LLYGAD Y
FFYNNON
CROESO CYNNES I CHI I GYD
I RIFYN CYNTAF
LYGAD Y FFYNNON
Er mwyn i ni ddod i adnabod ein gilydd dyma i chi
wybodaeth am ein haelodaeth:
CADEIRYDD: Dewi E. Lewis, Clydach, Cwm Tawe
IS-GADEIRYDD: Iorwerth Hughes, Llanelwy, Sir Ddinbych.
YSGRIFENNYDD: Eirlys Gruffydd, Yr Wyddgrug (Golygydd Llygad y Ffynnon )
TRYSORYDD: Ken Lloyd Gruffydd, Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint.
AELODAU'R PWYLLGOR : Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog. Jane Hughes, Bethel, Y Bala. Pat a Meurig Jones, Swyddffynnon, Ceredigion.
Dyma'r criw ddaeth i Dan y Bwlch ar 15 Mehefin eleni i sefydlu'r gymdeithas. (Diolch am y llun, Emrys.)
Yn y rhes gefn: (o'r chwith i'r dde) Emrys, Iorwerth, Meurig, Dewi, a Ken yn y cefn.
Yn y rhes flaen: Jane, Eirlys a Pat
Ers hynny mae'r aelodaeth wedi cynyddu'n sylweddol:
MÔN: - Y Parch. Dr. Graham David Loveluck, Marianglas.
GWYNEDD:- Geraint Jones, Trefor: Dewi Roberts a'r teulu, Morfa Nefyn: Gaynor Maddocks, Llandwrog: Dr Anne E. Williams, Clynnog Fawr: Wyn G. Roberts, Pwllheli; Will. Williams, Rhoshirwaun, Pwllheli: Howard Huws, Penrhosgarnedd, Bangor: Deri Tomos, Llanllechid: Elizabeth Watkin, Bethel: John E.Williams, Llanrug: Evan Wyn Jones, Penisarwaun: Q.F. Richards, Porthmadog: Eifion Davies, Borth-y-gest: Margaret Griffith, Chwilog : Audrey Jones, Capel Celyn, Y Bala:
DINBYCH:
- Gwyn Jones, Peniel: Glyn Jones, Llanbedr Dyffryn Clwyd: Hafina Clwyd,
Rhuthun: Myrddin ap Dafydd, Llanrwst: Esyllt Nest Roberts, Llanrwst;
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Ddinbych.
MALDWYN:-
Nia Rhosier, Pontrobert.
CEREDIGION: - Geraint a Luned Gruffydd, Aberystwyth: Rhiannon a Llywelyn Evans, Blaenpennal. Eileen Curry a Trystan ab Ifan, Prengwyn, Llandysul. Annwen Davies a Jasmine Jones, Swyddffynnon.
CAERFYRDDIN:-
Cyngor Bro Llangeler:
MORGANNWG:-
Gwerfyl Thomas, Pen y Bont ar Ogwr:
CWMTAWE:-
Beti Jones, Pontardawe: Emma Marie Davies, Pontardawe: Dylan Morris,
Glais:
CAERDYDD:-
Huw Llywelyn Roberts, Treganna: Michael Harvey, Treganna: Tecwyn Vaughan
Jones, Yr Eglwys Newydd: D. Gwyn Jones, Yr Eglwys Newydd: Robin ac Eleri
Gwyndaf, Llandaf: Amgueddfa Genedlaethol Cymru:
LLOEGR:
- Ifan Gareth James, Aintree, Lerpwl: Sydney Davies, Bramhall, Swydd Gaer:
Tristwch mawr yw gorfod cofnodi i ni golli un o'n haelodau ym marwolaeth Dylan Morris, Glais. Cydymdeimlwn yn fawr a'i gymar, Catrin Evans a'r teulu. Roedd gan Dylan ddiddordeb mawr yng ngwaith y Gymdeithas a sicrhaodd gyhoeddusrwydd iddi drwy gyfrwng y radio dros yr haf.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
NODYN
GOLYGYDDOL
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Diolch o galon i chi i gyd am ymaelodi yn y Gymdeithas. Mae gan y Sais eiriau sy'n dweud fod ffyliaid yn rhuthro lle mae angylion yn petruso. Nid dweud ydw i mai ffyliaid ydych chi - ond mae angen rhyw gymaint o feddylfryd yr arloeswr arnoch i ymuno â chymdeithas newydd sbon. Yn sicr mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud ac mae cyfraniad pawb yn bwysig. Os ydych yn teimlo fel danfon gwybodaeth am ffynnon yn eich ardal i Llygad Y Ffynnon gwnewch hynny ar bob cyfri. Eich cylchlythyr Chi yw hwn.
Beth fedrwn ni ei wneud i achub llawer o ffynhonnau
hynafol a diddorol Cymru rhag diflannu am byth? Gallwn fynd am dro i'n
llyfrgelloedd a gofyn a oes ganddynt restr o henebion cofrestredig yr ardal.
Gallwn greu rhestr o'r ffynhonnau yn yr ardal y gwyddom amdanynt. Beth am holi
rhai o drigolion hŷn yr ardal?
Os oes nifer o aelodau yn byw mewn ardal arbennig hwyrach yr hoffech fabwysiadu un ffynnon sydd mewn cyflwr gwael a cheisio cael y Cyngor lleol i'w hatgyweirio. Yn ôl CADW , mae gan Gynghorau Bro a Thref yr hawl i awgrymu i berchnogion ffynnon gofrestredig y dylent atgyweirio'r ffynnon a'i chadw mewn cyflwr da. Rhan o'n gwaith fel Cymdeithas i'w codi ymwybyddiaeth pobl yn ein cymunedau o bwysigrwydd ffynhonnau fel rhan o'n treftadaeth.
Dyma feini prawf CADW ar gyfer rhestru a chofrestru henebion:
Fod y gwrthrych
o ddiddordeb pensaernïol
o ddiddordeb hanesyddol sy'n darlunio agweddau pwysig o hanes cymdeithasol a diwylliannol
â chysylltiad hanesyddol agos â phobl neu ddigwyddiadau o bwys i'r Genedl Gymreig
o werth fel grŵp ... yn ffurfio uned bensaernïol
neu hanesyddol bwysig
Mae rhestru ffynnon yn darparu lefel ychwanegol o amddiffyn iddi a gellir cael grant ar gyfer gwaith trwsio.
Mae gan CADW ddiddordeb mawr yng ngwaith Cymdeithas
Ffynhonnau Cymru. Gellir cofrestru ffynhonnau o dan Ddeddf Henebion 1979 a
Deddf Cynllunio Adeiladau Cofrestredig ac Ardaloedd Cadwriaethol 1990. Maent
wedi estyn gwahoddiad i ni gyflwyno gwybodaeth am unrhyw ffynnon nad yw eisoes
wedi ei chofrestru a byddant yn fwy na pharod i ystyried ein cais i'w diogelu.
Dyma'n cyfle NI i gadw i'r oesoedd a ddêl y ffynhonnau a fu. Ewch ati - da
chi!
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
FFYNNON SANT
DYFNOG,
LLANRHAEADR-YNG-NGHINMEIRCH,
DYFFRYN CLWYD.
Wedi clywed am y diddordeb cynyddol mewn hen ffynhonnau sanctaidd danfonwyd gwybodaeth am y ffynnon uchod i'r Golygydd gan Mr George Hughes, Llanrhaeadr. Bu'r Tad Demetrius, offeiriad yn yr Eglwys Uniongred, ac un sydd â diddordeb mawr mewn hen ffynhonnau, yn ymweld â'r lle. Er mwyn tynnu sylw at gyflwr y ffynnon ysgrifennodd erthygl i Country Quest i geisio codi ymwybyddiaeth pobl o bwysigrwydd y rhan hon o'n hetifeddiaeth. Dyma rywfaint o wybodaeth am y ffynnon arbennig hon.
Mae llawer yn gwybod am eglwys hynafol Llanrhaeadr a'i ffenest liw odidog, y ffenest Jesse, sy'n dyddio o 1535. Mae'r ffenest yn olrhain llinach yr Iesu yn ôl i Dafydd, mab ieuengaf Jesse. Yn ystod y Rhyfel Cartref tynnwyd y ffenest o'i lle a'i chadw'n ddiogel nes bod y brwydro drosodd. Yna cafodd ei gosod yn ei lle eilwaith .Cafwyd digon o arian i gael y ffenest am fod pererinion i 'r ffynnon yn gadael rhoddion o arian yn yr eglwys fel offrwm diolch am gael gwellhad yn ei dyfroedd . Deuent yno yn lluoedd i gael gwared ag anhwylderau ar y croen. Credent fod y dyfroedd yn rhinweddol am fod y sant ei hun wedi ymdrochi ynddynt yn feunyddiol. Codwyd adeiladau ger y ffynnon i alluogi'r pererinion i newid eu dillad gwlyb ar ôl bod yn y baddon. Erbyn heddiw mae safle'r ffynnon a'r baddon wedi tyfu'n wyllt. Ni ellir gweld y ffynnon ei hun am fod tirlithriad wedi ei gorchuddio. Yn ôl pob tystiolaeth roedd yn ffynnon sgwâr. Mae'r baddon, 24 troedfedd wrth 16 troedfedd, hefyd mewn cyflwr gwael. Bu Mr George Hughes yn ceisio clirio tipyn o'r mwd a'r baw ohono yn ddiweddar.
Llwyddodd y Tad Demetrius i gael cydweithrediad perchnogion y ffynnon, sef teulu Llysog Hall, i geisio adfer y safle. Defnyddiwyd rhai o weithwyr y 'stad i gael trefn ar y lle. Gobeithir clirio'r safle, gwneud cloddfa archeolegol iawn, adfer y ffynnon ac ailgodi'r adeiladau lle byddai'r pererinion yn newid. Cynigiodd Nwy Cymru noddi'r fenter.
Dyma enghraifft dda o sut y gall grym cyhoeddusrwydd ddenu nawdd ariannol. Wrth geisio adfer ffynnon byddai'n beth da i ni fel Cymdeithas ystyried gofyn am nawdd o fyd diwydiant. Mae hyn hefyd yn dangos sut y gellir hybu perchnogion i weithredu i warchod ffynnon. Yn drydydd mae'n dangos ein bod ni, fel Cymry, yn ddall i werth yr hyn sydd gennym, tra bod eraill yn sylweddoli fod ffynhonnau sanctaidd yn rhan werthfawr o'n treftadaeth ac yn haeddu cael eu hachub.
FFYNNON Y SANTES FFRAID
J.
Meurig
Jones
Saif y ffynnon ar dir fferm
Cynhawdref Uchaf (hen gartref Ieuan Fardd 1731-1788) ger pentref Swyddffynnon
(Ffynnon-oer y gelwid y lle yn yr hen amser) ym mhlwyf Lledrod uchaf, ym
maenor Mefennydd, Ceredigion.
Cysegrwyd y ffynnon i Ffraid oherwydd bod y santes yn gysylltiedig ag Urdd y Sistersiaid, sef perchnogion y tir yn yr Oesoedd Canol. Santes Wyddelig oedd Ffraid ac roedd y Sistersiaid yn berchen ar dir sylweddol yn Iwerddon a Chymru. Roedd gan yr ardal i'r de-orllewin o'r afon Ystwyth hen gysylltiad â 'r Demetae llwyth Gwyddelig Celtaidd - ac yno goroesodd yr iaith Wyddeleg tan yr unfed ganrif ar ddeg. Gwelwn dystiolaeth o hyn ar garreg goffa o'r nawfed ganrif yn eglwys Gwnnws, Llanwnnws:
QUINCUNQUE EXPLICAVERIT HOC NOMEN DET BENEDIXIONEM PRO ANIMA HIROIDL FILIUS CAROTINN
(Pwy bynnag sy'n medru egluro'r enwau yma roddent weddi dros enaid Hiroedl mab Carodyn(?)
Mae cysylltiad rhwng y santes a'r ddiod feddwol oherwydd bod yna ddywediad am 'Gwrw Sant Ffraid'. Cyfeirir ato yn Llyfr Coch Llanelwy:
'Quaedam consuetudo vocata corw Sanfrait '.
Yn ôl traddodiad pan oedd Ffraid yn ifanc, ei dyletswydd hi oedd godro'r gwartheg a gwneud ymenyn yn yr hafod, sef preswylfa'r haf i drigolion ardaloedd mynyddig Cymru. Diddorol yw sylwi felly, mai ar dir fferm Cynhawdref (Cynhafdref yn gywir) y mae Ffynnon Ffraid. Roedd lleiandy i 'r Santes Ffraid rhwng pentrefi Llanrhystud a Llansanffraid ar yr arfordir yn ôl Lives of the British Saints gan Baring-Gould a Fisher. Yn anffodus collwyd unrhyw draddodiadau gwerin a fu unwaith yn gysylltiedig â'r ffynnon, ond gwyddom ei bod yn hen iawn am fod cyfeiriad ati yn y gyfrol Map of South West Wales and the Border in the Fourteenth Century gan W Rees. Er i'r traddodiadau llafar gael eu colli ni ellir peidio â rhyfeddu at bensaernïaeth y ffynnon. Mae ar ffurf cwch gwenyn, ffurf brin yng Nghymru , unigryw yn y de-orllewin . Dylai gael ei diogelu pe bai ond am hynny yn unig. Bu llwyn yn tyfu drwy gerrig y ffynnon am flynyddoedd ac roedd ei wreiddiau yn dal y cerrig yn eu lle, ond gwywodd y llwyn a bellach mae'r cerrig yn symud a'r dirywiad i'w weld yn waeth ar ôl tywydd oer iawn yn y gaeaf.
YR YMGYRCH I ACHUB
FFYNNON FFRAID
Ers pedair blynedd bellach mae Anwen Davies, a’i mam Jasmine Jones, perchnogion Cynhawdref Uchaf ac Isaf wedi ymdrechu i achub y ffynnon rhag dadfeilio. Dyma fanylion yr ymgyrch fel y’i cafwyd gan Anwen:
Ebrill 9ed 1992 - Ffonio A.J. Parkinson, Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru.
Ebrill15 - Ateb yn ôl gan Mr. Parkinson yn ein cynghori i ysgrifennu at CADW. Dangoswyd tipyn o ddiddordeb yn y siâp cwch gwenyn. Daeth CADW allan i gofnodi'r ffynnon, tynnu lluniau a rhoi cyfeirnod map. Dyma ddisgrifiad dynion y Comisiwn o'r ffynnon:
Ffynnon wedi ei hadeiladu o gerrig sychion yng nghornel o'r orglawdd yng ngardd Cynhawdref Uchaf tua 14m i'r de o'r ffermdy. Mae'r ffynnon bron yn sgwâr o ran cynllun. Mae'r ochr sy'n wynebu'r dwyrain yn codi i 2.15m o led a saif 2.3m o daldra. Mae'n blaenfeino i'r pen ac yn edrych fel siâp pyramid ond heb fod yn bigfain. Mae'r agoriad i'r ffynnon yn 660mm o led a 740 mm o uchder ac mae'r siambr lle mae'r dŵr ar ffurf pedol. Mae lefel y dŵr ynddi yn gyson, sef tua 100mm o dan y garreg yn y fynedfa. Mae hanes lleol yn cofnodi fod y mynachod yn defnyddio'r ffynnon wrth deithio o Ystrad Fflur, tua 7km i'r dwyrain, ac mai dyma pam y defnyddir y term 'sanctaidd' i ddisgrifio'r ffynnon. Ond nid yw Cynhawdref ar unrhyw lwybr dwyrain i'r gorllewin. Yn llyfr Frandis Jones, The Holy Wells of Wales, nid oes sôn am y ffynnon yma yn Cynhawdref ond mewn man arall yn ymyl Swyddffynnon.
Medi
1 1993 Ysgrifennu eto at CADW
Medi
18 Ateb - nid yw'r ffynnon wedi ei rhestru fel heneb . Fy nghynghori i
gysylltu â Chyngor Dosbarth Ceredigion. Digalonni braidd.
Mai
3 1994
Ysgrifennu
eto at CADW i holi am gofrestru'r ffynnon.
Mai
15 Diddordeb. Holi am gyfeirnod map
Mehefin
29 Danfon y wybodaeth iddynt. Yn ystod yr haf daeth pobl CADW allan i
archwilio'r ffynnon.
Medi
27 Llythyr gan CADW yn egluro'r camau i gofrestru'r ffynnon.
Hydref
10
Derbyn rhif cofrestredig CADW - Cd 157
Hydref 21 Derbyn ffurflen grant yn cynnig talu 50% o gost diogelu'r ffynnon. Cael
dau arbenigwr ar atgyweirio hen ffynhonnau allan i roi amcan bris a sgets o'r
ffynnon orffenedig. Roedd cost un yn £950 a'r llall yn £1100
Erbyn hyn
rwy'n siŵr eich bod yn holi pam nad aethom ymlaen gyda' r gwaith
adnewyddu. Yn anffodus nid oedd ein cyllid personol yn medru ymestyn hyd yn
oed i £500 neu efallai ychwaneg o gost os byddai pethau yn mynd o le neu
angen mwy o arian i orffen y gwaith.
Hydref
16 Ysgrifennu at Gyngor Dosbarth Ceredigion a'r Cyngor Cymuned yn holi am
help ariannol.
Ionawr
1 1995 Ateb o'r Adran Gyllid Cyngor Dosbarth Ceredigion. "Nid ydych yn
gymwys am gymorth o dan Gynllun Grant Datblygu Cymdeithasol."
Mai
24 Ysgrifennu at yr Arglwydd Geraint i roi hwb i'r Cyngor. Hefyd at Dai
Lloyd Evans a Gethin Bennet. Ysgrifennu at JIGSO a Bwrdd Datblygu Cymru.
Mehefin
6 Ateb o'r Bwrdd Datblygu - wedi gorffen rhoi grantiau ar gyfer
prosiectau cymdeithasol.
Mehefin
7 Ateb gan yr Arglwydd Geraint - roedd wedi ysgrifennu at Brif
Gyfarwyddwr Ceredigion ac roeddwn yn ddiolchgar iawn iddo am wneud hynny.
Mehefin 16 Ateb gan CDC yn cyfeirio at ein llythyr ac yn dilyn llythyr yr Arglwydd
Geraint. Wedi cyfarfod Gorffennaf 13 mi fydd yr Adran Gyllid mewn gwell
sefyllfa i weld os bydd arian ar gael yn y flwyddyn 1995-96. Hefyd yn ein
hatgoffa i beidio dechrau'r gwaith neu ni fyddai cymorth ariannol (Dyma reswm
arall pam nad aethom ymlaen i atgyweirio.)
Awst18 Llythyr oddi wrth CDC. Dim cymorth ariannol dan gynlluniau grant mae'r
Adran Gyllid yn eu gweithredu.
Hydref
17 Llythyr o CDC o'r Adran Gynllunio. Nid oes arian gan yr adran ar gyfer
prosiectau preifat.
Dyma
ni - digalondid eto, ond gobeithio y cewch chi fel Cymdeithas fwy o lwc. Mewn
undeb mae nerth.
NODYN GOLYGYDDOL Nid yw'n bosib darllen y manylion
hyn heb deimlo rhwystredigaeth Anwen a Jasmine. Dyma'r math o anawsterau sy'n
wynebu unrhyw un sydd am achub hen ffynhonnau. Gwelwch fod gwir angen
Cymdeithas fel hon i gynorthwyo unigolion i roi pwysau ar awdurdodau i
ddiogelu'r ffynhonnau yn eu hardaloedd. Eisoes llythyrwyd â Chyngor Dosbarth
Ceredigion i ofyn am gymorth ariannol. Cewch wybod am unrhyw ddatblygiad yn yr
hanes yn y rhifyn nesaf o Lygad y Ffynnon.
FFYNNON CWMTWRCH
Dewi E.
Lewis.
Rhoddwyd Ffynnon Cwmtwrch a'r tir o amgylch yn rhodd i'r cyhoedd oddi wrth Colonel Fleming Gough fel arwydd o heddwch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dywedir bod y ffynnon hon wedi bod yn 'rhiadru ei dyfroedd grisialaidd a sawrus' ers dros ddau gan mlynedd. Yn ystod saithdegau'r ganrif ddiwethaf anfonodd y Dr. D, Thomas, Ystalyfera, sampl o'r dŵr at y fferyllwyr i wneud dadansoddiad ohono. O'r prawf hwnnw caed tystiolaeth bod: 'yn y dŵr elfennau meddyginiaethol at amryw ddoluriau, ei fod yn gyflawn o Sulphur a'i fod yn anffaeledig i wella pob math o Scroffulous, Rheumatism, Gravel, ac yn gynhorthwy i’r organau i secteto yr uric acid gormdol fydd yn y gwaed.'
Yn ddiweddarach, ym 1933, mewn adroddiad ar Ffynnon Cwmtwrch cyfeiriodd y Dr. W.J.Lewis, swyddog Iechyd yr ardal at y dŵr fel hyn: 'It is an Alkaline Sulphur spring, cool in summer and relatively warm in winter and has an even flow throughout the year. It has a great reputation for its healing virtues - especially in skin disease (chronic eczema and psoriasis), bad complexions, Rheumatism, Neuritis, Piles and Gravel, Scrofulous glands and other complaints ... '
O'r ddau gofnod uchod gwelir mai dŵr sylffwr sydd yn tarddu o'r ffynnon. O ganlyniad, wrth nesáu at y ffynnon gellir arogli gwynt tebyg i'r stink bombs o gyfnod ysgol. Pa ryfedd felly i'r ffynnon gael ei galw ar lafar gwlad yn 'Y Ffynnon Ddrewllyd' neu 'ffynnon gnec'.
Bu bri mawr
ar y ffynnon o 1880 ymlaen. Cyrchwyd
yma i gynnal cyfarfodydd crefyddol, cymanfaoedd canu, a chynhaliwyd Eisteddfod
fawreddog ger y ffynnon, Llungwyn 1896. Yma
hefyd y daeth William Abraham (Mabon), llywydd cyntaf Glowyr De Cymru, i
hawlio gwell amodau i'r glowyr gyda'r slogan enwog, 'an hour off the day, not a
penny off the pay.'
Yn ôl tystiolaeth o 1912 dywedir bod ‘amryw yn cyrchu'n flynyddol o siroedd Caerfyrddin a Cheredigion’ at y ffynnon a ‘bod cannoedd yn ymweld â hi yn nhymor yr haf o ardaloedd Ystradgynlais, Ystalyfera a Chwmllynfell.’
Dros y blynyddoedd bu dirywiad yng nghyflwr y ffynnon a'r tir o amgylch. Ond ym 1993 adnewyddwyd y ffynnon ar gost o dros £6000 a'i gwneud yn llecyn delfrydol i dreulio ennyd. Heddiw gellir eistedd ar feinciau i fwynhau'r llonyddwch (a'r arogl!) wrth yfed y dŵr oer grisialaidd. Heddiw mae'r ffynnon yng ngofal Cyngor Cymuned Ystalyfera. Mae nifer o drigolion lleol, yn hen ac ifanc, yn tystiolaethu i werth meddyginiaethol dŵr Ffynnon Cwmtwrch. Credai rhai bod ynddo rinwedd i atal moelni a gwynegon tra bod eraill yn credu ei fod yn dda i'r ysgyfaint. Yn ddiweddar honnodd cynghorydd lleol fod yn y dŵr elfennau i gynyddu ffrwythlondeb merched. Yr unig beth a ddywedwyd o du'r arbenigwyr a arbrofodd y dŵr yn ddiweddar oedd ei fod yn 'ddiogel i'w yfed'.
Oherwydd yr arogl sylffwr mae rhai yn amharod iawn i brofi blas y dŵr, ond mae dynes leol yn dweud mai'r ffordd orau i gael gwared â'r 'cwt' (adflas) yw yfed y dŵr gyda chwisgi. Yn ei adroddiad ym 1933 dywedodd Dr. Lewis bod yn rhaid yfed y dŵr ar dir y ffynnon er mwyn cael llesâd.
Yn ddiweddar euthum i Ffynnon Cwmtwrch i yfed y dŵr rhinweddol, ond drat, 'roedd y botel chwisgi'n dal yn y cwpwrdd yn y tŷ! Hir oes i Ffynnon Cwmtwrch.
FFYNNON FAIR yn NEFYN - Gwybodaeth gan un o'n haelodau - Gaenor Maddocks.
Mae'r ffynnon i'w gweld rhyw ganllath o groesffordd Nefyn ar y dde ar y lôn sy'n mynd rhwng Nefyn a Llithfaen. Does dim dŵr ynddi. Codwyd adeilad a tho o'i chwmpas ym 1866 ac enwau Robert Jones a John Bailey arno. Roedd hon yn ffynnon a ddefnyddiwyd gan y pererinion ar y ffordd i Enlli. Yn rhyfedd iawn nid oes sôn amdani yn 'The Holy Wells of Wales' gan Francis Jones. Mae'r wybodaeth yma yn werthfawr iawn felly.
Byddai cael mwy o wybodaeth am ffynhonnau'r pererinion yn ddiddorol iawn (GOL.)
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
FFYNNON TUDNO, LLANDUDNO.
Mae hon ger yr eglwys ar ben Y Gogarth ond nid oes arwydd yn dangos ei lleoliad. Rydym wedi cysylltu â Stad Mostyn ac wedi cael caniatâd i fynd yno i edrych ar y ffynnon. Ein gobaith yw y bydd mewn cyflwr gweddol dda ac y gallwn berswadio'r awdurdodau i'w hagor i'r cyhoedd gan ei bod mewn lleoliad delfrydol i ddenu ymwelwyr. Cewch wybod sut mae pethau'n datblygu. (GOL.)
Os ydych yn awyddus i ymweld â ffynnon sydd ar dir preifat mae bob amser yn ddoeth i geisio caniatâd y perchennog yn gyntaf. Mae hynny'n gallu osgoi tipyn o helynt - ac mae cael gwybod pwy yw perchnogion ffynhonnau yn rhan bwysig o'n gwaith.
DIOLCH i Alun L. Jones, Clerc Cyngor Bro Llangeler, am ddanfon yr englyn yma i ni am Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon, Sir y Fflint. Meddai:
'Bum ar daith adeg un o Steddfodau Cenedlaethol y North a galw heibio i Ffynnon Gwenffrewi, ac fe luniais englyn. Mae digon o wybodaeth ar gael am y ffynnon yma, ond y ffaith odiaf ynglŷn â hi ydy mai dŵr tap sydd yn ei diwallu bellach. Mae'n hysbys bod y nant wreiddiol wedi sychu ers blynyddoedd meithion.'
FFYNNON GWENFFREWI
Er nad o rawd Iachawdwr, - ni dderfydd Hirfaith eli'r glasdwr;
Gras y Deyrnas sy'n ei dŵr
O fôr y Pen-Adferwr.
Diddorol yw nodi fod pererindod flynyddol at Ffynnon Gwenffrewi yn cael ei chynnal yn ystod mis Gorffennaf. Mae'r gred yng ngallu’r dŵr i wella yn dal yn gryf ac amseroedd penodedig ar wahanol ddyddiau o'r wythnos i ddynion a merched fynd i fewn i lygad y ffynnon i geisio gwellhad. Beth bynnag yw ansawdd y dŵr mae'r gred yn ei effeithiolrwydd yn parhau. (GOL.)
NEWYDDION da yw bod Ian Lloyd Hughes, Prifathro
Ysgol Ffridd y Llyn, Cefnddwysarn, ger Y Bala, yn awyddus i atgyweirio Ffynnon
Derfel fel rhan o brosiect ysgol. Beth allai fod yn well !
FFYNNON FAIR, RHUDDLAN, AC INIGO JONES
lorwerth Hughes
Yng ngerddi Plas Bodrhyddan, Rhuddlan, mae ffynnon hynafol - Ffynnon Fair gyda'r adeiladwaith harddaf rwyf erioed wedi ei weld. Mae'r plasty a'r gerddi yn agored i'r cyhoedd ar ddau brynhawn yr wythnos yn ystod misoedd yr haf. Mae lleoliad y ffynnon yng nghanol y lawntiau a'r coed i'r gorllewin o'r plasty, sydd ryw filltir a hanner o Ruddlan i gyfeiriad Dyserth. Mae eglwys hynafol Rhuddlan hefyd wedi ei chysegru i Fair.
Mae siambr y ffynnon yn adeilad wyth ochr o garreg ddeniadol, gyda mynedfa fwaog a llidiart haearn arni. Mae'r to yn gogwyddo i big gyda thŵr bychan a phelican cerfiedig ar ei ben. Tu mewn i'r siambr mae seddau o gerrig wedi eu gosod i fewn i'r muriau ac yn amgylchynu'r ffynnon. Wrth ochr y ffynnon mae baddon hirsgwar gyda mur isel o'i amgylch a grisiau yn arwain i lawr i'r dŵr. Mae hyn yn awgrymu fod y ffynnon wedi cael ei defnyddio fel un iachusol. Hefyd mae sôn fod priodasau cyfrinachol wedi bod yn cael eu cynnal yma yn y gorffennol pell.
Yn gerfiedig ar fur y siambr mae'r canlynol:
St Mary's Well Indigo Jones
1612
Ai'r pensaer enwog a gynlluniodd Pont Fawr Llanrwst sydd a'i waith i'w weld yma hefyd? Yn ei lyfr The Buildings of Wales - Clwyd mae'r awdur, Edwart Hebread, yn amau hyn er nad yw'n nodi'r rheswm pam. Mae'r Arglwydd Langford, perchennog Bodrhyddan, yn naturiol yn hoffi credu i'r gwrthwyneb, ond ni all brofi hyn yn bendant oherwydd yn anffodus mae hen gofnodion yr ystâd wedi eu difrodi gan dân. Cred fod y ffynnon hon yn un eithriadol o hen ac yn cael ei defnyddio ar gyfer defodau paganaidd cyn dyfodiad Cristnogaeth i'r wlad. Mae'r ffynnon mewn ardal a elwir 'The Grove' ac mae nifer o goed derw yn tyfu mewn rhesi yn arwain ati fel cadarnhad o hyn. Un peth y gallwn ddweud yn bur sicr yw bod yna hanes i'r Ffynnon Fair yma ganrifoedd cyn dyddiau Indigo Jones, ac mae'n hyfryd meddwl fod ei safle mewn man manteisiol iawn i'w chynnal a'i chadw i'r dyfodol.
RHIFYN NESAF
fydd allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol - gobeithio'r ymgyrch i achub
Ffynnon Beuno, Y Bala,
a Ffynnon Fihangel, Blaenau Ffestiniog
a llawer ,llawer mwy
FFYNNON LLANSANSIÔR
Eirlys Gruffydd
Un diwrnod braf yn 1906 aeth John Beckett a'i frawd hŷn o'r ysgol un awr ginio i fwyta'u brechdanau o dan goeden ger ffynnon ym mharc Neuadd Kinmel ar gyrion pentref Llansansiôr, (St. George) ger Abergele. Doedd y ffynnon yn fawr ddim ond pwll o ddŵr lleidiog, gydag ambell garreg fwy na'i gilydd yn ymddangos yma ac acw drwy'r tyfiant gwyllt o gwmpas y dŵr.
Dros drigain mlynedd yn ddiweddarach, ar ddiwedd y chwe degau, dechreuodd John gymryd diddordeb yn hanes y ffynnon. Daeth o hyd i dystiolaeth amdani mewn adroddiad am eiddo eglwysig a wnaed ar orchymyn Thomas Cromwell yn 1535. Yn ôl yr adroddiad roedd pererinion yn ymweld â'r ffynnon ac yn gadael offrwm yn yr eglwys. Yn 1697, pan ddanfonodd Edward Lhuyd gais am wybodaeth am hynafion plwyfi, cafodd ateb gan John Parry, rheithor Llansansiôr ar y pryd. Meddai:
Ffynnon
Lan San Shor Lhe y bydded
ystalm yn offrymu keffyle hevyd un i'r person
Roedd y ffynnon hon felly yn
gysylltiedig â cheffylau. Yn ôl
Thomas Pennant yn ei Tours (1778),
San Siôr oedd nawddsant y ceffyl ac roedd yn arferiad i
ddod ag anifeiliaid oedd yn dioddef o
anhwylderau at y ffynnon, eu taenellu â'r dŵr a'u bendithio drwy
ddweud: Rhad Duw a Sant Siors
arnat.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, fodd bynnag, dim ond atgof oedd yr arfer o fendithio ceffylau ger y ffynnon. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg tyfodd chwedloniaeth am yr ardal. Roedd ysbrydion a thylwyth teg yn byw yn y goedwig gerllaw'r ffynnon. Yn wir, credai'r trigolion fod y pentref wedi ei enwi am mai yno y lladdodd San Siôr y ddraig enwog. Erbyn dechrau'r ganrif hon, fel y gwelwyd, roedd y ffynnon wedi ei anghofio'n llwyr.
Yn ôl adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Hynafiaethau a fu'n edrych ar henebion Cymru yn 1912, roedd y ffynnon bron yn sych, ei ffurf yn hirgrwn, tua phymtheg troedfedd wrth wyth, Fe'i hadeiladwyd o gerrig mawr ac roedd sianel yn cludo'r dŵr o'r ffynnon.
Wedi
gorffen ei ymchwil i'r traddodiadau a'r wybodaeth ysgrifenedig, penderfynodd
John Beckett fynd i chwilio am y ffynnon. Gwelodd fod y man lle credai y
dylai'r ffynnon fod yn ddim byd ond cors frwynog, gydag ambell garreg yn
ymddangos drwy'r tyfiant. Y peth cyntaf a wnaeth John, a'r criw brwdfrydig o
wirfoddolwyr a ddaeth i'w gynorthwyo, oedd ceisio darganfod lle'r oedd y dŵr
yn llifo allan o'r ffynnon ac i lawr y llethr. Cliriwyd y sianel am tuag wyth
llath a gwelwyd fod clai a cherrig ar waelod y sianel a cherrig mwy ar bob
ochr iddi. Unwaith roedd y sianel wedi ei glanhau dechreuodd y dŵr lifo
allan o'r ffynnon a disgynnodd lefel y dŵr. Wedi iddo gyrraedd ei lefel
naturiol gwelwyd fod muriau o gwmpas y ffynnon. Cliriwyd pob math o lanast
ohoni a sylweddolwyd fod ei gwaelod wedi gorchuddio a cherrig mawr wastad oedd
wedi eu gosod mewn clai. Wrth chwilio am lygad y ffynnon sylwodd John mai trwy
agen yn un o furiau'r ffynnon y deuai'r dŵr, a bod darn tir corsiog i'r
gorllewin o'r ffynnon oedd heb ei glirio. Sylweddolodd felly nad oedd wedi
darganfod y tarddiad ond yn hytrach y baddon mawr lle cronnai'r dŵr.
Mae'r ffynnon ar y chwith, ger y goeden fytholwyrdd.
Wedi clirio'r darn o dir corsiog daeth o hyd i'r ffynnon ei hun, honno hefyd a cherrig o'i chwmpas ac ar ei gwaelod. Wedi ei glanhau, llifodd y dŵr yn groyw. Roedd yna ffynnon fechan a baddon mawr, felly, patrwm pensaernïol sydd i'w weld mewn nifer helaeth o ffynhonnau Cymru.
Yn 1973 cofrestrwyd y ffynnon fel crair hanesyddol a chafwyd arian gan y Comisiwn Henebion tuag at y gost o'i chlirio a chodi ffens haearn sylweddol o'i chwmpas. Ffurfiwyd Cymdeithas Cyfeillion Ffynnon Llansansiôr i warchod y ffynnon i'r dyfodol. Cyhoeddwyd yr holl wybodaeth am y ffynnon mewn llyfryn bychan a ysgrifennwyd gan John Beckett a Ted Mesham.
Mae hyn yn dangos sut y gall brwdfrydedd un person, gyda chymorth eraill, achub ffynnon rhag diflannu am byth - ond nid dyna ddiwedd yr hanes. Erbyn hyn mae'r ffynnon wedi ei hesgeuluso eto. Llanwyd y sianel sy'n gwagio'r dŵr o'r baddon â baw a phridd, ac mae'r holl safle wedi gorlifo. Nid oes modd gweld llygad y ffynnon oherwydd tyfiant gwyllt. Mae hyn yn arbennig o siomedig o gofio fod yr hen arfer o fendithio ceffylau wrth y ffynnon a'u taenellu â'r dŵr wedi ei atgyfodi gan Warwick Jondrill, y rheithor presennol, yn nechrau'r nawdegau. Cafodd hyn gryn sylw gan y cyfryngau.
Wedi ymweld â'r ffynnon, a gweld ei chyflwr cysylltwyd â'r perchennog i ofyn am ganiatâd i dynnu lluniau o'r ffynnon ac fe'i rhoddwyd. Ffoniwyd yn ôl i ddiolch a hefyd i resynu nad oedd posib gweld y gwaith cerrig na llygad y ffynnon am fod y lle wedi gorlifo. Addawodd y byddai'n edrych ar ôl y ffynnon Pethau sydd eisiau eu gwarchod yn barhaus yw ffynhonnau. Felly, diolch fod y fath gymdeithas a Chymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi ei ffurfio er mwyn gofalu amdanynt.
LLONGYFARCHIADAU i Gyngor Cymuned Llangybi, Ceredigion, am warchod Ffynnon Cybi dros y ffordd i gapel Maesyffynnon. Maent wedi cytuno i osod arwydd yn dangos lle mae'r ffynnon ac mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi addo rhoi braslun o hanes y ffynnon yn ddwyieithog iddynt fedru ei arddangos mewn man cyfleus. Mae hon yn hen ffynnon ac fe'i galwyd hefyd yn Ffynnon Wen. Byddai'r dŵr yn arbennig o dda at wella'r cryd cymalau. Wedi ymolchi yn y ffynnon arferai'r claf gerdded at gromlech gyfagos a chysgu noson o dan y cerrig. Pe deuai cwsg deuai gwellhad. Roedd pobl yn byw yn yr ardal ddechrau'r ganrif a gofiai'r arferiad a'r gromlech ar Bryn Llech cyn iddi gael ei chwalu. Arferai llawer o'r pererinion ar eu ffordd i dderbyn cymun gan Daniel Rowlands yn Llangeitho aros ger y ffynnon i dorri eu syched ac i orffwyso. Oes, mae bendith i'w chael ger y dyfroedd tawel.
YN
EISIAU
Darluniau o ffynhonnau yn siroedd Ceredigion, Meirionnydd, Trefaldwyn, Brycheiniog a Maesyfed, ar gyfer cyfrol ar Ffynhonnau'r Canolbarth fydd yn ymddangos erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala. Caiff y lluniau bob gofal a'u dychwelyd i'w perchnogion yn ddi-ffael. Os fedrwch helpu, cysylltwch â’r Golygydd. Diolch o galon.
TYBED A OES CYFREITHIWR YMHLITH EIN HAELODAU A ALL EIN CYNGHORI AR FATERION YN YMWNEUD Â THIR AC EIDDO? A WYDDOCH CHI AM RYWUN FYDDAI'N GWIRFODDOLI I GYNNIG CYMORTH O'R MATH YMA I'R GYMDEITHAS?
Ar adegau mae ceisiadau yn dod i'r Ysgrifennydd am gymorth i ddatrys problemau lle mae perchnogaeth fynnon yn fater o ddadl. Byddai'n dda medru troi at arbenigwr ar yr adegau hynny. Os gall rhywun gynnig cymorth mewn cyfyngder. Cysylltwch â'r Ysgrifennydd.
COFIWCH - danfonwch air am unrhyw weithgarwch lleol at :-
Y Golygydd,
Argel, 4 Pare Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH.
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHI I GYD