LLYGAD Y FFYNNON
Cylchlythyr CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU
Rhif 3. Nadolig 1997
I mi man yn llawn rhamant yw Ynys Llanddwyn ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Mae’r hanes am y Santes Dwynwen yn un digon cyfarwydd gan mai hi yw nawddsantes cariadon Cymru. Roedd yn ferch i Brychan Brycheiniog ac aeth hi a’i chwaer, Ceinwen, i fyw i Fôn, Dwynwen ar Ynys Llanddwyn a’i chwaer yn Cerrig Ceinwen gerllaw ar y tir mawr. Roedd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill ac yntau â hi ond ni fynnai Dwynwen gael cyfathrach ag ef cyn priodi. Oherwydd hyn gwrthododd Maelon hi er mawr ofid a thrallod iddi ac aeth yn glaf o gariad. Un noson, a hithau ar ei phen ei hun yn y goedwig, gweddïodd Dwynwen ar iddi gael ei gwella o’i chlwy. Mewn breuddwyd daeth Duw ati a rhoi diod melys iddi i’w yfed a llwyddodd i anghofion am Maelon. Yn yr un freuddwyd gwelodd ei chyn gariad yn yfed o’r un diod ac o ganlyniad yn troi yn dalp o rhew.
Gweddïodd Dwynwen am dri pheth. Yn gyntaf gofynnodd i
Maelon gael ei ddadmer. Yn ail erfyniodd ar i weddiau gwir gariadon gael eu
hateb, iddynt ennill gwrthrych eu serch neu gael eu gwella o’u torcalon. Yn
drydydd mynegodd na ddymunai briodi a’i bod am gysegru ei bywyd i Dduw.
Atebwyd ei gweddiau. Aeth Dwynwen yn lleian a chafodd cariadon a weddiai arni eu
dymuniad. Daeth ei heglwys, y ddelw ohoni a’i ffynnon yn enwog a bu llawer o
bererindota i Ynys Llanddwyn drwy’r canrifoedd.
Roedd Ffynnon Dwynwen yn enwog ond yn ôl Ancient
Monuments of Anglesey a The Lives of
the British Saints, dau lyfr a ymddangosodd ar ddechrau’r ganrif hon,
doedd fawr ddim i’w weld o’r ffynnon yr adeg honno gan fod y tywod wedi ei
chuddio. Meddyliais y byddai’n beth da i ni fel Cymdeithas geisio ei hadfer.
I’r perwyl hwn cysylltais â Wil Sandison, Warden Parc Gwledig Niwbwrch, a bu
mor garedig a mynd a Ken a minnau draw i’r ynys. Aeth â ni yn ei Landrover
ar draws y traeth a buan y sylweddolais wrth siarad ag ef fod nifer o ffynhonnau
ar yr ynys.
Mae Ffynnon Dwynwen i lawr ar y creigiau uwchlaw’r môr.
Ffynnon fechan gwbl naturiol yw hi. Hawdd credu mai o’r ffynnon hon y cafodd y
santes ddwr pan sefydlodd gyntaf ar yr ynys yn y chweched ganrif. Does fawr ddim
sydd angen ei wneud i’r ffynnon ar wahan i’w glanhau a’i diogelu rhag
tirlithriad a allai fod yn fygythiad iddi. Mae’n agos i weddillion yr eglwys
ac mae hyn yn batrwm digon cyfarwydd yng Nghymru, sef cael eglwys a ffynnon a
gysegrwyd i’r sant o fewn tafliad carreg i’w gilydd.
Wrth ddarllen am y ffynnon yn y llyfrau a nodwyd eisoes ac
yng nghyfrol werthfawr Francis Jones, The
Holy Wells of Wales, ac yn y darn am ffynhonnau Môn yn y gyfrol ddiweddar Enwau
Lleoedd Môn, gan Gwilym Jones a Tomos Roberts, dechreuais sylweddoli fod
nifer o ffynhonnau yn cael eu cysylltu â Dwynwen heblaw’r ffynnon fechan a
welais. Dywed Francis Jones fod Ffynnon Dwynwen hefyd yn cael ei adnabod fel
Ffynnon Fair. Roedd ffynnon arall ger y tai a oedd ar yr ynys ac yn cyflenwi dŵr
iddynt. Yn ôl disgrifiad gan un a fyddai’n mynd yno pan oedd yn blentyn roedd
drws ar y ffynnon hon ac nid oedd yn wahanol ei hadeiladwaith i lawer o
ffynhonnau eraill a geid ger tai annedd ar hyd a lled y wlad ers talwm.
Yn yr Oesoedd Canol roedd mynachlog ar yr ynys. Ymwelai llawer o bererinion â Llanddwyn am eu bod yn cred y caent wellhad o’u hanhwylderau yn nŵr y ffynnon. Ysgrifennwyd cywydd i Ddwynwen gan Syr Dafydd Trefor yn y bymthegfed ganrif. Disgrifiodd ei heglwys, ei delw a’i ffynhonnau gan awgrymu bod mwy nag un ffynnon wedi ei chysegru iddi. Meddai
Santes ym mynwes Menai
A’i thir a’i heglwys a’i thai
Ffynhonnau gwyrthiau dan go
Oer yw’r dyn ni red yno.
Ffynnon Dwynwen, Llanddwyn.
Deuai Pererinion a chleifion i Landdwyn i geisio gwellhad o
boenau yn yr esgyrn, o bliwrisy ac afiechydon yr ysgyfaint, yn ogystal â rhai
claf o gariad a’r rhai yn dymuno sicrhau cariad. Ar yr ynys roedd craig a
elwid yn Gwely Esyth (Esmwyth). Byddai’r cleifion yn gorwedd a chysgu ar y
graig ac ar ôl deffro torrent eu henwau yn y dywarchen gerllaw a chredent eu
bod wedi cael gwellhad.
Byddai’r rhai a geisiau wellhad yn dod ag anrhegion i’w
gadael yng nghyff Dwynwen yn yr eglwys a thyfodd Llanddwyn yn gyfoethog fel
canlyniad i hyn. Wedi i’r eglwys ddadfeilio cadwyd y porth mewn cyflwr da er
mwyn i’r pererinion adael eu canhwyllau yno.
Ffynnon arall a gysylltir â Dwynwen yw Crochan Llanddwyn
rhyw filltir i’r gogledd o Wddw Llanddwyn. Mae Lives of the British Saints yn cyfeirio at Ffynnon Fair ar Llanddwyn
ac yn mynd ymlaen i ddisgrifio’r modd y byddai pobl yn dod yno i geisio
rhagweld pwy fyddent yn briodi. Dyma’r union beth a ddisgrifir gan awdurdodau
eraill am yr hyn a ddigwyddai wrth Grochan Llanddwyn. Mewn dogfen a ddyddiwyd
tua 1800 dywedwyd fod y ffynnon wedi ei llanw â thywod ond yn y gorffennol fod
gwraig o Niwbwrch yn helpu’r cariadon i ddarogan y cyfodol wrth edrych ar y
pysgod yn y ffynnon ac wrth daenu hances boced ar wyneb y dŵr. Aeth merch
at y ffynnon i gael gwybod pwy fyddai’n ei briodi. Taenwyd yr hances a daeth y
pysgodyn allan o’r o ochr ogleddol y ffynnon. Yna daeth y pysgodyn arall allan
o’r ochr ddeheuol a chyfarfu’r ddau ar waelod y ffynnon. Dywedodd y wraig
wrth y ferch mai dieithryn o rhan ogleddol Sir Gaernarfon fyddai ei phriod. Yn
fuan wedyn daeth tri brawd o’r rhan honno o’r wlad i fyw i’r gymdogaeth
;;e trigai’r ferch a phriododd ag un ohonynt. Credai pobl fod gwellhad i’w
gael hefyd pe gwelent y dŵr yn byrlymu yn y ffynnon. Dyna pam y cafodd y
ffynnon yr enw crochan, am fod y dŵr ynddi fel pe bai’n berwi.
Ar Ynys Llanddwyn, o fewn golwg yr eglwys, mae gweddillion
beth a fu unwaith yn glamp o ffynnon fawr gyda muriau o’i chwmpas a
grisiau’n mynd i lawr iddi. Gelwir hon yn Ffynnon
Dafaden. Mae wedi ei llanw
â thyfiant a baw erbyn hyn ond o ddefnyddio pren collen gellir gweld fod
tarddiad cryf yno o hyd. Ers talwm credid fod y dŵr yn arbennig o dda am
wella defaid ar y croen. Byddai’n arferiad pigo’r ddafaden â phin, yna
gwthid y pin i gorcyn a’i daflu i’r ffynnon. Rhaid wedyn oedd golchi’r
dwylo yn y dŵr a byddai’r ddafaden yn siŵr o ddiflannu. O fewn cof
defnyddid Ffynnon Dwynwen i’r un pwrpas a gellid gweld sawl corcyn a phin
ynddo ar wyneb y dŵr.
Teimlaf yn weddol sicr mai’r ffynnon fechan gerllaw’r eglwys ar Ynys Llanddwyn yw’r Ffynnon Ddwynwen wreiddiol. At hon y cyrchai’r pererinion i gael iachâd ond roedd Crochan Llanddwyn yn amlwg yn bwysig iawn i gariadon hefyd.
Dymuna’r Trysorydd ddiolch o galon i’r aelodau hynny sydd wedi adnewyddu eu tâl aelodaeth am 1997-98. Yn anffodus nid yw canran uchel iawn o’r rhai a ymaelododd yn 1996-97 wedi adnewyddu eu haelodaeth am eleni. Taer erfyniwn arnoch i wneud hyn cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda.
Parch a Mrs Roger E. Humphreys a’r teulu, Tregaron, Ceredigion.
Gwyn Edwards, Llanddeiniolen, Gwynedd
Parch Gwenda Richards, Porthmadog, Gwynedd.
Eluned Mai Porter, Llangadfan, Powys.
Mona Williams, Henryd, Dyffryn Conwy.
Ym 1995 cyhoeddodd gwr o’r enw Tristan Gray Hulse, o
Bontnewydd ger Llanelwy, gylchlythyr yn Saesneg o’r enw Source yn sôn am ffynhonnau iachusol. Roedd o ei hun wedi profi
iachad yn yn Nhreffynnon. Fel plentyn roedd yn byw ger
Tarporley ac yno aeth ei nain ag ef i ymweld â ffynnon sanctaidd. Wedi gweithio
mewn nifer o theatrau yn Llundain am gyfnod aeth yn fynach yn Urdd Sant Benedict
ond gadawodd y fynachlog ar ol anafu ei gefn. Aeth cricymalau drwy ei gorff. Yna
ymwelodd â’r ffynnon yn Nhreffynnon. Rhaid oedd iddo gerdded yno gyda
chymorth ffyn. Mis wedi ymdrochi yn y dŵr dechreuodd wella a daeth yn
holliach. Cred fod dros fil a thri chant o ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru ac
mae wedi ei syfrdanu gan faint y wybodaeth sydd ar gael amdanynt. Wedi i bedwar
rhifyn o Source ymddangos rhoddodd Tristan y gorau i’w gyd-olygu, ond mae
eraill o dde Cymru yn parhau â’r gwaith.
Yn ddiweddar ffurfiwyd cymdeithas arall gan wraig o’r enw Jan Shivel sy’n byw ger Aberhonddu a elwir The Wellsprings Fellowship. Amcan y gymdeithas yw ymchwilio i hanes ffynhonnau sanctaidd a’u hadfer. Maent yn gobeithio cyhoeddi gwybodaeth ar ffurf taflenni am y ffynhonnau ym mhob sir. Mae cymaint o waith i’w wneud ac mae’n braf meddwl bod eraill yn barod i ysgwyddo’r baich o achub y ffynhonnau. Credaf fod digon o le i fwy nag un cymdeithas i weithio yn y maes. Byddai’n braf iawn cael cyfarfod â chymdeithasau eraill er mwyn rhannu gwybodaeth.
Ar gais un o’n haelodau, Nia Rhosier, Pontrobert,
Maldwyn, ysgrifennodd y Gymdeithas at y Parch Llewelyn Rogers, Rheithor
Llansanffraid-ym-Mechain a Llanfechain i holi am gyflwr Ffynnon Armon gan fod
cryn ofid am ei chyflwr. Mae’n anodd mynd ati gan fod y tir o’i chwmpas yn
lleidiog. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon ei hun mewn cyflwr gweddol dda ond ofnir
y bydd yn cael ei hesgeuluso’n llwyr oni wneir rhywbeth i’w hymgeleddu ar
fyrder.
Yn ddiweddar derbyniodd y Gymdeithas lythyr gan y Rheithor yn diolch i ni am ein diddordeb yn y ffynnon. Mae wedi gofyn i’r Cyngor Cymuned fynd ati i adnewyddu’r ffynnon fel rhan o’u gweithgareddau ar gyfer y mileniwm. Maent eisoes wedi dechrau ar y cynllun.
Ffynnon Armon, Llanfechain
Ar ei ymweliad olaf â’r ffynnon nododd y Rheithor fod y
tir o’i chwmpas yn wlyb a’r ffynnon mewn cyflwr gwael oherwydd fod gwartheg
yn pori o’i chwmpas. Fodd bynnag mae’r cerrig ar flaen y ffynnon a’r
garreg fawr ar ei phen yn dal yn eu lle. Pan fydd y cynllun adnewyddu wedi ei
orffen a’r ffynnon wedi ei hadfer, bydd llwybr pwrpasol at y ffynnon yn cael
ei greu a gall aelodau’r cyhoedd fynd i’w gweld ar ôl cael caniatâd y
perchennog tir, Mr. R. Roberts, Brongain.
Mae’n amlwg fod gan y Parch Llewellyn Rogers ddiddordeb yn y ffynhonnau sanctaidd yn ei ardal ac mae’n awyddus i gydweithio a’r Gymdeithas eto yn y dyfodol. Tybed a wyddoch chi am ficeriaid eraill tebyg iddo? Yma gwelwn yr Eglwys a’r Cyngor Cymuned yn cydweithio i achub ffynnon. Gyda’r fath gyfuniad nerthol mae’r gwaith yn siŵr o lwyddo. Yn sgîl hyn mae’r Gymdeithas am ysgrifennu at Archesgob Cymru i ofyn iddo annog yr eglwysi i fynd ati i warchod y ffynhonnau.
Tan yn ddiweddar roedd y ffynnon hon dan fygythiad gan fod ffens wedi cael ei chodi ar ei thraws. Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at Gyngor Cymuned Llangrannog i ofyn iddynt archwilio cyflwr y ffynnon a chymryd camau i’w diogelu.
Mae’r Gymdeithas wedi danfon gwybodaeth am hanes y ffynnon i’r Cyngor Cymuned yn y gobaith y gellir ei arddangos gerllaw’r iddi.
Ffynnon Gybi, Llangybi
Bu Eirlys a Ken Gruffudd yn chwilio am y ffynnon yma sydd
ger Llandudno, ond heb lwyddo i ddod o hyd iddi. Cefais innau’r dasg o wneud
hynny a llwyddais lle roeddynt hwy wedi methu. Dau ben yn well nag un? Wn i ddim
wir!
Mae Ffynnon Fair bron gyferbyn ag eglwys Llanrhos (neu Eglwysrhos) mewn cul de sac o’r enw Cae Rhos. Ym mhen pellaf Cae Rhos mae llwybr troed yn arwain at y ffynnon. Mae ei hadeiladwaith ar ffurf hanner cylch o gerrig a gysylltwyd a sment. Cafodd y ffynnon ei hadnewyddu yn weddol ddiweddar. Carreg fawr sydd drosti ac mae gorlifiad y ffynnon yn rhedeg i lyn bychan gerllaw. Nid oes unrhyw gyfeiriad at y ffynnon yma yn The Holy Wells of Wales. Cysegrwyd yr eglwys i Ilar a Mair. Hyd y gwyddom nid oes unrhyw draddodiadau am y ffynnon wedi goroesi. Ei chyfeirnod map yw 115 792802. Nid yw wedi ei chofrestru fel crair hanesyddol.
Yn Llygad y Ffynnon rhif 2 cafwyd hanes ein hymweliad â Ffynnon Dudno. Erbyn hyn mae’n ymddangos fod mudiad hanes lleol yn bwriadu edrych ar yr holl ffynhonnau ar y Gogarth. Maent yn bwriadu diogelu’r ffynhonnau a sicrhau mynediad i’r cyhoedd iddynt. Byddwn yn cael gwybodaeth am y datblygiadau wrth iddynt fynd yn eu blaen.
FFYNNON
BEUNO, Y BALA
yn yr un rhifyn o Llygad y Ffynnon cafwyd hanes am ymdrech Cantref – Cymdeithas Treftadaeth y Bala a Phenllyn – i gael perchnogaeth o’r safle. Da yw dweud iddynt lwyddo a bod safle’r ffynnon bellach wedi ei diogelu. Mawr obeithiwn fedru adrodd hanes adfer y ffynnon yn Llygad y Ffynnon yn y dyfodol.
Derbyniodd y Gymdeithas lythyr wrth un o’n haelodau,
Howard Huws, Bangor, yn holi am gyflwr Ffynnon
Wnnod, Llangwm. Roedd yn
ysgrifennu ar gais Patrick Radley a fu’n byw yn Melysfan, Llangwm am dros
ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma bu iddo ail-ddarganfod ac adfer y ffynnon
sanctaidd leol a chyhoeddodd adroddiad o’i waith yn rhifyn gwanwyn 1986 o’r
cylchgrawn Clwyd Historian. Dyma fraslun o’r hyn oedd yn yr erthygl honno:
Yn ol Parochialia
Edward Lhuyd roedd y ffynnon rhyw chwarter milltir o’r eglwys a dywed Francis
Jones yn The Holy Wells of Wales
mai’r enw ar y ffynnon yw Fron Fach Spring ac mae ger Melysfan. Yn wreiddiol,
cysegrwyd eglwys Llangwm i’r seintiau Celtaidd Gwnnod (neu Gwynog) a Noethan,
meibion Gildas, ond nawr mae wedi ei chysegru i Sant Jerome. Bu archwilwyr y
Comisiwn Brenhinol ar Henebion yn edrych ar y ffynnon yn 1912 a’r adeg honno
roedd y dŵ yn llifo’n gryf ond nad oedd y ffynnon wedi ei gwarchod gan
ddim ond ychydig o gerrig. Yn fuan wedyn defnyddiwyd dŵr y ffynnon i
ddiwallu anghenion y trigolion yr ardal drwy ei beipio i’r tai. Er mwyn
cadw’r cyflenwad yn bur rhoddwyd caead dros y ffynnon ac anghofiwyd amdani.
Yn 1082 aeth perchennog Melysfan ati i chwilio am ddŵr ar ei dir a daethpwyd o hyd i’r ffynnon. Roedd tua wyth troedfedd o dan y ddaear ac wedi ei thoi â gwaith cerrig digon amrwd. Ffynnon gron oedd hi ac roedd y caead pren arni wedi ei addurno â chroes geltaidd ac enw’r ffynnon. Doedd neb yn yr ardal yn cofio enw gwreiddiol y ffynnon ond cyfeirid ati fel Ffynnon Fron Bach gan mai ar dir y tyddyn hwnnw yr ydoedd. Roedd y tyddyn ei hun wedi ei ddymchwel yn 1881. Ffynnon Wnnod oedd ffynnon sanctaidd y pentref yn nyddiau Edward Lhuyd ac roedd capel wedi ei gysegru i’r sant ar safle’r felin.
Patrick Radley a’r caead ar Ffynnon Wnnod.
Bu’r ffynnon yn cyflenwi Melysfan â dŵr yfed ond ers ymadawiad Patrick Radley mae gan y trigolion presennol gyflenwad arall o ddŵr ac nid yw’n ymddangos fod ganddynt hwy na neb arall ddiddordeb yn y ffynnon. Ei bryder mawr yw y bydd y ffynnon yn cael ei hesgeuluso eto a’r safle’n cael ei anghofio. Er mwyn cael gwybodaeth gyfredol am gyflwr y ffynnon cysylltodd y Gymdeithas â Chyngor Cymuned Llangwm. Cewch wybod beth fydd yr ymateb yn y rhifyn nesaf.
Mae gan ddau o’n haelodau ddiddordeb arbennig yn y ffynnon hon. Ysgrifennodd John Ellis Williams, Llanrug, nifer o erthyglau amdani, yn wir mae’n gryn awdurdod ar y ffynnon. Hefyd derbyniais wybodaeth amdani gan Gwyn Edwards, Llanddeiniolen. Rwyf wedi pwyso’n drwm ar gynnwys eu herthyglau wrth gasglu’r wybodaeth a ganlyn. (Gol.):
John E. Williams yn Ffynnon Cegin Arthur Mai 1997.
Yn 1858 cyhoeddwyd llyfr yn Saesneg am y ffynnon yma gan y
Dr. A. Wyn Williams, Caernarfon a Llundain. Mae’r ffynnon i’w gweld mewn
planhigfa o goed pîn rhwng pentref Penisa’r-waun a Dinas Dinorwig. Y
cyfeirnod map yw SH 554 649. Mae modd mynd at y ffynnon trwy ddilyn y ffordd
sy’n arwain o’r Waun i gyfeiriad fferm y Gors ac yna troi i’r goedwig a
cherdded ar hyd y ffordd las. Mae coed yn gorchuddio’r safle a does fawr ddim
ar ôl bellach ond adfail a cist o gerrig a briciau yn y ddaear ar gwr y coed.
Does dim dŵr yn y gist bellach.
Yn ôl llyfr y Dr Williams roedd y ffynnon wedi bod yn
enwog iawn yn y gorffennol a’i bod yn ddigon mawr i rywun orwedd i lawr ynddo.
Ar hyd ei dwy hochr ac ar y ddau ben roedd nifer o gerrig llyfn wedi eu gosod ar
ben ei gilydd. Er nad oedd modd gweld y cerrig yr adeg yr ymwelodd â’r
ffynnon credai eu bod yno o hyd. Roedd y dŵr brown-goch yn dod i’r
ffynnon drwy’r graean ar ei gwaelod.
Roedd y mwynau yn y dŵr yn llesol iawn, yn wir credai
eu bod yn gryfach nag unrhyw ffynnon chalybeate
neu spa yn y wlad hon neu yn yr Almaen. Yn ôl un traddodiad roedd mochyn oedd
yn wael wedi gwella ar ôl i’w berchennog rhoi diod o’r dŵr iddo i’w
yfed. Dadansoddodd y meddyg gynnwys y dŵr a nododd fod llawer o proto-carbonate of iron ynddo yn ogystal a chalch, magnesiwm,
sodiwm, silica, soda a nitrogen. Credai fod y dŵr yn tarddu yn y Gors Goch,
rhyw filltir i’r de o Gegin Arthur. Roedd yn dod o wely o fwyn haearn, yn
gorwedd o dan dir corsiog ac oedd yn treiddio drwy haen o raean. Gan fod y tir
corsiog yn cynnwys llysiau pydredig roedd y dŵr yn cynnwys asid carbonig.
Roedd wedi ei defnyddio i wella nifer o’i gleifion. Wrth
ei yfed roedd y dŵr yn cael ei gymryd i mewn yn uniongyrchol i’r
cyfansoddiad. Yn yr un modd wrth ymdrochi ynddo byddai’r haearn yn treiddio
i’r cymalau a’r gewynnau a’r claf yn cael rhyddhad o’i boen ar unwaith.
Ymhlith yr afiechydon oedd yn cael eu gwella gan y dŵr oedd iselder a
gwendid gwaed, yn enwedig mewn pobl ifanc. Hefyd câi pobl wellhad sydyn o
anhwylderau fel y cricymalau a’r manwyn, afiechydon y fynwes, gwayw a’r
peils wrth yfed neu ymdrochi yn y dŵr. Fodd bynnag, ni ddylid ei ddefnyddio
i wneud te gan fod y tanin yn adweithio gyda’r carbonad ac yn ei wneud yn
ddieffaith. Rhaid oedd yfed y dŵr yn rheolaidd drwy’r dydd gan ddechrau
ben bore. Y dos arferol oedd hanner peint.
Mae’r ffynnon mewn man corsiog a gwlyb a chred rhai fod
yr ardal yn tynnu mellt a stormydd trydannol. Yn y gorffennol lladdwyd
anifeiliaid o ganlyniad i fellt ar diroedd cyfagos. Yn wir, wrth gofio am y
nifer helaeth o henebion yn y fro o gwmpas y ffynnon credodd rhai bod y fan yn
lle cysegredig i’r Derwyddon. Roedd coedwig o dderi yn tyfu o’i chwmpas
a’r ffynnon yn ganolbwynt i’w defodau meddyginiaethol. Yn anffodus
dinistriwyd llawer o greiriau hanesyddol cyn iddynt ddod i sylw’r
archaeolegwyr. Ar dir y Glascoed safai allor garreg ac ugain o feini o’i
chwmpas mewn cylch. Fe’i cariwyd o’r fan a’u defnyddio i adeiladu
plasty’r Glasgoed.
Mae enw’r ffynnon yma wedi bod yn destun trafodaeth
hefyd. Cred rhai fod cysylltiad rhwng hanes y Brenin Arthur â Dinas Dinorwig.
Roedd y ffynnon yn llifo i’r afon Cegin sy’n mynd i’r mor ym Mhorth
Penrhyn. Ond mae un esboniad ysgolheigaidd yn dadlau fod y gair cegin wedi ei
gamddehongli ac mai ystyr y gair cegin
yn y cyswllt yma yw cefnen neu esgair. Roedd y meddyg wedi gobeithio y
byddai’r ffynnon yn dod yn fyd enwog gan fod ganddo cynlluniau i adeiladu spa
o’i chwmpas, tebyg i’r hyn a geir mewn trefi fel Llandrindod, ond ni
wireddwyd ei uchelgais.
Yn yr erthygl ‘Ffynhonnau Cymru’ gan T. Glasfryn Hughes yn Cymru, (Cyfrol VIII, 1895) ceir y wybodaeth yma am Ffynnon Cegin Arthur:
Rhyw ddeg mlynedd ar hugain yn ôl bu twrw mawr gyda ffynnon a elwir Ffynnon Cegin Arthur ger Llanddeiniolen. Dywedai ei hedmygwyr fod ei dŵr maethol yn cryfhauoddimewn ac yn ireiddio oddiallan, a lles deilliaw, pa un bynnag ai dychymyg aigwirioneddol a fyddai’r dolur, a channai un o feirdd y dyddiau hynny fel hyn,-
Mae ffynnon Cegin Arthur yn gosod imi gysur,
A’i dyfroedd pur dan pob rhyw boen
Yn gwella poen a dolur;
Ei dyfroedd tra iachusol a ennill glod yn hollol,
Trwy iachau pob llesg a gwael
Hwy haeddent gael eu canmol.
Bydd Buxton, Cheltnham hefyd, a’r Bath a’i dyfroedd hyfryd,
A Malvern Wells yn ddim i hon
Er adfer llon yr iechyd;
Am hon mae sôn yn rhyfedd trwy Gymru yn gyfannedd,
Dos yno, yf ei dŵr yn rhad,
Os gelli, gwad ei rhinwedd.
Tybed ai dim ond gorffennol sydd i Ffynnon Cegin Arthur, neu a ddaw rhyw rym gwyrthiol i’w hadfer hithau i’w llawn iechyd a rhoi iddi ddyfodol diogel.
Cynhaliwyd cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala, brynhawn Llun, Awst 4ydd. Dyma ddarlun o’r criw ddaeth ynghyd. Diolch i Emrys Evans am ddod a’i gamera ac i Grace Roberts, Nefyn am dynnu’r llun.
Y rhes flaen (o’r chwith i’r dde) Dennis Roberts, Nefyn
(Archwiliwr Mygedol) Iorwerth Hughes, Llanelwy (Is-Gadeirydd), Eluned Mai
Porter, Llangadfan, Pat Jones, Swyddffynnon, Jane Hughes, Bethel, Y Bala, Eirlys
Gruffydd, Yr Wyddgrug (Ysgrifennydd) Liz Saville, Morfa Nefyn. Rhes ol: Alun
Jones, Llandyssul, Esyllt Nest Roberts (Is-Olygydd Llygad y Ffynnon), Meurig
Jones, Swyddffynnon, Howard Hughes, Bangor, Ken Lloyd Gruffydd (Trysorydd),
Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog.
Yn y cyfarfod derbyniwyd y cyfansoddiad ac felly gallwn symud ymlaen i gael ein cofrestru fel elusen. Derbyniwyd fod cyfrifon ariannol y Gymdeithas yn gywir. Cafwyd darlith ddiddorol gan Liz Saville am ei gwaith yn gwneud arolwg o ffynhonnau fel rhan o’i gwaith gyda myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.
Hwyrach i chi glywed fod cynlluniau ar droed i gael teithiau fydd yn dangos llwybrau’r pererinion i Enlli. Gobeithir yn fawr y cynhwysir ffynhonnau yn y teithiau hyn. Bydd eu cynnwys yn sicrhau fod lleoliad y ffynhonnau yn cael eu nodi a’i cyflwr yn amlwg i bawb.
Perthyn i Gernyw, fel i Gymru, nifer o ffynhonnau hynod.
Mae i’r mwyafrif ohonynt draddodiadau, chwedlau a llen gwerin. Yn 1894
cyhoeddwyd llyfr gan Lillian Quiller-Couch yn cofnodi hanes a thraddodiadau rhai
o ffynhonnau Cernyw. Cyfrol fechan yw hon, ffrwyth ymchwil ei thad, a fu’n
teithio o gwmpas Cernyw yn nodi hanesion a thraddodiadau am y ffynhonnau cyn
iddynt fynd yn angof. Cofnodir gwybodaeth am 94 o ffynhonnau a gwneir hynny mewn
dull cartrefol sy’n gwneud y gyfrol yn un fuddiol dros ben. Ailgyhoeddwyd y
gyfrol yn 1994 i ddathlu canmlwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol. Erbyn heddiw mae
rhai o’r ffynhonnau wedi dirywio tra bod y diddordeb mewn eraill yn parhau a
phobl yn dal i gyrchu at y dyfroedd bywiol. Yn ystod yr haf eleni cefais gyfle i
ymweld a rhai ohonynt.
Saif ffynnon sanctaidd Sancreed nid nepell o eglwys
Sancreed. Mae’n ffynnon danddaearol gydag adeilad o gerrig o’i chwmpas a tho
uwch ei phen. Mae’r cerrig wedi eu gorchuddio a mwsogl gwyrdd tywyll ac ambell
ddeilen redyn yn tyfu rhwng y cerrig. Gellir cyrraedd y dwr grisialaidd trwy
ddisgyn saith gris o garreg ithfaen. Yn amlach na pheidio mae lefel dwr y
ffynnon yn is na lefel y ddaear ond ar rai adegau, yn enwedig ar ol glaw trwm
mae’r dwr yn uwch na’r gris uchaf ac yn gorlifo hyd sianel garreg. Mae
mynedfa’r ffynnon yn wynebu tua’r de ac mae arbenigwyr wedi damcaniaethu bod
arwyddocad i hyn. Ar adegau o’r flwyddyn mae haul canol dydd a lleuad canol
nos yn disgleirio ar wyneb y dwr. Credir bod hyn yn arwyddo’r briodas rhwng
elfennau hanfodol bywyd, sef dwr a goleuni.
Pan fesurwyd yr ymbelydredd ger y ffynnon yn nechrau’r
nawdegau, gwelwyd bod y lefel ugain y cant yn uwch na lefel ymbelydredd yn y
cefndir amgylchynol. Cred rhai mai’r lefel uchel o ymbelydredd sy’n rhoi’r
ymdeimlad o esmwythder ger y ffynnon. Nid oes unrhyw gofnod o chwedlau na
defodau iachâu yn gysylltiedig â’r ffynnon ond gellir priodoli hyn i’r
ffaith bod y ffynnon wedi ei gorchuddio a drain hyd y flwyddyn 1897. Bryd hynny
cafodd ei hail-ddarganfyddwyd gan ficer Sancreed ac aeth ati i’w glanhau a’i
hadfer. Ers hynny mae cryn gyrchu wedi bod at y ffynnon. Tra oeddwn yn ymweld â’r
safle roed gŵr a gwraig o’r Almaen yn ffilmio’r safle gyda chamcorder; cofnod i’r dyfodol dybiwn i.
Saif Ffynnon Alisa ym mhlwyf St. Butyan. Ar un adeg roedd
hon yn ffynnon bwysig iawn ac roedd pererindodau ati ar y tri dydd Mercher
cyntaf ym mis Mai. Dyma’r adeg pan ddeuai mamau a’u plant â oedd yn dioddef
o’r llech at y dŵr. Byddai plant oedd yn cael eu trochi yn y dŵr yn
cryfhau a’u hiachau o’r afiechyd. Yn ôl adroddiadau o’r cyfnod arweiniodd
y pererindodau hyn at ddrwgdeimlad rhwng y pererinion a’r trigolion lleol:
It was not unusual for these
pilgrimages to be the occasion of a fight between
the women of Alisia and the pilgrim mothers, when the good housewives
caught the
strangers dipping their precious babes into the enclosed part of the
well or the place from
which the neighbours drew their drinking water.
Deuai cariadon at y ffynnon i geisio arwydd ynglyn a chwrs eu carwriaeth. Gollyngid pin neu garreg fach i’r dŵr a byddai nifer y swigod fyddai’n codi i’r wyneb yn arwyddo sawl blwyddyn fyddai cyn priodas. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf aethpwyd ati i dacluso o gwmpas y ffynnon. Erbyn heddiw mae’r ffynnon wedi ei diogelu rhag wartheg gan gatiau haearn. Roedd arwyddion pendant fod y ffynnon yn cael sylw heddiw fel ffynnon iachusol. Ar goeden gyfagos roedd nifer o clouties (carpiau) yn crogi o’r brigau. Dangosodd dadansoddiad diweddar o’r dŵr ei fod yn cynnwys ffosffadau a allai fod yn llesol i’r rhai â phroblemau anadlu neu’n dioddef o’r pas. Awgryma rhai mai’r defnydd o wrtaith amaethyddol sydd i gyfrif am lefel y ffosffadau a bod y ffynnon mewn gwirionedd wedi ei llygru.
Saif Ffynnon Madron nid nepell o Penzance. Mae’r safle
erbyn heddiw mewn tir corsiog a phrin y gellir gweld y ffynnon. Tua dau gan
llath o safle’r ffynnon mae capel hynafol. Tuedda nifer o ymwelwyr i ymweld â’r
capel er mwyn yfed dwr sy’n rhedeg trwy bibell ac sy’n tarddu o’r ffynnon.
Ym 1604 cyhoeddodd esgob Exeter fod i’r ffynnon werth iachusol a bod gwyrthiau
wedi digwydd o ganlyniad i ymdrochi yn y dŵr neu yfed ohono. Mae’n debyg
mai yn ystod pythefnos gyntaf mis Mai oedd yr adeg gorau i ymweld â’r
ffynnon. Dyma ddau adroddiad o’r ail ganrif ar bymtheg:
A
certain boy of twelve years of age, called John Trelille in the coast of
Cornwall, not far from Land’s end, as they were playing football, snatching up
the ball, ran away with it; whereupon a girl, in anger, struck him with a thick
stick on the backbone, and so bruised or broke it that for sixteen years after
he was forced to go creeping o the ground. In this condition he arrived at the
twenty eight year of his age when he dreamed that if he did bathe in St.
Maderne’s Well, or in the stream running from it, he should recover his former
strength and health. This is a place in Cornwall frequented on the Thursday in
May, near to which well is a chapel dedicated to St. Maderne, where there is yet
an altar, and right against it a grassy hillock (made every year anew by the
country people) which hthey call St. Maderne’s Bed…. . On Thursday in May,
assisted by one Perriman, nis neighbour, entertaining great hopes from his dream
thither he crept, and lying before the altar and praying that he might regain
his health and strength of his limbs, he washed his whole body in the stream
that flowed from the well and ran through the chapel. After which having slept
for one hour and a half in St. Maderne’s bed, through the extremity of the
pain he felt in his nerves and arteries, he began to cry out and his limbs and
joints somewhat expanded and himself became stronger….Before the following
Thursday he got two crutches….and coming to the chapel as before having bathed
himself, he slept on the same bed and before after having bathed himself, he
slept on the same bed and awakening, found himself stronger and more upright;
and so leaving one crutch in the chapel. The third Thursday he returned to the
chapel and bathed as before, slept, and when he awoke rose up quite cured.
Children used to be taken to this well on the first three
Sunday mornings in May to be dipped in the water, that they might be cured of
the rickets, or any other disorder with which they were troubled. Three times
they were plunged into the water, after having been stripped naked; the parent
or person dipping them standing facing the sun; after dipping them they were
passed nine times round the well from east to west; then they were dressed and
laid on St Maderne’s Bed; should they sleep and the water in the well bubble,
it was considered a good omen.
Fel Ffynnon Alisia
roedd yr arferiad o adael clouties
ar goed cyfagos yn gyffredin. Pan ymwelais â’r ffynnon a’r capel roedd
darnau o ddillad yn crogi yno. Mae’r arfer o gynnal gwasanaethau crefyddol ger
y ffynnon yn ystod mis Mai yn parhau a chynhelir bedyddiadau ar y Pasg a’r
Sulgwyn.
Yn ôl teithlyfr o’r ardal dim ond y mwyaf brwdfrydig o deithwyr ddylai ymweld a’r ffynnon. Yn sicr mae’n werth ymweld â’r safle a cheir arwyddion ffordd clir i’ch arwain tuag ati. Er ei bod yn ddiwrnod poeth ym mis Awst ni chefais fy nhemtio i ymnoethi a throchi yn y dŵr nac i gysgu yng ngwely Sant Madron ond cefais fwynhad mawr o ymweld â thair ffynnon yng Nghernyw.
Anfonwyd at y Gwir Barchedig Alwyn Rice Jones gan ofyn iddo a fyddai mor garedig a thynnu sylw’r plwyfi at bwysigrwydd diogelu’r hen ffynhonnau sanctaidd mewn cydweithrediad â’r Cynghorau Cymuned. Dyma ei ateb cadarnhaol:
“’Rwy’n berffaith fodlon i dynnu sylw’r plwyfi at bwysigrwydd yr hen
ffynhonnau sanctaidd hyn ac annog cymunedau lleol i’w diogelu
ar gyfer y dyfodol.”
Mawr obeithiwn y bydd cyhoeddusrwydd o’r fath yn hwb ymlaen i’n cymdeithas.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Anfonwch pob gohebiaith at Y Golygydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff