yng Nghymru. Sut mae’r mwynau’n casglu yn y dwr? A oes enw i’r ffynnon arbennig yma?

Yn obeithiol,

Audrey Jones, Capelcelyn, Bala.

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Deri a Megan Thomos, Llanllechid, Gwynedd.

Cymdeithas Dreftadaeth y Bala a Phenllyn

George McGill, Rhiwabon, Wrecsam.

Ian ap Dewi, Llangrannog, Ceredigion.

Wellsprings Fellowship, Aberhonddu.

Meurig a Myfanwy Voyle, Dinbych

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU – CYSYLLTU Â’R CYNGHORAU

Ffynnon Cyngar, Llangefni, Môn.

Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Llangefni i ofyn iddynt edrych ar Ffynnon Cyngar. Cysegrwyd yr eglwys yn Llangefni i Sant Cyngar. 

Ffynnon Allgo, Llanallgo, Môn.

Anfonwyd at Gyngor Cymuned Moelfre i holi ynglŷn â chyflwr Ffynnon Allgo. Mae hon yn hen ffynnon sydd â chysylltiadau paganaidd iddi. Os na wneir rhywbeth i’w diogelu cyn hir bydd wedi ei cholli’n llwyr.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cysylltwyd â’r Cynghorau Cymuned canlynol i ofyn iddynt am wybodaeth ynglŷn â lleoliad, cyflwr, a pherchnogaeth y ffynhonnau yn eu hardaloedd. Lle bo’r ffynnon mewn cyflwr gweddol dda gofynnwyd iddynt sicrhau ei bod yn cael ei glanhau yn gyson a bod arwydd yn cael ei godi i ddangos ei lleoliad i ymwelwyr.

SIR GONWY:

ABERGELE, BETWS YN RHOS, BRO GARMON, LLANRWST, CERRIGYDRUDION, LLANDDOGED, LLANDDULAS, LLANGERNYW, LLANEFYDD, LLANSANNAN, a LLYSFAEN.

SIR DDINBYCH: 

BETWS GWERFUL GOCH, BODELWYDDAN, BODFARI, BRYNEGLWYS, CORWEN, DERWEN, LLANARMON YN IÂL, LLANDEGLA, LLANDRILLO, a LLANELIDAN.

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NEWYDDION ANHYGOEL!

Mae rhanbarth y gogledd o Gymdeithas Waliau Sychion Cymru wedi penderfynu ailadeiladu llawer o ffynhonnau fel ffordd o ddathlu’r mileniwm. Clywodd Iorwerth Hughes, is-Gadeirydd ein cymdeithas, am hyn ar raglen Post Prynhawn ar Galan Mai. Y ddwy ffynnon gyntaf i gael ei hadfer yw Ffynnon Fair Fagdalen, Cerrigydrudion a Ffynnon Eilian, Llaneilian, Môn. Aeth y Trysorydd a’r Ysgrifennydd draw i Gerrigydrudion y prynhawn canlynol i weld y dynion wrth eu gwaith. Cadeirydd Rhanbarth y Gogledd o’r Gymdeithas Waliau Sychion, Don Eland o Gerrigydrudion, a’r Trysorydd, Tim Roberts o Wrecsam oedd yno. Cafwyd trafodaeth frwd ar sut y gallem gydweithio i adfer y ffynhonnau a phenderfynwyd cadw mewn cysylltiad. Os oes unrhyw un ohonoch yn awyddus i gymryd rhan mewn gweithgaredd i adfer ffynnon, da chi – gadewch i mi wybod neu ffoniwch Don (01490) 420448) neu Tim (01978) 263148). (GOL.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff  

FFYNHONNAU ENLLI

Lle rhamantus i fyw arni yw ynys, ac eto rhaid bod yn fath arbennig o berson i fedru byw heb y cyfleusterau sylfaenol y byddwn yn eu cymryd mor ganiatáol. Ar Ynys Enlli rhaid wrth ffynhonnau, a mwynhad pur i mi oedd darllen cyfrol H.D.Williams, Ynys Enlli. Yno mae’n rhestru ffynhonnau’r ynys ac yn rhoi eu lleoliad.

Prif ffynnon yr ynys yw FFYNNON CORN. Mae hon ar odre’r mynydd ar ochr ogleddol yr ynys ger y capel. y ffynnon fwyaf diddorol yw FFYNNON BARFAU. Mae hon ar graig ar ochr y mynydd ac mae ar ffurf dau dwll yn y graig sy’n llawn dŵr croyw. Dywedir i’r ddau dwll yma gael eu ffurfio gan ddwy droed dyn gryfach na’r cyffredin wrth iddo neidio o’r fan yma i Faen Bugail, craig yn y Swnt. Dywedir i’r ffynnon cael ei henw am fod y seintiau yn arfer mynd ati i dorri eu barfau gan ddefnyddio’r dŵr clir fel drych a chadw eu harfau ar gyfer y gwaith mewn twll yn y graig. Enw arall arni yw FFYNNON BARFAU. Bydd y ddwy ffynnon yn llawn o ddŵr haf a gaeaf. Dywed Myrddin Fardd yn ei gyfrol werthfawr Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908) fod ‘y ddwy ffynnon yma, y naill yn oddeutu ugain modfedd o hyd wrth naw o led a dwy droedfedd o ddyfnder, a’r llall oddeutu ugain modfedd o hyd wrth saith o led a dwy droedfedd o ddyfnder.’

Ffynnon arall sy’n weddol agos at FFYNNON BARFAU yw FFYNNON OWAIN ROLANT ac mae i’r dŵrrinweddau meddyginiaethol. Roedd y pererinion yn dod i Enlli ar ôl teithio am filltiroedd lawer a hawdd deall bod eu traed a’u coesau’n ddolurus. Iddynt hwy doedd dim byd tebyg i ddŵr FFYNNON BAGLAU. Yma byddai’n arferiad i olchi traed a choesau poenau a chael gwellhad i’w briwiau. Yn wir roeddynt yn gwella cymaint fel nad oedd angen eu baglau arnynt mwy ac arferid eu gadael ar Fryn Baglau gerllaw. Credaf mai at yr un ffynnon y mae Myrddin Fardd yn cyfeirio ond fe elwir y ffynnon yn FFYNNON DALAR. Meddai:

Ar lechwedd bryncyn o’r enw Bryn Baglau, ac ar yr aswy i’r ffordd sydd yn arwain o’r Cafn, porthladd Enlli, i gyfeiriad yr hen Fynachlog, y mae ffynnon Dalar, yr hon, gynt, a ystyrid mor anffaeledig at iachau cryd cymmalau, fel yr elai y rhai a flinid gan yr anhwylder hwnw ar ôl ymolchi ynddi, yn hollol iach yn y fan; ac fel tystiolaeth o hynny, gadawent eu ffyn-maglau ar y dalar ger y ffynnon; a’r llecyn, hyd heddyw, o’r achos, a adnabyddir wrth yr enw Bryn Baglau.

Wrth edrych ar adroddiad Comisiwn Henebion am sir Gaernarfon a gyhoeddwyd yn 1963, gwelir y canlynol am ffynnon ar Enlli:

Well, unnamed, at the north end of the west slopes of Mynydd Enlli; it stands at about 200ft above O.D and is a short distance from that known as Ffynnon Corn. It is built in a cleft at the foot of a rock outcrop and consists of a stone basin 2 ft 3 ins by 3ft 6 ins. The surviving masonry is very well built and includes sone thin slab of yellow gritstone. There is a step or shelf at the back beneath which is a large slab containing the rounded inlet. This step and side ledges are now covered by water, which may be at a higher level than originally. A considerable quantity of fallen stone suggests that there was a superstructure of some kind, although there are now no dateable feature, its character and the fact hat this is the islands most reliable source of water point to the masonry being early, probably medieval. Condition; ruined.

Hyd y gwelaf nid yw’r disgrifiad yma yn cyfateb i un o’r ffynhonnau uchod. Tybed a oes rhywun yn gwybod pa ffynnon yw hon? Ffynnon Owain Rolant o bosib?

Roedd yn rhaid i’r tai a’r ffermydd gael ffynhonnau i ddiwallu eu hanghenion hefyd a dyma’i henwau: FFYNNON DOLYSGWYDD, FFYNNON WEIRGLODD BACH, FFYNNON UCHAF, FFYNNON DALA, FFYNNON DDIARANA, FFYNNON WAEN CRISTIN, FFYNNON CAE DŴR, FFYNNON CARREG, FFYNNON DEFAID, FFYNNON TAN’RADELL.

Tybed a oes un o ddarllenwyr Llygad y Ffynnon wedi bod yn byw ar Enlli? Os oes, beth am ychwanegu mwy at ein gwybodaeth am ffynhonnau’r seintiau. (GOL.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff  

FFYNHONNAU’R PERERINION

Hwyrach i chi gofio i mi grybwyll yn Llygad y Ffynnon Rhif 3 fod cynlluniau ar droed  i greu teithiau sy’n dilyn llwybrau’r pererinion i Enlli. Dywedais y byddai’n beth da i gynnwys y ffynhonnau yn y teithiau hyn. Ar y pryd doeddwn i ddim yn siŵr wrth ba ffynhonnau y byddai’r pererinion yn debygol o aros, ond diolch i lyfr H.D Williams ar Enlli, cefais fy ngoleuo. Ar dudalen pump mae’n rhestru nifer o ffynhonnau lle’r arferai’r pererinion wersylla a gorffwys am ychydig ar eu taith i Fangor tuag Enlli: Ffynnon Odliw, Glynllifon: Ffynnon Beuno, Clynnog: Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn: Ffynnon Fair, Nefyn: Ffynnon Penllech, Tudweiliog a Ffynnon Fair, Aberdaron.

Yn rhyfedd ddigon ni chyfeirir at Ffynnon Odliw na Ffynnon Penllech gan Myrddin Fardd na Francis Jones yn The Holy Wells of Wales. Oes yna ffynhonnau eraill sy’n gysylltiedig â’r pererinion? Os oedd y pererinion yn cychwyn o Fangor siawns na fyddai angen gorffwys arnynt cyn cyrraedd Glynllifon. Gwyddom fod dwy ffynnon i Sant Deiniol ym Mangor. Os oedd y pererinion yn mynd ar hyd y Fenai tybed a fyddent wedi aros wrth Ffynnon Fair yn Llanfair is Gaer, lle mae Plas Menai heddiw? A beth am Ffynnon Helen ar y ffordd allan o Gaernarfon i gyfeiriad Bontnewydd a Ffynnon Faglan yn Llanfaglan? A oed rhywun yn gwybod am draddodiadau sy’n cysylltu’r ffynhonnau hyn â’r pererinion? (GOL.)

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON AELHAEARN, LLANAELHAEARN

Mae pentref Llanaelhaearn o dan gysgod Tre’r Ceiri ac yma mae un o’r ffynhonnau mwyaf ei maint yng Nghymru. Ffynnon betryal yw hi yn mesur 13 x 7 troedfedd. Mae bwrlwm ei dyfroedd yn diwallu angen y gymuned leol am ddŵr, yn wir Dŵr Cymru sydd â’r hawl i’r dyfroedd gan eu bod yn gyflenwad i’r cyhoedd. Ers talwm deuai cleifion yma i gael gwellhad a rhaid oedd neidio i’r dŵr pan fyddai’n byrlymu. Byddai’r pererinion yn aros yma i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o Glynnog. Tua dechrau’r ganrif hon codwyd adeilad dros y ffynnon gan y Cyngor Plwyf er mwyn diogelu purdeb y dŵr ar ôl i Diptheria ymddangos yn yr ardal.

Ers dechrau’r nawdegau mae Dŵr Cymru wedi bod yn awyddus i drosglwyddo perchnogaeth y ffynnon i’r Cyngor Cymuned ond am resymau cyfreithiol nid yw hyn wedi bod yn bosib hyd yma gan fod peth ansicrwydd ynglŷn a pherchnogaeth y tir o gwmpas y ffynnon. Mawr obeithiwn y bydd y ffynnon yn eiddo i Gyngor Cymuned Llanaelhaearn yn y dyfodol agos.

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYFARFOD CYFFREDINOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU BRO OGWR

PABELL Y CYMDEITHASAU  

DYDD LLUN, AWST 3ydd 1998 12.30 – 1.30

ac yn dilyn DARLITH gan TECWYN VAUGHAN JONES ar

FFYNHONNAU A’R BYD CELTAIDD

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CHWILIO AM DDWY FFYNNON YN LLANGYFELACH

gan Dewi Lewis

Mae Eglwys Llangyfelach yn gyfarwydd iawn i lawer ohonoch fel eglwys sydd â thŵr yn sefyll ar wahân i’r brif eglwys. Yn ôl traddodiad dywedir fod y diafol wedi ceisio dwyn y tŵr ond ei fod wedi cael ei ddal gan y ficer ac yn ei ddychryn a’i ofn wedi gollwng gafael ar y tŵr a hwnnw wedi disgyn tua deugain llath i ffwrdd o’r eglwys! Yn ôl tystiolaeth mae’n debyg i’r eglwys wreiddiol gael ei dymchwel mewn storm yn ystod cyfnod y Rhyfeloedd Napoleanaidd a bod y plwyfolion wedi adeiladu eglwys newydd ar safle ysgubor ddegwm. O ganlyniad i wahanu’r eglwys a’r tŵr arferai gweithwyr tir yr ardal ganu’r triban

Mae Llangyfelach hynod

Yn ddigon hawdd ei nabod

Mae’r Eglwys draw, a’r clochdy fry.

Pa bryd gwna rhain gyfarfod?

Jôc arall ar lawr gwlad oedd gofyn y cwestiwn ‘Pwy oedd yr Ymneilltuwr cyntaf yng Nghymru?’ Yr ateb, wrth gwrs, oedd ‘Clochdy Llangyfelach’. Ym mynwent yr eglwys ceir darn o groes garreg sydd yn dyddio’n ôl i’r ddeuddegfed ganrif. Yn 1913, tra’n cloddio y tu mewn i’r eglwys, daethpwyd o hyd i garreg yn dwyn cerflun o groes a’r llythrennau CRUX XPI arni, a thybir bod y garreg yn dyddio’n ôl i’r nawfed ganrif.

Nid yr eglwys na’r garreg hynafol a’m denodd i i Langyfelach ond yn hytrach yr awydd i weld dwy ffynnon: Ffynnon Ddewi a Ffynnon y Fil Feibion. Cyfeiriodd Francis Jones at y ddwy ffynnon yn The Holy Wells of Wales a’r ffaith bod ffair yn cael ei chynnal yn Llangyfelach ar ddydd Gŵyl Dewi. Mae’n debyg i’r ffair fod mewn bri hyd at 1895 a bod hyd at 30,000 o bobl yn heidio yno. Tybia rhai mai estyniad o Ŵyl Mabsant oedd y ffair a bod pererinion lawer yn dod yno, nid yn unig i yfed dŵr y ddwy ffynnon ac i weld y creiriau crefyddol, ond hefyd i brynu a gwerthu nwyddau.

Yn ôl T.D. Llewelyn o Benlle’r-gaer:

It appears that the anniversary of the dedication of Llangyfelach Church was kept for ages for two days every year, on the first and second of march, and the people of the neighbourhood around brought all kinds of things eatable in order to welcome their distant friends. who would be coming from afar to the religious festival which was held in the churchyard….The tombstones served as ‘standings’…all manner of games were carried on there when the weather would be favourable. Some of the young, athletic men would be ball-playing against the north wall of the church, while others would be hop-skip-and-jump…

Yn ddiweddar deuthum ar draws cyfeiriad at y ddwy ffynnon yn Historical Gower gan P. Davies. Yn y llyfr cyfeiria at y ddwy ffynnon fel hyn:

There are two holy wells near the church, both marked on the pathfinder O.S maps. Just off the road leading north from the church is Ffynnon y Fil Feibion, once enclosed by four large slabs. but now only one remains and the spring is densely overgrown. The other well dedicated to St. David is in a marshy valley, south west of the church and although overgrown still gives a plentiful supply of water.

Gwir ei eiriau! Deufis yn ôl mentrais i weld y dwy ffynnon. Yr her gyntaf oedd cyrraedd Ffynnon Ddewi. Gyda map O.S, camera a phâr o sgidiau go handi, ymlwybrais drwy’r marshy valley, weithiau hyd fy mhengliniau mewn mwd, nes o’r diwedd cyrraedd y fan. Yng nghanol cors gwelir safle Ffynnon Ddewi. Y cyfan sydd yno yw cerrig crwn naturiol a digonedd o ddŵr! Mae’r ffrwd yn parhau’n gryf iawn nes ei bod yn gorlifo dros y tir cyfagos i ffurfio cors. Gallwch ddychmygu faint o ddŵr oedd yno o ganlyniad i law y misoedd diwethaf.

Mentro wedyn at Ffynnon y Fil Feibion, sef y mil diniwed a laddwyd gan y brenin Herod yn ôl yr hanes a geir yn y Testament Newydd. Roedd y ffynnon yma yn cael ei nodi, fel petai, gan garreg fawr ond roedd tyfiant toreithiog o’i chwmpas a braidd yn amhosibl gweld y dŵr ynddi. Er gwaethaf yr holl stryffaglu drwy’r mwd roeddwn yn falch fy mod wedi gweld y ddwy ffynnon yn Llangyfelach.

Diolch i Dewi am ei frwdfrydedd a;i barodrwydd i fynd i chwilio am ffynhonnau yn ei ardal. Byddai’n beth braf gweld aelodai eraill yn dilyn ei esiampl. Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Llangyfelach i ofyn iddynt ystyried adnewyddu’r ddwy ffynnon fel ffordd o ddathlu’r mileniwm. (Gol.)

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

YMATEB Y CYNGHORAU CYMUNED 

LLANGRANNOG: Dim ymateb i’n cais am wybodaeth am gyflwr Ffynnon Fair.

LLANGWM: Mae Ffynnon Wnnod mewn cyflwr da ac mae ffens o’i chwmpas a giat i fynd ati.

LLANGERNYW: Mae Ffynnon Digain wedi ei leoli ar dir Coed Digain, Llangernyw. Mae’r ffynnon yn heneb cofrestredig ond mewn cyflwr drwg iawn erbyn hyn. Cysylltwyd â’r perchennog i weld beth a ellir ei wneud i adfer y ffynnon.

Mae ffynnon enwog ym mhentref Gwytherin o’r enw Ffynnon Beuno Sant. Enwyd hon ar ôl Sant Beuno fyddai’n dod i ymweld â Gwenffrewi yng Ngwytherin. Beth amser yn ôl fe adnewyddwyd canol y pentref a thynnu i lawr hen fythynnod a gwneuthpwyd maes parcio ar ben y ffynnon gan wneud ffos ohoni i’r afon. Mae rhai yn gwybod ble mae a byddai diddordeb yn ei hail agor.

Ysgrifennwyd at y Cyngor yn ei annog i wneud hyn.

CYNGOR TREF ABERGELE: Mae Ffynnon Gemig, Llansainsior ym Mharc Cinmel a dan reolaeth Stad Cinmel. Roedd hon yn ffynnon gysegredig yn y Canol Oesoedd ac yn gysylltiedig â bendithio ceffylau. Mae hanes hynod i hon.

(Cyfeiriwyd at y ffynnon hon yn Llygad y Ffynnon Rhif 1. Ymwelwyd â hi eto yn ddiweddar a chael nad oedd y perchennog wedi gwneud ymdrech i’w glanhau. Anfonwyd at Gyngor Tref Abergele yn nodi ein pryder ac yn mawr obeithio y gellir gwneud rhywbeth i wella’r sefyllfa.)

LLANRWST: Nid oes ffynnon yng Nghapel Garmon erbyn hyn ond ers talwm roedd pistyll yng nghanol y pentref a arferai gyflenwi anghenion y trigolion. Mae un ffynnon fechan ym Mhoethfoel, Melin-y-Coed ac enw anarferol arni sef Ffynnon Philadelphia. Tybed beth yw tarddiad yr enw?

Cewch fwy o wybodaeth am ymateb y cynghorau yn y rhifyn nesaf. (Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff   

LLWYDDIANT DWY O AELODAU 

CYNGOR CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Llongyfarchiadau i Esyllt Nest Roberts, Llanrwst a Liz Saville, Morfa Nefyn. Gwelwyd y ddwy ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Llŷn ac Eifionydd, yn llywio dwy o’r prif seremoniau yn gelfydd iawn.

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN … YW’R GEINIOG!

COFIWCH ADNEWYDDU EICH TÂL AELODAETH OS GWELWCH YN DDA

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU FY MHLENTYNDOD

Eluned Mai Porter

Yn ardal Dyffryn Banw, sir Drefaldwyn ers talwm roedd gan bob tyddyn a ffarm ei bistyll neu ffynnon ei hun. Ni fu fy rhieni erioed yn byw mewn unrhyw le nad oedd ffynnon ddofn i’w cynnal a dŵr glan gloyw. Dros y blynyddoedd mi datblygodd y ffynnon i bwmp llaw ac wedyn i beiriant trydan i gael dŵr i’r tŷ.

Nid oes enwau ar y ffynhonnau a chant eu henwi ar ôl enwau’r tai. Mae fy nheulu wedi profi dŵr ffynhonnau yn Caerbwlabach, Penycreigiau, Tynyreithin, Lletybach, Groeslau, ac heddiw yn y TALWRN – i gyd yn Llangadfan.

Cofiaf Ffynnon Lletybach yn dda. Roedd mewn lle annwyl ac anial yn wynebu’r Pencoed. Roedd y ffynnon rhyw hanner can llath o’r tŷ a’r dŵr a ddeuai ohoni yn oer iawn ac yn ddisglair loyw bob amser. Bu fy chwaer a minnau yn gwario oriau lawer uwchben y ffynnon ar nosweithiau o hafau braf gan wylio rhyw wybed odiaeth yn symud uwchben y dŵr. Gelwid y gwybed gan Nain yn Cychwr y Ffynnon neu Meirch y Ffynnon, a’r gred oedd bod y dŵr yn bur iawn os oedd gwybed yno. (Boatmen oedd y gair Saesneg amdanynt.) Cofiaf hefyd fod pryfed cop bychain yn glynu wrth y graig ar ochrau’r ffynnon, eto yn arwydd o burdeb y dŵr.

Nid oedd angen caead ar y ffynnon hon na ffens o’i chwmpas, dim ond lechen neu ddwy i fynd at y dŵr i’w godi. Roeddem fel teulu yn falch iawn o’r hen ffynnon a hithau ohonom ninnau, gan i ni edrych ai hôl mor ofalus ar hyn y blynyddoedd. Erbyn heddiw mae’r hen ffynnon wedi mynd â’i phen iddi mewn baw a blerwch gan mai dieithriaid sydd bellach yn byw yn Lletybach, a phrin yw’r gobaith y caiff ei hachub!

Diolch i Mai am yr atgofion hyn. Tybed a oes eraill o aelodau’r gymdeithas yn cofio am ffynhonnau a gau eu defnyddio pan oeddent hwy yn blant? Os oes, da chi – anfonwch air. Does neb a fu’n gwbl ddibynnol ar ffynnon i gael dŵr yfed byth yn anghofio’r profiad. Rwy’n dal i gofio melysder y dŵr. (Gol.)

   cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PIGION O GYFARFOD Y CYNGOR

Cynhaliwyd cyfarfod y Cyngor ym Mhlas Tan-y-bwlch, Maentwrog, ar Fawrth 28ain

Da oedd clywed gan Jane Hughes fod gobaith y byddai’r gwaith o ailagor Ffynnon Beuno yn y Bala yn dechrau yr haf yma.

Mae’r gwaith o adfer Ffynnon Derfel yn Llandderfel, ger y Bala, hefyd ar fin dechrau. Mae Mr Ian Hughes yn gwneud cywaith am y ffynnon gyda phlant yr ysgol.

Ysgrifennwyd at Gyngor Tref Ffestiniog i ofyn iddynt ystyried ailagor ac adnewyddu Ffynnon Fihangel. Cafwyd llythyr oddi wrth y Clerc yn dweud ei fod o a’r Cadeirydd am fynd i weld perchennog y ffynnon yn fuan.

Mae Howard Hughes yn dal i ymchwilio i Ffynnon Ddeiniol ym Mangor.

Mae Dewi Lewis am anfon gair eto at y cyngor lleol i weld a yw Ffynnon Fair, ym Menrhys wedi cael ei glanhau.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff 

Anfonwch unrhyw lythyr neu wybodaeth am ffynhonnau eich ardal i’r Golygydd:

Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up